Thursday 14 June 2012

Herald Gymraeg 13 Mehefin 2012. Swansea 254.




“Chwarae Cardiff City ’n y League

Mae Centre Half nhw’n great”

Mae’r geiriau uchod wrthgwrs oddi ar record Edward ‘Yr Arwerthwr’, rhif catalog Sain 5, ar gan oedd ‘Swansi 254’, neu “Swansi two-five-four” fel roedd Edward yn ei ganu. Rwan, dwi ddim yn siwr os mae fi sydd yn meddwl hyn,  yn agosau at fy 50 yn ddyddiol, ond rwyf o’r farn ei bod yn mynd yn anoddach sgwennu am ddiwylliant Cymraeg mewn unrhyw ffordd feirniadol, a rywf yn cynnwys beiniadaeth adeiladol yn fan hyn.

                Mae yna gynulleidfa, fel hon yn yr Herald, o hyd yn barod i fy atgoffa nad oes fawr o ddiddordeb ganddynt yn y Byd Pop, a mae yna gynulleidfa ifanc (sydd mae’n debyg yn dilyn grwpiau Pop Cymraeg) nad oes byth yn tywyllu colofnau’r Herald. Rhywle yn y canol, mae un llais unig, a Gwilym Owen yw hwnnw, un o’r ychydig golofnwyr sydd i weld yn barod i herio ychydig ar y Sefydliad Cymraeg – oes un aralll dudwch ?  (Sefydliad Cymraeg yn benodol yn hytrach na’r Sefydliad Cymreig er yn siwr mae hwnnw hefyd yn darged i Gwilym Owen ar adegau).

Ond mae un gwendid gyda colofnau Gwilym, mae’r Sefydliad Cymraeg yn gwybod yn iawn nad oes unrhyw awydd gan ddarllenwyr Golwg i ymateb go iawn. Er i Brif Weithredwr S4C, Ian Jones ymateb i Gwilym yn ddiweddar, ar y cyfan yr oll sydd rhaid i’r Sefydliad ei wneud yw gwenu yn ddistaw a mi ddiflanith unrhyw brotest. Eithriad oedd y brotest ddiweddar ynglyn a rhaglen Heno, does dim yr un momentwm i gadw rhaglen dda fel un Lisa Gwilym ar C2 felly fe ddiflanith hwnnw yn yr Hydref ac yn ei le cawn Geraint Lloyd, yn hwyr y nos, gyda diddanwch Cartrefi Preswyl i’r rheini sydd wedi hen roi gorau i unrhyw awydd i bopio.

Cefais gryn brofiad o hyn yn yr 80au. Yn golofnydd brwd yn beirniadu’r Cyfryngau, fe’m anwybyddwyd yn llwyr nes i mi sgwennu erthygl yn y Saesneg i’r cylchgrawn Anarchaidd “Scorcher” yn beirniadu cynhyrchwyr y BBC o fod yn “hipis allan o gysylltiad”. Wyddochi, efallai fod rhywun yn darllen Scorcher ? Yn yr 80au roedd y Sefydliad Cymraeg yn gwybod mae ond llond dwrn o Adferwyr yn Dinorwig oedd yn darllen Colofn Wil a Fi yn Sgrech, a llai byth yn darllen y ffansins amrwd tanddaearol   ……. does dim yn newid.

Er mor hoff yr wyf ohonno, dwi ddim yn ddarllenwr cyson o golofn Gwilym, felly dwi ddim yn siwr os ydi’r cwestiwn o sut fod cyn Brif Weithredwr S4C bellach yn Gadeirydd Bwrdd S4C heb fod yna rhyw fath o wrthdaro o ran diddordebau wedi ei holi ganddo?  Ella does dim o’i le hefo sefyllfa o’r fath, ond oes unrhyw newyddiadurwyr  neu golofnydd Cymraeg hyd yn oed yn holi’r cwestiwn ? Wn i ddim ……….Gwilym ?

Yn sicr ac yn hollol ddiffuant, nid un o’r “Plismyn Iaith” sydd yn poeni mwy am y gystrawen na’r cynnwys mohonof, fe ddechreuais fy ngyrfa wedi’r cwbl,fel colofnydd Punk Rock yn sgwennu yn y ffordd mwyaf ffwrdd a hi a gwallus i’r Faner, a hynny yn fwriadol i wytlltio’r “Plismyn Iaith” ond, rhaid cyfaddef, mae geiriau Edward, o’r gan honno a recordiwyd ym 1970, yn ymddangos bellach fel can hynod broffwydiol.

Wrth i bawb faglu dros eu gilydd yng nghoridorau’r Cyfryngau  i fod yn berthnasol ac atebol – ac yn sicr yn GWARANDO (“honest guv”) – dyma deimlo fod  safonau Iaith yn gostwng mor sydun bydd angen is-deitlau arnom cyn bo hir i ddallt, dehongli ac esbonio’r fath Wenglish fratieithol an-llythrennog sydd mor aml i’w glywed.  

Os yw’r dosbarth gweithiol, y werin go iawn,  yn ymddangos ar S4C y dyddiau yma mae pob yn ail brawddeg yn hollol bei-ling. Does dim rhaid iddi fod felly – mae yna genhedlaethau o chwarelwyr wedi eu hunnan addysgu drwy gapel a chaban, mae yna Iaith Gymraeg fyw a ffraeth ac  o safon uchel yn Nyffryn Ogwen, Nantlle, Peris, hyd heddiw - ardaloedd ddigon tlawd, digon di-freintiedig ar adegau ond ardaloedd gyda balchder. Gwrandewch ar ganeuon “dosbarth gweithiol hogia-go-iawn” Maffia Mr Huws i weld beth yw  mynegiant,ffraethineb , dawn geiriau a hyd yn oed ambell neges wleidyddol.

 Pwyntio’r camera at y werin bobl wnai S4C, a brat Iaith ddaw yn ei ol.  Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ? Diffyg addysg ? Methiant ysgolion ? Methiant Diwylliant Cymraeg i fod yn berthnasol iddynt ? Mae Maffia Mr Huws neu Anweledig ar y llaw arall yn dystiolaeth nad yw’r werin bobl yn hollol an-llythrennog,  sydd yn methu llunio brawddeg gyfan yn y Gymraeg.

Yr hyn sy’n waeth,efallai, yw’r gostwng safonau Iaith gan ddarllewdwyr profiadol, yn ddyddiol, ac yn rhy aml. Os felly, pam galw’r gliniadur yn gliniadur, pam dweud gwych neu rhagorol  os gallwn ddweudd ffantastig ? Pam “boddran” os maddeuwch am y joc wael ?

Un arall a waneth mi wenu yr wythnos hon, mewn ymdrech ddigon  teg i drio cydnabod sefyllfa’r iath fel un byw a naturiol ym mro’r Eisteddfod oedd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr  Urdd,  wrth iddi ddatgan  Fe ddylai pob disgybl sy’n derbyn addysg Gymraeg gael treulio amser yn nhre’ Caernarfon – er mwyn dod i sylweddoli fod yr iaith yn rhywbeth byw ac yn iaith sy’n cael ei siarad yn naturiol bob dydd”

Ond wrth drio rhy galed i fod “down with the kids” ac yn “cwl” roedd Efa wedi methu  faint o goch, gwyn a glas oedd ar rhai o strydoedd Caernarfon dros y Jiwbili - roedd y Cofis go iawn rhy brysur yn cael te parti Jiwbili i fynychu’r Urdd. Dyna’r eironi ynde,  siradwyr Cymraeg yn chwifio’r lliwiau anghywir.

Dwi’n cael dim pleser o sgwennu hyn, dwi ddim yn torri’m mol i gael ymuno a clwb y dynion blin hefo Gwilym Owen ond yr wythnos hon “Swansi two -five-four” yw fy hoff gan Gymraeg erioed !


2 comments:

  1. Hynod ddifyr Rhys. Mae'r newid yn yr iaith lafar i'w weld yn ddychrynllyd o sydyn ar hyn o bryd ar strydoedd 'y fro' fel Stiniog ac ati.
    Mae gen i ddwy ferch yn eu harddegau a does ganddyn nhw ddim iot o ddiddordeb yn y SRG. Dim. Atalnod llawn. Mae hynny yn fy nychryn i. Pan oeddwn i'n 14 roeddwn i a'n ffrindia yn defyddio lyrics Y Cyrff a Maffia wrth sgwrsio! Roedden nhw fel diarhebion a dywediadau oedd yn hollol naturiol inni.
    Roeddwn i'n mwynhau dy ffansins a dy erthyglau di pan oeddwn yn lefnyn. Roedd yr ieithwedd yn ddrych o'r ffordd oeddwn i a'r criw yn siarad bob dydd, hynny ydi anffurfiol a llafar iawn ond eto yn naturiol Gymraeg, ddim jest yn frawddegau saesneg efo ambell air Cymraeg!
    Roeddwn dan ddylanwad Yr Anhrefn bryd hynny ac yn llythyru efo chdi, ac mi fues di ddigon caredig i ngwahodd i i gyfrannu erthygl am Stiniog yn un o'r cyhoeddiadau. Mi ddychrynodd hynny fi, ac yn hytrach na sgwennu yn yr un steil a'n gohebiaeth ni, mi yrrais gyfraniad ffurfiol iawn y byddai fy athro Cymraeg wedi'i gymeradwyo! Dwi'n gwingo wrth edrych yn ol, a dwi'n siwr ei fod o wedi bod yn boen tin iti ei olygu i weddu i'r ffansin! Ta waeth: mwya'n byd y bydd dyn byw...
    Yn bersonol, dwi wedi colli 'mynadd efo Gwilym Owen. 'Chydig sy'n talu sylw iddo ers ei led-ymddeoliad, felly mae o'n cymryd pob cyfle i ymosod ar y pethau sy'n agos at galonnau ei ddarllenwyr craidd, 'mond er mwyn cael sylw! Does gen i ddim amser i'w ddadl syrffedus fod ffarmwrs ifanc yn gwneud mwy i warchod ein hetifeddiaith na'r Urdd; stori din go iawn. Wfft i hen gwynwyr blin, er 'mod inna'n brysur ddatblygu'n un fy hun!

    ReplyDelete