Nos Lun dwetha, roeddwn yn “rhannu’r llwyfan” fel petae,
hefo Eflyn Owen Jones yn y Valley Hotel, Y Fali, fel rhan o ddigwyddiadau Gwyl
Gerdded Ynys Mon. Roedd Eflyn yn rhoi sgwrs ar ddarganfyddiadau ei thad,
William Roberts, yn Llyn Cerrig Bach yn ol ym 1942-43 a finnau wedi cael fy
ngalw i mewn yn fyr rybydd wrth i siaradwr gwadd arall fethu bod yno. Rwyf yn
hynod ddiolchgar i Eflyn am awgrymu fy mod yn trafod beddrod Barclodiad y
Gawres , doedd dim angen i mi boeni wedyn am gynnwys fy sgwrs.
Wrth
gyflwyno Barclodiad a chydnabod pwysigrwydd Llyn Cerrig Bach dyma dynnu coes
ychydig hefo’r gynulleidfa fod rhain yn
sicr ymhlith y “Tri Uchaf” o Henebion Ynys Mon, ond wedyn wrth restru Brn Celli
Ddu, Din Lligwy, Bryn yr Hen Bobl, meini hirion Bryn Gwyn, Castell Bryn Gwyn,
meini hirion Llanfechell, cromlech Bodowyr ….. dyma sylweddoli fod Ynys Mon mor
gyfoethog, cymaint o Henebion, mae ffwlbri noeth fyddai ceisio eu rhoi mewn rhyw fath o drefn
o ran blaenoriaeth neu bwysigrwydd.
Ond yn
sicr i chi mae yna henebion ar Ynys Mon sydd o bwysigrwydd Cenedlaethol, ac yn
sicr mae Llyn Cerrig Bach a Barclodiad y Gawres yn safloedd eithriadol,
eithriadol o bwysig ac unigryw. Wrth deithio yn ol o’r ddarlith dyma ddechrau meddwl
mwy am hyn. Roeddwn newydd ddychwelyd o’r Gaer Rhufeinig yng Nghaerleon, gyda’i
amffitheatr hynod. Yma yng Nghaerleon mae’r baddondy wedi ei gadw, ei ail godi
i raddau a drwy gyfrwng ffilm ar y wyneb, wedi llwyddo i ail greu naws y
baddondy gwreiddiol.
Yn
ddiweddar bu i mi longyfarch CADW am lwyddo i wneud hyn mor llwyddiannus a hynny
heb ymharu ar yr archaeoleg a’r gwir hanes . Weithiau mae ail-greu a dehongli
gyda technoleg modern yn gallu ymharu ………… Ond unwaith eto dyma ddechrau meddwl
am yr amffitheatr fechan ger Tomen y Mur. Ydi mae Caerleon ddipyn mwy, does dim
gwadu, ond mae’r amffitheatr yn Tomen y Mur hefyd yn safle hynod iawn, yn
anghyffredin, o bwys a hefyd gyda ffordd tram o Chwarel Braich Dduyn yn mynd
trwyddi. Hanes aml-gyfnod felly !
Nid aur
yw popeth melyn medda nhw ond wedyn nid y mawr a’r mwyaf yw’r gorau neu mwyaf
pwysig – mae’r holl safleodd archaeolegol yma yn rhan o’r jigsaw, yn rhan o
Hanes Cymru, yn bwysig yn eu ffordd a dyma arwain felly at ddau safle, tra
wahanol, arall bu i mi ymweld a nhw yn ddiweddar ger Llanfair Caereinion yn Sir
Drefaldwyn.
Cawn
aros yn y cyfnod Rhufeinig. Cof plentyn sydd yn parhau hyd heddiw, o ymweld a’r
Gaer fechan ar “y topia”, oddi ar allt y Gibbet, a dyma rhyw ysfa i fynd yn ol.
Rwyf wedi bod yno droeon ers fy mhlentyndod ond yr ymweliad cyntaf yna wnaeth yr
argraff fwyaf, y graith ddyfna ar fy
nghof. Pleser o’r mwyaf yw cael dychwelyd yma. Caer Rhufeinig fechan iawn,
“fortlet” yn Saesneg, efallai camp dros dro rhwng y Caerau mwy – rhwng Caersws neu
Forden a rhywle i’r Gogledd – efallai ar y ffordd am yr Amwythig a Wroxeter neu am y Berwyn heibio
Dolanog.
Mae’n
hanner awr wedi saith y nos arnaf yn cyrraedd. Mae’r niwl yn drwm ac yn isel,
prin fod rhywun yn gweld hyd cae o’n blaen. Dros y gamfa a mae ffurff y
cloddiau yn ymddangos o’r niwl. Os dwi am weld ysbrydion yr hen filwyr, dyma
fydd y cyfle gora caf i byth. Mae’r Byd Modern wedi llwyr ddiflannu, does dim
ond y fi, y niwl a’r hen Gaer. Caer fechan fel dywedais, ond perffaith, bron yn
sgwar, neu siap cerdyn chwarae. Dwi rioed di teimlo mor agos i’r hen bobl.
Does
dim i’w wneud ond dychmygu pwy oedd yma, pwy adeiladoedd y Gaer fechan hon ac i
ba pwrpas ? Dydi Forden a Caersws ddim yn bell, rhyw ddeg milltir dros y
mynydd, ond pam dod i’r fan yma ? Rydym ar y tir uchel, y tir cyfeiriodd R.S
Thomas ato fel y tir lle roedd y Gymraeg yn dod yn fyw achos i lawr yn y
dyffryn i gyfeiriad Manafon a New Mills mae’r Gymraeg ddigon tena.
Gwerthfawrogais
y llonyddwch, y distawrwydd llethol a’r ffaith na fedrwn hyd yn oed weld lle
roeddwn wedi gadael y car. Prin iawn yw’r cyfleodd yma. Ond wrth iddi nosi dyma
benderfynu cael un safle arall i fewn cyn mynd lawr am swper i’r Goat yn
Llanfair Caereinion. Y safle nesa oedd “Carreg Arthur”, sydd yn fferm hyd yn oed
yn uwch i fyny’r bryniau, ond sydd hefyd yn un o’r safleoedd mwyaf diddorol i
mi rioed ddod ar ei draws.
Eto mae
gennyf gof plentyn o ymweld a Charreg Arthur a chefais ddim fy siomi yn
dychwelyd yno, er rhaid cyfaddef, ohwerwydd y niwl, dwi’n dal i longyfarch fy
hyn am gofio mor dda a dod o hyd i’r garreg hynod yma. Ar yr olwg gyntaf,
carreg ddigon di-nod, yn gorwedd yn unig ar ben y bryn, mewn cae sydd wedi ei
drin, yn borfa i warthog.
Ond pam
“Carreg Arthur” ? Eisteddais arni, heb os dyma garreg sydd yn teimlo ac yn
edrych fel cadair, mae hi y maint iawn a mae awgrym o ochr iddi, lle mae rhywun
yn gosod ei freichiau. Mae’n gadair o garreg, naturiol neu ddim - dyna’r
cwestiwn. Wrth eistedd arni, mor hawdd a chyfforddus, doedd dim cwestiwn fod
hon yn eisteddle bwriadol ar ben y bryn, o bwys a hanesyddol ……. ond pwy fu
yma, i ba pwrpas, a phryd ?
Anghofiwch
am Arthur, dwi’n sicr ddim yn dilyn y sgwarnog honno nac yn awgrymu unrhyw
gydsylltiad o gwbl, ond efallai rhyw hen dywysog, un o benaethiad Llwythi
Powys, dyma orsedd neu deyrngadair os
welais i un rioed. Y pethau bach yn yr
achos yma yn bethau mor ddiddorol.