Saturday 12 May 2012

Herald Gymraeg 9 Mai 2012


Un peth da am gael colofn wythnosol  fel hyn yw fod yma ddigon o gyfle i sgwennu am nifer o safleoedd gwahanol o wythnos i wythnos. Dros y dyddiau dwetha  ’ma rwyf wedi ymweld a rhai o “berlau” Gogledd Cymru, rhai yn fwy neu llai amlwg, ond pob un yn ofnadwy o ddiddorol, felly lle i gychwyn, pr’un i’w ddewis, dyna chi gwestiwn. Ydw  i’n son am Ysbyty’r Chwarel yn Llanberis neu Chwarel Moel Tryfan, neu ymweliad hynod wahanol a phlasdy Bodrhyddan ger Rhuddlan neu hen bentref Rhiwddolion uwch ben Betws y Coed ? – ella caiff rhain oll sylw dros yr wythnosa nesa.

                Yr wythnos hon eglwys hynafol Llanbadrig, yng Ngogledd Sir Fon sydd am gael fy sylw, a lle gwell i gychwyn trafod na gyda’r hen faen Gristnogol, gyda’i ddwy groes, sydd yn gorwedd yn erbyn wal orllewinol fewnol yr Eglwys. Y tebygrwydd yw fod y faen yn dyddio o’r cyfnod rhwng y 9fed ac 11fed Ganrif ac yn ol Frances Lynch mae’n bosib fod hon yn engraifft amrwd ac o bosib un o’r engreifftia sala o ran gwneuthuriad o’r math yma o gerrrig ar Ynys Mon.

                Os am dderbyn dehongliad Lynch, mae yma groes ar ffurff “croes-olwyn” a wedyn croes syml dwy linell o dan y groes honno, a’r gwneuthuriad sydd yn wael, hynny yw, doedd y cerflunydd fawr o grefftwr. Ddigon posib, mae digon o engreifftiau gwell o’r cerrig yma o amgylch Mon, mae pump yn gorwedd yn erbyn wal ym mynwent Llangaffo er engraifft.

                Dehongliad arall sydd yn cael ei gynnig yw mae hon yw’r garreg “”Ictheus” sef carreg y pysgodyn, ac mae dau bysgodyn sydd yn cael ei dangos yma nid croes gyda dwy olwyn.  Roedd y pysgodyn yn symbol Cristnogol cynnar a mae son fod cerrig tebyg wedi eu darganfod yn Rhufain yn yr ogofau tanddaearol. Dehongliad arall yw’r un fod Ictheus yn cynnwys llythrennau cyntaf “Crist Mab Duw”, mewn ffordd yn debyg i’r cerrig  “chi-rho”, sef llythrennau cyntaf enw Crist yn y wyddor Groegaidd, y X yw’r Chi a’r P yw rho . Mae engraifft pendant o hyn i’w weld yn Eglwys Penmachno gyda’r garreg Caurausius.

                Rwyf yn tueddu i gytuno hefo Lynch, mae carreg Gristnogol gymharol amrwd yw hon, efallai mae ffrwyth dychymyg a natur y garreg yw gweld yr olwynion fel pysgod –  ac efallai wir y byddai’n well i chwi ddarllenwyr fynd yno a ffurfio barn eich hyn. Un peth sydd yn sicr, os yw’r garreg hon yn dyddio o’r 9fed Ganrif ymlaen, does dim cysylltiad a’r garreg a’r Sant a roddodd ei enw i’r Eglwys.

                Llongddrylliad ar Ynys Badrig  (Llygoden Ganol) yn ol y stori, a mae’n stori wych gyda llaw, sydd yngyfrifol fod Sant Padrig wedi glanio yma, yn anfwriadol wrth reswm, ac yntau ar ei ffordd yn ol am yr Iwerddon. Padrig sydd yn gyfrifol am gyflwyno Cristnogaeth i’r Iwerddon yn y cyfnod ol-Rhufeinig yma ar ddechrau’r 5ed Ganrif. Roedd y Rhufeiniad wedi cyflwyno Cristnogaeth yn nheyrnasiad Constantine 312 OC ond wedyn yn y cyfnod cythryblus ar ol ymadawiad y Rhufeiniad roedd rhaid i’r Seintiau  ail sefydlu’r ac ail gyflwyno Cristnogaeth i’r boblogaeth.

                Rhyw gan llath i’r gogledd-orllewin o’r Eglwys mae’r clogwyni a’r mor ac wrth fynd heibio hen odyn calch mae rhywun yn edrych dros y clogwyni i lawr am Ogof Padrig a’r ffynnon – nid mater hawdd yw dringo atynt ac yn wir, efallai gwell peidio mentro. Mae’r ogof i’w gweld yn glir wrth sefyll  ychyig droedfeddi i’r dwyrain o’r Odyn Calch, a dyma lle bu i Padrig loches ar ol ei longddrylliad.

                Yn sicr mae popeth yn cyd fynd yma, yr Eglwys hynafol (440 OC), yr ogof a’r ffynnon sef lloches a dwr, a wedyn fod Padrig wedi adeladu a sefydlu cell bach yma, adeilad o goed yn sicr cyn i’r egwlys cael ei chodi mewn carreg. Pam dadansoddi gormod ? – fel dwi’n dweud mae’n stori dda, ac hebddi, sgwni faint fydda’n mynychu’r llecyn hyfryd yma onibai am gerddwyr Llwybr yr Afordir ?

                Heb os mae’r golygfeydd dros Ynys Padrig a wedyn i’r gorllewin dros bentref a phorthladd Cemaes yn atyniad arall, ac er fod Wylfa yn codi ei ben fel rhyw gragen llwyd anferthol dros y gorwel, rhywsut mae popeth yn plethu hefyd – cwilt o stori, cymhlethtod perthynas dyn a’i gynefin dros y blynyddoedd, yma yng Ngogledd Mon. Mae hyd yn oed simna yr hen waith brics yn sefyll allan – ond eto, mor ddiddorol, hanes diwydiant coll arall.

                Ond rwyf am eich tywys yn ol i fewn i’r eglwys, achos mae rhywbeth anarferol iawn yma yn y gangell, sef  o amgylch yr allor. Mae waliau’r gangell  wedi eu teilio gyda teils gklas mewn arddull Islamaidd. Fe ddigwyddodd  hyn yn ystod atgyweirio 1884 gan Henry y trydedd Argwydd Stanley, Alderley, a’r teulu wrthgrws a chysylltiad ar ardal drwy stad penrhos ger Caergybi. Efaill i’r Aelod Seneddol, archaeolegydd a’r hynafiaethydd W.O Stanley a gloddiodd ar gytiau Ty Mawr ger Ynys Lawd oedd Henry Stanley. Mae yna ffenestri gwydr Islamaidd yn y gangell hefyd.

                Dydi hyn ddim yn arferol mewn Eglwys Gymreig ond bu i Stanley newid ffydd ym 1862, ac yn wir bu iddo hefyd fabwysiadu’r enw Abdul Rahman, o bosib o ganlyniad i’w briodas yn Seville i Fabia merch Santiago Federico San Roman. Er ei droedigaeth, bu’n gyfrifol hefyd  am atgyweirio eglwysi  Santes Fair, Boderwyd, Sant Dona, Llanddona a Sant Peiro, Rhosbeiro. Stanley oedd yr aelod Mweslemaidd cyntaf yn Nhy’r Argwyddi.

                Fell le i fynd am dro mae Eglwys Llanbadrig yn un i’w argymell ond gwnewch yn siwr eich bod wedi cadarnhau o flaen llaw fod yr eglwys ar agor. Mae pentref Cemaes yn braf iawn hefyd a digon o ddewis yma o lefydd bwyta a llefydd panad a chredwch neu pheidio mae hyd yn oed maes parcio di-dal yma sydd yn anhygoel yn yr oes yma !!!






No comments:

Post a Comment