Wednesday 2 May 2012

Herald Gymraeg 2 Mai 2012 Cymdeithas Bob Owen


A dyna chi flwyddyn arall wedi mynd heibio, hynny yw ers Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Bob Owen yng Ngwesty’r Eryrod, Llanuwchllyn y llynedd. Dyma ni yn ol eleni, ur un dafarn. Nifer o wynebau cyfarwydd a’r tro yma rwyf ymhlith y tri siaradwr gwadd. Rhaid dweud unwaith eto eleni mae hwn yn ddiwrnod da, byddwn yn argymell fod llawer mwy yn mynychu’r diwrnod yma, yn tanysgtrifio i’r Casglwr ac yn dod i wrando ar y sgyrsiau difir. (Mae’r bwyd wedyn yn yr Eryrod yn rhagorol ond nid colofn blasu’r bwyd yw’r  golofn hon).

                Y darlithidd cyntaf oedd yr Athro Sioned Davies yn trafod “Perfformio’r Pulpud” sef hanes yr hoelion wyth fel John Jones Talysarn,  John Elias a Christmas Evans (Ty Cildwrn). Heblaw am fod yn hynod ddiddorol, bywiog, hwyliog a gwrandadwy roedd yn amlwg yma fod Sioned Davies yn rhan o broses wirioneddol wych  o waith ymchwil ac o osod mynegai ar gyfer yr holl gofiannau sydd wedi eu cyhoeddi am yr hen bregethwyr. Bydd gwaith ymchwil llawer haws yn y dyfodol oherwydd y gwaith yma.

                Yr ail siaradydd oedd y Parch Emlyn Richards. Dwi ddim yn credu i Emlyn gadw at y testun “Mae Ddoe Wedi Mynd (gwaith llenyddol yr hunangofiannau)” ond doedd fawr o neb i weld yn poeni. I bob pwrpas cafwyd llith gan Richards, bron fel comediwr yn gwneud sioe llwyfan. Do fe chwerthodd pawb nes bod ein bolia a’n hochra yn brifo. Yn ystod y llith fe lwyddodd i ymosod ar hunangofiannau diweddar yn y Gymraeg (nes i ddim dallt os oedd fy un i yn cael ei gnocio yn fan hyn  - dwi’n credu i Lywydd y dydd awgrymu hynny yn ddiweddarach).

                Fe ymosododd Richards hefyd ar “bobl botymau” sef pobl a gor-ddibyniaeth ar gyfrifiaduron a thechnoleg wrth iddo gyfeirio at y ffaith mae ond gwasgu’r botwm anghywir fydd ei angen a bydd yr holl wybodaeth yn diflanu. Mae ganddo bwynt wrthgwrs. Fel dywedais, dyma’r math o ddeunydd fydda’i fel ar fysedd comediwr – ymosod ar rhywbeth rydym oll yn gaeth iddo, yn ein heuogrwydd a’n dibyniaeth mae ddeng gwaith mwy doniol !

                Fe lwyddodd Davies a Richards i ddefnyddio’r gair “selebs” er dwi ddim yn credu fod yr un o’r ddau yn arddel hyn fel arfer da ond wrth i mi gyrraedd y llwyfan roedd yn rhaid i mi ategu yr hyn ysgrifennais ychydig yn ol yn y golofn hon – dyma’r gair gwaethaf i’w ddefnyddio yn y Gymraeg a roedd rhaid ymosod ar y Cyfryngau yn hyn o beth am wthio’r feddylfryd o enwogrwydd am eich enwogrwydd yn hytrach nac am unrhyw dalent.

                Ond ar y llaw arall, mae’n bur debyg mae fi oedd y fenga yn yr ystafell. Pam nad oes pobl ifanc (hyd yn oed yn eu tridegau) yn casglu hen lyfrau Cymraeg, yn ymddiddori yn y maes yma ? Nid am y tro cyntaf (dwi’n dweud hyn yn aml yn y Byd Archaeoleg) – rhaid i chi ddechrau trydar bois bach, cael tudalen Facebook i’r Casglwr – rhaid ymuno a’r Byd Modern neu cael eich gadael ar ol. Ac yma efallai, er mor ddoniol oedd Richards, ac er cymaint roedd rhwyun hefyd yn cydymdeimlo ac yn wir, cytuno a rhan helaeth o beth roedd yn ei ddweud, mae’n rhaid i’r Gymraeg o bopeth synmud hefo’r amser.

Mae’n frwydr allan yna i gadw’r Iath yn berthnasol, byddai’n gangymeriad o’r radd flaenaf i ymwrthod a thechnoleg newydd – rhaid derbyn fod yna gyfryngau newydd a ffyrdd newydd o gyfathrebu a mae’n rhaid i’r Gymraeg fod yn rhan o hynny.

Darlith ar waith arloesol y rheithor Henry Rowlands, Llanidan oedd gennyf i, trafod ei lyfr “Mona Antiqua Restaurata” 1723, yr arolwg cyntaf o henebion Sir Fon. Dyn o flaen ei amser ac athrylith a wnaeth un cangymeriad bach, priodoli’r cromlechi a’r meini hirion i gyfnod y Derwyddon ond doedd dim modd gwybod yn wahanol ym 1723. Wrth gloi fy narlith cyflwynais y ffaith fod Rowlands wedi adnabod fod meini hirion Bryn Gwyn yn rhan o gylch cerrig.

Ym mis Rhagfyr 2010 bu gwaith cloddio gan Ymddiriedoaleth Archaeolegol Gwynedd dan oruwchwyliath George Smith yn fodd i gadarnhau damcaniaeth Rowlands a fod cylch o wyth neu naw carreg yn wir wedi sefyll uma yn y cyfnod Neolithig Hwyr / Oes Efydd Cynnar a fod cysylltiad a’r clostir cyfagos Castell Bryn Gwyn fel rhan o dirwedd defodol.

Ychydig iawn o son fu am y ffaith fod darganfyddiad mor bwysig wedi ei wneud ym 2010, dyma’r unig gylch cerrig ar Ynys Mon. Ar y llaw arall, dim ond cadarnhau yr hyn roedd Rowlands wedi ei awgrymu ar ddechrau’r Ddeunawddfed Ganrif wnaeth gwaith George Smith – fel dywedais – Rowlands, dyn o flaen ei amser – athrylith. Efallai fod angen mwy o Archaeoleg ar y Cyfryngau medda fi – mi fydda mwy yn gwybod am y darganfyddiadau diweddar wedyn !

Ar ddiwedd fy sgwrs fe gywirodd un gwr bonheddig mi am ddefnyddio’r benywaidd i son am “ddwy faenhir”.  Roedd y gwr yn hollol gywir, mae “maen” yn air gwrywaidd – felly “dau faenhir”  sydd i’w gweld mewn cae ger y ffordd am Niwbwrch hyd at heddiw.  Pwy all ddadlau, ond wrth deithio adre o Lanuwchllyn dyma feddwl mwy am fy nghamgymeriad anfwriadol – pam fod maen yn wrywaidd felly ? I mi mae’r meini hirion yn llawer mwy benywaidd – mae nhw’n arwydd o agosatrwydd at y Fam Ddaear, llawer mwy benywaidd o ran eu hysbryd ond wrthgrws y gwr bonheddig sydd yn fanwl gywir.





No comments:

Post a Comment