Thursday 19 April 2012

Herald Gymraeg 18 Ebrill 2012 Segontium.


Braf iawn cael dychwelyd at y maes Archaeoleg unwaith eto yr wythnos hon, a hynny i son am ddigwyddiad diddorol iawn a ddigwyddodd dros y penwythnos yn Segontium, y gaer Rhufeinig yng Nghaernarfon. Fe sgwennais, rhyw flwyddyn go dda yn ol ma’n siwr, am ddiffygion safle Segontium , fod yr Amgueddfa wedi cau, y gwrthrychau wedi eu halltudio i storfeydd yn y De a’r safle, sydd yn safle mor bwysig o ran hanes  Gogledd Orllewin Cymru, mwyn neu lai yn cael ei anwybyddu.

                Wrth drydar a rhoi hysbys ar Facebook yn son am weithgareddau’r penwythnos, diddorol oedd nodi rhai o’r ymatebion. Fod y Rhufeiniaid yn “waeth na’r Naziaid” a “Beth mae CADW rioed di neud i ni ?”. Diddorol iawn. Mewn sgwrs ddiweddar clywais si fod Aelod o’r Cynulliad ond yn ddiweddar wedi mentro i Gastell Caernarfon am y tro cyntaf. Os deallais yn iawn, egwyddor y peth oedd fod y Castell yn un Seisnig, rhan o ormes Edward 1af…. yr hen ddadl yna.  Dwi ddim yn gwybod os yw hyn yn wir am yr A.C ond di’o ddim y tro cyntaf i mi glywed yr agwedd hon yn cael ei fynegi.

                Y dyddiau yma mae’r byd a’r betws wrthi yn trydar, sydd yn beth da o ran rhannu gwybodaeth, hysbysebu digwyddiadau a mynegi barn. Mae pawb wrthi, mae gan Amgueddfa Gwynedd drydar, Castell Caernarfon ei safle ei hyn, CADW a hyd yn oed CADW Archaeoleg, Sain Ffagan, Amgueddfa Cymru a’r Amgueddfa Llechi – mae’n werth bod mewn cysylltiad i gael y diweddara. Y safle trydar mwyaf gweithgar mae’n debyg yw un  Caerleon – byth a beunydd yn trydar am ddigwyddiadau hynod ddiddorol o arddio Rhufeinig i goginio bwyd y cyfnod.

                Ond hefyd dyma chi drydar gan Marilyn Lewis pennaeth CADW, ar flaen y gad dechnolegol, sydd  yn beth da o ran cadw mewn cysylltiad a’r cwsmeriad – ni werin bobl Cymru. Gwir fod Ian Jones S4C wrthi hefyd ac ambell i A.C – mae yna elfen o ddemoctarteiddio yma – haws na gyrru ebost drwy ysgrifenyddes yn sicr !

                Un o’r trafodaethau mwyaf diddorol ar trydar dros yr wythnos ddwetha oedd y cwestiwn os oedd y Titanic yn safle archaeolegol ? Codwyd y pwynt ar safle Current Archaeology ac yn sgil y rhaglen rhagorol Cymry’r Titanic ar S4C dyma hyd yn oed rannu sgwrs hefo’r gyflwynwraig Lowri Mirgan Jones am fedd Howard Lowe yn Llandrillo yn Rhos. Gyda llaw archaeoleog yw olion materol dyn – felly ydi, mae’r Titanic yn safle archeolegol !

Fel archaeolegwyr, di ddim mor hawdd  cymeryd ochr. Fedra ni ddim anwybyddu Segontium am ei fod yn safle Rhufeinig (gormeswyr) mwy na fyddai unrhywun un call yn dadlau fod Castell Caernarfon angen ei chwalu garreg fesul carreg er mwyn ein rhyddhau fel Cenedl o gysgod gormes y gorffennol. Pa ochr mae rhywun yn ei gymeryd yn y Rhyfel Gartref – Cromwell ta Siarl 1af ? Di hyn ddim yn gwneud synnwyr – ein gwaith nawr, heddiw, yw dadansoddi a chyflwyno’r hanes a’i wneud yn rhywbeth diddorol a pherthnasol ar gyfer y dyfodol Rhaid edrych yn ol wrth reswm i wneud hyn ond rhaid peidio bod yn gaeth i ddigwyddiadau’r gorffennol.

Nid dadl yn erbyn cael barn wleidyddol yw hon ond dychmygwch bod yn gweithio dyweder, mewn amgueddfa fel yr Imperial War Museum – dydi’r staff yno ddim o blaid rhyfel nac ydynt – mwy na di staff San Ffagan am ymwrthod yn llwyr a trydan, trydar a’r gliniadur. Di’o ddim yn wir chwaith i awgrymu mae’r cestyll Seisnig yn unig sydd dan ofal CADW.

                Ac i achub rhan CADW yma, yng ngofal CADW dyddiau yma mae safleoedd mor amrywiol a Abaty Cymer ac Abaty Ystrad Fflur, y cestyll Cymreig, Dolbadarn, Dolwyddelan, Bere, Cricieth a Dolforwyn heb son am safleoedd Neolithig fel Bryn Celli Ddu, Barclodiad y Gawres a Threfignath. Yn syml dydi’o ddim yn wir nac yn ffeithiol gywir i rhywsut awgrymu fod CADW yn cadw gofal o safleoedd y gormeswr ar drael etiffeddiaeth a threftadaeth gynhenid Gymreig neu yno i ddehongli safbwynt y status quo Ymerodraethol Brydeinig.

                Mae Barclodiad neu Bryn Celli Ddu yn perthyn i gyfnod cyn unrhyw gysyniad o Gymru, cyn unrhyw Iaith Gymraeg ond yn amlwg yn rhan anatod o’n hanes fel cenedl – a does dim safleoedd mwy Cymreig na chestyll Dolforwyn, Dolbadarn a Dolwyddelan – cestyll y ddau Llywelyn wrthgwrs. Rhan o’r cwestiwn mae’n debyg yw’r cwestiwn yma o “berchnogaeth”. Cofoiwch i safle Castell Caernarfon fod yn un Cymreig am gyfnod yn dilyn buddugoliaeth Gruffydd ap Cynan a than chwymp Llywelyn.

                Y cwestiwn o berchnogaeth o Segontium oedd tu cefn i’r diwrnod o weithgareddau diweddar ar y safle wedi ei drefnu gan Adele Thackray, swyddog CADW yng Ngogledd Orllewin Cymru. A do fe lwyddodd, dyma chi griw Ty Peblig o stad Maes Barcer yn rhedeg y stondin fwyd a’r stondin wybodaeth – a phlant y stad yn cael gwisgo fyny fel milwyr Rhufeinig – ar eu stepan drws.

                Roedd ymwelwyr yno yn ddigon naturiol, a llwyth o blant ysgol hefo eu rhieni – gan fod y Rhufeiniaid newydd gael eu hastudio ganddynt, ond pleser o’r mwyaf oedd adnabod gwynebau cyfarwydd, y Cofis go iawn, yno hefo pramiau, plant yn rhedeg o gwmpas, taid a nain wedi dod am dro – a phawb yn mwynhau y cacaenau Rhufeinig – y deisen afal Rhufeinig rhagorol – rhyw felys, rhys flasus – tamaid arall os gwelwch yn dda.

                Felly oedd, roedd milwyr Rhufeinig yno yn arwain y plant o amgylch y safle, ond hefyd roedd yna Geltiaid yno – cydbwysedd ylwch !!! Ymhlith y Celtiaid roedd yr ymgyrchwraig yn erbyn melinau gwynt anferth, Myfanwy Alexander – pwy sa di medwl byddwn wedi treulio awry n trafod yr ymgyrch yma r bnawn Sul yn Segontium.

                Felly llongyfarchiadau anferth i CADW am hwyluso fod y Cofis yn cael perchnogaeth unwaith eto o Segontium – cam fach efallai ond cam pendant a phwysig i’r cyfeiriad iawn. Parhau fydd y drafodaeth ar Trydar a beth da yw hynny ond gadewch i ni fod yn berffaith glir – ein hanes ni yw hwn – mae unrhyw son am “Saeson” a “Chondwerwyr” ar y gorau braidd yn naïf.


               

No comments:

Post a Comment