Sunday 15 April 2012

Herald Gymraeg 11 Ebrill 2012 Adolygiad Cleif Harpwood.




Adolygiad o gig Cleif Harwood yn y Buck, Caersws yw hwn i fod, ond cyn cychwyn mae yna un neu ddau o bwyntiau hoffwn ei gwneud.

Dwi’n dal i ddweud (a chredu) mae gwireddu neges y  postar / slogan “Popeth yn Gymraeg” yw un or pethau pwysica y gallwn ei wneud o ran datblygu Diwylliant Cymraeg ar gyfer y dyfodol. Dwi hefyd yn dweud, yn rhy aml yn anffodus, fod creu yn gallu bod yn anodd yn y Gymraeg, yn bennaf oherwydd rhyw fath o drwmgwsg diwylliannol Cenedlaethol, un o ddifaterwch, diffyg diddordeb, diffyg aeddfedrwydd diwylliannol sydd yn gyfystyr a’r hen ymadrodd “well ni beidio rhag ofn”, fel rhyw hen nain yn rhybuddio hogia ifanc rhag dringo coeden  – sydd bron yn amhosib i’w esbonio er ei fod yn boenus o real. Neu efallai fod pawb ddigon bodlon hefo pethau fel y mae hi. Does dim angen am grwp fel Datblygu ym 2012 efallai ?

Mae yna ddigonedd o lefydd heddiw, o’r stadau tai Cymraeg yn nhrefi Caernarfon, Pwllheli neu Borthmadog i neuaddau preswyl y Prifysgolion Cymreig  (bron i mi ddweud Prifysgol Cymru) sydd i bob pwrpas yn gymunedau naturiol Gymraeg, lle di defnydd o’r Iaith ddim dan fygythiad amlwg, ond wedyn does yna ddim wir angen chwaith am ddiwylliant cyfoes heriol a blaengar - dim ond yr arwynebol, ambell i Bobl y Cwm neu can gan Bryn Fon, mae’n fywyd Cymraeg a Chymreig heb fawr o ymdrech.

Fy mhwynt yn fan hyn ? Wel, yn union fel sgwennais yn y Faner ym 1985 – “Lle mae’r Madonna Cymraeg ?”  Dyma ni ym 2012 – lle mae’r Damian Hurst neu’r Jessy J Cymraeg ? Dio’m gormod o’r ots pr’un a pheidiwch a dweud nad oes angen efelychiadau eil-dwym o ddiwyllaint Seisnig – dallt a chytuno – nid dyna’r pwynt – ond mae angen rhywun fel Damian neu Jessy arnom – rhywun sydd yn denu’r dorf i’r Oriel Celf neu rhywun sy’n gallu sgwennu can Gymraeg sy’n cyrraedd cynulleidfa dorfol.

Y ddadl arall yr wythnos hon yw fod rhai allan yna yn dal i gredu, rhai ohonynt fel Cleif Harpwood yn ol yn gigio, achos fod angen rhai fel Cleif allan yna. Cantorion gwleidyddol hefo rhywbeth i’w ddweud.Pobl ffurfiodd grwp am y rhesymau iawn yn ol yn ei dydd. Ym 2012 mae Caersws, Sir Drefladwyn angen Cleif Harpwood fel petae Edward H neu Punk Rock rioed di digwydd – mae yna waith i’w wneud.

Gwaith da rhai fel Delma Thomas, Caersws a Menter Maldwyn yw hyn. Ymdrech i greu “Noson Gymraeg”, i gadw’r “Pethe” yn fyw – rhywbeth sydd bellach yn anarferol i’r Cymru ifanc trendi “ti’n iawn”, dwi ar Rownd a Rownd ac yn hoffi Y Niwl (grwp Cymraeg sydd ddim yn canu yn y Gymraeg / ddim yn canu o gwbl / radical / rhywbeth byddai Damian Hirst wedi ei greu fel darn o gelf / ol-fodern – ol Gymreig). Ond yma yn Sir Drefaldwyn di ddim mor hawdd. Oes mae yna gymunedau Cymraeg a thafarndai fel y Cann Office lle mae bywyd naturiol Gymraeg yn parhau ond beth yw’r opsiwn yng Nghaersws ar Nos Sadwrn ? Rhaid creu.

Wrth i Cleif Harpwood ddod i’r llwyfan o flaen cynulleidfa barchus ar Nos Sadwrn o Wanwyn, rwyf mor ymwybodol fod aelodau’r grwp yn “ser pop Cymraeg” ac heblaw am Dewi Pws sydd yn brysur yn gwneud ei beth ei hyn hefo’i grwp ei hyn, dyma chi holl aelodau Edward H. Yn fy swyddfa mae gennyf ddwy dlws, un gan y BBC a’r llall gan y “Welsh Music Awards” am ‘Gyfraniad Arbenig’ i’r Byd Pop Cymraeg / Cymreig. Fedra’i ddim ond meddwl fod Harpwood neu’r cerdddor / cynhyrchydd Hefin Elis yn llawn haeddu gwobr o’r fath. Yn sicr mae’r ddau yn fwy haeddianol na fi. Yr oll nes i oedd achosi ychydig o drwbl, herio eu cenhedlaeth nhw, a fel dywedodd rhywun ar y we yn ddiweddar “Doedd gan Rhys Mwyn rioed ddiddordeb mewn cerddoriaeth”. Yn hollol.  Gwleidyddiaeth Punk Rock oedd fy unig ddiddordeb i. Gwerslyfr Malcolm MacLaren a John Lydon. Ddysgais i ddim hyd yn oed i chware y trydydd cord !

Eto yma, mae’r ffaith fod hyn yn digwydd yng Nghaersws yn gwneud yr holl beth llawer pwysicach. Dyma chi adloniant Cymraeg ar y linell flaen, yn mynd i lefydd fydda’r “ti’n iawn’s” ddim yn mentro. Dim ond rhai fel Harpwood, yn dallt be di be, sydd yn mynd i fod yma . Mae hyn yn rhan o hyrwyddo’r Gymraeg am y rhesymau iawn, nid fel y puteiniaid cyfryngol a’i gostyngiadau safon cynhyrchu sydd yn gwenud pres ar gefn yr Iaith – dyma roi rhywbeth yn ol.

Ar caneuon ? A’r gerddoriaeth ? Wel, fel byddwch yn ddisgwyl mae Charli, John, Hefin (yr hen Edward H’ars) yn asgwrn cefn di-wyro i Harpwood. Mae llais Harwood cystal ac erioed. Sylweddolias i rioed fod “Mr Duw” yn son am Ryfel Vietnam. Yn sgil y gyfres “Canu Protest” ar C2 yn ddiweddar mae rhywun llawer mwy ymwybodol o wleidyddiaeth cyfnod Edward H. Heb os mae hon yn un o’r caneuon gorau yn yr Iaith Gymraeg ond o ddeallt cyd-destyn y gan mae ias oer yn mynd lawr fy nghefn.

Mae’r ffaith fod Harpwood yn esbonio cefndir y caneuon, hyd yn oed mewn ystafell gefn ty tafarn, ar Nos Sadwrn a phawb yn dechrau dal hi, yn dangos fod rhywbeth arall yn mynd ymlaen yn fan hyn. Adloniant yn sicr, ond adloniant gyda neges, y math gora ! Wrthgwrs rydym yn cael ‘Pishyn’, unwaith yn y set ac unwaith fel yr encore. Dyma noson o’r “caneuon poblogaidd cyfarwydd” a dim o’i le yn hynny.  Gig cyntaf flwyddyn yma i mi ac o bosib uchafbwynt 2012 yn barod – bydd hon yn noson anodd i’w churo !

SORI FIDIO HEB LWYTHO ????

No comments:

Post a Comment