Yn bell cyn i ni gael “Datganoli go iawn” yn dilyn
refferendwm 1997, a hyd yn oed cyn siom enfawr ’79 mae lle i ddadlau fod
datganoli yn fewnol yn gysyniad roedd
Cymru wedi ei hen fabwysiadu, doedd dim ond rhaid edrych ar y ffaith fod y
Llyfrgell Genedlaethol wedi ei leoli yn Aberystwyth, roedd Prifysgol Cymru wedi
ei leoli ym Mangor, Aber, Abertawe, Caerdydd……
a roedd yr Amgueddfa Genedlaethol, wel, nid yn unig yng Ngaherdydd ond
yn Sain Ffagan, Llanberis, Caerleon………
Hyd yn
oed fel hogyn /dyn ifanc roeddwn yn gweld rhywbeth hynod flaengar yn hyn a’r
diwrnod o’r blaen, wrth sefyll o flaen adeilad hyfryd yr Amgueddfa Genedlaethol
ym Mharc Cathays, dyma deimlo’n falch o’n sefydliadau Cymreig datganoledig.
Penseiri’r adeilad oedd Arnold Dunbar Smith a Cecil Brewer ac er i’r gwaith
adeiladu ddechrau ym 1912 fe ymharodd y Rhyfel Mawr ar y gwaith a roedd hi’n
1927 ar yr Amgueddaf yn agor i’r cyhoedd. Ond o’r tu allan mae’n adeilad
godidog.
Tu fewn
i’r Amgueddfa, yr yr Oriel “Gwreiddiau – Canfod y Gymru Gynnar” dyma chi
gasgliad anhygoel o rai o wrthrychau archaeolegol mwyaf eiconig Cymru. Ar y
ffordd i mewn i’r oriel dyma chi sgerbwd wr ifanc Pen y Fai wedi ei staenio’n
goch gyda ocr,y sgerbwd yma oedd wedi ei gam ddehongli fel Menyw Pen y Fai.
Sgerbwd sydd yma yn dyddio yn ol oddeutu 29,000 o flynyddoedd, yr engraifft
gynharaf sydd ganddym o gladdu seremoniol ym Mhrydain a hefyd y tro cyntaf i
sgerbwd gael ei gloddio yn systematig yn archaeolegol – gan William Buckland ym
1822-23.
A dweud
y gwir mae’r oriel fel siop ffefrins, danteithion yn gorlifo. Dyma chi frigwn
Capel Garmon a’i ben ceffyl-ychain, yr addurn haearn oedd yn un o bar, yn
cynnwys 85 darn o haearn ac amcangyfrifir i’r gwaith gymeryd oleiaf 3 mlynedd o
oriau dynol i’w gwblhau. Wedi ei ddarganfod wedi ei galddu yn fwriadol yn y
mawn ar fferm Carreg Goedog ym 1852 - yn sicr doedd y math yma o addurn ddim yn
perthyn i chi a mi – dyma addurn penaeth y llwyth – yn datgan fod yma ddyn a
dylanwad a chyfoeth.
Wrth
ymyl mae casgliad anhygoel Llyn Cerrig Bach, y gwrthrychau milwrol yn bennaf a
offrymwyd i’r Llyn Sanctaidd ger RAF Valley bellach. Yn ol rhai dyma arwydd fod
y Rhufeiniad yn dod a’r Derwyddon yn brysur yn taflu cleddyfau a gwaewffyn i’r
Llyn gan weddio am fuddugoliaeth yn erbyn Suetonius Paulinus. Efallai wir, ond os
yw’r Llyn mewn defnydd mor fuan a 200 Cyn Crist dydi’r Rhufeiniad ddim yn
esbonio’r arferion yma yn llwyr.
Ac yn
ddiweddarach mewn hanes dyma’r unig ddelwedd o Llywelyn Fawr, y corbel
cerfiedig o Gastell Degannwy, unwaith eto yn dynodi statws, grym a dylanwad –
sgwni os mae wyneb Llywelyn yw hwn – a fod Llywelyn ddigon pwysig i gael carreg
corbel hefo’i wyneb arno i ddal trawsbyst y to yng Nghastell Degannwy ? Mewn
ffordd od mae’n atgoffa mi o gerflun Ann Grifiths yn y Capel Coffa yn Nolannog
– cerflun heb emosiwn, bron yn afreal ond ceflun trawiadol a chryf.
A hyn
heb son am Gelc Aur Llanwrthwl, Coron Cerrigydrudion, a’r fowlen anhygoel hynny
o Beudy Mawr ger Crib Goch – a’r handlan fechan honno o haearn a gwydr coch
sydd yn debyg iawn i wyneb cath – bwriadol neu anfwriadol – dyna’r cwestiwn ?
Hyfryd wrthrychau, hyfryd storiau, y roll mewn un ystafell - eiconau y byd
gwrthrychau archeolegol Cymreig, yn werth eu gweld, yn rhyfeddol ac yn
ysbrydoledig.
Yn
ddadleuol (efallai ?) mae son am symud yr adran Archaeoleg i fyny i Sain
Ffagan. Ydi hyn yn beth da neu ydi hyn yn beth drwg – dyma chi gwestiwn arall.
Yn sicr fydd hi ddim mor hawdd i ymwelwyr am y dydd i Gaerdydd fynychu Sain
Ffagan ond, mae Sain Ffagan ei hyn yn un o’r amgueddfeydd gorau sydd ar gael.
Felly bydd y Celf yn parhau yn y Ddinas ond yr Archaeoleg i fyny yn Sain
Ffagan. Dwi heb ffurfio barn.
Yn Sain
Ffagan mae mwy byth o eiconau. Fy hoff adeilad (yn naturiol fel un o Faldwyn)
yw Abernodwydd. Roedd teulu Abernodwydd yn yr ysgol hefo mi ac er fod y bwthyn
yma yn Sain Ffagan ers y 50au roedd yr hogia dal yn cael eu galw yn
“Abernodwydd”, ac yn wir dyna oedd yr enw ar y ty newydd hefyd yn Llangadfan.
A dyma
chi newid byd, yn ol yn y 50au fe dalwyd am ail godi’r ty gan Gyngor Sir
Drefaldwyn , go brin fydda na arain yn y coffrau y dyddiau yma heb son am y
ffaith fod Maldwyn wei ei lyncu gan Powys fel Sir – er dwi byth yn cyfeirio at
Maldwyn fel unrhywbeth ond Sir Drefaldwyn. Ty
o fframwaith pren yw Abernodwydd wedi ei godi ar sylfan o gerrig gyda’r
panelau wedyn wedi eu llenwi gyda gwyail cyll wedi eu plethu a mwd ar ei ben a
wedyn plastr i orffen.
Gyda’r
plastr wedi ei baentio yn wyn a’r pren yn ddu dyma sy’n rhoi y lliw du a gwyn
nodweddiadol i’r hen dai yma sydd mor gyfarwydd yn Sir Drefaldwyn. Ond wedyn
mae adeilad coch Kennixton hefyd yn adeilad eiconaidd – y coch mae’n debyg i
gadw’r ysbrydion drwg draw rhag y ty ………….. Ond y pwynt yn fan hyn yw fod
ganddom gyfoeth o fewn yr Amgueddfa Genedlaethol – cyfoeth o ran Hanes Cymru,
ein bywyd dydd i dydd a’n datblygiad fel Cenedl a diolchaf fod ein Amgueddfa
Genedlaethol ar wyth safle gwahanol – dyna chi engraifft da o ddatganoli !