Wednesday 16 November 2011

Herald Gymraeg 9 Tachwedd Never Mind The Dovecotes

Digwydd bod yn teithio yn y car yr oeddwn, ac yn neidio o un sianel radio i’r llall fel mae rhywun, felly dwi ddim yn cofio yn iawn os mae eitem newyddion ar Radio 2 ynte Radio 4 a glywais, yn sicr doedd hwn ddim yn eitem ar Radio Cymru (neu mae’n siwr byddwn wedi cael galwad ganddynt i ddweud gair neu ddau), ond y datganiad syfrdanol oedd fod y Sex Pistols yn cefnogi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol !
                Rwan rydym yn gyfarwydd bellach a rhai o ser gwrthryfelgar, gwrth-sefydliadol y mudiad pync yn ymddangos ar hysbysebion teledu, Iggy Pop yn gwerthu yswiriant (Swiftcover) a John Lydon (Rottent gynt) yn hysbysebu  menyn (Country Life) felly doedd hyn ddim mor syfrdanol a hynny efallai meddyliais.
                I ddechrau roeddwn yn meddwl efallai fod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn mynd i gyhoeddi cyfres o gyngherddau ar rhai o’u stadau ond yr hyn dan sylw oedd CD amlgyfrannog o’r enw “Never Mind The Dovecotes”, yr enw wrthgwrs yn arall eiriad o enw record hir gyntaf y Sex Pistols, “Never Mind The Bollocks”.
                Diddorol, a finnau bron yn hanner cant, ac yn wir wedi ymaelodi gyda’r Ymddiriedolaeth am y tro cyntaf yn ddiweddar, dyma ddechrau ofyn y cwestiwn, beth sydd yn digwydd i ni gyd, yr holl hen byncs nawr yn ymweld a Erddig’s y Byd ? Rhaid cyfaddef fod  y syniad o Steve Jones a Paul Cook o’r Pistols yn troedio gerddi Erddig fel petae, yn ddigon i roi gwen ar fy wyneb ond na, i fod o ddifri, mae pawb a’r hawl i ymddiddori mewn hanes, does dim o’i le yn hynny, a mae pawb yn aeddfedu ac yn darganfod diddordebau newydd.
                I droi i ddechrau at y CD ei hyn, casgliad “Pync” yw hwn ond o ran y diffiniad cul gwreiddiol o “Punk Rock” mae’n siwr byddai dipyn yn dadlau fod rhan helaeth o’r artistiiad efallai yn perthyn i’r cyfnod “Don Newydd” yn hytrach na “Pync” ond wedyn dwi’n arbenigwr ar y ddiffiniadau cul haearnaidd yma – fe newidiodd y cyfnod yma fy mymwyd wedi’r cwbl !
                Beth gawn felly yw rhai o’r artistiaid gwreiddiol o 1976, y Sex Pistols, The Jam, X Ray Spex a Siouxsie and the Banshees, artistiad tra wahanol o Fanceinion, John Cooper Clarke, The Fall a Slaughter and The Dogs a wedyn rhai artistiaid sydd yn sicr yn perthyn i’r Don Newydd fel Jilted John a Lene Lovich.
                O ran casgliad ar CD mae’n gasgliad bach da, hollol addas ar gyfer y car, casgliad amrywiol, caneuon rydym yn eu cofio, a mae caneuon fel “Where Have all the Bootboys Gone ?” gan Slaughter and the Dogs yn dal i wneud rhywun chwerthin am ei naifrwydd pur. Dyma gan i neidio fyny i lawr iddo yn yr un lle, sef y ddawns “pogo” a ddechreuwyd gan Sid Vicious ond yma yng Nghymru rydym yn gwybod yn well wrthgwrs, gan i’r Methodistiaid (jumpers) ddechrau’r arfer yma rhai canrifoedd cyn i Vicious droedio’r ddaear.
                Felly hefyd can Jilted John, ac er mai ‘Jilted John’ yw enw’r gan, bydd y rhan fwyaf ohonnom yn cofio’r gan fel “Gordon is a Moron”. Roedd pawb yn y 6ed yn canu hynny y bore ar ol i Jilted John ymddangos ar Top of the Pops a dyma’r wraig a finnau yn cytuno yn syth – “mi fydd yr hogia yn hoffi hon !”. Can arall sydd wirioneddol yn sefyll allan yw “Lucky Number” gan Lene Lovich, can a ryddhawyd yn wrieddiol ar y Label hynod hwnnw “Stiff Records”.
                Rhywsut mae Lene druan wedi mynd yn angof yn y “Byd Pop Mawr” ond dyma artist wirioneddol unigryw, o’i hamser ond hefyd ymhell o flaen ei hamser, does fawr newydd na gwreiddiol ym mherfformiadau Lady Gaga go iawn !
                Hefyd ar y CD ceir nifer o ser yr “ail –adran”, Stiff little Fingers. Anti Nowhere League, Tenpole Tudor a’r Toy Dolls ac erbyn hyn mae rhwyun yn gorfod chwerthin achos mae pwy bynnag sydd wedi rhoi y casgliad yma at ei gilydd wedi cael rhwydd hynt go iawn, mwy fel rhaglen radio amrywiol na unrhywbeth fyddai’n cael ei dderbyn gan y pyncs gwreiddiol o ’76. Ond pam lai ?
                Erbyn heddiw rwyf yn teimlo fod hyd yn oed trafod “Pync” bron yn ddi-werth, mae yna adwaith gryf yn ei erbyn yn aml ond ar y llaw arall fel symudiad ffasiwn, cerddorol a chymdeithasol ac yn sicr o ran y gwleidyddiaeth fe gafodd y cyfnod yma effaith fawr ar nifer fawr o bobl. Wrth son am y cyfnod ar fy ymweliadau i ysgolion a cholegau mae’r rhan fwyaf yn edrych yn syn – Pync Beth ????? does fawr o neb i weld yn ymwybodol ond beth fyddai eu hymateb petawn yn trafod y 60au, hipis a “Flower Power” – rhywbeth tebyg ma’n siwr ?
                Ac i droi wedyn at ymaelodi hefo’r Ymddiriedolaeth, wel, rwyf yn gweld cymaint o’r adeiladau, gerddi a stadau yn ddifir iawn, hyd yn oed Castell Penrhyn a Plas Newydd ac yn sicr does dim modd eu hosgoi os am drafod Hanes Cymru. Yn hanesyddol fe wnaeth y teuluoedd yma eu cyfoeth ar gefn y werin bobl, chwarelwyr ardal Bethesda, mwyngloddwyr copr Amlwch ac yn sicr hefyd caethweisiaeth “traddodiadol” gyda siwgwr ayyb. Y ddadl yn syml yw fod yr hyn wnaethpwyd ganddynt yng Nghymru hefyd yn ffurf o gaethweisiaeth.
                Faint o hawliau gafodd rheini arweiniodd Streic Fawr y Penrhyn ac onid oedd Twm Charae Teg (Thomas Williams) yn un o’r rheini oedd yn pwyso ar y Llywodraeth i beidio dod a diwedd i Gaethweisiaeth ?  Felly wrthgwrs mae popeth yma yn drysu rhywun, CD “Pync” gan yr Ymddiriedoalaeth Genedlaethol – be nesa ?

No comments:

Post a Comment