Stori am groeso a charedigrwydd yw hi yr wythnos hon, croeso a charedigrwydd yn deillio o wahoddiadau i ymweld a gwahanol amgueddfeydd ac orielau ac yn ystod y tri ymweliad dan sylw fe gefais fy nhrin fel gwr bonheddig ac er mor ddiddorol oedd y gwrthrychau a’r celf, roedd y croeso a gefais yn sicr am aros yn y cof am amser maith.
Ar fore Llun rwyf yn ymlwybro tuag at Nefyn, i ymweld a’r Amgueddfa Forwrol, sydd ar hyn o bryd yn gaedig, ond rwyf yn adnabod dyn gyda goriad, gwr ifanc o’r enw Jamie. Myfyriwr Archaeoleg ym Mhrifysgol Durham yw Jamie, gwr ifanc llawn brwdfrydedd sydd yn ymwneud a’r ymdrechion i atgyweirio to’r hen Eglwys a wedyn i atgyweirio’r gofod mewnol gyda’r bwriad o ail agor yr Amgueddfa efallai mor gynnar a 2013.
Ychydig o wrthrychau sydd ar ol yn yr Amgueddfa ar hyn o bryd gan fod y gwaith adeiladu ar y gweill, ac er nad oes fawr i’w weld rydym yn cael sgwrs frwdfrydig a hynod ddiddorol am gynlluniau’r criw gwirfoddol sydd yn gofalu am yr Amgueddfa. Peth braf iawn yw gweld y fath frwdfrydedd ac angerdd gan Jamie, siaradwr Cymraeg, archaeolegydd, yn sicr bydd y gwr ifanc yma yn gwneud cyfraniad yn y dyfofol a gobeithio wir y gallwn sicrhau fod yna waith iddo yma yng Nghymru.
Wrth gerdded yn ol am ganol y dref, mae Jamie yn son am hanes hen dai, yn dangos hyn a llall i mi, eto mor braf cael rhywun yn ymddiddori yn yr Hanes lleol yn ogystal a’r hanes penodol sydd yn gysylltiedig a’r mor yn y rhan yma o’r byd. Wrth ffarwelio a Jamie a throi mewn i Caffi Penwaig am ginio buan dyma daro mewn i un arall o drigolion Nefyn a chael hanes y ddwy Eglwys, yr hen Eglwys lle mae’r Amgueddfa a’r Eglwys newydd a adeiladwyd gan y “crach” mae’n debyg gan fod yr hen Eglwys ddim yn plesio a sut bu iddynt fynd yn brin o arian felly does dim twr ar yr Eglwys newydd.
Ar y bore Mawrth canlynol rwyf yn cyfarfod a Shirley Williams, swyddog addysg yn Amgueddfa Llandudno. Rhag fy nghywilydd, dyma’r tro cyntaf i mi fynychu’r amgueddfa hynod hon ac yn wir, dyma berlan o amgueddfa a agorwyd yn wreiddiol ym 1927.. Gan ein bod yn Llandudno byddai rhywun yn disgwyl gweld gwrthrychau o Ogof Kendrick ond mae’r gwrthrych “pwysicaf” yn yr Amgueddfa Brydeinig,sef yr awgwrn gen ceffyl addurniedig. O bosib dyma’r esiampl o waith celf cynharaf yn y walad.
Heddiw mae modd gweld hologram o’r asgwrn, ac o feddwl fod unrhyw wrthrych o’r fath ym mynd i fod tu cefn i wydr, prin byddai rhywun yn sylweddoli. Rhyw dro yn ystod 1880au bu ychydig o waith clirio yn hytrach na cloddio yn yr Ogof gan Thomas Kendrick a daethpwyd o hyd i esgyrn dynol yn perthyn i oleiaf pedwar person yn osgystal ac esgyrn mochyn daear, ceffyl, gafr ac arth. Y gwrthrych arall diddorol or ogof oedd y danedd gyda tyllau, mwy na thebyg yn ffurfio mwclis un o’r trigolion cynhanesyddol yma.
Hefyd o ddiddordeb mawr yn Amgueddfa Llandudno mae gwrthrychau o waith cloddio P.K Baillie Reynolds o Brifysgol Aberystwyth rhwng 1926 a 1929 yng Nghaerhun (Canovium), Dyffryn Conwy, sef y Gaer Rhufeinig sydd gyda Eglwys ddiweddarach yn un cornel. Mae hyd yn oed yr enw P.K Baillie Reynolds yn ddigon i godi chwilfrydedd, braidd fel Mortimer Wheeler – enwau da ar gyfer archaeolegwyr – ond eto mae’n siwr fod y bobl yma yn perthyn i’r dosbarth breintiedig yn hytrach nac yn feibion fferm neu yn feibion i chwarelwyr – nid Cymry Cymraeg oedd gyda’r adnoddau pryd hynny i ymwneud a gwaith cloddio.
Felly dyna’r ail ymweliad bendigedig, a’r ail groeso cynnes. Daeth y trydedd ar y Dydd Iau canlynol yn dilyn gwahoddiad i fynychu agoriad arddangosfa’r cerflunydd o Flaenau Ffestiniog , David Nash yn Oriel Mostyn neu’r Mostyn fel y gelwir yr oriel erbyn heddiw. Roedd mynychu’r agoriad swyddogol ar y Nos Wener yn amhosib oherywdd galwadau eraill, piti achos dyma hefyd noson i gydnabod cyfraniad arbenig ac arloesol y curadur Martin Barlow sydd yn ymddeol. Ond daeth Nia Roberts, swyddog marchnata Mostyn ar ei cheffyl gwyn a rhoi gwahoddiad i mi ddod draw y pnawn Iau gyda swyddogion y Wasg i gyfarfod Nash.
Cyflwynwyd mi i Nash ond roedd yn rhy brysur yn llofnodi llyfrau i ddangos diddordeb ynddof. Diolch byth nad oeddwn yma i wneud cyfweliad ac e meddyliais. Ond rwyf wedi hen arfer ac “artistiaid anodd” drwy fy ngwaith yn y Byd Pop. Cynigiais ei helpu i lofnodi, gan ffugio ddipyn o lofnodion, ond welodd o ddim y joc. Gadewais Nash a dychwelais yn ol i’r cyntedd hefo Nia. Unwaith etpo dyma Nia yn neidio ar y ceffyl gwyn gan gynnig i mi aros am hanner awr arall a chael mynd ar daith o’r arddangosfa gyda Nash gan ei fod wedi cytuno i dyws athrawon ysgol o amgylch yr oriel.
Rhaid dweud fod Nash yn siaradwr brwd a hynod diddorol, gallai fentro wneud mwy o gyfweliadau awgrymaf yn garedig. Siradaodd am ei gerfluniau o bren a fe fu rhaid i’r sinig ynddof gyfaddef fod yma ddawn a gweledigaeth ond fel roeddwn yn dod i fwynhau’r sgwrs dyma Nash yn son fel i un cerflun (pelen grwn anferth o bren) ddisgyn i afon yn ddamweiniol ac iddo ddilyn hynt a helynt y darn pren yn yr afon dros 25 mlynedd a ffilmio’r cyfan. Mynegodd fod y pren yn amlwg i fod yn yr afon a dyma fi yn troi yn sinig unwaith eto !!!
No comments:
Post a Comment