Digwydd taro mewn i stondin ‘Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru’ ar Faes y Steddfod wnes i, a dweud y gwir roeddwn ar fy ffordd am stondin yr Amgueddaf Genedlaethol i gael sgwrs am archaeoleg hefo fy hen gyfaill Ken Brassil. Ond, roedd digon o amser, mi rof fy mhen drwy’r drws meddylias. Roedd cyfaill i mi wedi mynd a’r hogia am dro hefo ei blant ef gan gynnig awr o lonydd lle roedd modd i mi gael ymweld a stondinau oedd o ddiddordeb i mi – yn hytrach na rhai yn gwerthu bwyd, diod, sglodion neu yn cynnig gweithgareddau plant !
“Oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu ?” holodd y wraig ifanc. “Wedi gwneud yn barod !” atebais a dyma ddechrau ar sgwrs a arweiniodd at gymeryd rhan mewn gweithdy wythnos yn ol ar gyfer darpar fabwysiadwyr. Rwyf wedi bod yn teimlo ers amser fod yr holl broses o fabwysiadu’r hogiau wedi bod yn brofiad mor bositif fel y dyliwn fod yn trio gwneud mwy i gefnogi’r achos a dyma’r cyfle yn dod.
Buan iawn trodd y sgwrs yn y babell ar Faes yr Eisteddfod am ofnau a phryderon pobl sydd yn meddwl am fabwysiadu. Yr ofn mwyaf yw os bydd rhaid cael cyswllt a theulu geni y plant. Y tebygrwydd yw y bydd cysylltiad hefo rhwyun o’r teulu geni, dyma’r drefn y dyddiau yma, mae yna resymau da iawn dros hyn ac yn wir bydd hyn yn orchymyn Llys.
Wrth i ni drafod, buan iawn daeth yn amlwg nad oedd ond ochr positif gennyf i’w adrodd am y cysylltiad rydym yn ei gael hefo aelod o deulu’r hogia a fe ofynodd y swyddog os byddwn yn fodlon siarad am fy mhrofiad gyda criw oedd a diddordeb mabwysiadu. Yr ateb yn syml “Byddwn wrth fy modd !” os oes rhywbeth gennyf o werth i’w ddweud a fod hynny yn tawelu meddwl pobl, a fod hynny yn arwain wedyn at blant yn cael cartref hapus o’r newydd – yn sicr mi fyddwn wrth fy modd a mi fyddai’n fraint cael cymeryd rhan.
Y dyddiau yma rwyf yn siarad yn gyhoeddus mor aml does dim problem o gwbl sefyll o flaen ystafell o bobl dwi ddim yn eu hadnabod. Y broblem fawr hefo trafod mabwysiadu, hyd yn oed ar ol rhai blynyddoedd fynd heibio, yw fod y peth dal yn gallu bod yn emosiynol tu hwnt. Yn waeth na hynny roedd anwyd gennyf ar y diwrnod felly fydd y stafell o bobl ddiethr ddim yn siwr pryd dwi’n crio a pryd dwi’n sychu’n nhrwyn oherwydd yr anwyd !
Ta waeth dyma droi fyny, cael fy nghyflwyno a mynd amdani. Dyma son sut rydym yn gweld aelod o deulu’r plant ddwy waith y flwyddyn. Fel arfer rydym yn mynd am dro i rhywle lle bydd neb yn ein hadnabod a lle mae rhywbeth i ddiddanu’r plant. Y tro cyntaf fe ddaeth gweithwraig cymdeithasol hefo ni a roedd yr holl beth yn teimlo braidd yn anghyfforddus a phawb ddigon ansicr. Ond buan iawn daeth yr hogia i dderbyn y person newydd yma a buan iawn sylweddolom ni ei bod hi yn ddynes garedig oedd yn caru’r plant ac yn amlwg nid hi oedd wedi arwain at y ffaith fod yr hogia wedi cael eu mabwysiadu yn y lle cyntaf.
Felly yn hynny o beth doedd yr ymweliadau yma ddim yn achosi unrhyw boen meddwl i ni esboniais. Yn ail mae’n beth da cael cysylltiad a’r teulu. Mae’n gyfle i gael dipyn o hanes y teulu a hefyd wrthgwrs mae’n berffaith bosib rhyw ddydd bydd yr hogia isho cyfarfod gweddill eu teulu. Ar y llaw arall ddigon hawdd hefyd fyddai bod dim diddordeb ganddynt. Pwy a wyr ?
Y pwynt pwysig yw mae nid ein penderfyniad ni fel rhieni fydd hyn ond penderfyniad y plant. Rwyf yn ceisio gwneud hyn yn glir wrth siarad. Gofalu am y plant yw’n cyfrifoldeb ni. Mae mabwysiadu yn golygu rhoi’r gorau i gael synaidau am fyd bach perffaith a derbyn pethau fel y mae’nt yn y Byd Go Iawn. Yn ol y gyfraith mae hawl gan y plant gyfarfod eu teulu geni wrth iddynt gyrraedd 18 oed. Cwestiwn da yw beth sydd yn digwydd os ydynt yn gofyn am hyn yn 15 oed. Unwaith eto bydd rhaid edrych ar y sefyllfa yn ofalus a rhoi’r plant gyntaf.
Wedyn wrthgwrs mae’r elfen o orchymyn Llys – felly does dim dewis gennym – ond rwyf yn rho sbin positif ar hyn. Eto’r dyddiau yma mae plant yn cael gwybod eu bod wedi eu mabwysiadu o oed cynnar iawn – does dim sgwrs ddifrifol pan mae’nt yn cyrraedd 18oed. “Gyda llaw nid fi di dy Dad go iawn ti ……..” Dychmygwych ! Creulon, anfoesol. Ni sydd wedi mabwysiadu yw’r “rhieni go iawn” wrth reswm, ni sydd yn gwneud y gwaith o fagu, a rhaid bod yn onest o’r diwrnod cyntaf, dim celwyddau, dim cuddio gormod achos un diwrnod bydd y plant isho cael gwybod a bydd yr hawl ganddynt i gael gwybod.
Do siwr fe ddaeth dagrau, sawl gwaith wrth son am eu gweld am y tro cyntaf, y noson gyntaf iddynt ddod atom ond cafwyd llawer o hwyl hefyd wrth son am ein anturiaethau yn ystod yr holl broses. Fel dywedais wrthynt a fel y byddaf yn dweud wrth bawb wrth son am fabwysiadu – “Dyna’r peth gorau neuthom ni erioed !”
No comments:
Post a Comment