Wrth ail ddarllen erthygl Wil Aaron ‘Hanes Hen Lyfr’yn ddiweddar (Y Casglwr 99 Rhifyn Haf 2010) yn son am Gwilym Cowlyd (Y Prifardd Pendant) a’i nodiadau ar gyfer prisio’r llyfrau oedd ganddo ar werth dyma benderfynu mynd ati i son ychydig am y llyfrau a gyhoeddwyd gan Gwilym Cowlyd (W.J Roberts, Llanrwst).
Rwyf wedi bod yn casglu popeth sydd yn ymwneud a Gwilym Cowlyd, Arwest Glan Geirionydd a’r llyfrau gyhoeddwyd ganddo ers dros ddeng mlynedd a dyma sylweddoli fod cymaint o lwybrau gall rhwyun ei ddilyn, yn enwedig o drafod llyfrau sydd yn son am Colwyd mai gwell fyddai canolbwyntio yma ar y llyfrau a gyhoeddwyd ganddo. Rhaid cydnabod un llyfr, sef llyfr G.Gerallt Davies, “Gwilym Cowlyd 1828-1904” (Llyfrau’r MC, Caernarfon 1976) fel y brif ffynhonnell o wybodaeth – dyma lyfr hanfodol i unrhywun a diddordeb yn Cowlyd.
Ffrwyth llafur gwaith ymchwil ar gyfer gradd MA ym Mhrifysgol Lerpwl rhwng 1952 a 1955 yw cynnwys y llyfr er i lyfr Gerallt gael ei ddisgrifio fel “talfyriad” o’r gwaith ymchwil hynny. Mae sawl copi o lyfr Gerallt gennyf, prynais fwy nac un er mwyn eu rhannu a rhywun a ddangosai ddiddordeb yn Cowlyd er fod rhywun yn gweld copiau yn ymddangos yn rhestrau’r Casglwr o dro i dro, felly nid yw’n lyfr rhy brin.
Fe wyddoch mae’n siwr am hanes Ty Cowlyd yn Heol Watling, Llanrwst lle roedd gan Cowlyd siop lyfrau a mae’n debyg iddo brynu ei argraffwasg gyntaf ym 1863 o Lerpwl am y swm o £14. Ond cyn dechrau ar y llyfrau a argraffwyd yno priodol yw cyfeirio at y llyfr ‘Geirionydd’ sef casgliad o waith ei ewythr Ieuan Glan Geirionydd a olygwyd gan W.J Roberts, Trefriw, sef Cowlyd tra yn dal i fyw yn Nhyddyn Wilym, Ardda. Argraffwyd gan I.Clarke Ruthin dan olygyddiaeth Gwalchmai mwy na thebyg yn ystod 1862. Dyma ddechrau gyrfa Cowlyd felly fel cyhoeddwr llyfrau, ef oedd yn gyfrifol am drefnu’r holl waith a mae’n rhaid fod Cowlyd wedi gweld y fantais o allu argraffu llyfrau ei hyn yn Llanrwst yn hytrach na mynd at argraffwyr eraill.
Y llyfryn cyntaf i’w gyhoeddi gan Cowlyd oedd “Y Fwyalchen” gan Morris Jones, Trefriw ym 1866 tt, 64. Cyfeiria Gerallt Davies at y llyfr hefyd fel “Y Fwyalch” a gan nad oes copi gennyf does dim modd i mi fod yn sicr p’run yw’r teitl cywir. Casgliad o waith Gwyalchen o’r Cwm yn ol ei enw barddol yn cynnwys galarnadau, caneuon ac emynau yw’r llyfryn ac ar y wyneb-ddalen brolai Cowlyd
“Rwy’n falch o’r Fwyalch fywiog – ei nodwedd
A’i chaniadau serchog”
“Flores Poetarum Britannicorum” yw’r ail lyfryn o wasg Cowlyd, yn dyddio o Mis Rhagfyr 1866 tt, 91 sef ad-argraffiad o’r llyfr o gasgliad Dr J Davies, Mallwyd a hefyd ‘Llyfr Barddoniaeth’ o waith Capten William Middleton (Gwilym Canoldref). Yn ol Cowlyd, ad-argraffodd Flores “gan nad yw’n bosib braidd ddyfod o hyd i gymaint ac un copi cyflawn o honynt ar gael a chadw yng Nghymru y dydd hwn”. Argraffwyd o fewn clawr melyn llachar gyda hysbyseb ar y dudalen cefn ar gyfer y gyfrol ‘Geirionydd’ a hefyd y gyfrol nesa oedd ar fin cael ei chyoeddi gan Cowlyd sef casgliad o’i waith ei hyn.
Y gyfrol honno wrthgrws oedd “Y Murmuron” a gyhoeddwyd ym 1868. Mae gennyf ddau fath gwahanol o’r Murmuron, un wedi ei rwymo mewn clawr caled a’r llall mewn clawr meddal a cofiaf yn iawn y wefr o gael fy ngopi cyntaf ym 1997 gan y diweddar Dafydd Hughes, Llandudno. Cadwai Dafydd restr ar wal ei siop ar fy rhan gyda phopeth gallwn feddwl amdano a pherthnasedd i’r hen Gowlyd, doedd ddim ots gennyf ddatblygu eitemau yn y casgliad fel soniais uchod – byddwn siwr o ddod o hyd i gartref da iddynt.
Oddifewn i’r Murmuron cawn yr awdl fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy , 1861 sef ‘Mynyddoedd Eryri’ a cyfeiriodd Gwalchmai “Daw drachefn at y tyner cyn terfynu, a darluniau -” wrth feirniadu
“Y llynau gwyrddion llonydd- a gysgant
Mewn gwasgod o fynydd
A thuynheulwen ysblenydd
Ar len y dwr lun y dydd”.
Dyma’r unig gasgliad o waith ei hyn a gyhoeddwyd gan Cowlyd, a’r flwyddyn ganlynol, sef 1869 cyhoeddodd cyfrol o farddoniaeth gan ei gyfaill mynwesol Trebor Mai, “Y Geninen” tt 176. Dyma gyfrol arall rwyf wedi methu a dod o hyd iddi er fod sawl copi gennyf o “Fy Noswyl” gan Trebor Mai (I am Robert) a argraffwyd gan John Jones, Llanrwst 1861, argraffwr arall a symudodd o Drefriw i Lanrwst. Mae gennyf hefyd gopi o awdl i gofio Ymweliad Sior IV a Sir Fon gan Ieuan Glan Geirionydd wedi ei argraffu gan John Jones, Trefriw ym 1822.
Cyfrol ddadleuol iawn a gyhoeddwyd wedyn gan Cowlyd ym 1869, dadleuol am yr holl oedi yn hytrach nac unrhyw gynnwys a bu i Dalhaiarn ysgrifennu at yr argraffwr a’i felltithio am yr amser a gymerwyd cyn cyhoeddi “Gwaith Talhaiarn Cyf III” tt 132. Dyma ran o lythyr Talhaiarn at Cowlyd, “Diawl a dy sgubo ti, a melltith dy nain iti. Paham yr wyt yn tynu fy mherfedd yn grybinion yn fy mol efo’r cythreuleiddiwch ysgymun yma?” A wedyn mae yna linell gwell byth gan Talhaiarn a ddisgrifiwyd gan y diweddar Hywel Teifi fel fdyn a thafod ddigon miniog, “ Pe buasit yn Brinter i Job, buasai hwnnw er maint ei amynedd, yn dy regu a’th felltithio”.
Doedd Cowlyd ddim i gyhoeddi llyfr arall am chwe mlynedd wedyn, sgwni os oedd y ffrae gyda Talhaiarn wedi bod yn ormod i’r hen Cowlyd ? Cyhoeddwyd Gwaith Talhaiarn mewn clawr caled gwyrdd hyfryd a rhoddir arno gyfeiriad W.J. Roberts, Printer, Watling Street.
Awdl “Prydferthwch” tt 38,oedd y cyhoeddiad nesaf ym 1875, awdl anfuddugol gan Cowlyd ei hyn ar destyn ac ar fesurau Cadair Gwynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli. Unwaith eto llyfryn yw’r cyhoeddiad mewn gwirionedd a mae gennyf dri copi gwahanol o ‘Prydferthwch’ mewn cloriau meddal gwyrdd, porffor a phapur.
Llyfryn tebyg i Prydferthwch o ran ei faint oedd “Hanes Trefriw” tt 48, 1879, cyhoeddiad arall gan Morris Jones (Gwyalchen o’r Cwm) ac yn ol y wyneb-ddalen roedd yma “Hanes Trefriw, fel y bu ac fel y mae” ac yn ddiddorol iawn roedd cyfeiriad hefyd at Argraffwasg Gyntaf Cymru, dwi’n cymeryd mae un Dafydd Jones Trefriw (taid John Jones) a brynodd argrwffwasg ym1766 yw’r un dan sylw. Rwyf wedi gweld copi o’r llyfryn yma ond hyd yma heb gael hyd i un i’r casgliad.
Ym mlynyddoedd cyntaf yr 80au mae Cowlyd yn cyhoeddi llyfrynnau megis Yr Helydd” sef ei awdl fuddugol yn Arwest Geirionydd, “Marwnad y Diweddar Barch John Williams Cae Coch” tt 15,1883 a nifer o gyhoeddiadau neu lyfrynnau bach ynglyn a’i syniadau am gyfrinion Barddas a syniadaeth yr Arwest. Mae rhai blynyddoedd yn mynd heibio rhwng cyhoeddi llyfr Talhaiarn ar llyfr nesa, sef cyfrol swmpus “Gweithiau Gethin” ym 1884, sef casgliad o holl weithiau barddol a llenyddol Owen Gethin Jones, Tyddyn Cethin, Penmachno.
Casglwyd a threfnwyd y barddoniaeth gan Cowlyd ac ar ddiwedd y llyfr ceir penodau ar Hanes Plwyf Penmachno,, Ysbyty Ifan a’i Hynafiaethau a Hanes Plwyf Dolwyddelen sydd yn gwneud y gyfrol hon yn hynod gasgliadwy ac o ddiddordeb mawr i drigolion y plwyfi yma heddiw. Fel gyda ei gyfaill Trebor Mai, mae Cowlyd drwy gyhoeddi gwaith Owen Gethin Jones yn cyhoeddi llyfr gan un o arweinwyr Arwest Glan Geirionydd a diddorol yw nodi fod y rhyddiaeth wedi ei drefnu a’i olygu gan Scorpion (Y Parch T Roberts) un arall o griw’r Arwest ac un o feirdd Llanrwst.
Gyda llaw, mae llyfr Vivian Parry Williams “Owen Gethin Jones, Ei Fywyd a’i Feiau” (Carreg Gwalch 2000) yn rhoi hanes O Gethin Jones ar gof a chadw fel y gwnaeth G Gerallt Davies gyda Cowlyd. Diolchwn am hynny, fod y cymeriadau hynod yma yn cael eu cydnabod a fod yr hanes cyflawn ar gael diolch i waith ymchwil yr awduron.
1887 oedd blwyddyn cyhoeddi “Cerddi’r Eryri” tt 72 sef casgliad o oreuon Cerddi Poblogaidd Cymru yn cynnwys Caneuon Gwladgarol, Teimladol, Moesol, Addysgiadol a Difyrol, wedi eu crynhoi i gyfrol fechan er hwylusdod i’r datganydd, y cystadleuydd a’r adroddydd. Y pris oedd chwe’cheiniog mewn clawr meddal. Bu fy nghopi i unwaith ym meddiant gwr o’r enw Llew Owain, mae ei lofnod ar y clawr blaen. Y tu fewn mae cerddi fel Molawd Arthur
Gwrol a da ydyw Arthur y Cymry
Teilwng yw byth o anhrydedd a chlod
Arthur sydd fawr megys tad yn ei deulu –
Arthur ein teyrn yw y doethaf yn bod.
Argraffwyd fy nghopi gan J.L Roberts, Llanrwst gyda Rhagymadrodd gan Cowlyd, felly mae’n debyg mae ad-argraffiad yw hwn ? - does dim dyddiad ar y clawr na’r wyneb-ddalen fel sydd yn arferol gyda gwaith W.J Roberts.
Cyhoeddwyd y llyfryn nesa yn y Gymraeg a’r Saesneg, sef “Chwedleuon Machno” tt 26, 1888 gan Owen Roberts (Brysiog Machno) a oedd yn adrodd “hen hanesion bron ar golli” am Benmachno. Yn y Saesneg y teitl oedd “Machno Anecdotes”. Dau lyfryn arall sydd yn cael eu disgrifio gan Gerallt Davies fel rhai “del a hynod eu diwyg” yw “Lili’r Dyffryn” tt 32, 1890 ? ac “Y Morgrugyn” 1891 gan yr un awdur, John Williams (Ioan Mawrth) Eglwysbach ac eto yn ol Gerallt mae’r ddau lyfryn yn gymar i’w gilydd o ran diwyg a chynnwys.
Yn ol dyddiad cyhoeddi “Egluryn Rhyfedd” oedd y llyfryn olaf i’w gyhoeddi gan Cowlyd ym 1897, sef y flwyddyn cafodd ei daflu allan o Dy Cowlyd yn fethdalwr. Ad-argraffiad ydyw o lyfr gan David Jones o Drefriw a argraffwyd yn wreiddiol yn yr Amwythig, 1750.
Llyfryn arall sydd wedi cael ei argraffu ddwy waith yw “Diliau’r Delyn”, gan Gwilym Cowlyd, sef casglaid o benillion Cymraeg i’w canu gyda’r tannau. Er fod y llyfr yn ddi-ddyddiad mae gennyf gopi wedi ei argraffu gan W.J Roberts, Watling Street, a’r clawr gwreiddiol wedi hen fynd sydd yn ei ddyddio ym 1897 neu gynt a copiau arall unwaith eto wedi eu hargraffu gan John L Roberts, Station Rd, Llanrwst pris chwe’cheiniog.
Yn amlwg mae’r llyfrynau yn tueddu i fod yn fwy prin ac yn llawer mwy bregus, dyma’r rhai anoddaf i ddod o hyd iddynt fel casglwr. Tybiaf mae ‘Gweithiau Gethin’ yw’r mwyaf poblogaidd erbyn heddiw yn sicr o ran yr hanes lleol ac o ran Awdl ‘Mynyddoedd Eryri’ mae’n rhaid fod ‘Y Murmuron’ hefyd yn lyfr hanfodol i lyfrgell unrhyw gasglwr. Fel cyfeiriodd G Gerallt Davies, o ran diwyg a chynnwys mae’r llyfrau yn hynod fel hen lyfrau casgladwy ond awgrymaf hefyd eu bod yn hynod bwysig fel cofnod o’r beirdd a llenorion radical yma fu’n byw yn Nyffryn Conwy yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.