Adeiladwyd Treforys yn 1857 ar gyfer gweithwyr chwarel
Gorseddau a’u teuluoedd. Saif y ‘pentref’ ar lethrau Moel Hebog, i’r gogledd o
Lyn Ystradllyn. Lle gwlyb, agored, garw pan mae’r tywydd yn troi. Erbyn 1871
roedd Treforys yn wag. Methiant fu’r chwarel a methiant fu Treforys.
Dyma hanes nodweddiadol o gyfnod y Fictoriaid. Gormod o
frwfrydedd a mentergarwch heb ddigon o sylw i answadd y llechi. Adeiladwyd
tramffordd rhwng y chwarel a’r felin yn Ynysypandy – gallwch gerdded rhan o’r
tramffordd hyd heddiw o Dyddyn Mawr draw at y chwarel. O 1854 ymlaen roedd y
chwarael ym meddiant Robert Gill a John Harris a chafwyd cymorth gan y
peiriannydd mwyngloddio Almaenig, Henry Tobias Tschudy Von Uster.
Roberth Griffith Morris o Fangor oedd perchennog y tir lle
adeiladwyd cartrefi’r chwarelwyr ac ef sydd yn rhoi ei enw i Dreforys, y
pentref sydd wedi ei gynllunio yn ôl pob tebyg mewn swyddfa o bell. Anodd credu
fod y pensaer erioed di troedio llethrau gwlyb Moel Hebog.
Cyn cyrraedd Plas y Llyn, lle reodd rheolwr y chwarel yn
byw, mae llwybr yn dringo tua’r gogledd ac yn arwain at Dreforys. Gelwir rhan
gyntaf y llwybr yn Ffordd y Plwyf. Wrth gyrraedd Treforys gwelir dair rhes o
dyddynod dwbl. Mae 18 adeilad i gyd, 36 o dai, pob un mwy neu lai yr un cynllun
a’r un maint. Croglofftydd oedd i’r tai, mae ffenestri lloft bythynnod 12 ac 13
yn y rhes ganol yn parhau i sefyll (am y tro).
Yn ystod mis Chwefror a Mawrth eleni (2021) bu
archaeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn gwneud archwiliad manwl
o’r safle. Cofnodwyd pob un o’r 18 adeilad gyda nodiadau a mesuriadau manwl,
cofnod ffotograffaidd a thynwyd awyr luniau gyda drôn er mwyn creu modelau 3D
o’r adeiladau.
Dyma engraifft gwych o sut bu i dirwedd Cwm Ystradllyn
newid o ganlyniad i ddiwydiant. Newidwyd patrwm bywyd rhai o’r trigolion am
gyfnod ond heblaw am dwll chwarel a thomenni enfawr Gorseddau prin fod yr olion
diwydiannol yn amlwg heddiw, mae’r cwm bellach yn ôl yn gwm amaethyddol. Suddo
yn raddol i’r corsdir mae Treforys, y waliau yn disgyn, y tir yn wlyb.
Dim ond y ffaith fod tair rhes o dyddynnod cyfochrog a
ffyrdd union syth yn rhedeg gerllaw sydd yn awgrymu rhywbeth anarferol o ran
tirwedd gwledig Cymru. Cawn engreifftiau lu o ffermdai a hafotai hynafol o
amgylch Cwm Ystradllyn ond tydi cynllun Treforys ddim yn ‘perthyn’ rhywsut.
Dyma’r ‘planned village’ allan o gymeriad ac eto mae rhywbeth Cymreig am yr
adeiladau hefyd. Cerrig y mynydd a ddefnyddiwyd i’w adeiladu. Mae’r cruglofftydd
yn fy atgoffa o dai y chwarelwyr ar Fynydd Cilgwyn, Dyffryn Nantlle (Sardis yn
engraifft amlwg neu meddyliwch am Cae’r Gors yn Rhosgadfan).
Roedd darn o dir yn perthyn i bob tyddyn. Daw rhesi tai
Mynydd Llandegai i’m meddwl o ran cymhariaeth fras. Rhaid pwysleisio hefyd mai
cartrefi oedd rhain yn Nhreforys, gyda teuluoedd ynddynt – felly nid barics ar
gyfer gweithwyr oedd yn dychwelyd adre ar y penwythnos.
Wrth archwilio bwthyn rhif 13 yn y rhes ganol roedd yn
weddol amlwg fod bron i hanner ffenestr ffrynt y tŷ wedi ei cau yn fwriadol
gyda wal gerrig. Gan fod y drws ffrynt a’r ffenestri ffrynt yn wynebu’r de /
de-orllewin tybiaf fod y preswylwyr wedi penderfynu fod gormod o damprwydd a
gwynt yn treiddio i mewn i’r tŷ.
A’i dyma engraifft arall o gynllunio o bell? Efallai mai
ffasiwn y dydd oedd cael digonedd o olau i mewn i dai? Awgrymodd Bill Jones
sydd wedi archwilio tai y chwarelwyr yng Nghwm Orthin fod rhywbeth tebyg wedi
digwydd yn ochrau Stiniog. Lleihau maint y ffenestri er mwyn cadw’n glud.
Trafodaeth ddiddorol.
Y broblem fwyaf o ran cadwraeth yn Nhreforys yw fod y tir
mor wlyb ac o ganlyniad mae ochrau y tai yn rhoi wrth i’r dŵr danseilio’r ddaear.
Pan gynlluniwyd Treforys roedd cyfres o ffosydd yn arwain y dŵr i ffwrdd o’r
tai. Heddiw mae’r dyfrffosydd wedi llenwi, y ffosydd wedi ffendio cwrs newydd
a’r holl safle yn wlyb iawn. Os bydd cynllun cadwraeth hirdymor ar gyfer
Treforys bydd rhaid ail dorri’r dyfrffosydd a chael y dŵr yn glir o’r safle.
Bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw a’r rhai o’r
tyddynnod. Yn sicr dylid ceisio cadw rhai o’r waliau a llefydd tân yn y rhes
ganol. Os yn bosib dylid hefyd sicrhau fod ffenestri croglofftydd 12 ac 13 yn
cael eu gwarchod gan fod hyn yn nodwedd mor bwysig o’r adeiladau.
Yn sicr o ran hanes a chynllun mae Treforys yn rhan bwysig
o dreftadaeth a hanes y diwydiant llechi yng ngogledd-orllewin Cymru. Lle
hyfryd ar gyfer cerdded ar ôl i gyfyngiadau Covid gael eu llacio.
No comments:
Post a Comment