Friday 29 January 2021

Erthygl am Garn Boduan o'r Herald Gymraeg 19 Ionawr 2011

 


Yr anfanteision o fynd i gerdded yr amser yma o’r flwyddyn, digon hawdd eu rhestru wrthgrws, yr oerfel, y gwynt a’r glaw, gall fod yn wlyb dan draed, mae’r dydd yn fyr a mae tynnu lluniau yn gallu bod yn anoddach. Ond wedyn i gerddwyr mae yna rhywbeth gwahanol i’w weld ym mhob tywydd ac ymhob tymor, golau gwahanol, bywyd gwyllt gwahanol, planhigion gwahanol - fel byddaf yn ei ddweud yn aml, “gwahanol - nid gwell na gwaeth ond gwahanol”.

               Wrth i gyfaill a minnau ymweld a bryngaer Garn Boduan ger Nefyn yn ddiweddar daeth yn amlwg iawn ein bod wedi gwneud dewis da, oedd roedd hi’n ddiwrnod digon oer, sych o ran y glaw ond yn sicr ddigon gwlyb a mwdlyd dan draed, ond yr hyn wnaeth gymwynas mawr a ni yr amser yma o’r flwyddyn oedd fod y rhedyn, y grug a’r meieri mwyar duon yn gorwedd yn isel ac heb ddail. Caniataodd hyn i ni weld olion y cytiau crwn o fewn y gaer – rhywbeth fyddai’n amhosib yn nhymor yr haf gyda phopeth mewn dail a blodau yn llawn bywyd.

               Yn ddaearegol, mae Garn Boduan yn gorwedd ar asgwrn cefn folcanig LLŷn, yn un o nifer o fryniau folcanig ar hyd yr asgwrn cefn a fel ei gymydog Garn Fadryn a’i frawd mawr Tre’r Ceiri yn safle i gaer Oes Haearn ac ôl-Rufeinig.  O fewn y gaer yma ar Garn Fadryn,ar yr ochr ddwyreiniol, mae caer fewnol, sef y ‘citadel’, sydd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Rufeinig ac efallai wir mae yma oedd cartref y cymeriad lled chwedlonol Buan. ( Fe ysgrifenais am hyn yn ol ym Mis Awst 2009 yn y Daily Post / Herald Cymraeg).




               Diddorol bob amser yw edrych ar darddiad enwau llefydd ac wrth wneud ychydig o waith ymchwil ychwanegol ar Garn Boduan dyma bori ychydig drwy hen lyfr, sydd yn lled werthfawr (chwi ddarllenwyr Y Casglwr) o’r enw  ‘Archaeologia Lleynensis sef Hynafiaethau Penaf Lleyn’ gan y Parch J. Daniel (Rhabanian) 1892. Yma cefais hyd i stori arall, un dra wahanol, ac yn ôl y Parch J. Daniel arferir cyfeirio at y Garn fel ‘Pen Dic y Felin’.

               A dyma i chwi ddarllen diddorol, disgrifiai’r Parch J. Daniel ei ymholiadau a’r atebion a roddwyd iddo; fel yr oedd son am hen felin ym mhwlyf Bodfuan, a mai enw’r melinydd oedd Dic, a wedyn, a dwi’n gweld hyn fel rhan o hiwmor cefn gwlad, fod gan Dic y melinydd goblyn o ben mawr. A felly y bu i Garn Boduan fod, am gyfnod yn sicr, yn Pen Dic y Felin. Dyma’r ffraethineb fyddai rhywun yn ei ddisgwyl yn Nhafarn yr Heliwr, Nefyn yn ôl yn y dydd.

               Yn amlwg mae’r Parch J Daniel yn cael ei aflonyddu ychydig gan y fath hiwmor syml cefn gwlad, gan iddo gyfeirio at y disgrifiad fel un wedi deillio o gellwair. Yn ôl ei eiriau ei hyn dyma’r Parch yn datgan “Dyma reswm direswm! os nad afresymol! Oblegyd, gwelwn ar unwaith ei fod wedi tarddu o gellwair, ac oddiar wagedd, sef y ddau leidr a yspeiliant reswm bob amser o’i gorph ond nid o’i wisg”.

               Argian, dipyn o ddweud, ond wedyn fe aiff ymlaen ymhellach, “Mewn Traddodiad nis gallwn ddisgwyl ond am gysgod o’r sylwedd”. Rhaid i mi ddweud fod pori drwy’r hen lyfrau yma yn gallu cyflawni sawl peth, dod o hyd i storiau bach difir fel yr un uchod, cyfeirio at ambell heneb sydd bellach wedi hen ddiflannu ond hefyd yn aml iawn dyma hefyd daflu ychydig o oleuni ar feddylfryd a syniadaeth y cyfnod pryd ysgrifennwyd y llyfrau.

               Dyma daro ar draws penod arall gan John Daniel a dynodd fy sylw yn syth dan y penawd ‘Twtil’, hynny  gan fy mod yn byw yn ardal Twthill yng Nghaernarfon. Cyfeirio at gopa bryn bychan ar dir Dyffryn ger Foel Fawr ym mhwlyf Llaniestyn mae’r enw. Er fod son fod Eglwys unwaith wedi sefyll ar y safle yma, mae Daniel yn sicr iawn fod hyn yn anghywir a wedyn fe aiff yn ei flaen i drafod  tarddiad yr enw o ran y Gymraeg a’r Lladin ac yma mae’n rhaid cyfaddef mae Daniel yn llwyddo i fy nrysu, fy niflasu a dwi’n disgyn yn llipa oddiar ei drywydd mewn diflastod a fawr callach - ond ddim am hir !

               Buan iawn adferir fy sylw i’w ddamcaniaethau wrth iddo nawr ymddagnos fel “archaeolegydd” gan ddisgrifio sut bu iddynt “dreiddio i fewn i’r pentwr, a chawsom ynddo ddarnau o goed wedi cael eu golosgi, y rhai yn ddiau a ddefnyddid i losgi gweddillion marwol”. Sioniodd hefyd fel bu iddynt ddarganfod dranau o garreg gallestr yn y domen a dehonglir rhain wedyn fel y cerrig a ddefnyddiwyd i ddechrau’r tân. Yn ôl Daniel, daethant o hyd hefyd i ddarnau o asgwrn braich dynol a priodolir y safle felly fel un sydd yn cyfateb a’r dull o gladdu’r meirw” ddeunawcant o flynyddoedd yn ôl”.

               Sgwni felly os yw’r Parch Daniel wedi adnabod a chloddio crug neu domen gladdu o’r Oes Efydd – pwy a wyr – efallai bod modd gwneud ychydig o waith ymchwil pellach ar hyn neu efallai fod rhai o ddarllenwyr yr Herald yn gwybod am yr ardal hon? A dyma wedyn ddod a ni yn daclus ac yn amserol at “heno” os ydych yn darllen yr Herald heddiw (ar Ddydd Mercher Ionawr 19) gan y byddaf yn dechrau ar gyfres o ddarlithoedd ar archaeoleg ar ran Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng nghanolfan Bryncroes ger Botwnog. Efallai bydd rhywun yno yn gwybod mwy am hanes plwyf Llaniestyn.

               Darlithoedd gyda’r nos fydd rhain, chawn ni ddim golau dydd na chyfle i fynd i gerdded fel grwp felly dyma argymell ddarllenwyr yr Herald, fel byddaf siwr o son wrth y dosbarth, i fentro am dro i fyny Garn Boduan yn y misoedd nesa ’ma, cyn i’r Gwanwyn droi yn Haf achos mae cynllun y cytiau oddi fewn i furiau’r gaer i’w gweld yn glir.

               Bu dipyn o drafod a hyd yn oed anghytuno ymhlith yr ysgolheigion Hogg ac Alcock ynglyn a’r amcangyfrif o faint o bobl fyddai wedi byw o fewn y gaer gyda niferoedd rhwng 100 a 400 yn fwyaf tebygol ond A.H.A Hogg yn crybwyll tua 400 o drigolion a Leslie Alcock ym 1965 yn awgrymu cymaint a 700. Go brin fod y cytiau i gyd yn cael eu defnyddio ar yr un pryd a hefyd o gymharu a safle fel Bryn y Castell, Llanffestiniog roedd rhai cytiau yn cael eu defnyddio ar gyfer pwrpas diwydiannnol. Beth bynnag am y dadleuon mae’n safle werth ei weld yn enwedig amser yma o’r flwyddyn!

 

No comments:

Post a Comment