Mae gennyf ddosbarth archaeoleg dan faner ‘Cymraeg i
Oedolion’ drwy Brifysgol Bangor yng Nghapel y Traeth, Cricieth. Neu mi oedd nes
i’r feirws Corona roi taw ar bob dim. Un o’r pethau rwyf yn argymell gyda
aelodau’r dosbarth yw pa mor bwysig yw gofyn y cwestiynau cywir. Rhaid bod yn
barod i ofyn cwestiwn. Rhaid herio pob damcaniaeth. Rhaid bod yn barod i ail-feddwl.
Dyna sut mae’r holl beth yn gweithio.
Yn ystod un sesiwn / gweithdy yn edrych ar werth hen lyfrau
o ran cael hyd i dystiolaeth am safloedd archaeolegol bu’r dosbarth yn trafod
cyfrol Henry Rowlands ar Hanes a henebion Ynys Môn, Mona Antiqua Restaurata a
gyhoeddwyd yn 1723. Felly heblaw fod hwn yn lyfr hen iawn (a gwerthfawr o ran
bod yn gasgliadwy) y cwestiwn cyntaf oedd rhaid ei drafod yw beth yw gwerth y
llyfr fel ffynhonnell hanesyddol?
Gan fod y llyfr wei ei gyhoeddi yn 1723 mae Rowlands felly
yn cyflwyno darlun o henebion Ynys Môn yn y cyfnod hynny. Dyna’r peth cyntaf,
ac o bosib dyna’r peth pwysicaf am y cyhoeddiad. Os yw’r llyfr yn cael ei
gyhoeddi yn 1723, gallwn gymeryd yn ganiataol fod yr hyn roedd Rowlands yn ei
weld a’i gofnodi yn bethau oedd yn bodoli o fewn ei oes. Yr ail gwestiwn amlwg
wedyn yw faint o bethau sydd yn cael eu crybwyll gan Rowlands sydd wedi goroesi
hyd heddiw?
Er fy mod yn tynnu coes ‘ffarmwrs’ am hyn reit aml, mae’n
ffaith fod caeau a thir amaethyddol wedi cael eu hymestyn yn ystod y 19eg
ganrif ac o ganlyniad mae’n weddol sicr fod nifer o gerrig boed yn feini hirion
neu yn siambrau claddu wedi cael eu clirio. Fe all fod safleodd sydd yn cael eu
disgrifio gan Rowlands fod wedi hen fynd.
Rhywbeth arall amlwg am waith Rowlands yw ei fod yn sgwennu
yn gymharol gynnar fel ‘hynafiaethydd’. Doedd y wybodaeth sydd gennym heddiw yn
sicr ddim gan Rowlands felly nid hawdd oedd gwahaniaethu rhwng y Neolithig, yr
Oes Efydd a’r Oes Haearn. I Rowlands roedd yn haws gwahaniaethu rhwng y
‘brodorion’ Celtaidd a’r Rhufeiniaid. Roedd Rowlands yn ymwybodol o waith
Tacitus a’r ymosodiad Rhufeinig ar Ynys Môn yn y 60au cynnar oed Crist.
Er fod Rowlands yn cyfeirio at garneddau fel safleoedd
claddu, ac yn ymwybodol fod wrnau wedi eu canfod mewn rhai carneddau mae cryn
ddryswch ynglyn a’r siambrau claddu a cherrig yr allor y Derwyddon. Fy marn yma
yw maddeuwch i Rowlands. Mae o yn deall mai Môn oedd cadarnle’r Derwyddon. Ond
mae o hefyd yn cofnodi safleoedd fel cylch cerrig Bryn Gwyn ger Brynsiencyn yn
hollol gywir!
Dyma’r her felly wrth ddarllen gwaith Rowlands, rhaid
dehongli’r hyn sydd ganddo dan sylw yn ofalus gan gydnabod fod technegau a’r
ddisgyblaeth archaeolegol wedi ei drawsnewid yn llwyr ers ddechrau’r 18fed
ganrif. Er hyn, dyma chi fendigedig fod llyfr wedi ei gyhoeddi mor gynnar a
1723 yn adrodd hanes yr ynys.
Un safle drodd mewn i drafodaeth ddiddorol iawn gyda
dosbarth Cricieth oedd y siambr gladdu ddwbl ar lawnt Plas Newydd, ger y Fenai,
cartref Ardalydd Môn a’r Pagets. Gan fod rhywun mor gyfarwydd a’r byddigions yn
codi ffug-gestyll a ffug-dyrrau addurnedig (follys) ar eu stadau byddai codi
amheuaeth ynglyn a’r siambr gladdu yn beth ddigon amlwg i’w wneud. Yn sicr, bob
tro rwyf wedi arwain teithiau tywys at y gromlech ym Mhlas Newydd rwyf yn
crybwyll arferion y boneddigion o dirweddu a chreu gerddi.
A dyma lle mae Rowlands yn hanfodol. Rydym yn gwybod fod y
ddwy siambr ym Mhlas Newydd, neu Llwyn Moel fel yr hen enw, yn sefyll yn adeg
Rowlands. Mae o yn cyfeirio at y ddwy siambr a hefyd at Bryn yr Hen Bobl siambr
arall yn agosach at y Fenai. Bryn yr Hen Bobl yw’r unig siambr gladdu ar Ynys
Môn lle mae’r garnedd wedi goroesi dros y gromlech. Mae disgrifiadau Rowlands
yn cyfateb a’r hyn a welir heddiw.
Yn ystod y 1790au comisiynwyd y garddluniwr Humphry Repton
i wenud gwaith ym Mhlas Newydd gan y Iarll Uxbridge cyntaf. Clywais son yn
ddiweddar gan aelod o staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhlas Newydd fod
Repton wei crybwyll gosod llechan neu gofeb famor ger y gromlech yn cydnabod
hanes y derwyddon. Does dim tystiolaeth fod hyn wedi digwydd. Os yw’r strori yn
wir fe allwn awgrymu fod y siambrau claddu ar y safle cyn i Repton ddechrau
garddlunio. Neu fel rwyf yn tynnu coes weithiau fod hyn yn ‘double-bluff’ gan
Repton a mai fo gododd y cerrig.
Drwy edrych ar Mona Antiqua Restaurata gall rhywun
fod yn hollol sicr fod y siambrau claddu yn sefyll yma ymhell cyn cyfnod Repton
a’r Pagets. Mae llun Rowlands ddigon agos i’r hyn a welir ar y safle heddiw.
Gan fod siambrau claddu Bodowyr, Bryn Celli Ddu a Bryn yr Hen Bob oll o fewn
tafliad carreg i siambrau Plas Newydd does dim byd anghyffredin mewn gweld
cromlech Neolithig yn y rhan yma o Ynys Môn chwaith.
Aelod o’r dosbarth yng Nghricieth ddaeth a hyn i’r amlwg –
os di’r siambrau yn cael eu cofnodi gan Rowlands yn 1725 mae hynny wedyn yn
profi nad Repton gododd y cerrig fel ffug-gromlech yn ystod y 1790au.
A dyna brofi gwerth hern lyfrau yn syml. Hyd yn oed os oes
angen pwyll wrth ddadansoddi, mae’r dystiolaeth ddigon amlwg. Does dim modd
dadlau hefo’r dyddiadau a does dim modd dadlau hefo lluniau Rowlands. Mae
siambrau claddu Plas Newydd yn rhai go iawn felly!
Llyfryddiaeth:
Garnett, O., 2010, Plas Newydd Counry House and gardens (Ymddiriedolaeth
Genedlaethol)
Rowlands, H., 1723, Mona Antiqua Restaurata
No comments:
Post a Comment