Saturday, 17 November 2018

Gogledd Cymru yn Clywed Reggae, Herald Gymraeg 14 Tachwedd 2018




Jarman @ Pontio

Dau gig reggae yr un penwythnos yng ngogledd Cymru. Da ni yn cael ein sbwylio. Nos Wener dwetha yn Neuadd Ogwen, Bethesda, roedd Macka B yn dychwelyd i’r llwyfan fel rhan o weithgareddau ‘Mis Hanes Pobl Croenddu’. Bu Macka B fynny llynedd hefyd, bron i’r diwrnod, mwy neu lai am yr un rheswm.

Mae Neuadd Ogwen yn gwneud gwaith da yn cynnal gigs rheolaidd. Dyma chi neuadd addas ar gyfer cynulleidfaoedd oddeutu 200 a llwyfan, PA a goleadau sydd yn gweddu i gig o’r fath. Downtown Bethesda. Rhyfedol mewn un ffordd. Gwych mewn ffordd arall. Dwi’n teimlo fy mod yn fynychwr rheolaidd.

Gwelais Macka B llynedd. A dyma beth fydd yn annisgwyl i ddarllenwyr yr Herald Gymraeg – cefais fy siomi. Rwyf yn hoffi fy reggae yn fwy dub ac yn fwy miliwraethus. Bands fel Steel Pulse, Misty in Roots neu Aswad cynnar sydd yn gwneud hi i mi. Neu artistiaid fwy amlwg Dub fel Augustus Pablo, Mad Professor neu Lee Scratch Perry. Neu hyd yn oed stwff Trojan cynnar pan roedd reggae a ska yn cyd-gerdded y llwybrau reggae. Dim ‘hyd yn oed’ amdani.

Heb fod yn rhy gas roedd Macka B yn dod drosodd braidd yn ‘reggae-light’, bron a bod yn reggae ysgafn. Dyna pam cefais fy siomi llynedd. Nid felly gweddill y gynulleidfa yn 2017. Felly pam yn y byd dwi’n dychwelyd medda chi? Un rheswm amlwg fydda cefnogi’r achos – cefnogi gigs yng ngogledd Cymru. Efallai fod hynny yng nghefn fy meddwl ond y gwir reswm i mi fynd i gig Macka B oedd y ffaith fy mod isho gweld y ‘syport act’.

Banda Bacana oedd yn agor y noson. Grwp o ardal Bangor sydd yn chwarae ‘Latin Grooves’ – dyna mae’n debyg yw’r disgrifiad gora. ‘Cerddoriaeth Byd’ i raddau ond gyda grŵf pendant ond hamddenol hefyd. Grŵf ‘Cha cha cha’ os mynnwch, ond llawer mwy na hynny hefyd. Dyma grwp sydd yn gwneud hi’n amhosib sefyll yn llonydd a dyma grwp sydd yn codi’r ysbryd.

Does dim byd ‘trwm’ am Banda Bacana. Grwp ar gyfer codi’r hwylia, grwp amser da – ond mae yna rhyw gynhesrwydd organig yn perthyn i’r grwp. Rwyf yn closio at y ffaith fod y cerddorion yn gwenu ar y llwyfan, yn ei wneud o am y rhesymau iawn – i mewn i be mae nhw’n neud.

Gadewais y neuadd cyn Macka B. Dwi ddim angen ei weld o eto a doedd fawr o neb yno ro’n i yn ei adnabod. Dim sgwrs felly ac adre yn fuan.

Banda Bacana @ Neuadd Ogwen

Nos Sadwrn roedd yna gig arall yng ngogledd Cymru. Dwi bron a dweud gig reggae arall. Bron a bod, achos roedd Jarman yn perfformio yn Pontio (treiglo ym Mhontio) Bangor, i hyrwyddo ei CD Newydd ‘Cariad Cwantwm’ (Ankst 141). ‘Cariad Cwantwm’ yw’r LP cyntaf sydd yn llwyr reggae gan Jarman. Er cymaint ’da ni yn cysylltu Jarman a reggae mae’r LPs blaenorol wedi bod yn gyfuniad mewn gwirionedd o roc a reggae – a chydig o reggae-roc. Nid ydi ‘Gwesty Cymry’ yn ‘reggae-roc’ gyda elfen Punk?

Ta waeth, mae Pontio yn barchus llawn fel oedd Neuadd Ogwen ar gyfer Macka B. Ond dwi ddim yn gweld yr un gwynebau. Ella fod ‘clustiau’r Cymry yn clywed reggae ar y radio’ ond doedd fawr o ddilynwyr Jarman yn gwylio Macka B. Dwi bron yn saff i ddweud mae fi oedd yr unig un a fynychodd y ddau gig (er i mi beidio gwylio Macka B ond nid dyna’r pwynt yma). Cynulleidfa fwy ‘Seisnig’ oedd i Macka B – pobl wyn hefo dreadlocks, hipis ifanc a oedd heb eu geni yn 1967, mewnfudwyr a dringwyr – dwi’n gor-symleiddio. A dwi ddim yn feirniadol. Dwi jest yn cyfle fy argraffiadau. Dau fyd. Dau fyd gwahanol yng ngogledd Cymru.

Ond o ni’n meddwl fod Marley yn canu am ‘One Love’ – un Byd. Tydi’r dreadlocks gwyn a’r mewnfudwyr (hyd yn oed os ydynt yn dysgu Cymraeg – neu gobeithio felly eu plant) ddim yn gwylio Jarman. Welais i ru’n dreadlock gwyrdd na ‘army boots’ heb grea ym Mhontio – dim ‘crusties’ fel oedd dilwynwyr Megadog yn cael eu galw gan punk rockers gyda gwalltiau pigog.

Felly mae’r gynulleidfa Gymraeg ar gyfer Jarman wrth eu bodda. Yn ystod yr awr a hanner mae Jarman yn chwarae’r hits ‘Tracksuit Gwyrdd’, ‘Bourgeois Roc’. ‘Merch Tŷ Cyngor’ ac wrthgwrs da ni yn cael ‘Gwesty Cymru’ ac ‘Ethiopia Neywdd’. Dwi’n cael sgrws ddifyr hefo rhywun ar ddiwedd y cyngerdd os ddylia fod Jarman wedi gorffen ei set hefo Ethiopia yn hytrach na Gwesty Cymru. Da – angerdd!

Ond mae dros awr o’r set yn reggae pur – o ‘Reggae Reggae’, ‘Dal dy Dir’ i’r stwff newydd fel ‘O Fywyd Prin’. Pawb yn dawnsio – pawb yn hapus. Heb os mae Jarman wedi bod yn gyfeiliant cerddorol i’n bywydau. Mae gwahanol ganeuon yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.

Saff yw dweud fod ‘Rocers’ gan Jarman wedi chwarae rhan yn newid fy mywyd i – yn wir mae LP Gwesty Cymry a chaneuon fel ‘Beirdd Gwleidyddol’ a ‘SOS yn galw Gari Tryfan’ yn ganeuon ddaru droi fi at y Gymraeg mewn cyfnod lle roedd Punk Rock yn llawer mwy atyniadol a neb yn y byd Cymraeg y gallwn uniaethu a nhw – tan Jarman.

Tydi Jarman ddim cweit ar ei orau bellach. Mae’r band ddigon slic a roedd y caneuon yn dilyn yn slic iawn a does dim disgwyl iddo fod fel yr oedd yn 1977. Chefais ddim argraff fod neb yn poeni – roedd pawb yn dawnsio i Gwesty Cymru.

Thursday, 1 November 2018

'Likes' ar Twitter, Herald Gymraeg 31 Hydref 2018





Rhaid cyfaddef dros y blynyddoedd o sgwennu colofn ar gyfer yr Herald Gymraeg mai un o’r pethau sydd yn rhoi mwyaf o bleser i rhywun fel colofnydd yw cael sgwrs hefo rhywn mewn caffi neu ar y stryd sydd yn dweud eu bod yn mwynhau darllen y golofn. Meddyliaf bob amser am y dyfyniad gan Joe Strummer, canwr The Clash, pan ddatganodd ”without people you are nothing”.

Yr hyn roedd Joe yn gydnabod yma wrthgwrs oedd / yw pwysigrwydd cynulleidfa. Gall cynulleidfa fod yn ddarllewnwyr wrth reswm – darllenwyr yr Herald Gymraeg, gwrandawyr y sioe radio ar Nos Lun, cynulleidfa gigs. Hebddynt does fawr o bwynt nagoes? Teimlaf fod hynny yn weddol amlwg.

Cyfuniad o bethau sydd yn ysgogi rhywun i sgwennu colofn fel hon bob pythefnos (bellach). Una’i mae rhywun am gyflwyno neu drosglwyddo gwybodaeth felly mae rhywun yn sgwennu colofn am rhyw elfen o Hanes Cymru neu am leoliad arbenig. Neu, ar adegau eraill mae rhywun yn sgwennu colofn er mwyn gwenud pwynt.

Pythefnos yn nôl, roedd fy ngholofn yn rhyw fath o ymdrech i daro ergyd yn erbyn gwallgofrwydd Brexit. Llith efallai ond llith oedd wedi ei blethu a rhwystredigaeth fod y sefyllfa yma yn bodoli o gwbl – ac yn mynd yn fwy afreal o wythnos i wythnos. Pwy a wyr pa effaith mae sgwennu colofn o’r fath yn ei gael. Dim llawer? Ddim digon?

Gallwn ddadlau fy mod yn teimlo dyletswydd i fynegi barn. Ond, bois bach mae hi’n anodd mesur yr ymateb. Ychydig iawn o bobl sydd yn llythyru bellach – dyma grefft neu arfer sydd yn prysur ddiflanu. I raddau mae rhywun yn dibynu ar ymateb ar y Cyfryngau Cymdeithasol fel rhyw fath o ffon fesur, rhyw fath o baromedr gwleidyddol neu ddiwylliannol.

Dyma lle mae fy nadl / gobeithion am y Cyfryngau Cymdeithasol yn cael ei chwalu’n rhacs. Dwi ddim yn credu fod darllenwyr yr Herald Gymraeg yn bobl Twitter. Yn yr holl flynyddoedd o sgwennu colofn dwi’n credu gallwn gyfri ar un llaw yr ymateb ar Twitter. Felly hefyd gyda Facebook.

Os unrhywbeth mae’r ymateb ar Facebook yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn. Rwy’n amau fod yr algorithmau cyfrifiadurol yn cyfyngu ar y niferoedd sydd yn gweld? Una’i hynny neu rhaid wynebu’r posibilrwydd fod pobl wedi blino ar y ‘cyhoeddiadau’ ar Facebook? Dyna ofn mwya’r awdur neu’r colofnydd efallai – dyma ni adre o flaen y cyfrifiadur yn cyfansoddi ein llith diweddara a neb yn malio.

Tydi’r awdur byth yn cael ymateb nes fod y llyfrau yn gwerthu neu’r erthyglau yn cael ymateb. Dim ond y ‘golygydd’ sydd yn gweld copi o flaen llaw. Hawdd colli hyder. Tydi hi ddim cweit mor ddrwg arna’i efallai. Llyfrau am Archaeoleg Cymru dwi’n gyhoeddi ac rwyf yn llwyddo i’w gwerthu mewn nosweithiau pan fyddaf yn rhoi sgyrsiau i gymdeithasau neu yn darlithio. Yma byddaf yn clywed wyneb yn wyneb gan y gynulleidfa / darllewnyr – mae nhw’n garedig iawn a rwyf innau yn cadw’r ffydd.

Peth od ydi’r Cyfryngau Cymdeithasol. Byddai peidio eu defnyddio yn lleihau ein cyrhaeddiad ond dwi’n cofio Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn trafod rhyw fore fod yn hawdd iawn mynd yn gaeth i faint o ‘likes’ mae rhywun wedi ei gael ar Twitter. Dwi’n cyfaddef fy mod yn gaeth i hyn bob Nos Lun  Dyma dreulio tair awr yn y BBC ym Mangor yn darlledu,  yn dewis recordiau a sgwrsio hefo gwesteion ‘diddorol’ yn y gobaith fod y gynulleidfa yn mwynhau, yn cael pleser o wrando ar y caneuon ac ie os yn bosib yn dysgu rhywbeth hefyd.

Ond tydi’r nifer o ‘likes’ ar Twitter ddim yn adlewyrchiad cywir o gwbl. Un wythnos bu i mi gyfweld a Tecwyn Ifan a chwarae caneuon oddiar y record hir ‘Dôf yn ôl’ (1978). Chwaraewyd holl ganeuon Ochr 1 y record sydd yn adrodd hanes y proffwyd Amos. Hynod ddifyr. Tecs wedyn yn esbonio’r cefndir i bob cân.

Dim un ‘tweet’ y noson honno. Cyn digaloni yn llwyr, dwi’n dadansoddi ac yn pwyllo – efallai fod cynulleidfa Tecs yn gynulleidfa sydd ddim yn ‘trydar’. Tydi’r ‘likes’ ddim yn golygu fod nhw heb fwynhau y sioe. Efallai wir, ond mae ochr arall i’r ddadl. Dwi’n credu fod y pethau yma rhy bwysig i beidio ymateb iddynt. Drwy greu bwrlwm mae’r bwrlwm yn cynyddu. Drwy eistedd yn ddistaw yr oll da ni’n gael ydi distawrwydd.

Cymerwch yr Herald Gymraeg – does neb yma i’n hamddiffyn bellach. Ers colli’r golygydd Tudur Huws Jones rydym yn sgwennu colofn bob pythefnos. Mae’r rhythm sgwennu wedi ei golli, mae’r arian wedi ei hanneru. Prin fod rhywun yn cofio ein bod yn ‘golofnwyr’. Un toriad arall yng nghyllideb Trinity Mirror a mi fydda ni wedi mynd cyn i neb sylwi.

Fy mhwynt yw fod pethau mor ansefydlog a bregys go iawn. Gall mympwy un golygydd, un cynhyrchydd newid pethau mor sydun. Soniodd Geraint Jarman fod “clustiau’r Cymry yn clywed reggae ar y radio” – ac ar y funud mae hynny yn wir. Ond chlywch chi ddim reggae ar S4C – mwy na gewch chi raglenni am Hanes Cymru na Archaeoleg ar S4C.

Ar ddiwrnod drwg mae’r awch i fod yn feudwy yn fyddarol. Lleisiau yn gweiddi am lonyddwch ddi-arffordd mynyddig gyda dim ond sŵn brain a defaid. Ar ddiwrnod da mae rhywun yn chwifio’r faner, yn dal i gredu ac am weld y chwyldro yn digwydd heddiw, fory a drannoeth.

Y gwir amdani, tydi hyn ddim yn hawdd – mae fy nghalon yn gobeithio fod geiriau David R Edwards “fod byw yng Nghymru fel gwylio paent yn sychu” yn anghywir.