Pasg 1282 oedd hi pan ymosododd Dafydd ap Gruffudd ar gastell
Penarlag. Dafydd oedd un o frodyr fenga Llywelyn ap Gruffudd (Ein Llyw Olaf).
Hanes ddigon cythryblus fu rhwng y brodyr, roedd Dafydd wedi herio awdurdod
Llywelyn sawl gwaith a wedi ochri gyda Edward I ym mrwydrau 1274. Erbyn 1277
roedd y brodyr unwaith eto ar yr un ochr.
Yr ymosodiad yma gan Dafydd ar y castell Seisnig ym
Mhenarlag sydd yn achosi’r rhyfel olaf rhwng y Cymry a’r Saeson. Ni gollodd!
Fel mae pawb yn gwybod, lladdwyd Llywelyn yng Nghilmeri ger Llanelwedd /
Llanfair ym Muallt ar lan yr Afon Irfon yn Rhagfyr 1282. Dyma roi tatŵ parhaol 1282
ar ‘psyche’ y Cymry. A dyma ni, 736 o flynyddoedd yn ddiweddarach - wedi ein
gorthrymu ers 1282. Yn gaeth. Yn dal i rygnu ymlaen gyda’r ystradebau
ystradebol.
Castell Ewlo
Mae’r ŵyl ‘The Good Life Experience’, sydd yn cael ei
guradu gan Cerys (Cerys Matthews / Catatonia gynt, BBC 6 Music bellach) yn dod
a gwen i’r wyneb – achos mae’r ŵyl yn cael ei gynnal ar yr union darn o dir lle
ymosododd Dafydd ar gastell y Sais. Newydd gael ei gynnal dros y penwythnos –
tafliad carreg o’r ffin.
Ffaith sydd ddim yn cael ei golli gan Cerys. Dyma dir teulu’r
Gladstones, Hawarden Estate, Penarlag, Sir Fflint. Caretef y Prifweinidog William Ewart Gladstone
– gŵr fu yn Brifweinidog am bedair tymor yn y cyfnod Fictoraidd. Penarlag yw
cartref Llyfrgell Gladstone ac Eglwys Sant Deiniol.
Fe gofiwch i mi sgwennu sawl gwaith am Eglwys Sant Deiniol,
dyma un o’r gasgliadau gorau o ffenestri lliw Edward Burne-Jones yn y wlad.
Dyma’r comisiwn olaf gan Burne-Jones cyn ei farwolaeth – comisiwn i’w gyfaill
Ewart William Gladstone. Ffenestri rhyfeddol – yr angylion glas hynny ar y
ffenestr orllewinol – ffenestri RHAID eu gweld ar unrhyw restr bwced.
Drwy chwyrlio syniadau o amgylch y pair creadigol Gymreig
dyma Cerys yn bathu’r enw ‘Pen Bar Lag’ ar babell newydd yn yr ŵyl eleni. Drwy
chwarae hefo’r enw Cymraeg am Hawarden a’r ffaith fod gennym bar yn gwerthu
cwrw crefft Cymreig, ‘Cwrw Sir Fflint’, tarodd Miss Matthews ar Pen Bar Lag –
gwych a mi sticiodd!
Tipi, pabell, llwyfan Cymraeg a Chymreig. Cymreig ei naws.
Gofod lle roedd y Gymraeg yn hyderus ac yn naturiol. Yn cael ei ddefnyddio yn
naturiol a hyderus heb ymddiheuriad na chlochdar. Dyna sut ddylia hi fod. Does
dim angen unrhyw gyfaddawd. Ond gyda hyder – does dim angen gweiddi na phrotest,
cwyno na gwthio – fel hyn mae hi. Da ni yn hyderys.
Cyd-weithiodd yr ŵyl yn agos iawn hefo Menter Iaith Fflint
Wrecsam a sicrhawyd gweithgareddau lu ar gyfer babanod, plant a theuluoedd yn
ystod y boreau ac amser cinio. Synod pa mor hawdd ydi anghofio am deuluoedd
ifanc mewn gwyliau. Dyma ni fellu Magi Ann, Sgwrs a Chân. Proffesor Llusern a
sioe Pwnsh a Siwan. Rhieni ifanc a babanod o Loegr neu lle bynnag yn chwerthin
gyda Magi Ann yn eu diddanu yn ddwy-ieithog. Adloniant, pleser, addysg,
hyrwyddo’r Gymraeg.
Heb os un o’r uchafbwytiau yn y babell Pen Bar Lag oedd y
gweithdai dawnsio clogsen. Yn ‘anffodus’ i ni (y trefnwyr) roedd Cerys wedi
cyhoeddi o’r prif lwyfan, o flaen 5000 o bobl, fod RHAID iddynt gael y profiad
o ddawnsio’r glocsen cyn mynd adre ar ôl y penwythnos. Druan o griw Menter
Iaith Fflint Wrecsam yn dygymod a’r holl alw. Dan ei sang yw’r disgrifiad
arferol o weithgaredd llwyddianus – a dyna oedd hi. Byddaf yn dweud yn aml fod
gormod o ddiddordeb a gormod o alw – gormod o gynulleidfa yn broblem dda i’w
chael.
Profiad arall i fynywchwyr yr ŵyl oedd pedair telyn deires o
Ynys Môn yn taro eu tannau wrth iddi noswylio ar y nos Sadwrn. Goleuwyd y tipi
drwy gyfeirio’r golau at y nenfwd a wedyn fod y golau yn adlewyrchy yn ôl i lawr
ar y llwyfan. Yn union fel bod o flaen tanllwyth mewn tyddyn. Noson Lawen mewn
cegin. Ohh am awyrgylch. Cyfareddol. Cyflwynwyd yr alawon gan Huw Roberts – er mwyn
rhoiu cyd-destun - ond wedyn fe siaradodd a fe gannodd y telynnau yna.
Weithiau mae’r gerddoriaeth yn cyfleu y cyfan. Dwi sddim yn
siwr sawl tant oedd yn canu? Pediar telyn gyda tair rhes – rhywbeth fel 4 x 90
tant? Fe gododd yr hwyl a fe ddaeth y babell orlawn yn agos iawn i gael
troedigaeth arallfydol emynyddol ala Ann Griffiths.
A jest i wneud pethau yn fwy diddorol / gwallgof dilynwyd y
telynnau deires gan Adwaith y grwp post-punk ffeministaidd o Gaerfyrddin. Dwi
ddim yn credu byddai unrhyw lwyfan arall mewn unrhyw ŵyl yn y Byd yn rhaglennu
pedair telyn deires i’w dilyn gan Adwaith. Rhaid chwerthin (gyda balchder).
Adwaith
Wrth sefyll gefn llwyfan dyma wasgu llaw Cerys – dim angen
geiriau – roedd y gerddoriaeth yn siarad a’r criw ohonnom oedd wedi trefnu yn
gwybod fod rhywbeth arbenig yn digwydd ar y llwyfan. Ond roedd un peth arall ar
fin digwydd.
Dyma wahoddiad gan y telynwyr, y ffidlwyr, y gitarydd
acwstig o Ynys Môn – rhaid cael Cerys i ganu. Am y tro cyntaf ers pedair
mlynedd yn ôl be ddeallais camodd Cerys a’i gitar i’r llwyfan (unrhyw lwyfan) a
dyma gyd-canu ‘Arglwydd Dyma Fi’. Cerys ar lwyfan eto – hefo telynnau deires – ‘Arglwydd
Dyma Fi’. Dagrau. Balchder. Cyd-ganu – hyd yn oed y di-Gymraeg na dywyllodd gapel
erioed. Rhyfeddol.
Sir Flint. Cornel o Gymru sydd weithiau yn cael ei
hanwybyddu – roedd hi dan ei sang yn y gornel fechan honno Pen Bar Lag !