Eglwys Sant Marc, Brithdir
Methiant llwyr fu fy ymdrechion i ddenu unrhyw gefnogaeth,
diddordeb, cyd-ymdeilmad, gwerthfawrogiad ar gyfer gwaith pensaerniol ‘Garw’ (Brutalist) Basil Spence yn Atomfa
Trawsfynydd. Tyrau’r adweithyddion niwclear sydd fwyaf amlwg. Fel rhyw ffug
gastell ond nid mor ‘Neo-Normanaidd’ a gwaith Thomas Hopper (1776-1856) yng
Nghastell Penrhyn.
Tybiaf, heb fawr o ‘os nac onibai’, mai’r ffaith mai
adweithyddion niwclear sydd yma sydd yn bennaf gyfrifol am y diffyg
gwerthfawrogiad. Os felly, petae gwaith Spence yn rhywbeth arall, yn rhywle
arall, yng ngogledd Cymru ydw’i yn iawn i feddwl byddai pawb yn llawer mwy
cefnogol?
Rhag ofn fod rhai yn ansicr pwy yw Basil Spence. Fo oedd
pensaer y gadeirlan newydd yng Nghofentri. Ei lyfr 1962, Phoenix at Coventry, The Building of a Cathedral – by its Architect
BASIL SPENCE, yw un o’r llyfrau mwyaf ysbrydoledig dwi erioed wedi
ddarllen. Dysgais yn ddiweddar fod Johnny Marr gitarydd The Smiths yn gefnogwr
brwd o’r Manchester Modernist Society. Da chi’n gweld – mae yna bobl allan yna
wrth eu bodd hefo’r ‘garw’ a’r concrit.
Efallai yr hyn sydd yn corddi rhywun yw’r ffaith yma – dyma
chi bensaer arloesol a dylanwadol ond mae ei waith yng ngogledd Cymru yn cael
ei ddi-ystyru yn llwyr oherwydd y cysylltiad niwclear. Er hyn, rwyf yn derbyn y
dadleuon gwrth-niwclear ac yn ochri yn foesol. Efallai na ddylia’r hen Basil
fod wedi derbyn y comisiwn yn y lle cyntaf? Dwi rioed di meddwl am Spence /
Traws fel hyn o’r blaen.
Wrth gyfeirio at waith Thomas Hopper uchod yng Nghastell
Penrhyn, cawn engraifft arall o adeilad rhyfeddol lle nad oes modd osgoi’r
gwleidyddol. I’r rhan fwyaf ohonnom mae Castell Penrhyn yn rhy agos ei gysylltiad
a Streic Fawr y Penrhyn 1900-1903 a’r hen ‘Sholto’. Cywir – does dim modd osgoi
y gwleidyddol, a dwi ddim yn dadlau y dylid nac fod angen gwneud hynny.
Ond, byddwn hefyd yn dadalau fod y gwely o lechan a
adeiladwyd ar gyfer ymweliad y Frenhines Fictoria yn 1859 yn wrthrych
rhyfeddol. Wedi ei greu gan grefftwr lleol. Dan orfodaeth? Chawn byth wybod
hynny mae’n debyg? Sut mae cysoni hyn ôll? Gwerthfawrogiad o’r bensaerniaeth
tra yn gwrthwynebu’r ideoleg a’r gwleidyddiaeth – dyna’r her mewn ffordd.
Eglwys Sant Marc ym Mrithdir ychydig i’r de o Ddolgellau yw
un o ryfeddodau pensaerniol gogledd Cymru. Arddull Celfyddyd a Chreft drwyddi
draw a gweledigaeth y pensaer Henry Wilson (1864-1934). Adeilad arall sydd o’r
dechrau un wedi hollti barn.
Syniad a gweledigaeth Wilson oedd adeiladu’r eglwys o gerrig
amrwd, heb eu trin yn ormodol fel fod yr adeilad yn ymddangos fel petae yn codi
yn ‘naturiol’ o’r graig. Rhan o feddylfryd Wilson o fewn y symudiad Celfyddyd a
Chrefft oedd hyn. Agos at natur. Agosach at natur.
Heddiw mae Eglwys Sant Marc yn ddigon anodd i’w gweld
oherwydd y coed o amgylch y fynwent ond mae’r elfen yna o’r adeiladwaith o
gerrig naturiol hefyd yn caniatau i’r eglwys fodoli yn, a thoddi i’r dirwedd
naturiol, i eistedd yn dawel heb weiddi. Agorwyd yr eglwys yn 1898.
Er fod Wilson wedi pwysleisio mai ei weledigaeth oedd
adeilad oedd yn amrwd, cerrig heb eu trin yn ormodol, naturioldeb Celfyddyd a
Chrefft, mae’n debyg iddo gael trafferth gyda’r seiri maen. Wrth reswm mae
crefftwyr a seiri maen yn benodol yn falch iawn o’u gwaith a’r stori yw fod yr
adeiladwyr wedi gwrthod gwrando ar Wilson a mynnu fod eu gwaith yn fwy cywrain.
Pensaer ifanc o’r enw Herbert Luck North oedd yn gyfrifolo
am y gwaith dydd i ddydd ym Mhrithdir ar ran Henry Wislon. Os yw’r srori yn
gywir, rhaid fod cryn bwysdau ar y pensaer ifanc wrth iddo fethu darbwyllo’r
crefftwyr fod angen cadw pethau’n fwy amrwd.
Does dim son fod Wilson yn bresennol yn ystod y gwaith
felly roedd yr holl gyfrifoldeb ar ysgwyddau ifanc North. Awgrymai Adam Voelcker
yn ei lyfr (2011) Herbert Luck North,
Arts and Crafts Architecture for Wales fod hyn wedi bod yn ormod i North
druan.
Yn fy ngholofn bythefnos yn ôl wrth gyfeirio at yr hen eglwys
(bosib) ger Hafod y Gelyn, Cwm Anafon yn y Carneddau soniais am Herbert Luck
North fel un o awduron The Old Churches
of Snowdonia (1924).
Mewn amser daeth North i amlygrwydd am ei dai gwynion gyda
thoeau hir ac uchel. The Close yn Llanfairfechan yw un o’r engreifftiau gorau o
waith Herbert Luck North mewn un safle neu Ffordd Seiriol yn ardal Hirael
Bangor lle gwelir dwy res o dai.
Adeilad yn yr un arddull yw Ysbyty’r Bwthyn (1929) yn
Nolgellau a’r neuadd yng Nghaerhun (Neuadd yr Eglwys). Os yw’r tai gwynion gyda
thoeau uchel yn nodweddiadol o bensaerniaeth North mae’r gwaith haearn dros fedd
‘We Aer Seven’ ym mynwent yr eglwys yng Nghonwy yn dilyn yr un patrwm a ffurff
o ran yr onglau. Yr un siap sydd i dalcen tai North a sydd mewn trawsdoriad i’r
gofeb ‘We Are Seven’.
Efallai nad oes modd osgoi’r gwleidyddol ac yn sircr rwyf o
blaid dadlau a thrafod y gwleidyddol ond rhaid hefyd (ar adegau) rhoi y gwleidyddol o’r neulltu er mwyn
gwerthfawrogi’r pensaerniaeth. Rhaid gweld y bensaerniaeth am y bensaerniaeth
nid am y cyd-destun gwleidyddol. Rwyf ar dir peryglus yma. Dwi’n gwybod hynny
ond mae Spence, Hopper a North ôll yn deilwng o werthfawrogiad.
Rwyf yn gweld prydferthwch yn y ‘garw’ ac yn naturioldeb
Celfyddyd a Chrefft. Am hynny rwyf yn gwrthod ymddiheuro.
No comments:
Post a Comment