Yn ddiweddar rwyf wedi cael blas ar wrando ar gerddoriaeth ‘Geltaidd’. Wrth gyfeirio at y gerddoriaeth fel ‘Celtaidd’ rwyf yn cyfeirio at artistiaid o wledydd Celtaidd yn hytrach na artistiaid dyweder o’r America sydd o dras Geltaidd. Efallai fod unrhyw wir Gelt yn dewis byw adre. Efallai mai fi sydd heb ddarganfod artist yn canu yn y Fanaweg sydd yn byw yn America?
Un artist Manawaidd yn unig sydd yn gyfarwydd i mi sydd yn
canu yn y Fanaweg (iaith Ynys Manaw neu Mannin) a rheini yw Ny Slommaghyn. Ar
record hir o’r enw ‘Keltia Rok’ (Sain 1412) a ryddhawyd yn 1987 mae eu cân ‘O
Vanninee’ yn ymddangos. Cân sydd yn cyfeirio at y bobl, y Manninee, sydd wedi
cadw’r hen arferion ar gof a chadw.
Perthyn i’r gangen Aeleg o’r goeden Geltaidd mae’r Manaweg
gyda’r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban. Ar gangen arall da ni Gymry gyda’r siaradwyr
Cernyweg a Llydaweg. Dwy gangen o’r un bonyn.
Hen ffasiwn rhywsut yw ‘O Vanninee’, roc-gwerin Celtaidd
heb os. Er mai 1987 oedd blwyddyn rhyddhau y record amlgyfrannog Keltia Rok,
gall y gân fod o’r degawd blaenorol yn hawdd. Meddyliwch am Planxty neu Moving
Hearts, breuddwydiol, Celtaidd ei naws, beth bynnag yw hynny. Ond, dyma gân
sydd yn tyfu ar rhywun. Wrth ail-wrando rwyf yn gwared a fy rhagfarnau Punk
Rock, rwyf yn darganfod rhywbeth yn y gân.
Artist cyfarwydd i ni gyd yw Sinéad O’Connor. Fe ddaeth i amlygrwydd
drwy ganu cân Prince ‘Nothing Compares To You’, gyda’r llais perfaith glir a
thinc o gryndod bregus ynddo, gyda ei gwallt cwta ‘skinhead’ bron. ‘Sean Nós
Nua’ yw casgliad Sinead o ganeuon traddodiadol Gwyddelig. Ar y casgliad yma
cawn ddwy gân yn y Wyddeleg, ‘Baídín Fheilimi’ a ‘Oró Sé Do Bheatha ’Bhaile’.
Er mor dda yw ‘Molly Malone’ ac ‘I’ll Tell Me Ma’ gan Sinéad
mae rhywbeth am y canu Gwyddeleg. Reggae yw arddull ‘Oró Sé Do Bheatha ’Bhaile’ tra fod ‘Baídín Fheilimi’ yn drymach, yn
arafach ac yn fwy rythmig. Dwi di bod yn chwarae rhain yn rheolaidd ar fy sioe
radio ar Nos Luna r Radio Cymru.
Artist arall sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf yn ddiweddar
yw Julie Fowlis o Ogledd Uist, eto mae’r albym ‘Alterum’ yn gasgliad rhyfeddol.
Y gân ‘Dh’èirich mi moch madainn cheòthar’ yw’r
un i mi efallai ond mae hynny fel trio dewis y berlin ora allan o fôr o berlau.
Rhaid cyfaddef mae’r caneuon Saesneg yw’r rhai lleiaf deniadol i’r glust.
Efallai fod yr Aeleg yn gweddu yn well i’r arallfyd a’r ofergoelion sydd yn
hawlio sylw Fowlis.
Er fod tair cân Gernyweg yn ymddangos ar yr LP ‘Keltia Rok,
caneuon gan Brian Webb, Ragamuffin a An Gof, mae record hir ddiweddaraf Gwenno ‘Le
Kov’ wirioneddol wedi rhoi’r iaith Gernyweg ar y map. Er iddi fenthyg/cydnabod
teitl ‘Hi a Skuellyas Liv a Dhagrow’ oddiar un o recordiau Aphex Twin ‘Drukqs’
mae ei chân wreiddiol hi yn agor yr albym gyda bwriad a datganiad clir. Hudolus
ac electronig, dyma’r Gernyweg ar gyfer y 21ain ganrif.
Sgwn’i beth mae pobl Cernyw yn feddwl? Gyda adolygiadau ffafriol
ym mhob man (BBC 6 Music, Guardian, Observer) mae Gwenno wedi dod a fyw o sylw i’r
Grenywg gyda’r albym Le Kov na mae neb arall wedi llwyddo i’w wneud mewn dros
ganrif.
Label Recordio Gwenno yw ‘Heavenly’, label Jeff Barrett, a
oedd yn gyfrifol am ryddhau recordiau cynnar y Manic Street Preachers, Beth
Orton a Saint Etienne. Mewn geiriau eraill, fedrw’chi ddim bod fwy ‘trendi’ na
hyn a dyma lle mae’r elfen ‘Situationist’ yn dod yn amlwg. Os am gael sylw i’r
Gernyweg, rhyddhawch y record ar un o Labeli mwyaf ‘trendi’ Llundain.
Nid fod Gwenno o reidrwydd yn gwneud dim mwy na chreu
cerddoriaeth ond rhaid cydnabod fod hyn yn gampwaith teilwng o ‘ddigwyddiadau’
cynnar y Super Furry Animals yn hongian hefo Howard Marks ac yn DJio allan o
danc glas. Rhiad chwarae gem llawer mwy cyfrwys go iawn os am gael effaith.
Bwriadol neu ddim – mae hyn yn beth gwych – o ran y Gernyweg heb son am y
ffaith fod yr albym yn gampwaith.
Hen gyfaill i mi o Lydaw yw Geltaz Adeux. Yn y 1980au hwyr
a’r 1990au cynnar bu’r Anhrefn a grwp Gweltaz, E.V yn rhannu llwyfannau hyd a
lled y cyfandir mewn Gwyliau Celtaidd a Gwyliau Ieithoedd Lleiafrifol. Nes i rioed
gynhesu at y term ‘Ieithoedd Lleiafrifol’ chwaith ond dyna fo, gig oedd gig.
Lledaenu’r neges oedd fwyaf pwysig – rhoi y Gymraeg ar y llwyfan Rhyngwladol.
Bellach mae Gweltaz yn rhyddhau CDs dan ei enw ei hyn. Yn y
Llydaweg mae Gweltaz yn canu. Ar ei CD ddiweddara mae cân o’r enw ‘Eyjafjallajökull
(tan ha ludu)’ sydd yn ddim llai na ‘HIT’, mae hi’n fendigedig o gân. Er
llwyddiant Gwenno yn cyflwyno’r Gernyweg i’r torfeydd drwy gyfrwng Rhestr A,
BBC 6 Music digon o waith bydd unrhywun yn clywed Gweltaz ar y sianel honno.
Onibai fod Jeff Barrett yn rhyddhau Gweltaz fydd clustiau darllenwyr
y Guardian ddim yn tiwnio mewn i’r Lydaweg. Piti ond dyna’r ffaith. Dilyn y
trend, dilyn y cyfarwyddiadau, dilyn y hipsters mae darllenwyr y Guardian a
gwrandawyr 6Music i raddau. Nid anturiaethwyr yn hwylio’r moroedd ar gyrch i ddarganfod
y newydd mohonynt.
Er gwaetha ymdrechion a llwyddiant Gwenno, cymharol gul yw
gorwelion y clustiau bach Prydeinig. Cerddoriaeth Byd yn iawn yn ei le ond mae
byd Celtaidd yna i’w ddarganfod ond i ni fod yn fodlon hwylio ar y gwch
anturiaethol.
No comments:
Post a Comment