Ar ddesg fy swyddfa mae ffeil orlawn o lythyrau ac
ymholiadau ynglyn a gwahanol olion neu nodweddion archaeolegol. Daw rhai o
ganlyniad i sgwrs tra allan yn darlithio a rhoi sgyrsiau i gymdeithasau led led
gogledd Cymru a daw’r gweddill drwy ganlyniad o sgwennu’r golofn i’r Herald
Gymraeg.
Yr her yw ceisio eu hateb – ac yn y cyd-destun hwn mae ateb
yn golygu ymweld a safloeodd, edrych ar wrthrychau, gwneud gwaith ymchwil a
cheisio cynnig esboniad neu ateb i’r ymholiad gwreiddiol. Her arall yw creu’r
amser i wneud hyn yng nghanol prysurdeb gwaith dydd i ddydd ond yn raddol rwyf
yn gweithio fy ffordd drwy wahanol ymholiadau – rhai yn haws neu’i gilydd i
gael hyd i’r ateb,
A rhag creu unrhyw gamargraff – rwyf wrth fy modd yn gwneud
hyn ond fy mod angen ymddiehuro os di’r broses yn cymeryd amser a fod rhai
efallai yn teimlo fy mod wedi eu ‘anghofio’.
Llythyr gan R.A. Jones yn holi am ‘Rhen Eglwys’ ger Hafod
Celyn, Cwm Anafon yn uchel uwchben Abergwyngregyn sydd am gael brif sylw’r
golofn yr wythnos hon. Fel arfer, os oes ymholiad ynglyn a safle archaeolegol,
y man cychwyn yw safle we Archwilio sef
cofnodion yr Ymddiriedolaethau archaeolegol Cymreig.
Bydd unrhyw wybodaeth sydd ar gael siwr o fod ar Archwilio. Os ddim da’ni unai mewn
trwbl, sef fod dim gwybodaeth ar gael a dyna fo neu mae efallai ein bod yn
edrych ar ddarganfyddiad newydd?
Er fod olion Oes Efydd, Oes Haearn a Chanol Oesol yn
britho’r tir o amgylch Hafod Celyn a Chwm Anafon does dim cofnod o gwbl o’r
capel neu eglwys hynafol mae R. A Jones yn gyfeirio ato ar Archwilio. Holias gyfaill o Lanfairfechan os wyddodd o unrhywbeth
am yr hen eglwys a chefais wybod fod cyfeiriad ato a llun yng nghyfrol Hughes a
North The Old Churches of Snowdonia a
gyhoeddwyd yn 1924. Mae copi gennyf.
Does dim sicrwydd o ddarllen Hughes a North beth yn union
yw’r adeilad ychydig i’r gorllewin i Hafod Celyn. Ychydig iawn o wybodaeth
cefndirol sydd ganddynt go iawn er fod llun yn yn ymddanos yn y gyfrol – sydd o
reidrwydd wedyn wedi ei dynu rhywbryd cyn y dyddiad cyhoeddi yn 1924.
Does dim sylw chwaith yn y llyfr Comiswin Brenhinol: RCAHM,
1956, An Inventory of the Ancient
Monuments in Caernarvonshire Volume I East, felly penderfynais fynd i
chwilio am yr adeilad dros fy hyn.
Heb fawr o wybodaeth, a fawr mwy na llun gopiau o’r gyfrol Old Churches of Snowdonia dyma fentro
fyny’r allt serth am y maes parcio bychan ar ddiwedd y ffordd. A dyna lwc – nid
yn unig fod gofod parcio ar gael, y person cyntaf dwi’n gyfarfod yw ‘Wyn Aber’
y ffarmwr lleol a pherchen y tir.
Dyma daro sgwrs am hyn a llall ac egluro pam yr oeddwn wedi
dod am dro i’r rhan yma o’r byd. Roedd Wyn wrthgwrs yn gyfarwydd a’r adeilad
roeddwn yn chwilio amdano ond heb weld y cofnod yn Hughes a North. Rhoddais fy
llungopiau i Wyn gan fod ganddo ddiddordeb a cytunodd y ddau ohonom y byddai.n
werth ail-gyfarfod eto yn y dyfodol agos am ‘sgwrs go iawn’.
Yn y cyfamser rwyf yn cael cynnig ‘lifft’ ar ei feic modur
4x4 a dyma fownsio ar hyd y caeau tuag at yr ‘hen eglwys’. Roedd Wyn yno yn
gofalu am ei ddefaid a roedd fwy na hapus i rannu ei wybodaeth ac i sgwrsio a
rhaid cyfaddef fod cael gwybio dros y caeau ar y beic modur wedi bod yn antur a
hanner. Dyma deimlo fel hogyn 13 oed eto yn cael hwyl.
Cofiwch fod yr adeilad rwyf yn gyfeirio ato ar dir preifat
ac os oes diddordeb pellach yn y golofn hon dylid sicrhau caniatad gan Wyn cyn
dechrau croesi unrhyw gaeau.
Fy argraff gyntaf o’r adeilad yw ei fod yn ymdebygu i hen
ysgubor. Efallai hen ysgubor degwm? Wrth reswm rydym yn edrych ar adfail yma –
dim ond rhannau o’r waliau yn weddill, erf od cynllun a maint yr adeilad yn
berffaith amlwg.
Yr ail beth amlwg yw fod yr adeilad yn gorwedd ar linell
de-gogledd – nid y linell gorllewin-ddwyrain fydda rhywun yn ei ddisgwyl gyda
eglwys. Y ffensetr fechan yn y wal ogleddol yw un rheswm efallai i rai awgrymu
fod yr adeilad yn hen eglwys. Ffenestr fechan ganolog gyda lintel yw hon gyda’r
twll y ffenestr yn lletach ar ochr fewnol yr adeilad ac yn gul (bron fel twll
bwa saeth) ar y wal allanol.
Heb os mae’n ffenestr fach drawiadol (er amrwd). Gan fod
silff waelod iddi mae rhywun yn cael argraff o nodwedd eglwysig fel piscina ond rwyf yn weddol sicr mai
ffenestr yw hon yn hytrach na bowlen o unrhyw fath. Bowlen i ddal dŵr a golchi llestri
crefyddol oedd piscina ger yr allor
mewn eglwysi Catholig cyn cyfnod y dadeni Protestanaidd ond doedd rhain ddim yn
gysylltiedig a ffenestri ond yn hytrach wedi eu lleoli mewn twll neu ofod yn
wal yr eglwys.
Cwestiwn amlwg, nad wyf wedi llwyddo i’w ateb hyd yma, yw
os bu defnydd o hen ysgubor fel adeilad crefyddol ar rhyw adeg? Efallai fod
angen unrhyw hanesion a hen storiau lleol yma er mwyn gweld os oes unrhyw
draddaodiad neu sail i’r enw ‘hen eglwys’?
Rwyf yn diolch felly i R.A Jones am ei lythyr ond mae mwy o
waith i’w wneud cyn gallaf gynnig unrhyw sicrwydd pellach ynglyn a hanes yr hen
adeilad.