Y newyddion a oedd yn bell o fod yn ‘syfrdanol’ wythnos yn ôl oedd fod y papur / cylchgrawn cerddorol NME (New Musical Express) yn dod i ddiwedd ei oes fel papur printiedig. O hyn ymlaen ar-lein yn unig y bydd modd darllen yr NME.
Peidiais a malio am yr NME yng nghanol y 1990au. Pan
ddigwyddodd ‘Cool Britannia’, Oasis, Pulp, Blur a’r holl grwpiau ‘Britpop’
roedd y peth drosodd i mi. Rhyw atodiad oedd ‘Cwl Cymru’, dim fod bod yn cŵl
yng nghyd destun cerddoriaeth o Gymru yn beth drwg ond roedd yr NME mwy fel
comic na chylchgrawn erbyn y cyfnod yma.
Fedra’i ddim cofio pryd darllenais yr NME ddwetha, sydd yn
beth od o ystyried yn fy nyddiau 6ed Dosbarth ddiwedd y 1970au roedd y papur
wythnosol yn hanfodol. Roedd John Peel ar Radio 1, Nos Lun tan Nos Iau yn
hanfodol a roedd yr NME ar ddydd Mercher yn hanfodol. Yng nghefn gwlad Cymru
dyma oedd yr unig ffordd o wybod beth oedd beth fel roedd Punk yn troi ac yn
esblygu yn Post-Punk.
Anodd cyfleu pa mor hanfodol oedd hanfodol – ond roedd Peel
a’r NME yn holl bwysig, yn allweddol, yn cadw rhywun i fynd – dyma’r Brifysgol
ysbrydol a diwylliannol – yr gwrthwenwyn i diffaethwch diwylliannol Gymraeg a
Chymreig – yn oes y deinasoriaid denim fel cyfeiriodd Gruff Rhys at y cyfnod
yma.
Heblaw am yr ysbrydoliaeth a’r wybodaeth am y gerddoriaeth
newydd cefais rhywbeth arall o’r NME. Cefais flas ar yr arddull sgwennu. Ar y
dudalen gefn fewnol rhestrwyd y cyfranwyr. Yn 1978 y golygydd oedd Neil Spencer
(y gwr adolygodd y Sex Pistols am y tro cyntaf). Ar y staff roedd Tony Parsons
a Julie Burchill. Cyflogwyd Parsons a Burchill fel yr ‘hip young gunslingers’,
neu dyna’r stori oleiaf.
Tafod neu deipiadur miniog oedd gan Burchill. Hi fwy na neb
ysbrydolodd fy ngholofnau yn Y Faner yn ddiweddarach yng nghanol y 1980au. Fel
rwyf wedi son sawl gwaith, chefais i rioed fy ngolygu na sensro gan Emyr Price
y golygydd – a dweud y gwir chefais ddim ond anogaeth ganddo a rhywdd hynt i herio’r
Byd Cymraeg.
Heddiw byddaf yn chwerthin wrth feddwl am yr erthyglau
ffwrdd a hi haerllug yma yn Y Faner ond go iawn doedd dim byd newydd yna na
fydda rhywun yn gael yn wythnosol gan yr hen Julie yn yr NME. Y dacteg oedd
herio, cega, lladd ar, enllybio a darnio diwylliant Cymraeg canol y ffordd.
Digon o waith fod mwyafrif o ddarllenwyr Y Faner wedi deall y ‘reference-point’. Doedd enw Julie
Burchill ddim yn un cyfarwydd i’r Byd Cymraeg.
Sais braidd oedd Parsons. Llundeiniwr. Dim diddordeb yng
Nghymru dybiwn i. Er dwi ddim yn gwybod hynny. Nath Parsons rioed fy nharo fel
rhywun byddwn yn ei hoffi. The Clash oedd ei grwp o yn hytrach na’r Sex Pistols
ac ar y pryd (1978), yn fy marn chwyldroadol bach i, roedd hynny yn gwneud
Parsons chydig bach o fabi mam – dyna oedd fy marn am unrhywun oedd yn hoffi’r
Clash dros y Pistols. Yr opsiwn hawdd.
Bellach mae Parsons yn sgwennu erthyglau yn cyfiawnhau
safbwyntiau UKip. O blaid Brexit. Mae o bellach wedi troi mewn i’w dad. Little
Englander bron a bod. Siomedig ond ddim yn sypreis mawr chwaith. Efallai mae’r
Mwyn ifanc oedd yn iawn i ddrwgdybio Parsons. Wrth heneiddio mae Parsons fel
Rotten, fel Morrissey, fel Noel Gallagher ôll yn eu tro wedi dilyn llwybr tuag
at wneud esgusodion am Brexit. A dyna ddiwedd ar wrando arnynt gan Mr Mwyn i chi!
Gohebydd arall na ddalltais ei erthyglau erioed oedd Paul
Morley. Amhosib oedd dehongli na dilyn ei erthyglau a fe ddaeth yn adnabyddus
am sgwennu darnau anealladwy. Rhyfedd o fyd, ond roeddem yn derbyn Morley yn
hyn o beth. Dim siawns o ddallt am be mae o yn son ond mae Morley yn ‘cŵl’. O
Fanceinion. Gwisgo mewn du.
Bellach mae Morley yn ‘pundit’ - rhywun sydd yn ymddangos
ar raglenni radio a theledu i drafod y diwylliant pop. Punk, post-Punk a
Manceinion yw arbenigedd Morley. Go brin gwelwch chi raglen am Joy Division /
New Order heb Morley. Dwi ddim yn meindio Morley – os unrhywbeth rwyf yn gallu
uniaethu ac ef. Dwi hefyd yn gwneud rhan sylweddol o fy mywoliaeth yn trafod
diwylliant. Dwi’n cael fy nahlu mwy am siarad am be dwi’n neud neu wedi wneud
nac ydwyf am wneud y pethau hynny.
Papur inc oedd yr NME, felly roedd rhywyn yn cael bysedd du
wrth ei ddarllen. Wrth sgwennu’r golofn hon dwi’n edrych ar gopi o 19eg Awst
1978 hefo Steve a Paul o’r Pistols ar y dudalen flaen. 18 ceiniog oedd pris yr
NME. Llai na 20ceiniog felly. Anodd credo rhywsut. 18 ceiniog am y fath addysg.
Erthygl David Quantick
Yn fy swyddfa mae rhai cannoedd o gopiau o’r NME yn dyddio
rhwng 1977 a 1987. Rhai yn cynnwys adolygiadau, lluniau a chyfweliadau gyda’r
Anhrefn, y grwp roeddwn yn aelod ohonno rhwng 1983 a 1993. Y tro cyntaf i ni gael
cyfweliad yn yr NME, fe gyfeiriodd David Quantick atom fel Welsh rarebeat. Yn
ei ffordd bach ei hyn roedd Quantick yn garedig – ond roedd rhaid i’r NME gael
penawd bachog / doniol.
Anghofiaf faint o ‘Cwm Dancing’, ‘Tom Jones’, ‘Shirley’ a ‘daffodils’
fu mewn penawdau ond roedd ein hyder an ffydd yn drech ac unrhyw ohebydd NME
gyda geirfa greadigol ystradebol. Poenodd ddim o hyn y grwp!
Perthyn i’w gyfnod oedd yr NME – fydda’i ddim yn ei golli.
Photoshoot cyntaf Anhrefn i'r NME
LLuniau: Bleddyn Butcher