Wednesday 20 January 2016

David Bowie, Herald Gymraeg 20 Ionawr 2016


Andrew Logan, Bowie a Eno.


Felly, mae David Bowie wedi ein gadael, un o’r artistiad mwyaf dylanwadol yn hanes canu pop, ffasiwn a diwylliant poblogaidd yr 20fed ganrif. Cefais wahoddiad i roi sylwadau ar y golled aruthrol yma yn y Daily Post ac ar Radio Cymru, ond dim ond wedyn y dechreuais feddwl am faint o ddylanwad oedd Bowie wedi ei gael ar y sîn Gymraeg?
Y ffordd orau y dyddiau yma o drio cael ychydig o ymateb neu sylwadau yw drwy roi sylw ar trydar, felly dyma holi pa artist neu artistiaid Cymraeg oedd wedi eu dylanwadu gan Bowie? Ymhlith yr awgrymiadau roedd Super Furry Animals, Topper, Jarman, Brychan Llyr a Tynal Tywyll. Cofiwch mai awgrymiadau gan bobl oedd rhain nid rhywbeth ddaeth o geg yr artistiaid.
A bod yn onest, fyddwn i ddim yn synnu os oedd rhai o’r artistiaid uchod wedi gwrando ar Bowie, fel bydda nhw wedi gwrando ar bob math o artistiaid dylanwadol ac eiconaidd arall – un peth sydd yn uno’r artistiaid uchod yw eu bod yn ‘ffans’ o gerddoriaeth. Anoddach dweud beth oedd dylanwad Bowie arnynt – os o gwbl?
Efallai mai’r hyn oedd yn mynd drwy fy meddwl wrth ofyn y cwestiwn oedd cyn llied o artistiad Cymraeg sydd wedi ymwneud a ‘ffasiwn’ a ‘delwedd’ fel rhan o’r pecyn. Yr eithriad amlwg presennol efallai yw Meilyr Jones, cyn aelod o Radio Luxembourg a’r Racehorses, fo di’r un amlwg. Fo, mwy na neb sydd wedi defnyddio delwedd a sioe lwyfan ‘theatrig’ yn yr ystyr ei fod yn ‘perfformio’ ar lwyfan ac yn defnyddio’r math o symudiadau a stumiau fydda rhywun effallai yn gysylltu a artist fel Bowie.
Ffaith arall am Meilyr Jones wrthgwrs yw prin ei fod yn rhan o’r ‘sîn Gymraeg’, yn sicr dydi Meilyr ddim yn cael ei ‘gyfyngu’ gan y ‘sîn Gymraeg’ – mae o yn bodoli yn y byd mawr fel mae artistiad fel Gwenno, Euros Childs a Gruff Rhys.
Efallai mai’r hyn oedd yn mynd drwy fy meddwl wrth ofyn y cwestiwn oedd, dio’m ots faint o bobl yn y sîn Gymraeg oedd yn gwrando ar Bowie, ychydig iawn ohonynt oedd wedi dysgu’r wers. Eto, yn hanesyddol, rhywun fel Jarman sydd yn sefyll allan fel yr eithriad – mae gan Jarman ei gymeriad llwyfan, mae’r mwyafrif o’r gweddill yn hapus i edrych fel pawb arall. Efallai fod hyn yn rhywbeth Cymraeg?
Rwyf newydd orffen darllen llyfr cynhwysfawr Fiona MacCarthy, William Morris A Life for Our Time, (1994), sef ei chofiant o’r cynllunydd, bardd a’r arloeswr Celfyddyd a Chreft, William Morris – fo sydd yn enwog am y papur wal. Cyfeiriodd MacCarthy yn ei llyfr fod William Morris wedi brwydro drwy ei oes yn erbyn tuedd pobl i dderbyn yr ‘eil-radd’ yn lle ymdrechu am well.
Efallai mai’r hyn oedd yn mynd drwy fy meddwl wrth ofyn y cwestiwn am Bowie oedd, os oedd y ‘peth Cymraeg’ yma yn creu sefyllfa lle mae gormod yn rhy barod i dderbyn yr ‘eil-radd’. Rwyf yn deall yn iawn fod rhaid i ddiwylliant Cymraeg fodoli yn ei holl amrywiaeth ond yr hyn sydd yn rhy amlwg bellach yw fod y pethau ‘eil-radd’ yna yn tanseilio’r gweddill – yn tanseilio safon.
Mae’r ‘amatur’ yn cael ei or-ddyrchafu drwy rhyw gamsyniad fod hyn yn beth iach, ond canlyniad hyn yw tanseilio safon a hygrydedd. Nid fod rhywun yn awgrymu am eiliad y dylia artistiad Cymraeg swnio neu edrych fel Bowie, fe ddylia pob artist gael ei lais a’i ddelwedd ei hyn, ond mae angen dysgu’r wers (a dysgu’r grefft).
Efallai mai’r pwynt yma yw fod y ‘Byd Cymraeg’ a’r ‘sîn Gymraeg angen mwy o wahaniaethu – rhwng yr amatur a’r artistiad sydd a hygrydedd go iawn. Dydi rhoi pawb ar yr un ‘llwyfan’ ddim yn gwneud cymwynas a diwylliant Cymraeg.


No comments:

Post a Comment