Tydi Hanes ddim yn rhywbeth da ni fod i gytuno a fo, mae
o i fod yn rhywbeth i’w drafod yn y gobaith ein bod yn dysgu rhywbeth. Does dim
modd gwyngalchu hanes, fe ddigwyddodd beth ddigwyddodd, ac ar adegau mae’n
gwneud darllen a thrafodaeth ddigon anodd ond pob amser yn ddiddorol.
Mae achos diweddar
‘Rhodes Must Fall’, sef yr ymgyrch gan fyfyrwyr i gael gwared a chofeb
Cecil Rhodes ar adeilad Coleg Oriel, Rhydychen yn peri gofeb i rhywun.Dwi ddim
yn credu fod unrhywun yn dadalau fod Cecil Rhodes yn berson dymunol – ef wedi’r
cyfan roddodd ei enw i Rhodesia (Zimbabwe heddiw) ac ef oedd un o benseiri
rhannu pobl ar sail lliw (apartheid) yn ne Affrig. A dweud y gwir mae Rhodes yn
engraifft perffaith o’r Imperialydd Fictoraidd mwyaf hiliol ac annymunol dan
Haul.
Nid yn aml byddaf yn cytuno a Thori rhonc fel Chris
Patten, Canghellor Prifysgol Rhydychen, ond yn yr achos yma fe ofynnodd Patten
gwestiwn da – beth sydd yn digwydd i gofebau rhywun fel Churchill pan mae rhywun
yn anghytuno a a rhywbeth wnaeth hwnnw? Faint bynnag mae rhywun yn anghytuno a
Churchill yn hanesyddol, (gwrthwynebu hunaniaeth India yn y 1930au) rhaid
cydnabod iddo wrthsefyll Hitler – doedd hunna byth yn mynd i fod yn joban
hawdd.
Ac yn agosach at gartref, mae digon o drafod am Lloyd
George yndoes. A ddylid cael gwared a chofeb Lloyd George (cerflun hynod
William Goscombe John) ar Faes Caernarfon rhag pechu’r Gwyddelod? Fe welir hyd
at heddiw baent gwyrdd ar y llawr o amgylch cofeb Lloyd George ar Faes
Caernarfon, yn dilyn rhyw brostest neu’i gilydd. Byddaf yn cyfeirio at hyn yn
aml fel ‘tystiolaeth archaeolegol’.
Neu, yr engraifft gorau mae’n debyg yng ngogledd Cymru
fyddai Castell Penrhyn. Hyd heddiw mae Streic Fawr y Penrhyn 1900-03 yn parhau
i fod yn bwnc emosiynol os nad llosg a rwyf yn deall hynny yn iawn. Ond a
ddylid chwalu Castell Penrhyn yn gyfan gwbl, cael gwarad a phob carreg o’r
dirwedd? O ran sentiment – dylid. O ran yr Hanes a phensaerniaeth mae hynny yn
gynnig gwallgof.
Byddaf yn tywys yn aml yng Nghastell Penrhyn, mynd ac
Americanwyr yno yn bennaf, ar hyn rwyf yn ei gael wrth ymweld a Phenhryn yw
cyfle i roi hanes Cymru a’r Chwyldro Diwydiannol mewn cyd-destyn. Does neb, ddim
hyd yn oed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwyngalchu’r Hanes yma a rwyf
innau fel disgynnydd i deulu o chwarelwyr Dyffryn Nantlle yn hollol ymwybodol
fod angen troedio yn ofalus ar lwybr Hanes – egluro a thrafod yn ddi-duedd ond
gyda gwen fach efallai ar fy ngwyneb.
Dydi fy nghefndir ddim yn fy rhwystro rhag gwerthfawrogi
pensaerniaeth Thomas Hopper mwy na di fy Nghymreictod yn fy rhwystro rhag
gwerthfawrogi campweithiau y pensaer James of St George yng nghestyll
Caernarfon, Harlech, Conwy a Biwmares. Os am ddeall cyd destyn y 13eg ganrif a’r
berthynas rhwng tywysogion Gwynedd a Brenhinoedd Lloegr, rhaid wrth ddarlun
llawn, trafodaeth llawn, rhaid ymdrim a beth sydd wedi ei adael ar ôl ar y
dirwedd.
Daw geiriau’r hanesydd Dr John Davies i’m meddwl yn aml,
fo awgrymodd ar raglen teledu nad oedd Llywelyn o reidrwydd y person mwyaf
dymunol. Efallai fod Llywelyn yn ‘arwr cenedlaethol’ ond awgrym Davies oedd nad
oedd yn rhywun fydda ni am wadd am swper.
Felly gyda cofeb Rhodes yn Rhydychen, gadewch i ni drafod
yr hanes, mi fydd hi’n anodd, os nad amhosib, cyfiawnhau gweithredoedd Rhodes
onibai eich bod yn ffasgydd llwyr – ond fe fyddai cael gwared a’r gofeb yn
caniatau i ni anwybyddu neu anghofio am Rhodes. Awgrymaf fod hynny yn llawer
mwy peryglus, dyna fyddai gwyncalchu hanes ar ei waethaf drwy osgoi yn lle
trafod.