Wednesday 25 November 2015

Henebion Llŷn, Herald Gymraeg 25 Tachwedd 2015






Diolch byth am bobl fel Dr Robyn Lewis yn llythyru ac yn ei dweud hi fel mae angen ei dweud hi am Llŷn. Y pwynt os deallaf yn iawn, yw mai fel Llŷn yn unig y dylid adnabod a chyfeirio at y penrhyn yma a nid yn y Saesneg fel “the Llŷn”, ac yn sicr nid fel “the Lleyn”. Erbyn deall, mae’r un peth yn wir am Benrhyn Gwyr, mae rhywun yn ymweld (yn Saeneg) a’r “Gower” a nid “the Gower”.
Son mae rhywun yma am wella safon iaith a fod rhywun yn defnyddio disgrifiadau fwy manwl gywir. Fe ddylid fod pawb yn ymddiddori yn y drafodaeth ac yn cymeryd sylw – rydym yma i ddysgu! Dysgu o fath arall oedd gennyf dan sylw dros y penwythnos, er i mi ddyfynu Robyn Lewis sawl gwaith, gan fod criw o dywyswyr WOTGA yn aros yn Nant Gwrtheyrn ac yno i ddysgu mwy am y penrhyn arbenig hwn – Llŷn.
WOTGA yw’r corff sydd yn cynrhychioli tywyswyr swyddogol Cymreig, gyda chydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru, sef tywyswyr sydd yn meddu ar Fathodyn Gwyrdd (Rhanbarthol)  neu Fathodyn Glas (Cenedlaethol). Trefniant pnawn Gwener oedd taith hwyliog o amglych rhai o ffynhonnau sanctaidd Llŷn, a maddeuwch am hyn, ond galwyd y daith yn “Well, well, well”. Cafwyd cyngor a chefnogaeth gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru a Chyngor Gwynedd ar gyfer yr ymweliadau a sicrhawyd mynediad prin i gael gweld Ffynnon Aelhaearn.
Heb os roedd y daith draw at Ffynnon Gybi yn plesio, dyma chi le sydd ac awyrgylch hynafol, a bu i un wriag hyd yn oed ymdrochi ei thread yn y dwr. Ches i ddim gwybod os oedd unrhywbeth ynglyn a’i thread angen ei iachau?  Diddorol hefyd oedd nodi’r gwahaniaeth rhwng adeilad y ffynnon a’r ty o’r ddeunawddfed ganrif a adeiladwyd gan William Pryce, Rhiwlas. Gwelir yn amlwg fod yna wahanaiaeth yn y gwaith cerrig rhwng y ddau adeilad erf od y ddau adeilad ynghlwm.
Y drydedd ffynnon oedd un Beuno yng Nghlynnog Fawr ac yma cafwyd cwmni Lloyd sydd yn ficar a rheithor ar y plwyf. Wrth reswm roedd rhaid cynnwys yr Eglwys fel rhan o’r ymweliad gan fod hon yn eglwys mor hynod a chafwyd cyfle i werthfawrogi’r ffenestri perpeniciwlar gyda eu bwa ‘ogee’, y seddau ‘misericord’ a safle’r hen eglwys hynafol o dan llawr Capel Beuno. Ysgogwyd trafodaeth pellach ynglyn ac arwyddocad ‘Maen Beuno’ y garreg fedd  o’r  9fed ganrif a’r cloc haul o’r 11fed ganrif.
Treuliwyd Dydd Sadwrn ar wybdaith o amgylch rhai o ‘uchafbwyntiau’ Llŷn. Er rhaid cyfaddef roedd methu ymweld ag elwysi Llangwnnadl a Phenllech er engraifft, oherwydd diffyg amser, yn achosi  cryn boen meddwl i mi fel tywysydd y dydd. Ond, fe gafwyd ymweliad ac eglwys hynod Pistyll, yn ei ogoniant gyda’r hesg dan draed, a bu rhaid dangos bedd Rupert ‘Maigret’ Davies i bawb.
Cawsom banad boreuol a swgrs yn Amgueddfa Forwrol Nefyn, cinio hyfryd o Gawl Enlli yn y Gegin Fawr, Aberdaron a sgwrs arall a phanad ganol pnawn yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn ogystal a chydig funudau i gael cipolwg ar arddangosfa John Piper a’i luniau o Eryri. Profiad arall yn sicr wnaeth argraff a’r y rhai oedd yn ddiethr i Lŷn oedd cyfle i wrando ar ‘stori’ gan Dafydd Hughes yn un o gytiau crynion Canolfan Felin Uchaf.

Bu Meinir Gwilym draw i’r Nant i ddiddanu pawb a llwyddais oleiaf i ddenu rhai allan o’r bws yn y gwynt a’r glaw mawr i werthfawrogi’r bwa Normanaidd / ‘Romanesque’ yn eglwys Sant Hywyn. Ond yr argraff fwyaf (a’r orau) a’r bawb, oedd fod Llŷn yn le, lle mae’r Gymraeg yn fyw. Chafodd na ru’n copa walltog yn ein cwmni gyfle i osgoi hynny!




No comments:

Post a Comment