Diolch byth am bobl fel Dr Robyn Lewis yn llythyru ac yn ei
dweud hi fel mae angen ei dweud hi am Llŷn. Y pwynt os deallaf yn iawn, yw mai
fel Llŷn yn unig y dylid adnabod a chyfeirio at y penrhyn yma a nid yn y
Saesneg fel “the Llŷn”, ac yn sicr nid fel “the Lleyn”. Erbyn deall, mae’r un
peth yn wir am Benrhyn Gwyr, mae rhywun yn ymweld (yn Saeneg) a’r “Gower” a nid
“the Gower”.
Son mae rhywun yma am wella safon iaith a fod rhywun yn
defnyddio disgrifiadau fwy manwl gywir. Fe ddylid fod pawb yn ymddiddori yn y
drafodaeth ac yn cymeryd sylw – rydym yma i ddysgu! Dysgu o fath arall oedd
gennyf dan sylw dros y penwythnos, er i mi ddyfynu Robyn Lewis sawl gwaith, gan
fod criw o dywyswyr WOTGA yn aros yn Nant Gwrtheyrn ac yno i ddysgu mwy am y
penrhyn arbenig hwn – Llŷn.
WOTGA yw’r corff sydd yn cynrhychioli tywyswyr swyddogol
Cymreig, gyda chydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru, sef tywyswyr sydd yn meddu ar
Fathodyn Gwyrdd (Rhanbarthol) neu
Fathodyn Glas (Cenedlaethol). Trefniant pnawn Gwener oedd taith hwyliog o
amglych rhai o ffynhonnau sanctaidd Llŷn, a maddeuwch am hyn, ond galwyd y
daith yn “Well, well, well”. Cafwyd cyngor a chefnogaeth gan Gymdeithas
Ffynhonnau Cymru a Chyngor Gwynedd ar gyfer yr ymweliadau a sicrhawyd mynediad
prin i gael gweld Ffynnon Aelhaearn.
Heb os roedd y daith draw at Ffynnon Gybi yn plesio, dyma
chi le sydd ac awyrgylch hynafol, a bu i un wriag hyd yn oed ymdrochi ei thread
yn y dwr. Ches i ddim gwybod os oedd unrhywbeth ynglyn a’i thread angen ei iachau? Diddorol hefyd oedd nodi’r gwahaniaeth rhwng
adeilad y ffynnon a’r ty o’r ddeunawddfed ganrif a adeiladwyd gan William
Pryce, Rhiwlas. Gwelir yn amlwg fod yna wahanaiaeth yn y gwaith cerrig rhwng y
ddau adeilad erf od y ddau adeilad ynghlwm.
Y drydedd ffynnon oedd un Beuno yng Nghlynnog Fawr ac yma
cafwyd cwmni Lloyd sydd yn ficar a rheithor ar y plwyf. Wrth reswm roedd rhaid
cynnwys yr Eglwys fel rhan o’r ymweliad gan fod hon yn eglwys mor hynod a
chafwyd cyfle i werthfawrogi’r ffenestri perpeniciwlar gyda eu bwa ‘ogee’, y
seddau ‘misericord’ a safle’r hen eglwys hynafol o dan llawr Capel Beuno.
Ysgogwyd trafodaeth pellach ynglyn ac arwyddocad ‘Maen Beuno’ y garreg
fedd o’r
9fed ganrif a’r cloc haul o’r 11fed ganrif.
Treuliwyd Dydd Sadwrn ar wybdaith o amgylch rhai o
‘uchafbwyntiau’ Llŷn. Er rhaid cyfaddef roedd methu ymweld ag elwysi
Llangwnnadl a Phenllech er engraifft, oherwydd diffyg amser, yn achosi cryn boen meddwl i mi fel tywysydd y dydd.
Ond, fe gafwyd ymweliad ac eglwys hynod Pistyll, yn ei ogoniant gyda’r hesg dan
draed, a bu rhaid dangos bedd Rupert ‘Maigret’ Davies i bawb.
Cawsom banad boreuol a swgrs yn Amgueddfa Forwrol Nefyn,
cinio hyfryd o Gawl Enlli yn y Gegin Fawr, Aberdaron a sgwrs arall a phanad
ganol pnawn yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn ogystal a chydig funudau i gael
cipolwg ar arddangosfa John Piper a’i luniau o Eryri. Profiad arall yn sicr
wnaeth argraff a’r y rhai oedd yn ddiethr i Lŷn oedd cyfle i wrando ar ‘stori’
gan Dafydd Hughes yn un o gytiau crynion Canolfan Felin Uchaf.
Bu Meinir Gwilym draw i’r Nant i ddiddanu pawb a llwyddais
oleiaf i ddenu rhai allan o’r bws yn y gwynt a’r glaw mawr i werthfawrogi’r bwa
Normanaidd / ‘Romanesque’ yn eglwys Sant Hywyn. Ond yr argraff fwyaf (a’r orau)
a’r bawb, oedd fod Llŷn yn le, lle mae’r Gymraeg yn fyw. Chafodd na ru’n copa
walltog yn ein cwmni gyfle i osgoi hynny!