Wednesday 4 February 2015

Mr Bulkeley o'r Brynddu, Herald Gymraeg 4 Chwefror 2015


 

Wel, mi gafwyd opium, curo gwragedd, barnwr meddw, dienyddio, cosbi llym, mor ladron, sawl sgandal a hynny oll o fewn llai na dwy awr. Drama. Digon i wneud operau sebon teledu ymddangos yn ddof iawn mewn cymhariaeth. Ond hefyd cafwyd gem beldroed afreolus, y tywydd, cyfeiriad y gwynt a phryd cyrrhaeddodd y wennol a phryd cannodd y gog gyntaf yn flynyddol.

Ie wir, drama yng ngwir ystyr y gair, ond drama yn seiliedig ar ddydiaduron William Bulkeley o’r Bryndddu, Llanfechell oedd y ddrama Mr Bulkeley o’r Brynddu, wedi ei llwyfanu gan Gwmni Pendraw. Ysgrifennwyd y dyddiaduron mewn dau gyfnod penodol, yn gyntaf rhwng 30ain Mawrth 1734 a’r 8fed o Fehefin 1743 a wedyn rhwng y1af o Awst 1747 a 28ain Medi 1760. Heddiw mae’r dyddiaduron yng nghasgliad Prifysgol Bangor. Chafwyd erioed hyd i’r trydydd dyddiadur.

Heb os roedd hon yn ddrama fywiog, cyffrous, doniol ar adegau, ddigon trist adegau arall ond beth gafwyd oedd cipolwg ar fywyd sgwier mewn ardal wledig fel Sir Fȏn yn y ddeunawddfed ganrif. Yn amlwg roedd Bulkeley yn feirniadol iawn o’r offeiriad lleol yn yr Eglwys yn Llanfechell a mae ei sylwadau ar faterion eglwysig y cyfnod yn gofnod hanesyddol o bwys.

Dwry gyfrwng ei ddyddiaduron, llwyddodd Bulkeley i gadw ar gof a chadw, gofnod o fywyd ac agweddau cymdeithasol ardal wledig yn ystod y ddeunawddfed ganrif. Mewn ffordd mae’r bywyd cefn gwlad, dydd i ddydd, yn debyg iawn i’r cofnodion geir yn y llyfr huangofianol A Wandering Scholar, Life and Opinions of Robert Roberts. Hynny yw, mae’r hanes yn teimlo yn fyw iawn, gallwch ogleuo’r chwys a’r carthion – nid rhyw Sense and Sensibility clinigaidd yw hyn o bell ffordd. Mae’r dyddiaduron a’r sioe yma yn fwy Cymreig na arallfyd blodeuog Miss Austen.

Ond ydi’r peth yn gweithio ar lwyfan? Oes modd trosglwyddo dyddiaduron William Bulkeley i’r llwyfan a gwneud hynny yn ddifyr i gynulleidfa am dros awr a hanner? Heb os fe lwyddodd Wyn Bowen Harries a chast Cwmni Pendraw i wneud hyn. Rydym yn mynychu’r theatr er mwyn cael ein diddanu, rydym yna i fwynhau, ac i anghofio am bwysau gwaith ond yn yr achos yma dwi ddim yn ama i ni gael ein haddysgu hefyd.

Gwych medda fi, yn gwisgo fy het archaeolegydd, roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfuniad o ddiddanwch a’r wers hanes. Darllennodd Harries yn helaeth o’r dyddiaduron. Rwyf yn cymeryd yn ganiataol fod hyn air am air, heb eu newid, ond ychwanegu at y pleser wnaeth y “ffeithiau” a’r disgrifiadau hanesyddol, ein cludo yn ol mewn amser, er ein bod yn eistedd yn y Theatr Fach yn Llangefni ym mis Ionawr 2015.

Os oedd hygrydedd Harries fel William Bulkeley yn ddifai, roedd dawn Rhodri Sion a Manon Wilkinson yn rhyfeddol, gan fod rhaid i Rhodri a Manon ymddangos fel sawl cymeriad gwahanol a hynny ar adegau o fewn eiliadau i’r cymeriad dwetha adael y llwyfan. Rwyf yn amlwg yn ‘ffan’ mawr o Rhodri Sion ers ei ddyddiau fel prifleisydd y grwp Big Leaves ond does dim amheuaeth fod Rhodri yn disgleirio ar lwyfan – fedra’i ond rhyfeddu ar y ddawn yma o feddiannu cymeriadau.

Felly hefyd, Manon Wilkinson, rhywsut yn gallu trawsnewid o’r ferch ddiniwed yn y pentref, i ferch y sgwier i butain o Gockney a fel Rhodri, canu yn yr amrywiol acenion. Disglair iawn. Braf hefyd clwyed offerynnau byw gan Huw Roberts a Gwenno Roberts yn ffidlan eu ffordd drwy’r perfformiad, yn cadw’r peth yn organig, heb rhyw  gerddoriaeth cefndir ffug.

Efallai mae’r peth pwysigaf am y ddrama hon yw fod yma arwyddbost, cyfeirlyfr bychan, awgrym o beth sydd o dan ein traed – sef y cyfoeth a yw Hanes Cymru.

No comments:

Post a Comment