Cael benthyg
copi o lyfr Robin Williams, ‘O Gwr Y Lôn
Goed’ (Gwasg Gomer) gan aelod o ddosbarth WEA Abersoch a ysbrydolodd mi i ail
ymweld ar Lôn Goed yn Eifionydd. Wrth reswm roeddwn wedi bod am dro ar hyd
ddarnau o’r hen ffordd dros y blynyddoedd ond doeddwn ’rioed wedi gwneud hi o
un pen i’r llall.
Rhywun arall
sydd wedi fy ysbrydoli yn ddiweddar yw Vivienne Rickman Poole, sydd yn disgrifio
ei hyn fel arlunydd (ffotograffyd) ac addysgwr. Digwydd taro ar draws Vivienne wnes
i yn rhoi sgwrs llynedd yng ngwyl The
Good Life Experience sydd yn cael ei guradu gan Cerys Matthews ar Fferm Ystâd
Penarlag. Diddordeb mawr Vivienne yw nofio gwyllt, neu i fod yn fanwl gywir,
nofio gwyllt mewn dwr oer go iawn ! Un gair – dewr !
Ond mae
Vivienne hefyd yn son am archwilio llefydd gadawedig, di-arffordd, anghysbell a
hefyd am redeg yn y mynyddoedd. A dyma’r cysylltiad rhwng ddamcaniaethau
Vivienne Rickman Poole a’r Lôn Goed, gan i mi benderfynu un bore, yn blygeiniol
iawn, mai’r ffordd orau o archwilio’r Lôn Goed yn sydun o un pen i’r llall
fyddai ei rhedeg.
Rwan ta, dyma
adael y car ger Ynys Graianog a rhedeg yr holl ffordd i lawr i Afonwen. Dwi ddim
am ddadlau am fanylder union y pellter ond tua 8 milltir yno ac yn ȏl mewn
cyfanrwydd. Ddigon hawdd oedd cyrraedd Afonwen, ond roedd dipyn o dynfa ar y
ffordd yn ol i fyny o Afonwen hyd at hen gapel Engedi. Fel Rickman Poole roedd
y camera wrth law. Dyma gael llun o Engedi.
Llun arall
roeddwn yn falch iawn o’i gael oedd yr hen giat rheilffordd lle arferai’r
rheilffordd groesi’r Lôn Goed rhwng Maes Gwyn a Rhosgyll. Giat, neu lidiart,
gyda’r hen gylch coch yn dal yno, sef y rhybydd aros, er fod y lliw coch wedi
hen ddiflannu. Archaeoleg trenau a rheilffordd medda fi wrth fy hyn cyn ail
gychwyn ar y rhedeg.
Does neb
gwell na R Williams Parry i gyfleu’r teimlad ‘cynfydol’ a geir yma yn llonyddwch
Eifionydd. Pa bynnag ddoniau sydd gennyf, nid yw dawn y bardd wedi ei ymestyn
arnof gan unrhyw holl alluog felly gadewch i Williams Parry fynegi pethau yn
well na fedrwn i byth:
A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed
O fwa’i tho plethedig
I’w glaslawr dan fy nhroed.
A does dim
dadlau hefo hynny, hyd yn oed wrth redeg, mae rhywun yn cael blas arbenig iawn
yma.Ond mae hanes diddorol i’r Lôn Goed hefyd, hanes “go iawn” cyn i unrhyw
fardd wirioni a’r llonyddwch gorffenedig a’r coed plethedig canys adeiladwyd y
ffordd gyda pwrpas o gludo calch o’r llongau yn Afonwen i’r ffermydd cyfagos cyn
belled a Hendre Cenin i’r gorllewin.
Adeiladydd /
pensaer y ffordd oedd gwr o’r enw John Maughan a oedd yn reolwr stad ar gyfer
Syr Thomas Mostyn, Plas Hen (Talhenbont), ac adeiladwyd y ffordd rhwng 1819 a
1828. Un o nodweddion diddorol y ffordd yw ei bod yn union 12 troedfedd ar led
a hyd at heddiw gellir gweld y meini mawrion ar ochr y lon a symudwyd o’r
ffordd gan y gweithwyr yn ystod y gwaith adeiladu. Sylwer hefyd pam mor syth yw
darnau o’r lon sydd yn dangos cynllunio manwl o ran gosod cwrs y ffordd gan
Maughan. Ynganer Maughan fel “Mȏn” ond
wrth reswm does dim cysylltiad o gwbl a Sir Fȏn gan mai gwr o Northumberland oedd
Maughan.
Felly os am
fynd am dro, prynwch gopi o lyfr Robin Williams i gael dysgu mwy am hanes y Lôn
Goed neu os am ysbrydoliaeth pellach edrychwch ar safle we
Neu Vivienne ar trydar https://twitter.com/mrs_paul