Thursday 15 January 2015

Enwau Llefydd Herald Gymraeg 14 Ionawr 2015


 

Weithiau mae angen cyfaddef fod rhywun ddim yn arbenigwr. Mae’n amhosib bod yn arbenigwr ar bopeth, amhosib gwybod popeth, amhosib ateb pob cwestiwn ac ar y cyfan o ddydd i ddydd dydi hyn ddim yn achosi gormod o gur pen. Felly os oes problem hefo’r car, i mewn i’r garej leol a fo, os di’r cyfrifiadur ddim yn gweithio, mae unrhywun call yn cael yswiriant fel fod modd mynd a’r cyfrifiadur i mewn i’r siop leol.

Rydym oll yn derbyn ein bod yn dysgu rhywbeth newydd pob dydd, a sawl gwaith dwi’n dweud mewn wythnos “Duw ….. doeddwn ddim yn gwybod hunna”. Pleser yw cael dysgu, gweld rhywbeth newydd, dod i ddallt rhywbeth yn well. Tan yn ddiweddar, methais yn glir a gwneud unrhyw synnwyr o’r drefn pensaerniol glasurol. Doedd ‘Ionic’, ‘Doric’ a ‘Corinthian’ yn golygu dim i mi nes i rhywun ddangos y colofnau tu allan i Swyddfa Plaid Cymru yn Stryd y Castell, Caernarfon.

A dyma ni, esiampl berffaith o golofnau ‘Ionic’ gyda’r sgrol droellog ar y naill ochr i’r gapan colofn – dim ond gweld esiampl go iawn oedd ei angen – a dyma weld y goleuni. Cerddaf o gwmpas yn hyderus nawr yn dangos colofnau ‘Corinthian’ gyda’r dail acanthws neu’r colofnau ‘Doric’ llai addurnedig.

Ond enwau llefydd sydd wedi achosi y dryswch mwyaf yn ddiweddar. Soniais yn gymharol ddiwedddar yn yr Herald (Hydref 1af 2013) am lyfr rhagorol a hanfodol Vivian Parry Williams ar Elis o’r Nant. Yn y llyfr yma, dadlai Elis mai’r enw cywir ar Ddolwyddelan yw ‘Dolyddelan” a dyma ddechrau trafod hyn wrth i griw Cymdeithas Hanes Dolwyddelan fyd ati i gael trefn ar Ffynnon Elan.

Enw’r Sant wrthgwrs a roes ei enw ar y pentref a’r eglwys yw Sant Gwyddelan, felly dyma ddechrau trafod os oedd yr hen Elis yn fanwl gywir, efallai mai ar lafar a olygai Elis y dylid arfer  Dolyddelan? Engraifft yn unig yw hyn o pam mor gymhleth gall y pethau yma fod a pham mor gyflym mae rhywun yn gallu tyllu twll iddo fo ei hyn.

Engraifft arall, sydd yn sicr wedi bod o ddiddordeb mawr i mi, ac yn sicr hefyd wedi achosi cur pen yw’r enw ‘Tre’r Ceiri’. Awgrymir fod Tre’r Ceiri hefyd yn gallu bod yn Treceiri ar lafar ond y dryswch mawr yw ynglyn ac ystyr neu darddiad yr enw.

Beth yn union a olygir gan Tre’r Ceiri ? Yn ȏl y son, Thomas Pennant oedd un o’r rhai cyntaf i son am Tre’r Ceiri mewn print ac esboniai’r enw yn Saesneg fel ‘Town of the Fortresses’ er mai fel ‘Tre’r Caeri’ mae Pennant yn cyfeirio at y safle, nid Tre’r Ceiri. Felly y lluosog o ‘gaer’, fort a ddefnyddir gan Pennant.
 

Ond yn ȏl Frances Lynch yn ei llyfr ‘Gwynedd’ a hyd at heddiw ar safle we y Comisiwn Brenhinol cyfeirir at Dre’r Ceiri fel “Town of the Giants” neu “City of the Giants”. Dadlai Melville Richards mai’r enw ‘Giants’ sydd yn gywir gan awgrymu mai ceiri yw’r lluosog o gawr yn hen dafodiaeth Sir Gaernarfon.

Mewn sgwrs gyda archaeolegydd sydd wedi gweithio yn helaeth ar Dre’r Ceiri, rhoddwyd y bai ar y Fictoriaid am “ramantu” am y safle a cham ddehongli’r enw fel “cewri” gan fedddwl fod yr un ystyr ac i safleoedd fel Cor y Cewri.

Yn sicr yn ȏl Geiriadur yr Academi, y llusosog o gaer yw caerau neu ceyrydd. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru hefyd yn cynnig y lluosog “caeroedd”. Ond does yr un yn nodi “ceiri” fel y lluosog o gaer? Rwyf yn amau mai Tref y Caerau yw’r gwir ystyr ond nid hawdd yw dod at wraidd y cwestiwn yma gan fod cymaint o wahnaniaeth barn ac esboniadau. Rwyf angen cael hyd i arbenigwr !
 

No comments:

Post a Comment