Yn ystod 1977
dechreuais brynu’r papur cerddorol ‘New Musical Express’. Pryd hynny cyhoeddwyd
yr NME ar ffurf papur newydd ac yn ogystal a darganfod am grwpiau pop newydd
roedd rhywunun yn cael bysedd du (inc) o ddarllen y papur. A dweud y gwir yr
‘inkies’ oedd y disgrifiad o bapurau o’r fath yn y diwydiant cerdd pryd hynny.
Yr hyn sydd
yn syfrdanol yw fy mod yn dal i brynu’r NME yn wythnosol hyd at heddiw. (Dwi
ddim yn siwr pam?). Bellach cylchgrawn lliwgar yw’r NME, a wedi diflannu i
Ebargofiant mae’r enw llawn ‘New Musical Express’. Cyn sgwennu’r erthygl yma
edrychais ar ȏl rifyn yn fy nghasgliad yn dyddio o Awst 19, 1978 gyda Steve
Jones a Paul Cook ar y clawr blaen. Ar y dudlaen ȏl-fewnol roedd rhestr o’r
gohebwyr; y golygydd Neil Spencer (Observer dyddiau yma) ac enwogion o fri o’r
Byd sgwennu colofnau fel Tony Parsons, Nick Kent, Lester Bangs Julie Burchill a
Paul Morley – y mwyafrif wedi fy
ysbrydoli i sgwennu dros y blynyddoedd.
Yn rhifyn10
Ionawr 2015 dyma ddarllen ‘Tips for the top’ sef awgrymiadau gan y gohebwyr cyfredol
am artistiad fydd yn creu argraff yn ystod 2015. Y golygydd yw Mike Williams,
sydd yn Gymro Cymraeg. Dyma oedd gan
Williams i’w ddweud “Huw Evans has been
making music as H Hawkline for a few years now, but his recent signing to
Heavenly signals a big change. Part of the same scene that has given us Cate Le
Bon, his recent album ’Salt Gall Box Ghouls’ is essential listening”.
Rwan ta,
efallai i chi gofio’r enw Huw Evans, fe fu Huw yn cyflwyno’r rhaglen Bandit ar
S4C hefo Huw arall, Huw Stephens (Radio 1 a C2 / Radio Cymru). Daeth Bandit i
ben ar y 28ain Rhagfyr 2011 ar ȏl bod ar yr awyr am 10 mlynedd. Fe barhaodd
Stephens i ddisgleirio oleiaf ar y radio – gwrandewch arno ar Radio 1 – ond “diflannu”
wnaeth Evans.
Petae fy marn
a’m sylwadau am y cyfryngau yn cyfri o gwbl, neu yn cael unrhyw ddylanwad neu
effaith byddwn wedi awgrymu ar y pryd fod y ddau Huw yn hollol amlwg fel y ddau
gyflwynydd oedd angen bod wrth y llyw ar Noson Lawen. Os oes rhaid efelychu sothach
Seisnig beth am gael Ant a Dec yn y Gymraeg. Sawl gwaith bu i mi sgwennu
rhywbeth yn rhywle yn awgrymu mai’r peth gorau am rhaglen Bandit oedd “y ddau
Huw”. Yn sicr roedd eu sylwadau crafog a’r cemeg rhyngddynt yn llawer mwy
diddorol na’r mwyafrif o grwpiau di-enaid a di-fflach a ymddangosai ar y
rhaglen yn llawer rhy aml.
Ond nid felly
mae pethau yn gweithio yng Nghymru. Anodd yw cael gyrfa. Dim ond llond dwrn
sydd yn cael hynny. A nid ar draul y talenatau amlwg y dylid hyn fod. Nid
galwad ar i rai fynd i gartref hen bobl ac ymddeol yn ddistaw yw hyn. Ond os yw
Dai Jones yn fytholwyrdd (a hir oes iddo) sut goblyn yn y byd mae esbonio fod y
ffarmwr sydd yn trydar, Gareth Wyn Jones yn fwy amlwg ar deledu Ffrenging nac
ar S4C ?
Felly’r r’un
cwestiwn sydd yn codi mewn ffordd ynglyn a thalentau amlwg Lisa Gwilym a
Georgia Ruth, wedi eu neulltuo i’r hwyr ar C2, sydd yn iawn o ran cymeryd y
gerddoriaeth o ddifri, ond argian dan mae yna dalentau aruthrol yma sydd ddim
i’w gweld / clywed ar y prif lwyfan.
Felly pwy o
ddarllenwyr yr Herald Gymraeg fydd wedi clywed am, neu gwrando ar, H Hawkline?
Ddim llawer dybiwn i. Cofiwch, gallaf weld pennaeth recordiau Heavenly yn dweud
wrth Huw “no worries Huw that’s not your demographic”.