Wednesday 12 March 2014

Lle mae'r Vivienne Westwood Cymraeg ? Herald Gymraeg 12 Mawrth 2014


llun gan John Griffiths.
 
Mae’n debyg fod rhaid i mi dderbyn na wna’i byth edrych cystal a hyn eto. Dyma fi yn fy ugeiniau ar lwyfan yn Leipzig, Dwyrain yr Almaen pryd hynny hefo’r Anhrefn. Rhyfedd fel mae’r blynyddoedd yn mynd heibio, mae 35 mlynedd wedi diflannu i rhywle ers i mi ddechrau ymwneud ar Byd Pop yn ol ym 1979 a 26 mlynedd ers tynnu’r llun yma. A finnau bellach yn 51 mae hynny yn golygu fy mod wedi treulio mwy o amser ar y ddaear yma ers tynnu’r llun nac yr oeddwn ar adeg y daith honno o amgylch Ewrop.

            Digon o waith y byddwn yn ymddangos yn fol-noeth yn gyhoeddus dyddiau yma, na byth eto mae’n siwr, ddim hyd yn oed ar safle archaeolegol yn yr Haf. Ac eto, yn fy meddwl rwyf dal yn “ifanc”, dwi’n siwr fod digon o bobl sy’n gallu uniaethu a hynny. Mae’r corff yn heneiddio’n gyflymach na’r ysbryd.

Dim ond drwy edrych yn y drych a gweld y gwallt gwyn, a’r gwallt tenna a’r ffaith fy mod wedi magu chydig fwy o bwysa y rwyf  wirioneddol yn cael fy atgoffa mae nid y dyn yn y llun yw’r Rhys Mwyn sydd yn cerdded o gwmpas y lle bellach. Ta fi sy’n twyllo fy hyn dudwch - ti’n 51 Rhys a dyna fo ?

            Wrthgwrs mae aeddfedrwydd yn newid rhywun hefyd, gyda profiad bywyd mae rhywun yn sicr yn fwy cyfforddus yn ei groen ei hyn, dwi ddim yn dioddef yr un teimlad o losgi tu mewn ac yr oeddwn yn fy ugeiniau. Rwyf yn hapus iawn yn bod yn dad i ddau o hogia, rwyf yn hapus iawn yn mynd allan i ddarlitho am archaeoleg, am y tro cyntaf erioed byddwn yn dweud fy mod yn fodlon   – ac eto roedd cael cipolwg sydun o ‘Can i Gymru, nos Sadwrn dwetha yn ddigon i fy droi yn 21 eto – oleiaf mae’r rhaglen yna yn gyson – ond yn gyson beth sy’n gwestiwn da !

            Ond y drych ‘na ddaru wneud i mi wirioneddol boeni. Dwi rioed di ystyried fy hyn yn berson ‘golygus’, rwyf wedi gorfod dewis fy nillad a fy lliwiau yn ofalus erioed ond dim ond ar ol troi 50 bu i mi ddychryn wrth weld fy hyn yn y drych. Dyma’r tro cyntaf i beidio hoffi beth oedd i’w weld ers bod yn fy arddegau gyda ‘acne’. Does dim angen ymhelaethu, eto dwi’n siwr fod digon yn uniaethu a hyn ……

            Rhaid gwenud rhywbeth meddyliais, a rhwng rhoi gorau i fwyta bara, rhoi gorau i fynd i gaffis i gael wy, beans a chips (swnio fel can gan Rocyn) amser cinio a dechrau rhedeg dair – pedair gwaith yr wythnos rwyf wedi cael fy hyn yn ol i well siap. Mae’r gwallt tenna dal yn wyn ond mae’r pwysau ychwanegol yna bron a mynd. Heb os, rwyf yn teimlo fwy fel dyn 40 oed na 51, rwyf yn gallu rhedeg o gwmpas y lle heb golli gwynt – mae fy meddwl  ddeg gwaith fwy clir – mae hyd yn oed y darlithoedd yn llifo yn well.

            Dwi rioed ’di deall yn iawn pam fod rhai lliwiau yn well na’i gilydd ond yn sicr dwi ddim un un o’r bobl yna sydd yn gallu gwisgo unrhywbeth a dal i edrych yn dda. Felly mae’n rhaid gwneud ymdrech i ddod o hyd i’r dillad iawn, dillad addas ar gyfer eich oed wrth reswm, a wedyn, pan mae rhywbeth yn “gweithio”, y gyfrinach ydi prynu dau neu dri o’r un peth. (felly dwi ddim yn gwisgo yr un crys am ddyddiau – mae gennyf un ru’n fath os angen ar gyfer pob dydd !)

            Y cynllunydd ffasiwn Vivienne Westwood yw fy arwres mawr yn hyn o beth, mae hi yn son er engraifft, ei bod yn gweld y rhai sydd yn gwneud ymdrech ac yn datblygu arddull unigol ac unigriw yn fwy deniadol. Rhywbeth arall mae Vivienne wedi grybwyll yw fod rhaid i ddynion fod yn fwy ffeminaidd i fod yn wirioneddol ddeniadol. Awgrym arall gan Westwood yw fod bywyd yn fwy diddorol os yw rhywun yn gwisgo’n dda.
 

            ‘Gweddol’ yda ni yng Nghymru am ffasiwn. Yn oes Top Shop a New Look mae digon o bobl yn edrych yn dda, ond does neb yn sefyll allan fel unigolyn go iawn. Dwi’n sylwi yn aml pam mor ddel er engraifft yw wynebau merched Llyn, mae rhywbeth yn y dwr yn eu gwneud yn ofnadwy o dlws – ond pryd gwelais rhywun yn sefyll allan am wisgo yn wahanol – dyna chi gwestiwn ?

Peth amser yn ol roedd merch ifanc o fy malen yn y ciw yn Morrissons. Merch Gymraeg a roedd hi’n gwisgo ‘brothel creepers’ (neu sgidia Teddy Boy i’r an-llythrennog) a roedd yn ormod peidio ei llongyfarch am ei dewis o sgidia. Cefais wen a ‘diolch’ yn Gymraeg chware teg. Dros y penwythnos bu i mi longyfrach rhywun arall am ei dewis o liwiau – eto fedrwn i ddim peidio achos roeddwn mor falch o weld rhywun yn edrych yn dda, yn sefyll allan ond mewn ffordd unigriw – yr unigolyn ys dywed Westwood.

Dwi’n siwr i mi sgwennu am hyn yn fy ngholofn yn Y Faner yn yr 80au – fod angen “steil yn y Gymraeg”. Dros y penwythnos bu’m yn gwrando ar sgwrs Mike Parker yn ystod ‘Gwyl Arall’. Sgwrs o’r new “Rough Guide i’r Gymraeg” - gan fod Parker yn awdur y llyfr Rough Guide To Wales wrthgwrs.

Chefais ddim fy siomi gan ei sgwrs, a felly gweddill y gynulleidfa mi dybiaf, ac yn sicr roedd Parker yn gallu dweud pethau am y Gymraeg fydda wedi landio unrhyw un ohonnon Gymry Cymraeg naturiol mewn trwbl. Ond hefyd chefais ddim fy siomi gan edrychiad Parker, crys siec a siaced, ddigon ‘hamddenol’ ond eto – yn edrych yn dda. Petawn yn hoyw dwi’n siwr byddwn yn ffansio Parker. Dwi ddim yn hoyw a dwi’n dal i ffansio fo chydig.

Dyddiau’r Faner y peth oedd bob amser – lle mae’r  Madonna Cymraeg, lle mae’r Billy Idol Cymraeg neu beth bynnag a heddiw fedra’i ond gofyn, lle mae’r Vivienne Westwood Cymraeg ? Rydym yn poeni am yr Iaith, yn poeni ychydig / ddim digon am ein hanes, rydym yn eitha llac ein cefnogaeth i ddiwylliant poblogaidd Cymraeg ond o ran ffasiwn rydym wedi troi mewn i genedl Top Shop / New Look a dim byd Cymreig o gwbl am ein gwisg. Mae’n rhaid fod hyn yn biti, ac os yw damcaniaeth Westwood yn iawn ella byddai’r IaithGymraeg a’n diwylliant yn ffynnu dipyn mwy petae ni ond yn edrych yn fwy fel Celtiaid ac yn llai fel dinasyddion pob tref arall yn y Deyrnas Unedig ?

No comments:

Post a Comment