Wednesday 17 April 2013

Caneuon Thatcher Herald Gymraeg 17 Ebrill 2013.


 

“Thatcher”, roedd yr enw o hyd yn cael ei boeri allan gyda’r holl atgasedd a phwyslais o anghytundeb posib, dyma’r agosa ddaeth y rhan fwyaf ohonnom i brofi polisiau’r gwrth-Grist a sawl gwaith dros y blynyddoedd rwyf wedi son na fyddwn byth yn dymuno “Thatcheriaeth” ar unrhywun. Ond, wyddochi beth, oherwydd y gwrthwynebiad llwyr i’w pholisiau dwi ddim yn amau mae Thatcher wnaeth y cyfraniad pwysicaf i’r Byd Pop yn ystod yr 80au cynnar. Doedd dim fath beth ac “eistedd ar y ffens”, roedd rhaid cymeryd ochr, safiad, safbwynt.

            Y troellwr recordiau John Peel soniodd rhyw dro ar BBC Radio 1 fod cerddoriaeth o hyd yn fwy diddorol pan mae’r Gyfundrefn yn troi i’r Dde; ei bwynt wrthgwrs yw fod hyn yn creu caneuon protest a’r angerdd cysylltiedig. Fe wyddom wrthgwrs fod pop a ‘rock’n roll’ ar ei orau pan mae dynion ifanc blin yn troi y gitars yna yn uchel a hefo rhywbeth i’w ddweud !

“Stand Down Margaret” meddai The Beat, cytgan afaelgar, anthem hyd yn oed, can pop heb ei ail ar rhythm reggae hawdd ond dyna chi neges, roedd y gan yma yn cael ei chanu gan The Beat wrth ymddangos ar raglenni poblogaidd ar y teledu ym 1982. Roedd y neges felly yn cyrraedd yr ystafell fyw, cyn yr oes yma,(oes youtube), da’chi’n cofio’r adeg pan roedd y teulu cyfan yn gwylio Top of the Pops hefo’u gilydd ar Nos Iau?

Hyd yn oed yn fwy amlwg oedd “Kick Out the Tories” gan The Newtown Neurotics, grwp o Harlow. Fel cannodd y Neurotics am Thatcher “the enemy of the British working man” a wedyn yn y toriad cerddorol yng nghanol y gan roedd y floedd “don’t believe everything you read in the press”. Anthem fwy pynci oedd gan y Neurotics,ac ar John Peel oedd y siawns gorau o glywed y Neurotics, nid ar Top of the Pops ond yr hyn sydd yn ddiddorol o edrych yn ol yw mae’r un oedd y neges, The Beat yn y tir canol a’r Neurotics ar yr ymylon yn ddiwyllianol.

Cyfansoddwyd caneuon llai rhethregol ac ystradebol yn ystod cyfnod Thatcher hefyd, efallai mae “Shipbuilding” gan Elvis Costello sydd yn sefyll allan. Wrthgwrs, fersiwn Robert Wyatt sydd wedi aros yng nghof y rhan fwyaf ohonnom ond mae Costello dal wrthi yn perfformio’r gan. Cefais gyfle i weld Costello ym Manceinion ychydig yn ol gyda’r Brodsky Quarter ac hyd yn oed heddiw roedd dal wefr o glywed y gan yma yn cael ei pherfformio yn fyw.

Y gan arall, yn wir y gan aeth i Rhif Un yn y Siartiau, oedd “Ghost Town” gan The Specials gyda’r fideo hyfryd hynny o’r grwp yn y car yn gyrru o amgylch y tirwedd ol-ddiwydiannol, y tyrau gor-uchel, y Ddinas yn Llundain ar fore Sul debyg, tywyll a llwm. Ond pwy fysa yn dychmygu heddiw fod can mor wleidyddol yn gallu cyrraedd brig y siartiau ?

Yr enw arall amlwg o’r cyfnod yma yw Billy Bragg, mae Bragg dal wrthi cofiwch, ond yn ystod Streic y Glowyr ym 1984 daeth Bragg i lawr i Glwb Llafur Pill, Stryd James yng Nghasnewydd i godi arian ar gyfer cronfa bwyd glowyr Pwll Bedwas. Y trefnydd oedd Simon Phillips, gwr sydd yn adnabyddus fel rheolwr y siop recordiau ‘Rockaway Records’ sydd yn y Farchnad yng Nghasnewydd, “Newport Provisions Market” fel mae nhw’n dweud yn lleol. Trefnodd Phillips a’r criw oedd yn galw eu hunnan yn ‘Cheap Sweaty Fun Promotions’ dros 200 o cyngherddau i gefnogi glowyr De Cymru.

Ar y noson canodd Billy Bragg roedd dau lowr o Bedwas wedi dod draw i fod yn gyfrifol am hel yr arian. Talwyd £250 o ffi i Billy Bragg ar gyfer ei gostau, Cadwodd Bragg £100 (sef y costau go iawn) a rhoi £150 yn ol i’r glowyr. Mae’r stori yma a chyfweliad hefo Phillips i’w weld ar safle we Hanes, BBC Cymru.

Y cysylltiad arall Cymreig gan Billy Bragg wrthgwrs yw ei fod wedi canu gyda Cor Cochion Caerdydd yn yr 80au ar y gan ‘Mandela’, can a ymddangosodd yn wrieddiol ar gaset ar Label Sain ond sydd bellach ar gael ar gasgliad CD o Goreuon Cor Cochion Caerdydd.

Ym mis Mehefin 2009 bu Bragg yn ol i Gymru i gofio 25 mlynedd ers y Streic a bu mi a‘r bardd Patrick Jones ar y daith o amgylch Cymru hefo Bragg. Y peth mwyaf doniol am y daith honno oedd fod gan Bragg fwy o ddiddordeb trafod archaeoleg hefo mi na son am wleidyddiaeth, roedd o yn holi yn ddyddiol beth oedd i’w weld ar hyd y ffordd o un cyngerdd i’r llall ac ar ddiwedd y bythefnos o daith mae’n wir i ddweud na chawsom unrhyw sgwrs am wleidyddiaeth !

Bu’r grwp Test Dept yn teithio gyda Cor Glowyr De Cymru ar Streic a hynny o amgylch Prydain yn ystod 1984 dan yr enw “Fuel To Fight” gan berfformio yn Theatr Albany, Deptford, Llundain. Unwaith eto roedd cysylltiad Cymreig gan Test Dept wrth iddynt gydweithio a chwmni theatre Brith Gof ar y sioe ‘Gododdin’.

Y slogan ar y pryd oedd “Coal Not Dole”, fe gynhyrchwyd miloedd o sticeri gan Undeb y Glowyr. Diddorol yw nodi fod darn o farddoniaeth gan wraig un o’r glowyr ar streic gyda’r teitl yma, enw’r wraig oedd Kate Sutcliffe a fe osodwyd y geiriau yn ddiweddarach i gerddoriaeth gan y grwp Chumbawumba

‘There'll always be a happy hour
For those with money jobs and power
They'll never realise the hurt
They caused the men they treat like dirt.’

 

 

 

 

 

No comments:

Post a Comment