Wednesday 10 October 2012

"Jack Black" Herald Gymraeg 10 Hydref 2012



Dychwelais i Ynyscynhaiarn, yr hen eglwys ger Pentrefelin yn Eifionydd; roeddwn wedi treulio’r bore ar gwrs ar gyfer Tiwtoriaid Coleg Harlech ym Mhorthmadog, sydd o hyd yn ddifyr, ond erbyn ganol pnawn roedd angen dipyn o awyr iach arnaf felly dyma benderfynu gadael y car ym Mhentrefelin a cherdded draw am yr Eglwys. Rwyf wedi son am hanes John Ystumllyn o’r blaen, ef yw’r enwog “Jack Black”, ac yn sicr roeddwn am ail-ymweld a’i garreg fedd.

                Mae’n dro bach hyfryd o Bentrefelin i Ynyscynhaiarn, gan gerdded ar hyd y sarn dros yr hen dir corsiog ac ar bnawn Sadwrn o Hydref fel hyn doedd fawr o neb o gwmpas, doedd yna ddim swn y Byd, felly dyma fwynhau ugain munud o ddistawrwydd rhwng y lon fawr a’r hen Eglwys. Rhaid cyfaddef erbyn i mi gyrraedd roeddwn wedi rhyw hanner anghofio lle roedd carreg fedd “Jack Black”, roeddwn yn cofio’r ochr iawn i’r  llwybr ond roeddwn yn credu ei fod yn agosach at yr Eglwys.

                Doedd dim amdani ond dechrau o’r Eglwys a cherdded nol ac ymlaen ar hyd y rhesi yn systematig, cofiaf fod y garreg yn un oedd yn sefyll i fyny, ond siom fawr o ddarganfod y garreg oedd sylweddoli pam mor ddrwg mae’r geiriau arni wedi erydu. Dipyn o gamp eu darllen bellach, roedd enw John Ystumllyn yno i’w weld ond yr englyn ar y gwaelod, wel bron yn amhosib i’w ddarllen.
 

                Gwr arall a gladdwyd yn y fynwent yw Robert Isaac Jones, mae ei garreg fedd ger porth y fynwent ar yr ochr dde fel mae rhywun yn mynd i mewn, a diddorol iawn yw nodi mae ei  enw barddol oedd ‘Alltud Eifion’ sef y gwr a sgwennodd hanes John Ystumllyn yn ol ym 1888. Rwan mae llyfryn Alltud Eifion bellach wedi ei lun gopio gan Gyfeillion yr Eglwys felly mae modd darllen y llyfryn yma, ond rhaid cyfaddef dwi rioed wedi dod o hyd i, na gweld, copi gwreiddiol. Efallai gall rhai o ddarllenwyr Y Casglwr ddod o hyd i gopi ?

                A dyma chi ddarllen diddorol. Llyfr sydd yn perthyn i’w cyfnod heb os, ac a gyhoeddwyd yn wrieddiol yn Nhremadog a hynny yn y Gymraeg. Cyfieithiad Saesneg yw’r llungopi sydd ar werth yn yr Eglwys er fod naws y llyfr wedi ei barchu. Wrth ddarllen y llyfryn a cheisio dychmygu sut fath o fywyd oedd gan John druan, fe’m atgoffwyd ychydig o golofn “ddadleuol” Angharad am H.M Stanley yn ddiweddar. Yn sicr dydi’r math o Iaith, disgrifiadau a damcaniaethau sydd yn cael eu crybwyll gan Alltud Eifion ddim yn rhai sydd yn gwneud darllen hollol gyfforddus i ni heddiw.
 

                Nid fod rhywun am eiliad yn awgrymu fod Alltud Eifion yn hiliol mewn unrhyw ffordd achos mae’n ymddangos i John Ystumllyn gael ei dderbyn gan y gymdeithas leol ac yn sicr roedd cryn ddiddordeb ynddo ymhlith y genod lleol, felly da ni ddim yn som am eithafwyr adain dde yn Eifionydd ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg o gwbl yn fan hyn !

                Ond yn ei gyflwyniad mae Alltud Eifion yn son am John fel un o feibion Han a gipwyd dros gan mlynedd yn ddiweddarach o Affrica bell. Mae hyd yn oed son fod un o deulu Wynn, Ystumllyn, un oedd yn berchen ar gwch, wedi ei gipio o Affrica pan oedd John ond yn 8 oed. Dyna chi stori frawychus, ond cwestwin da os oes unrhyw sail i hyn ? Yn ol Alltud Eifion, mae rhai o’r hanesion yn y llyfryn yn rhai gafodd gan ei fam. Naturiol fod yr hogyn bach du wedi bod yn destun sawl sgwrs a dros y blynyddoedd fod y storiau wedi tyfu i fod yn chwedloniaeth pur.

                Parhau yn sicr mae’r cwestwin o sut daethpwyd ac ef yma i Eifionydd, ac o ble y daeth, a’i o Affrica yn syth i Gymru neu oedd John druan yn rhan o’r holl broses o fasnachu pobl, y broses erchyll honno roedd cymaint o ddinasyddion Cymreig ddigon parod i fod yn rhan ohonno (meddwl am Twm Chware Teg, teulu Penrhyn). Soniwyd sut y bu i John gael ei fedyddio yng Nghricieth neu yn Ynyscynhaiarn gan deulu Ystumllyn ond y disgrifiad o’r hogyn bach gan Alltud Eifion sydd yn taro’r hoelen ar ei phen ac yn creu y ddelwedd mwyaf ysgwytol a brawychus.  Fe ddefnyddiaf y cyfieithiad Saesneg o’r llyfryn  yma er mwyn cyfleu’r hyn sydd dan sylw. “When he first arrived he was terrified of all strangers and spoke no proper language; he could only utter doglike howls and screams”.

                Wrth reswm, mae’n rhaid fod yr hogyn bach ofn am ei fywyd, ond y disgrifiad efallai sydd yn agrymu’r safbwynt lled Imperialaidd, sef cyfnod Victoria a’r Ymerodraeth Brydeinig yn ei anterth, hynny yw, fod yr hogyn bach du yn anwaraidd, yn sgrechian fel ci, ac heb Iaith – sgwni wir ?

                Wedyn mae cofnod arall “It took them a long time to civilise him and during this time he was not allowed out; but after much effort by the ladies he learnt two languages and learnt to write”.  Ond gwella mae’r stori, a fel mae Jack yn tyfu i fod yn ddyn ifanc golygus mae’n debyg fod cryn gystdadleuaeth ymhlith merched y fro i hawlio ei sylw.

                Mae’n stori hynod ddiddorol, a bellach mae cerdyn post o’r garreg fedd ar gael yn yr Eglwys, sydd yn dangos yr ysgrifen ddipyn gwell na’r lluniau dwi’n gael ar fy nghamera digidol. O fewn y fynwent mae cerrig bedd Ioan Madog, Ellis Owen Cefnmeusydd, James Spooner (un o gynllunwyr Rheilffordd Stiniog) ac wrthgwrs Dafydd y Garreg Wen.
 

               

1 comment: