Friday 20 July 2012

Herald Gymraeg 4 Gorffennaf 2012 Llanrug


Cwestiwn ddigon amlwg i’w ofyn yw pam fod Eglwys Llanrug mor bell o ganol y pentref ? A dyma ni, bnawn Sadwrn dwetha yn cael yr ateb gan yr hanesydd Dafydd Whiteside wrth iddo arwain taith gredded ar ran Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon o amgylch Eglwys Sant Mihangel a’r cyffiniau. Dyma ffordd hyfryd o dreulio bnawn Sadwrn, a mae yn wir yntydi fod rhywun yn dysgu llawer mwy o gael ei dywys o amgylch safleoedd gan rhywun “sy’n gwybod be di be”.

                Dangosodd Dafydd sawl carreg fedd o ddiddordeb yn y fynwent, y gyntaf oedd carreg fedd Sioned neu “Sionad” fel y sillafwyd ar y garreg. Hi oedd chwaer yr enwog Marged ych Ifan (neu ferch Ifan) o Ddyffryn Nantlle ac yn ddiweddarach Nant Peris. Marged wrthgwrs oedd y delynores, y gawres, y reslwr, y ddynes oedd yn gryfach na’r ddau wr cryfa yn Nyffryn Nantlle. Hi briododd gwr diniwed a gwan yn fwriadol, hi oedd meistres y ty tafarn “Tafarn y Telyrniau yn Nrws y Coed. Roedd hi’n ddigon o ddynes i gadw trefn ar y mwyngloddwyr copr. Sgwni os yw rhywun yn gwybod lle oedd safle Tafarn y Telyrniau ?

                Fe anfarwolwyd Marged gan Thomas Pennant fel un oedd yn dal i reslo yn ei 70au a mae son gan rai iddi fod yn fwy dros ei chant. Wrth i weithfeydd copr Drws y Coed ddod i ben symudodd Marged i ardal Llyn Padarn i gludo copr gweithfeydd Nant Peris mewn cwch dros y llyn. Does dim hanesion o’r fath am Sionad, dim ond carreg fedd ddi-nod, hawdd i’w methu. Eto, sgwni sut fywyd gafodd Sionad – efallai iddi gadw’n ddistaw a’i phen i lawr gan fod cysgod Marged mor bell gyrhaeddol ?

                Carreg fedd arall o ddiddordeb mawr ym mynwent Sant Mihangel yw un Dafydd Ddu Eryri, sef David Thomas (1759-1822) o Ben y Bont, Waunfawr, lle gwelir cofeb llechan iddo ar ochr y ty. Cofiwn am Dafydd Ddu Eryri fel bardd a llythyrwr a hefyd fel ysgolfeistr yn Llanddeiniolen ond diddorol iawn oedd darganfod iddo dreulio rhai blynyddoedd yn gweithio yn y pandy , Glynllifon yn trin gwlan. Unwaith eto, onibai am Dafydd yn ein twywys, sgwni faint fydda’n yn sylwi ar fedd yr hen Dafydd Ddu ?

                Tirfeddiawnwr lleol a pherchennog plasdy oedd Cadfridog Syr Hugh Rowlands, Plas Tirion a dyma’r drydedd carreg fedd o ddiddordeb yn y fynwent i ni ymweld a hi. Gwelir arni gopi o’r Groes Fictoria a enillwyd gan Rowlands tra ond yn 26 oed yn Rhyfel y Crimea wrth iddo achub milwr oedd weid ei amgylchu gan filwyr Rwsiaidd. Yn ol y son fe haeddodd fedal arall. A dyma chi ateb dirgelwch oedd wedi fy nghorddi ers peth amser.

                Ar y lon gefn heibio’r eglwys sydd yn arwain i gyfeiriad Waunfawr neu Pontrug gwelir sawl maen yn sefyll yn unionsyth ar ben bonciau bach naturiol o dir. Ymdebygai rhain i feinihirion, ond rwyf yn gwybod nad meni Oes Efydd yw rhain, ond doeddwn rioed di dallt eu pwrpas neu arwyddocad. A dyma’r esboniad, cerrig i goffau gwahanol frwydrau neu fuddugoliaethau y Cadfridog Rowlands yw’r rhain.

                Drwy rhyw lwc a chydig o siawns cafwyd cyfle i fynd i mewn i’r Eglwys, fe ddaeth y Ficar heibio hefo’r goriad fel roedd yr ymweliad i’r fynwent yn dod i ben. Eto dyma chi gyfle gwych, ar y muriau mewnol mae lluniau o’r 12 Orsaf y Groes, mewn fframia yn hytrach na murluniau, ac yn sicr ddim yn cymharu a’r rhai ar furiau tref Conwy yn y mamor Carrera, ond yn ddiddorol yr un fath.

                Yn ol y son mae’r eglwys yn dyddio o’r 13G a’r to o’r 15G a fe ychwanegwyd y gloch ym 1767 er o edrych or y tu allan, gyda’r “pebbledash” fydda rhywun efallai ddim yn disgwyl i’r Eglwys fod mor hynafol er wedi dweud hyn, mae awyrgylch hynafol yn perthyn i’r safle yn sicr.

Felly Llanfihangel y Rug oedd yr enw gwreiddiol ar y lle yma, nid Llanrug. Fe dyfodd pentref Llanrug gyda dyfodiad y chwareli llechi a heddiw mae’n bentref sydd i raddau yn dilyn y lon fawr tuag at Cwm y Glo a LLanebris o Gaernarfon. Dyma’r pentref mwyaf yn Arfon a phentref gyda canran uchel iawn o’r bobloagaeth y siarad Cymraeg, canran yn yr 80au. Mae’r ddwy dafran yn eu tro, y Penbont a’r Glyntwrog, wedi llwyfannu grwpiau pop Cymraeg (ffaith fach i chwi haneswyr y Byd Pop Cymraeg).

Yn yr 80au hwyr bu gigs rheolaidd yn y Glyntwrog, cofiaf sawl noson wych yno gan y grwp Gwrtheyrn o Ben Llyn a heddiw mae Llanrug wrthgwrs yn gartref i’r grwp Something Personal heb son am un o gymeriadau mwyaf diddorol y sin gyfoes, yr unigryw Ryan Kift, seren deledu, cyfarwyddwr ffilmiau Zombies a dyn sydd a barn ar bopeth a dim taw arno. Efallai rhyw ddiwrnod (mewn canrif efallai ?) bydd cofeb las ar dai Kiffti, y Personals a’r Glyntwrog fel canolfanau o bwys i ddwylliant Cymraeg yn eu dydd ?

Ond i ddychwelyd at y cwestiwn cychwynnol, pam fod yr Eglwys mor bell o ganol y pentref ? Yn ol Dafydd, ffermydd gwasgaredig oedd yn yr ardal yma, roedd darnau o dir gwlyb hefyd, ond y ffremydd greodd y patrwm tir, felly fuodd na rioed “ganol pentref” dim ond casgliad o ffermydd, ar Eglwys wedyn yn fan addoli, yn fan cyfarfod ond ddim yn ganol pentref yn yr ystyr arferol.

               

No comments:

Post a Comment