Friday 24 February 2012

Herald Gymraeg 22 Chwefror 2012 Pentre Berw



Mae’n beth rhyfedd sut mae pentref yn gallu hawlio sylw rhywun. Fe ddechreuodd gyda cwestiwn ddigon syml mewn Dosbarth Nos WEA yn Llanfaelog – “oedda ni am drafod archaeoleg diwydiannol yn ystod y cwrs ?”. “Dim rheswm pam ddim” oedd yr ateb gennyf, felly dyma yrru draw i Bentre Berw y diwrnod canlynol i gael golwg ar rhai o’r hen olion y gwaith glo yno.

                Rhaid cyfaddef fy mod yn ymwybodol fod yna waith glo wedi bod ym Mhentre Berw yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a fod ychydig o olion yno yn rhywle ? ond go wir doeddwn ddim yn gwybod cymaint a hunna am yr hanes. Ond, mae unrhyw esgus i fynd i chwilota ac i gerdded yn cael croeso mawr felly ffwrdd a fi. Cinio gyntaf yn y ganolfan arddio, Holland Arms, omelette tomato ddigon dymunol, a lle cyfleus wedyn i adael y car am rhyw awran.

                Wrth i mi ymlwybro i lawr y ffordd fawr (A5)  i gyfeiriad Cors Ddyga (mwy am hyn yn y munud) dyma sylwi ar enw stryd, “Lon Coliar”, tystiolaeth yn syth o gefndir glofaol yr ardal. Bellach mae Lon Coliar yn arwain at y llwybr beics sydd yn rhedeg ar hyd Afon Cefni tuag at Malltraeth neu Langefni, dibynu pa ffordd mae rhywun yn pedlan wrthgwrs.

                Buan iawn mae rhywun yn cyrraedd y tir corsiog, ‘Malltraeth Marsh’ yn Saesneg, er dydi hyn ddim yn fanwl gywir am bob rhan o’r gors, ond dyma’r enw Saesneg a ddefnyddir ar gyfer yr ardal isel yma erbyn heddiw. Hyd at 1824, pan adeiladwyd Cob Malltraeth, roedd y mor yn dod i fyny cyn belled a Llangefni. Yn dilyn adeiladu’r Cob roedd modd ad-ennill y tir a bu gwaith wedyn i osod yr afon o fewn y gamlas ar ddwy ffos gyfochrog  sydd i’w gweld hyd at heddiw.

                Yr enw Cymraeg erbyn heddiw ar y gors yw Cors Ddyga, rwyf wedi gweld ambell i gyfeiriad at Cors Ddeuga a hefyd Cors  Ddrygan ond yn fanwl gywir Cors Tygai yw hi, wedi ei henwi ar ol yr un sant a roes ei enw i Llandygai. Cors Tygai sydd i’w weld ar y bwrdd gwyboadeth ger y safle RSPB, a mae hynny a’r esboniadau uchod diolch i’r hanesydd Donald Glyn.

                Yn wir bu i mi daro mewn i Donald ar y pnawn Sadwrn canlynol, cymaint roeddwn wedi mwynhau cerdded o amgylch Cors Tygai fe benderfynais ddychwelyd gyda’r hogia ar ei beics er mwyn iddynt gael dilyn y llwybr cyn belled a Llangefni. Wrth i ni gyrraedd yn ol i’r maes parcio roedd Donald yno yn barod i ateb fy nghwestiynnau.

                Cafwyd sgwrs braf a hynod ddiddorol ac engraifft perffaith o ‘r cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael yn lleol bob amser – ond i chi fod ddigon lwcus i daro ar draws rhywun sy’n gwybod ! Donald esboniodd y cysylltiad a Sant Tygai, a fod safle ei gell i’w gweld fel twmpath o dir sych yr ochr arall i’r Cefni ger ochr yr A5. Oes yn wir mae yna lwmp neu domen i’w gweld yn y cae ger yr A5 ond fy argraff gyntaf i o’r safle fydda awgrymu mae carnedd gladdu neu “tumulus” Oes Efydd yw hon mewn gwirionedd ?

                Yn ol yr arwyddion RSPB does dim hawl mynediad i safle Gwaith Glo Berw. Anwybyddais yr arwydd, dringais dros y giat a dilynais y llwybr tuag at yr hen simdde. Wrth gyrraedd yr ail giat dyma sylwi ar fwrdd gwybodaeth arall – y tro hwn yn rhoi cefndir ac amlinelliad o’r adeiladau ar y safle. Os felly roedd yna fwriad (gan rhywun) fod pobl yn cael dod i mewn i weld yr olion. Pam cau y giat felly ? Od meddyliais. Roeddwn yn barod i glywed llais “you should not be in here!”

No comments:

Post a Comment