O gopa Mynydd Rhiw
Rydym yn gallu son gyda sicrwydd fod Mynydd Rhiw ym Mhen
Llŷn yn dirwedd lle troediodd ein hynafiaid dros 5000 o flynyddoedd yn ôl. Hyd
yma ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth o lle yn union roedd amaethwyr cynnar
Neolithig Llŷn yn byw ond mae siambrau claddu cyfagos Cefn Amwlch, Bron Heulog
a Tan y Muriau yn dyst i’r ffaith fod cymunedau yma. Codwyd rhai o’r siambrau
claddu yn agos i’r ffermydd, efallai mewn amser cawn hyd i adeiladau.
Pydru mae pren, felly anodd yw canfod olion adeiladau o
bren sydd yn 5000 oed. Goroesi mae carreg, ac onibai fod cromlechi wedi eu
clirio dros y canrifoedd, mae’r siambrau claddu yn ddigon hawdd i’w hadnabod.
Bu ymdrech i glirio siambr gladdu Bron Heulog a’r stori leol yw fod y chwiorydd
Keating o Blas yn Rhiw wedi rhwystro’r gromlech rhag cael ei chwalu yn rhacs. ‘Detour’
diddorol bob amser yn y rhan yma o’r byd yw piciad draw i fynwent Llanfaelrhys
i gofio am y Keatings a drws nesa iddynt Elsie Eldridge.
Saif cromlech Cefn Amwlch mewn cae ger troad Beudy Bigyn.
Os am dynnu llun o gromlech borth nodweddiadol, anodd curo hon. Gwelir sawl
siambr yn rhan o gynffon hir Tan y Muriau ar lethr deheuol Mynydd Rhiw ac heb
os mae nhw gyd yn drawiadol ac yn gysylltiad unionryrchol a’r hynafiaid
Neolithig.
Goroesi mae carreg, ac ar lethrau Mynydd Rhiw mae modd
darganfod darnau bach o garreg sydd yn hollti yn debyg i callestr. Yr hyn sydd
yn rhyfeddol yw fod amaethwyr Neolithig Llŷn wedi canfod y garreg yma a wedyn
wedi cloddio amdano. Sial wedi ei effeithio gan ymwthiad folcanaidd sydd yn
addas ar gyfer creu offer cerrig yma ar Fynydd Rhiw a chawn hyd i haenau o’r
garreg ar lethr ogleddol a deheuol Mynydd Rhiw.
Nid hawdd yw canfod y ‘tyllau chwarel’ ac er iddynt gael eu
hol-lenwi yn ystod y Neolithig mae’r nodweddion archaeolegol yma wedi goroesi
ac i’w gweld hyd heddiw fel cylchoedd crwn rhyw 5medr ar draws ar y tir.
Trefnwyd ymweliad o olion archaeolegol Mynydd Rhiw fel rhan o Ŵyl Archaeoleg
Llyn ar Fawrth 1af eleni. Rhaid oedd canolbwyntio fel arweinydd y daith ac
edrych yn ofalus ar wyneb y tir am yr olion. (Mae modd hyfforddi’r llygad i
wneud hyn!)
Flynyddoedd yn ôl cefais y fraint o gynnal dosbarth
Archaeoleg WEA yng nghanolfan Bryncroes. Un canlyniad o’r cyfarfodydd bwyiog
hynny dros dymor y Gaeaf oedd rhannu gwybodaeth gyda trigolion y darn yma o Ben
Llŷn. Proses ddwy ffordd. Rhannu yng ngwir ystyr y gair. Pawb yn dysgu.
Canlyniad arall yn dilyn sawl blynedd o gynnal dosbarthiadau tebyg ym Mryncroes
oedd magu cyfeillgarwch a pherthynas agos gyda’r gymuned leol,
Efallai fod y dosbarthiadau wedi dod i ben, ond tydi’r
sgyriau a rhannu gwybodaeth heb ddistewi. Dros gyfnod clo llynedd cefais
wahoddiad gan Catrin Williams i weld rhywbeth oedd hi wedi ddarganfod wrth
gerdded Mynydd Rhiw. Fyny am dro a ni! Er na allaf fod yn gant y cant sicr, mae
posibilrwydd fod Catrin wedi canfod cist fedd Oes Efydd. Felly ‘cyn-ddisgybl’
dosbarth nos oedd yn amlwg wedi bod yn gwrando yn astud. Catrin yn amlwg wedi
hyfforddi ei llygaid i gadw golwg am bethau o dan y pridd.
Dyma’r gwerth yn yr elfen gymunedol ynde. Yn ogystal a’r
cysylltiad amlwg fod pawb yn siarad Cymraeg. Parhau mae’r sgwrs. Parhau mae’r
rhannu gwybodaeth. Parhau mae’r darganfod.
Yn ôl at ein taith gerdded ddiweddar (Mawrth 1af) y drefn
oedd cael gadael ein ceir ym maes parcio Plas yn Rhiw a cherdded fyny’r allt am
Eglwys Sant Aelrhiw gan groesi wedyn draw am gopa Mynydd Rhiw. Cyn cyrraedd yr
eglwys rhaid oedd cyfeirio at gromlech Tan y Muriau wrth fynd heibio giat y
tyddyn, ond doedd amser ddim yn caniatau i ni gerdded draw. A dweud y gwir
doeddwn ddim yn rhy sicr os oedd ganddom ddigon o amser i gynnwys Ffynnon
Aelrhiw gan fod cymaint o waith dringo o’n blaen.
Beth am bleidlais? Unfrydol! Roedd pawb am ymweld a’r
ffynnon, nifer rioed di bod yno o’r blaen felly pleser mawr oedd cael cynnwys y
ffynnon fel rhan o’n taith gerdded. Ysgogodd yr ymweliad a’r ffynnon a’r
fynwent sgwrs am darddiad yr enw ‘Aelrhiw’. Y Rhiw yw’r pentref. Sant Aelrhiw
sy’n rhoi ei enw i’r ffynnon a’r eglwys. Ond mae amheuaeth os mai Aelrhiw oedd enw
y sant o gwbl. Beth yn union yw tarddiad yr enw?
‘Ael’ yw pen y bryn, ‘brow’ yn Saesneg. A’i disgrifiad sydd
yma felly yn hytrach nac enw personol? Oes unrhyw bosibilrwydd fod y lleoliad
yn ael y rhiw neu pen yr allt? Cwestwin yn unig. Does dim syniad genny fond
mae’n werth rhannu hyn hefo darllenwyr Llafar Gwlad. Yn y byd Archaeoleg mae’n
bwysig iawn fod yn barod i gydnabod na’d yw rhywun yn gwybod yr ateb bob amser.
Fy ymateb bob tro yw – “cwestiwn da – dwi ddim yn gwybod yr ateb!”.
Un o ryfeddodau Mynydd Rhiw yw fod yma ddwy ffynnon
sanctaidd ar lwybr y pererinion. Rydym newydd grybwyll Ffynnon Aelrhiw, ychydig
i’r de o’r fynwent. Cawn hyd i’r ail ffynnon, Ffynnon Saint rhyw filltir i’r
dwyrain, eto ar y llethr ond yn agosach i Bron Llwyd uwchben Porth Neigwl.
Mae’r ddwy ffynnon wedi gweld gwaith adfer gyda waliau cerrig y neu hamgylchu.
Mae ychydig mwy o waith cerdded er mwyn cyrraedd Ffynnon
Saint ond mae lleoliad y ffynnon ei hyn yn gwneud yr ymdrech yn un werth
chweil. Gallwn sgwennu llawer llawer mwy am nodweddion archaeolegol Mynydd
Rhiw. Mae yna gyfoeth o olion yma. O ran tirwedd ac o ran mynd am dro ac i
gerdded dyma dirwedd lle mae rhywun yn gallu wirioneddol deimlo fod rhywun yn
cerdded yn ôl mewn amser.
Ffynnon Saint
Ffynnon Aelrhiw