Gyda fy nheulu ochr fy nhad yn hanu o lethrau Mynydd
Cilgwyn (Dyffryn Nantlle) ddigon naturiol fod y mynydd bach yma 345.8 medr uwch
y môr yn agos i fy nghalon. Ganed fy nhad yn 1932 yn nhyddyn Penffynnonwen,
adfail bellach, i deulu o chwarelwyr (Cilgwyn a Pen yr Orsedd) ochr fy nain.
Saif Penffynnonwen ar lethrau deheuol Cilgwyn – yn edrych dros y ‘dump’ – y domen
sbwriel gaeëdig bellach. Pencilan ar ochr orllewinol y mynydd, yn edrych draw
dros Yr Eifl, oedd cartref fy nhaid a hen daid – y ddau yn Morgan Thomas.
Cymerodd fy hen daid ei fywyd drwy foddi yn Llyn Cob
ar ochr ddwyreiniol Cilgwyn. Chwarelwr tlawd, yn diddoef o iselder. Cafodd ei
ganfod yn farw gan ei fab Morgan (fy nhaid). Bywyd caled. Storiau mor ‘fyw’ a
rhai Kate Roberts a adroddwyd i ni fel plant er fod yr hunan-laddiad yn tabŵ i
rhai yn y teulu. Roedd fy nhad ddigon hapus i son am Llyn Cob a’i daid pob tro
roeddem fyny yno fel plant i edrych am benbyliaid. Fe ddigwyddodd yr un peth ar
ôl i ni fabwysiadu’r hogia – mynd fyny i Llyn Cob hefo ‘taid’ a hogia ’mrawd –
chwilio am benbyliaid.
Stori arall oedd yn cael ei adrodd gan fy nhad yn
rheolaidd oedd yr un am chwarelwyr y Cilgwyn yn dymchwel wal Argwydd Newborough
(Stad Glynllifon) wrth iddo geisio cipio tir comin Cilgwyn. Y wal yn cael ei chodi yn ddyddiol gan weithwyr y Stad a’r chwarelwyr
wedyn yn ei dymchwel gyda’r nos ar eu ffordd adra o’r chwarel. Mae’r stori yma
yn llyfrau fy ewythr, y diweddar Dewi Tomos, Llechi Lleu a’r diweddariad
o fath Chwareli Dyffryn Nantlle.
Mae'r wal ddrylliedig yno
hyd heddiw ar ochr ddeheuol Mynydd Cilgwyn a mae'n debyg fod rhai darnau o'r
wal wedi ei glirio yn llwyr rhag i Newborough allu dadlau ei fod wedi
amgylchynnu'r tir comin. Ac er ymdrechion gwrol y werin chwarelwyr i atal
ymdrechion Newborough mae’n debyg y trechwyd cais Newborough am gau'r tir comin
yn derfynnol yn San Steffan gan berchennog Chwarel Penyrorsedd, sef Arglwydd
Dinorben o Barc Cinmel, a oedd gyda diddordebau ei hun ac yn ofni colli tir
Comin Nantlle.
Fe sgwennais sawl erthygl
am Cilgwyn a hanes y wal yn ystod fy nghyfnod yn sgwennu colofn ar gyfer yr
Herald Gymraeg. Mae rhain wedi eu uwchlwytho i’r blog Thoughts of Chairman
Mwyn.
Dringo
i gopa Cilgwyn oedd yr antur arall. Un hawdd gan mai ond ychydig dros dri chant
medr o uchder yw’r mynydd, ond un gwerth chweil gan fod golygfeydd 360˚ o’r
copa – dros Yr Eifl, dros y Fenai a Môn a thua copaon Mynydd Mawr a Chrib
Nantlle.
Ar y copa cawn hyd i garnedd gladdu Oes Efydd, neu
oleiaf safle carnedd Oes Efydd gan fod y garnedd ei hyn wedi cael ei godi a’i
ddymchwel droeon dros y canrifoedd. Cawn gofnod yn 1863 o ‘Bedd Twrog … a
circular carnedd on the higher portion of the parish on the road to Cilgwyn
Slate Quarry’. Cawn gofnod arall yn 1872 o ‘gromlech’ mewn cae o’r enw ‘Ty’r
Nant’ a fod y garnedd gron (gyda 24 o feini) yn sefyll yn agos i’r gromlech.
Gall fod y cyfeiriadau hanesyddol yn son am yr un
lleoliad er mae’n od fod cofnod 1872 yn cyfeirio at garnedd ‘gyfagos’. Ond
safleoedd claddu hynafol fydda’r gromlech a’r garnedd, y gyntaf yn perthyn i’r
Neolithig a’r olaf o’r Oes Efydd. Onibai fod rhywun wedi ymweld a nodi dau
heneb arwahan mae’n debygol iawn mai y garnedd sydd dan sylw. Gwelir ddigon o
feini o amgylch y mynydd, ddigon hawdd dychmygu fod rhain yn weddillion
‘cromlech’. Ond slabiau o gerrig naturiol yw rhain.
Does dim tystiolaeth pendant fod cromlech wedi sefyll
ar fynydd Cilgwyn a doedd dim awgrym o gofadail o’r fath ar y mynydd pan
archwilwyd y safle yn 2002 gan yr archaeolegydd George Smith. Cofnodir popeth
ar archwilio.org sef y cofnod o henebion a’r amgylchedd hanesyddol hyd yn oed
os nad oes unrhywbeth i’w weld heddiw.
Un a greodd gysylltiad rhwng y garnedd a ‘Bedd Twrog’
oedd y Tad Demitrius. Bu’r Tad Demitrius yn gyfrifol am ychwanegiadau ‘pensaerniol’
i Gapel Cilgwyn a Chapel Batus yng Ngharmel (sydd wedi ei ail enwi yn Fynachdy
Sant Ioan ganddo). Yn sicr oddeutu 2012 roedd y Tad wedi codi llechan yn
coffhau safle Bedd Twrog ar gopa Mynydd Cilgwyn. Erbyn heddiw mae’r llechan yna
wedi ei chwalu.
Tua’r un adeg fe ail-godwyd y garnedd. Rhoddwyd llwybr
o frics yn arwain at ganol y garnedd. Ail-godwyd y cerrig o amgylch y cylch a
gosodwyd cerrig gwynion mân o fewn y garnedd. Dyma ymdrech i ‘greu’ bedd
teilwng ar gyfer Sant Twrog. Bydda’r archaeolegydd ynof yn herio hyn fel
ail-greu hanes – rhywbeth ffug a di-sail. Ar ei waethaf roedd yr ymyraeth yma
a’r garnedd yn effeithio ar os nad yn dinistrio rhan o’r heneb Oes Efydd. Nid
yw carnedd Mynydd Cilgwyn wedi ei restru fel heneb hynafod i’w warchod felly
does dim rhwystr cyfreithiol rhag ei newid.
Eleni cafodd y garnedd ei chwalu’n rhacs. Mae rhan
fwyaf o’r cerrig bach oedd yn rhan o’r cylch wedi eu taflu o amgylch copa’r
mynydd ond yr hyn sydd mwyaf od yw fod y cerrig mawrion wedi eu pentyrru rhuw
3-4 medr i’r de o’r garnedd. Pwy fydda yn gwneud hyn? Ac i ba bwrpas? Holais y
cwestiwn ar dudlaen Facebook Coleg Carmel. Paratois adroddiad byr ar gyfer
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd sydd wedi nodi’r newidiadau ar gofnod
Archwilio.org.
Felly nid yw pethau yn aros yr un fath am byth. Nid
peth statig na saff yw’r garnedd ar ben Mynydd Cilgwyn ond stori a hanes sydd
yn parhau i newid a datblygu gyda threigl amser. Dwi ddim yn siwr beth i feddwl
gan mai ffug oedd y cysylltiad Twrog on dos oedd carnedd Oes Efydd yma dyma
biti maw rei fod wedi ei ddinistrio.