Aber yr afon Tawe sydd yn rhoi ystyr i’r enw Abertawe ond
mewn gwirionedd mae tref Abertawe a phenryn Gŵyr yn cael eu diffinio gan ddwy
afon, y Llwchwr i’r gorllewin a’r Tawe i’r dwyrain a’r môr wedyn i’r de. Er mor
fywiog yw’r ddadl ynglyn ac enwau lleoedd Saesneg yng Nghymru mae’n debyg mai
Swansea neu Sweynesse oedd yr enw gwreiddiol ar yr aneddiad yn Abertawe.
A nid enw Seisnig mo hwnnw chwaith gan mai tarddiad Llychlynaidd neu
Sgandinafaidd sydd i’r enw.
Un ddamcaniaeth yw fod yma safle masnachu Llychlynaidd a
fod yr enw yn deillio o’r Hen Norwyeg am aber neu ynys, sef Sveinsey. Damcaniaeth
arall yw fod y lle wedi ei enwi ar ôl Brenin Sweyn Forkbeard (Brenin Denmarc
rhwng 966-1044). Fe all fod y mornant wedi ei henwi ar ôl Sweyn a throi felly
yn Sewyney neu Fornant Sweyn.
Beth bynnag yw gwir darddiad yr enw Swansea, mae Sweynesse
yn ymddangos mewn Siarter sydd yn dyddio o’r 12fed ganrif yn rhoi hawliau
bwrdeistref i’r dref Normanaidd ac yn 1215 mae siarter gan y Brenin John yn
cyfeirio at Sweyneshe.
Does dim tystiolaeth uniongyrchol archaeolegol fod y
Llychlynwyr wedi ymgartrefu yn Abertawe. Does dim adeilad gennym nac olion
eraill pendant. Ond byddai’r Llychlynwyr wedi hwylio draw o Iwerddon tuag at
Bryste wrth fasnachu. Roedd trefi Llychlynaidd wedi eu sefydlu yn Nulyn,
Waterford, Wexford a Cork a byddai aber yr afon Tawe wedi bod yn harbwr diogel
amlwg wrth iddynt hwylio am yr Hafren.
Ceir crynodeb ddifyr o’r posibiliadau uchod gan Holmes a
Lilley ar wefan medievalswansea.ac.uk gan drafod dogfennau Gwyddelig
sydd yn son am fasnach a Chymru, yn enwedig am geffylau. Cymherir cynllun yr
hen dref yn Abertawe hefo cynllun tref Llychlynaidd Limerick gan awgrymu fod y
strydoedd sydd yn rhedeg yn gyfochrog a glannau’r afon yn nodweddiadol
Llychlynaidd. Diddorol ac yn sicr werth ei drafod ond tydi hyn ddim yn sicr heb
ddarganfod olion a gwrthrychau Llychlynaidd yn Abertawe – a bydda rhaid i hynny
fod cyn sefydlu y dref Normanaidd,
Awgrymir ar safle we Archwilio.org (sef y cofnod
archaeolegol dan ofal yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol yng Nghymru), fod yna
bosibilrwydd fod Abertawe yn safle masnachu yn ystod y 9fed-10fed ganrif. Ond,
wrth roi’r cyfnod
Oesoedd Canol Cynnar yn y blwch chwilio does fawr mwy na safloeodd Cristnogol
cynnar ac ambell gaer ôl-Rufeinig yn ymddangos. Wrth reswm mae rhain oll yn
safleoedd pwysig ond does dim yma yn cadarnhau cysylltiadau Llychlynaidd.
Ceir drafodaeth faith am hyn gan Mark Redknap o’r Amgueddfa
Genedlaethol yn ei lyfr gwych ar y Llychlynwyr, (Redknap, M., 2000, Y
Llychlynwyr yng Nghymru, Ymchwil Archaeolegol) ond er gwaetha’r dystiolaeth
o ran enw’r dref does dim awgrym hyd yn oed o wrthrychau Llychlynaidd. Byddai
rhywun yn disgwyl os oedd masnach yn digwydd yn yr ardal yma yn ystod y 9fed a
10fed ganrif y byddai ambell wrthrych wedi ei golli a wedi ei ddarganfod yn
ddiweddar gan un o frawdoliaeth o synhwyrydd metal.
O gymharu wedyn ac ardal Benllech ar arfordir ddwyreiniol
Ynys Môn, mae nifer sylweddol o wrthrychau ac olion archaeolegol yn ymddangos
ar Archwilio yn y cyfnod Llychlynaidd. Cofnodir claddedigaethau
Llychlynaidd bosib ger Benllech (SH 521824) a mae’r aneddle ger fferm y Glyn yn
safle sydd wedi ei archwilio yn fanwl gan Redknap ar ran Amgueddfa Genedlaethol
Cymru. Dehonglir yr aneddle gaerog ger y Glyn fel cartref neu fferm i deulu o
statws uchel ac efallai fel rhyw fath o safle masnach neu ‘trading post’.
Cafwyd hyd i nifer o wrthrychau metal gan gynnwys darnau o arian, botymau a
darnau mesur pwysau yn y caeau o amgylch y Glyn drwy ddefnydd o synhwyrion
metal.
Cefais y fraint a’r pleser o gloddio ar safle’r Glyn hefo
Redknap yn ystod Haf 2012. Roedd y safle yn ‘adnabyddus’ am y ffaith fod
sgerbydau wedi eu darganfod yma mewn cloddiad blaenorol gyda dau gorff penodol
hefo eu dwylo wedi eu clymu o’r tu cefn ac yn ymddangos fel petae rhyw weithred
o ddienyddio wedi cymeryd lle. Chefais ddim fy siomi ac o fewn wythnos o
gloddio cafwyd hyd i sgerbwd arall yn y ffos o amgylch yr aneddle.
Doedd dim awgrym o glymu dwylo y tro yma, ond doedd dim
awgrym chwaith o gladdedigaeth ffurfiol yn y dull Cristnogol. Mewn amser y
gobaith yw bydd canlyniadau DNA efallai yn gallu awgrymu beth oedd tras y
sgerbydau? Roedd yna demtasiwn amlwg i ddychmygu fod y ddau sgerbwd gyda’r
dwylo wedi clymu yn ddau Llychlynwr oedd wedi eu cosbi am ysbeilio Cadeirlan
Bangor yn y flwyddyn 824 oed Crist.(Dychymyg yn unig a dim tystiolaeth). Yn yr
un modd efallai mai drwgweithredwyr brodorol oeddynt a wedi eu cosbi am ddwyn
dafad? (Dychymyg eto).
Treulias peth amser yn fy nghyfnod yn y Glyn yn cloddio’r
domen wastraff, neu ‘midden’ fel mae nhw’n dweud yn y maes Archaeoleg.
Yma cefais hyd i gyllell o’r cyfnod Llychlynaidd. Cyllell ddigon syml yr olwg
ond yr hyn am trawodd yn syth oedd pa mor debyg oedd y gyllell i gyllyll
heddiw. Er fod dros mil o flynyddoedd ers i rhywun ddefnyddio’r gyllell ddwetha
doedd fawr o wahaniaeth gyda’r gyllell ddefnyddiais y bore hwnnw i roi menyn ar
fy toast amser brecwast.
Darganfyddiad arall ‘doniol’ a diddorol gawsom yn y domen
wastraff oedd sgerbwd ci. Mae’n debyg mae ci hynafol o’r un cyfnod a’r aneddle
gaerog oedd y sgerwd yma yn hytrach na ci fferm mwy diweddar.
Rhaid fod yna gysylltiadau Llychlynaidd ac ardal Abertawe a
Gŵyr o ystyried yr enw lle a siawns yn y dyfodol agos bydd mwy o dystiolaeth
archaeolegol cadarn yn dod i’r fei.