Tybiaf fod pob colofnydd yn gobeithio am ‘ymateb’ i unrhyw
erthygl. Efallai fod modd gwthio hyn ymhellach a fod y weithred o ysgrifennu
erthygl bron yn weithred chwyldroadol. Beth yw’r pwynt os nad yw’r erthygl yn
gwneud i bobl feddwl neu ddysgu neu ddarganfod rhywbeth neu rhywle newydd? Ceir
pleser o ddarllen, deallaf hynny yn iawn a bydd y mwyafrif yn fodlon a hynny.
Bydd lleiafrif yn ymateb. A dyna chi beth braf.
Gerallt Pennant oedd ar y ffôn, wedi darllen fy erthygl yn
y rhifyn dwethaf o Llafar Gwlad (149) ac yn benodol gyda gwybodaeth
pellach am ystyr yr enw Rhosbodrual ar gyrion Caernarfon. Atgof plentyn oedd
gan Gerallt fod rhai o is-adeiladau fferm a oedd wedi gweld dyddiau gwell
efallai, yn cael eu cyfeirio atynt fel rhiwal neu hoywal.
Cyfeiriodd Gerallt at Cydymaith Byd Amaeth, Cyfrol 3 gan Huw Jones lle
ceir sawl esboniad i’r enw gan gynnwys amrywiaethau tafodiaethol.
Sied fferm gyda drws agored i ddal wageni ac offer fydda’r hoywal
neu’r hiwal (yr huwal yn Ynys Môn) a mae’n debyg fod elfen o
hyn yn tarddu o’r gair hofel sef adeilad bler. Cawn enw arall gan Huw Jones,
sef hual ar gyfer llyffetheirio neu rwystro anifeiliad rhag grwydro,
ceffylau rhan amla, a hyn fydda’r llyffethair ar y ddwy droed blaen.
Esboniad gwahanol a geir gan Glenda Carr yn Hen Enwau Arfon Llyn ac Eifionnydd (2011) lle mae’r hual yn
loc ar gyfer cadw anifeiliad – yn debygach i ‘animal pound’ yn y Saesneg. Ond
mae’r rhwystr neu ‘restraint’ hefyd yn cael ei grybwyll gan Carr. Rhaid cyfaddef
o ran yr enw Rhosbodrual rwyf yn tueddu at yr esboniad o’r rhos lle cedwir
anifeiliaid. Nid arbenigwr enwau lleoedd mohonnof a thros y blynyddoedd wrth
drafod safleoedd archaeolegol rwyf wedi cal budd mawr o lyfrau fel Enwau
Lleoedd Sir Gaernarfon, J. Lloyd-Jones (1928).
J. Lloyd Jones sydd bennaf
gyfrifol yn fy marn i am ddatrus y cwestiwn sawl ‘C’ sydd yn Cricieth /
Criccieth gan ddateglu mae tarddiad yr enw yw’r crug-geith neu’r graig gaeth.
Dwy ‘G’ sydd i fod yn Cricieth felly a dyna ddiwedd ar y ddadl honno!
Crug arall sydd wedi bod o
ddiddordeb i mi yn ddiweddar yw Crug Eryr neu Crugerydd, Llanfihangel-Nant-Melan,
yn yr hen Sir Faesyfed a hen
gantref Cymreig Oesoedd Canol Maelienydd. Rwyf yng nganol ysgrifennu fy
nghyfrol nesa ar archaeoleg de-ddwyrain Cymru ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch ac
yn ceisio canfod safleoedd y cestyll a llysoedd Cymreig. Tydi’r cestyll Cymreig
ddim mor amlwg yma a rhai tywysogion Gwynedd a Deheubarth. Rhaid gwneud llawer
mwy o waith ymchwil ac unwaith eto dyma enwau lleoedd yn rhan hanfodol o’r
broses.
Castell mwnt a beili yw Crugerydd yn y dull Normanaidd sydd
yn cael ei gydnabod / grybwyll fel castell a adeiladwyd gan Cadwallon ap Madog,
tywysog Maelienydd yn y 1150au. Cantref i’r gogledd o Frycheiniog rhwng afonydd
Gwy a’r Hafren oedd Maelienydd. Ymwelodd Gerallt Gymro yn 1188 gan gyfeirio at
y castell fel Crucker Castle. A beth am yr enw, Crugerydd neu Crug Eryr?
Gall fod yr enw yn deillio o domen neu graig / bryncyn yr aradwr neu amaethwr
yn ei ffurf Crugerydd neu fod hwn yn graig yr eryr yn ei ffurff Crug Eryr
Wrth deithio ar yr A44 allan am Llanllieni (Leominster) o
gyfeiriad Rhaeadr a chyn cyrraedd Forest Inn mae’r castell i’w weld ar yr ochr
dde i’r ffordd. Rydym rhyw filltir cyn cyrraedd y gyffordd a’r A481 o
Lanelwedd. Dyma ardal dyffrynnoedd Summerhill Brook ac Afon Arrow a mae’r
castell ei hyn yn rheoli Dyffryn Edw sydd yn tarddu ger Creigiau Llandegley
ychydig i’r gorllewin ac yn un o isafonydd y Gwy.
Mesurai’r mwnt 26m ar draws ac uchder o 4.4m a mae’r buarth
wedyn sydd i’r de-ddwyrain yn mesur 40m ar draws gyda ffosydd amddiffynnol yn
ei amgylchu. Nid yw hwn yn gastell mawr
ond fe atgoffir rhywun o gastell Tomen y Rhodwydd, un o gestyll Owain
Gwynedd ger Llandegla.
Wrth edrych ar enwau lleoedd, mae’n amlwg fod yr elfen
‘llys’ yn ystyriaeth wrth geisio darganfod safleoedd y llysoedd Cymreig. Castell
Bronllys yw un engraifft amlwg, lle cawn gastell Normaniadd ond a oes hanes
Cymreig i’r safle?
O ble daw’r enw Bronllys? Does dim cofnod o’r enw cyn y
13eg ganrif ac er fod ambell drafodaeth wedi bod ynglyn a tharddiad yr enw fel
Llys Brwyn – Brwyn yn enw personol o bosib does fawr o hygrydedd i’r
ddamcaniaeth yma. Cytunaf fod angen cadw meddwl agored a pharodrwydd i drafod
ond does dim tystiolaeth pendant ar hyn o bryd fod llys Cymreig yma ar y safle
cyn i Richard fitz Pons godi ei gastell mwnt a beili ar ddiwedd yr 11eg ganrif
neu ddechrau’r 12fed ganrif.
Byddai Bronllys oddi fewn i gantref Selyf yn nheyrnas
Brycheiniog fyddai hefyd yn cynnwys cantrefi Talgarth a Chantref Mawr, felly
dyma chi y posibilrwydd o dri lleoliad llys gwahanol. Efallai ei bod yn anodd
ar hyn o bryd gwneud y cysylltiad Cymreig yng nghastell Bronllys ond mae’n
safle hawdd i’w gyrraedd a’r ymyl y A479 a pharcio cyfleus a mae’r tŵr crwn
werth ei weld. Atgoffir rhywun o dŵr crwn castell Dolbadarn gyda’r wal yn
ymestyn allan, sef y batter, yn atgyfnerthu gwaelod yr adeilad.
Ysgrifennais am ddylanwad y cestyll Normanaidd ar gestyll Llywelyn ab Iorwerth
yn Cam i’r Deheubarth (Pennod 10). Heb os mae tebygrwydd yn
arddul tyrau fel Wakefield, Penfro a Bronllys a gorthwr Llywelyn yn Nolbadarn.
Castell mwnt a beili o bren a phridd oedd yma yn wreiddiol
a mae ardal y beili neu’r buarth bellach ar dir preifat felly does dim modd ei
weld. Walter III a briododd un o ferched Llywelyn ab Iorwerth sydd mwyaf
tebygol gyfrifol am godi’r tŵr carreg yma. Felly o bell dyma ni y cysylltiad
Cymreig – roedd un o ferched Llywelyn yn byw yma. Priodas wleidyddol dybiwn’i
rhwng y Normainiaid a thywysogion Gwynedd. Druan ohonni. Cefnodd Walter ar
Llywelyn yn ddiweddarach gan ochri gyda Harri III.
Atgyfnerthwyd castell Bronllys yn ystod gwrthryfel Glyndŵr
er mwyn gwrthsefyll y Cymry. Roedd cryn gefnogaeth i Glyndŵr yn yr aradl mae’n
debyg a fel cymaint o gestyll arall doedd fawr o bwrpas na galw amdanynt gyda
dyfodiad y Tuduriaid.
Canlyniad y gwaith ymchwil diweddar yw sylweddoli fod enwau
lleoedd yn ystyriaeth bwysig os nad hanfodol wrth geisio dehongli archaeoleg a
hanes Cymru a tydi’r ateb ddim bob amser yn amlwg nac yn hawdd i’w ganfod.