Saturday, 22 August 2020

Enwau Lleoedd ar Hyd Afonydd Caernarfon, Llafar Gwlad 149

 



Fel oedd y ‘Lockdown’ yn dechrau ddiwedd Mawrth roeddwn innau ar fin dechrau sgwennu fy mhedwaredd cyfrol ar archaeoleg Cymru ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch. Y tro yma mae’r gyfrol yn canolbwyntio ar y de-ddwyrain a hen siroedd Maesyfed, Brycheiniog, Morgannwg a Gwent. Er cymaint pryder rhywun (pawb) am eu iechyd a beth fyddai hyd a lled effeithiau Covid-19 roeddwn yn teimlo yn weddol positif y byddai’r cyfnod o orfod aros adre ac ynysu yn gyfle da i gael y maen i’r wal o ran y sgwennu.

Anghywir! Fel cymaint arall, arweiniodd y misoedd cyntaf yna at gyfnodau o or-bryder a methiant llwyr i ganolbwyntio ar unrhyw sgwennu. Rhywsut roedd codi’r bore wedyn yn iach a gwneud yn siwr fod y teulu yn saff – yn enwedig y ddau arddegyn acw yn gymaint ac y gallwn ei gyflawni. Roedd modd mynd allan unwaith y dydd am dro o hyd at awr o gerdded – ac yn sicr dyma oedd yn fy nghadw i fynd. Penderfynais ganolbwyntio ar gerdded o amgylch cyrion Caernarfon lle roedd llai o debygrwydd o weld neb arall.

Wrth droedio llwybrau cyfarwydd dyma ddechrau sylwi ar arwyddbyst llwybrau cyhoeddus eraill – rhai nad oeddwn wedi sylwi arnynt o’r blaen, ac o ganlyniad llwybrau fydda yn newydd i mi. Wrth i’r dyddiau dros yn wythnosau dechreuodd fy ‘ymarfer corff dyddiol’ ddatblygu i fod yn brosiect i ddarganfod llwybrau newydd. Ddigon naturiol i archaeolegydd medda chi, mae’r awch am ddarganfod a dysgu rhywbeth newydd yn gydymaith cyson wrth grwydro.

Adnodd gwych ar gyfer unrhyw ‘daith gerdded’ neu ‘fynd am dro’ yw safle we Archwilio.org gan fod yma gofnod o holl safleoedd ac olion archaeolegol yng Nghymru wedi ei drefnu fesul rhanbarth o ran yr Ymddiriedolaethau archaeolegol. Un o’r llwybrau cyntaf i mi ei ddilyn oedd yr un dros Afon Cadnant o gyfeiriad Maesincla draw am Rhosbodrual. Rhwng Maesincla a Rhosbodrual mae rhyd fechan yn croesi’r afon. Yn yr hen ddyddiau dychmygaf fod tractor yn croesi’r rhyd yn ddyddiol. Fyddwn i ddim yn mentro mewn car.

Ger y rhyd naturiol mae pont droed fechan a hynod sydd yn dyddio i’r 18fed ganrif (SH 491 629). Dyma gyfeirio at Archwilio yn sydun a chael eglurhad mai bwa voussoir sydd yma ar y bont gyda copa o gerrig dros y bwa yn ffurffio’r ail fwa. Diddorol mewn ffordd achos pont droed yw hon, dim mwy, ac eto mae’r nodweddion pensaerniol yn rhoi mymryn o urddas i’r bont. Cysgodir y bont gan goed ac anodd yw cael llun hefo’r haul yn y lle iawn. Dyma le i synfyfyrio ac i wylio dŵr y Cadnant yn rhedeg yn araf deg tuag at Gaernarfon.

Tarddu’r Cadnant i’r de-de-orllewin o bentre Bethel a chawn ffrwd arall yn ymuno o’r gogledd i Bethel. Cofiaf Iwan o’r grwp Cowbois Rhos Botwnnog yn son rhyw dro ar raglen deledu wrth ddisgrifio nodweddion daearyddol Llŷn, fod modd neidio dros y Soch yn hanner uchaf ei chwrs. Onibai am y mieri a’r mwd, bydda’r athletwyr yn ein plith yn neidio’r Cadnant ddigon hawdd hefyd.


Wrth gyrraedd Rhosbodrual ar lôn Llanberis dyma ddod wyneb yn wyneb ac un o ddirgelwch mwyaf enwau lleoedd Cymru. Pawb yn gyfarwydd ac ystyr ‘Rhos’ ac ystyr ‘Bod’ ond be goblyn ydi ‘Rual’ neu ‘rhual’ o bosib. Cofiaf arwain taith gerdded Cymdeithas Edward Llwyd ar hyd yr union lwybr yma rhyw ddwy flynedd yn ôl gan feddwl y byddai rhywun siwr o fod yn gallu datgelu’r ystyr. Hyd yma, yr awgrym gorau yw fod ‘rhual’ yn golygu lloc ar gyfer cadw anifeiliad ond mae sawl un wedi cyfeirio at hual fel rhyw fath o argae (neu sarn neu cob). Rwyf yn ffafrio’r esboniad o’r rhos lle oedd anifeiliaid yn cael eu cadw yn hytrach na unrhyw gysylltiad a’r rhys gerllaw dros y Cadnant?

Gan aros ym myd enwau lleoedd ac ychydig ar hyd y ffordd tuag at Cibyn mae tro bach i’r chwith ar hyd Ffordd Cae Garw. Does dim dadl am ystyr yr enw Cae Garw. Ar ddiwedd y lon fach yma mae rhywun unwaith eto yn yn gorfod croesi’r Cadnant. Ond cyn cyrraedd yr afon mae’r ffordd yn mynd heibio fferm Brynglas ac yn y cae gyferbyn a mynediad y ffarm mae un o ryfeddodau archaeolegol ardal Caernarfon.

Prin iawn yw’r olion ar wyneb y ddaear ond mae’r archaeolegydd craff yn gallu gweld yr olion lleiaf o ddau glawdd ar wyneb y cae. Cornel a dwy ochr gorsaf signal Rufeinig yw rhain (SH 502 634). Rhed y ffordd Rufeinig o Segontium tuag at Caerhun ychydig i’r de rhyw hanner lled cae i ffwrdd. Er fod Ffordd Cae Garw yn hir a syth, rhedeg yn gyfochrog a’r hen ffordd Rufeinig mae’r ffordd a camsyniad yw’r stori leol mai hon oedd yr hen ffordd Rufeinig.

Cloddiwyd yr orsaf signal yn y 1921 gan Mortimer Wheeler, W.J Hemp a Nash-Williams. Dyma chi dri archaeolegydd o fri, bron cystal a chael triawd Penyberth wrthi yn cloddio. Y farn gyffredinol yw fod yr orsaf signal wedi ei lleoli ar gyrion y gaer yn Segontium ac ar hyd y ffordd allan am y dwyrain fel rhyw fath o ragorsaf neu wylfan. Braf fyddai gallu ail-gloddio yma gyda techneegau archaeolegol y 21ain ganrif. Rwyf yn siwr y byddai hyn yn help mawr o ran deal y safle yma yn well.

Gan ddilyn y llwybr troed drwy’r giat mochyn ger Tyddyn Slaters dyma gyrraedd y Cadnant. Golwg ddigon truenus sydd ar yr arwyddbyst llwybr troed a nid hawdd yw cael hyd i’r bont droed dros y Cadnant yng nghanol yr holl goediach. CVhydig sydd yn troedio yma. Rwyf wrth fy modd yn ‘darganfod’ llwybr newydd. Efallai fod y bont bren wedi gweld dyddiau gwell ond eisteddais yma yn yr haul poeth a syllais ar ddwr llonydd y Cadnant – a byddwn wedi gallu ei neidio yn hawdd onibai am y coed.

Daw’r llwybr allan ger fferm Pen y Gelli Isaf a dyma droi yn ôl tuag at Gaernarfon ar hyd ffordd brysur y B4366.  Roedd y llwybr yma werth ei ddarganfod. Afonydd, pontydd ac archaeoleg. Perffaith.