Rhai blynyddoedd yn ôl pan roedd y pedwar ohonnom (Bethan,
Bethan ac Angharad) yn cyfrannu ar yr un pyd i’r Herald, hynny yw yn wythnosol,
fe ddatblygodd rhyw sgwrs barhaol am gaffis bach da yng ngogledd Cymru. Yn aml
byddai un ohonnom yn sgwennu am ein profiad mewn rhyw gaffi neu’i gilydd a
bydda hynny wedyn yn ysbrodoli colofn bellach yn fuan wedyn gan rhywun arall.
Rwyf yn colli’r dyddia yna dan olygyddiaeth Tudur Huws
Jones a’r pump ohonnom yn mynd am dro gyda’n gilydd gan ddewis caffi ar gyfer
cinio a wedyn sgwennu ‘Taste Test’ ar gyfer y Daily Post. Dyddiau da – ond dyna
fo mae pethau yn newid.
Rhyw atgof felly gefais wrth gerdded mewn i Siop a Caffi Y
Garreg yn Llanfrothen wythnos dwetha. Cerddais i mewn am 1pm. Roedd y lle yn
orlawn. Dim bwrdd na sedd sbar. Roedd mamau gyda babanod yn brysur yn bwydo eu
plant tra’n cynnal sgwrs am hyn a llall. Hipstyrs barfog hefo Apple Macs yn
brysur yn gweithio. Eraill yn darllen y Guardian. Eraill yn mwynhau eu bwyd.
Go iawn gallwn fod wedi cerdded mewn i gaffi ’cool’ yn Greenwich
Village, Hoxton neu Bold Street yn Lerpwl. Y gwahaniaeth amlwg oedd yr iaith
Gymraeg. Ond fel arall roedd hwn y gaffi clud, bywiog - a caenuon Cymraeg yn
cael eu chwarae yn y cefndir.
Holais ‘Chef’ pryd oedda nhw yn stopio gwneud bwyd a gan
fod awr a hanner arall i fynd, penderfynais fynd am dro o amgylch Llanfrothen a
gadael i’r lle wagio ychydig. Diflas a thywyll oedd y tywydd. Y glaw yn disgyn
heb fod rhy drwm ond yn ddigon i wlychu. Trowsus tywydd gwlyb a chot law amdani
a dyma fynd draw am Frondanw. Chydig bach o Clough Williams-Ellis cyn cinio.
Cerddias heibio’r porthdy a’r bwa ‘CWE’ ar ffordd Croesor
tuag at Brondanw a wedyn i fyny’r llwybr heibio gweddillion yr hen chwarael
sydd wedi ei dirweddu yn raeadr gan Clough gan anelu am Dŵr Llanfrothem,
Adeiladwyd oddeutu 1920 gan Clough – ffug-gastell neu ffug-dŵr. ‘Folly’ yw’r
term pensaerniol yn Saesneg. Er fod Clough yn sicr yn egsentrig tydi’r weithred
o adeiladu ffug-gestyll ddim yn ffolineb chwaith.
Ymdebygai dŵr Clough yn Llanfrothen i Gastell Dolwyddelan a
ffug-dŵr Willoughby de
Eresby. Ychwanegodd de Eresby drydydd llawr i dŵr
Llywelyn ab Iorwerth yn Nolwyddelan gan greu argraff a naws fwy rhamantaidd i’r
castell na’r deulawr ymarferol oedd gan dywysogion Gwynedd. Rhyw fath o ‘mini-me
Dolwyddelan’ – sgwn’I os mai dyna oedd gweledigaeth a bwriad Clough?
Beth bynnag oedd gweledigaeth Clough roedd o yn
chwarae hefo pobl – mae o dal i neud. O amgylch y dirwedd mae colofnau a darnau
o gelf glasfaen a melyn nodweddiadol Clough. Rhyfedd. Allan o le. Ac eto – dyma
Clough yn chwarae hefo ni – darn o gelf yng nghornel cae. Rwyf wrth fy modd.
Awr yn ddiweddarach mae seddau gwag yn ‘Caffi Y Garreg’.
Awyrgylch hamddenol, groesawgwr. Cefn-gwlad. Mynyddig. Eryri. Rwyf yn parhau i fod
wrth fy modd a bellach yn fwy na pharod am damai i’w fwyta. Astudiais y fwydlen
a chytuno mai ŵy wedi potsio gyda afocado fyddai’r boi. Cefais fy ŵy ac afocado
wedi malu ar surdoes gyda chipotle aioli gyda dukkah Persaidd a marmite. Blasus
iawn. Profiad hyd yn oed. Pot o de wrth ymyl a reoddwn yn ddyn hapus iawn.
Y rheswm go iawn dros fy ymweliad a Chaffi Y Garreg
oedd i weld arddangosfa o bosteri gwleidyddol gan y dylunwyr graffeg Ffwligans.
Bu Eirlys yn sgwrsio hefo ni ar y sioe radio am hyn yn ddiweddar. Wrth gyfeirio
at y posteri fel rhai ‘gwleidyddol’, mae Ffwligans wedi addasu delwedd Angela Davis
er engraifft ar gyfer un poster gan ddatgan ‘Amser Cychwyn Chwyldro’
Gwelwn Angela Davis mewn gwisg Gymreig. Cyfuniad o
ddelwedd y Black Panthers a Black Power wedi ei drawsblannu i Lanfrothen.
Delwedd Buddug (Boudicca) yw un arall a ddefnyddir gan Ffwligans. Boudicca oedd
arweinydd llwyth yr Iceni yn y cyfnod Rhufeinig - sef ardal Norfolk heddiw. Fuodd
Boudicca rioed i Gymru fel da ni yn adnabod ffiniau heddiw ond dio’m ots, mae
hi wedi ei mabwysiadu fel arwres gan y Cymry, y Celtiaid ac unrhyw Geltiaid
sydd dal yn Lloegr.
Felly os mai cyfuniad o gelf a phryd da o fwyd yw eich
dileit – ewch draw am Lanfrothen. Yn ystod mis Chwefror bydd Gŵyl Gwrthsafiad
yn cael ei gynnal yn Oriel Croesor a mae arddangosfa Ffwligans fel rhyw fath o
ragflas o’r hyn sydd i ddod. Bydd Gwenan Gibbard fyny yng Nghroesor yn trafod ‘Merched
y Chwyldro - y genod rhyfeddol a oedd ar flaen y gâd canu pop yn y 1960au, mi
fydd twm Morus a Gwyneth Glyn yno, Mr Phormula a Bardd a llawer llawer mwy.
Cyfeirias yn gynharach at Greenwich Village, Hoxton a
Lerpwl ond mae’r chwyldro yn digwydd yng Nghroesor a Llanfrothen. Gwych o beth –
datganoli celfyddydola diwylliannol. Flynyddoedd yn ôl soniais am ‘Llanfrothen
chic’ mewn erthygl wrth drafod fod pawb yn Llanfrothen yn barod i gerdded
mynydd. Da o beth yw hyn. Da o beth fod cefn gwlad Cymru yr un mor hip ac
unrhyw dref. Efallai yn fwy hip!