Cors y Bryniau
Ar lethrau deheuol Mynydd Cilgwyn cafodd nifer o fy nheulu
eu geni. Bellach dim ond adfail yw Pen-ffynnon-wen, roedd yn adfail cyn fy
ngeni yn 1962. Chefais i rioed eistedd wrth y lle tân na chael bechdan jam gan
Nain yn Pen-ffynnon-wen. Welais i rioed y tŷ gyda to. Adeiladwyd y pedwar
bwthyn un llawr yn y cyfnod 1840-1889.
Byddaf yn rhedeg neu gerdded heibio yn aml. Mae ‘lap bach
sydun’ o Fynydd Cilgwyn – o Garmel, heibio Capel Cilgwyn (Annibynnwyr) – a draw
at Fron heibio Tai Bryntwrog a lawr yn nol ar hyd y ffordd i Garmel yn gwneud
rhyw 30-45 munud o be dwi’n alw yn ‘awyr iach’. Cerdded yn gyflym neu mynd am ‘jog’.
Llewni’r ysgyfaint hefo awyr iach Dyffryn Nantlle.
Wrth groesi draw am Fron rwyf yn camu dros yr hen drac gwastraff
sydd ar ffurf pedol. (Dwy bedol i fod yn fanwl gywir). Yn wreiddiol roedd y domen llechi o Chwarael
Cilgwyn ar y llethrau i lawr am y dyffryn ond buan iawn bu iddynt lenwi’r gofod
yna. Bu tomen arall peth pellter i’r gorllewin ger y ffordd am y ‘dump sbwrieil’
ddiweddar – mae’r domen llechi hon bellach wedi ei chlirio a’i thirweddu.
Rhedeg i’r gogledd oedd y trac pedol – o’r chwarael i ochr
ogleddol y ffordd bresenol am Fron o Garmel. O’r awyr mae’r tomeni llechi yn
creu ffurfiau blodeuog. Gan fod y llechi yn gorwedd yn naturiol wrth ddisgyn –
dyma greu ffurfiau naturiol – ffurfiau naturiol hardd.
O’r awyr mae’n haws gwerthfawrogi’r ffurfiau ar y ddaear.
Gall rhywun ddilyn y trac pedol yn hawdd drwy ddefnyddio safle Archwilio – sef cofnodion
archaeolegol Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd. Fe wnaiff Google Earth yr un
tric ond heb y wybodaeth cefndir.
O’r Fron mae’r llwybr yn arwain am chwarel Moel Tryfan a
chopa Mynydd Foel / Moel Tryfan. Wrth fynd heibio twll Chwarae Braich a chadw i’r
dde (ochr ddwyreiniol) mae rhywun yn dilyn llwybr gyda ffens crawiau – sef slabiau
amrwd o lechi unionsyth.
Wrth gyrraedd chwarae Moel Tryfan mae sawl dewis go iawn.
Dilyn y ffordd chwarel i grombil chwarel Alexanda / Cors y Bryniau. Mewn a chi i’r
twll a rhyfeddu a’r faint y chwarael hon. Cerddwch ymlaen a fe ddowch allan ar
ochr ogleddol y chwarel a dilyn cwrs yr hen lein rheilffordd wedyn o amgylch
ochr ogleddol Moel Tryfan gyda golygfeydd bendigedig dros Ynys Môn.
Anoddach i’w ganfod yw’r ‘llwybr’ dros y domen llechi sydd
yn arwain at lwybr i’r copa. Rhaid edrych lle mae pobl di bod yn cerdded – a fe
welwch y ‘stepiau’ mae pobl yn ddefnyddio i groesi’r domen – rhyw 10 medr yw’r
cyfan cyn cyrraedd y llwybr mynydd gyda creigiau Moel Tryfan o’ch blaen.
Mynydd Foel medda nhw yn lleol. I’r de rydym yn edrych i gyfeiriad
mynydd arall hefo sawl enw: Mynydd Mawr, Mynydd Grug a hyd yn oed Mynydd
Eliffant gan rai. O gopa Mynydd Foel rydym yn gallu edrych 360°, mae golygfa i bob
cyfeiriad – draw am Lŷn a’r Eifl i’r gorllewin, Crib Nantlle i’r de, Moel Eilio
i’r dwyrain, Môn i’r gogledd. Caernarfon a’r Fenai yn glir.
Yn y flwyddyn 1842 bu Charles Darwin ar y copa – sydd yn
sefyll 427medr uwch y môr. Y ddadl fawr ar y pryd oedd rhwng y rhai oedd yn credu
fod y dyddodion cregyn a ganfuwyd ar ymylon chwarae Cors y Bryniau yn ganlyniad
i lifogydd Beiblaidd a’r wyddoniaeth newydd a gredai mai dyddodion o ganlyniad i
rewliafiant oeddynt.
Bellach rydym yn gwybod mai dau rewlif yn brwydro yn erbyn
eu gilydd, oddeutu 20-30,000 o flynyddoedd yn ôl oedd yn gyfrifol am y gwaddol
o waelod Mor Iwerddon a’r clai a cherrig a adawyd ar ben yr haenau o’r mor
ychydig yn ddiweddarach. Canlyniad y broses rhewlifol felly yw’r dirwedd ar
Foel Tyrfan. Efallai fod Darwin wedi ymweld a Mynydd Foel ond fuodd Noa a’i arch
rioed yn nofio yma.
O dan y gwaddoidion rhewlifol cawn hyd i’r lechan biws sydd
mor nodweddiadol o ardal Cilgwyn. Ar gopa Moel Tryfan cawn hyd i rhywbeth arall
rhyfeddol. Wrth gerdded o amgylch y creigiau ar gopa Moel Tryfan mae’n hawdd
iawn sylwi fod y graig wedi ei chyfansoddio o gerrig man a cherrig crwn llai.
Craig gyfansawdd Cilgwyn yw hwn – ‘conglomerate’ yn Saesneg.
Craig gyfansawdd Cilgwyn
Rydym yn neidio o chwarel i Darwin yma. O archaeoleg
diwydiannol i ddaeareg. ‘O Gors y Bryniau’ oedd un o nofelau Kate Roberts oedd
yn byw islaw’r mynydd yng Nghae Gors, Rhosgadfan, tafliad carreg o’r chwarel.
Does dim modd osgoi y ffaith fod crwydro’r darn yma o Arfon yn fodd o gyffwrdd
sawl disgyblaeth – a hynny o fewn llai nac awr o gerdded.
A felly ddylia hi fod. Gwerthfawrogi’r lle, y darn bach yma
uwch Ddyffryn Nantlle yw’r holl bwynt ynde. Cawn chwerthin fod yr ardaloedd
diwydiannol yma wedi eu cadw tu allan i’r Parc Cenedlaethol pan osodwyd y
ffiniau yn y 1950au. Rhy hull, rhy ôl-ddiwydiannol. Does dim harddwch mewn
tomeni llechi. Anghytunaf. Mae harddwch eithriadol yma.
Cyfuniad o effaith rhewlifiant a llaw dyn yn taro mewn
ergyd ar lethrau Moel Tryfan ac yn dod i’r amlwg ar ochrau chwarae Cors y
Bryniau. Da iawn medda ni fod y chwaraelwyr wedi adnabod a sylwi ar yr haenau o
gregyn gan ganitau i Mr Darwin wedyn ddamcaniaethu.
Wrth gerdded Mynydd Foel yn ddiweddar yn yr eira a rhoi
ambell lun a’r Facebook, rhyfeddais faint oedd yn meddwl fy mod ar gopa Tryfan,
Dyffryn Ogwen yn y fath dywydd.Efallai fod wedll cyfeirio at Mynydd Foel felly.