Credaf fod y
rhan fwyaf ohonnom yn gobeithio nad ydym yn rhy rhagfarnllyd. Yn sgil tŵf
rhagfarnau amlwg UKip, rydym nawr yn gallu diffinio ein gwleidyddiaeth mewn dau
ffordd pendant. Yr amlwg, ein safbwyntiau ar Gymru a’r Iaith Gymraeg, cenedletholdeb,
annibynniaeth a’r holl bethau yna sydd yn ein effeithio / poeni fel Cymry
Cymraeg. Ond wedyn oherwydd UKip, rydym nawr yn diffinio ein gwleidyddiaeth fel
beth da ni ddim yn gredu ynddo.
Felly
yn y gobaith nad wyf yn hiliol, homoffobig,”little Englander” (amhosib fel
Cymro) awgrymaf yn garedig mae’r unig ddau beth da am Mr Farrage yw ei fod (fel
Thatcher gynt) wedi rhoi rhywbeth i ni wrthwynebu yn angerddol a hefyd (er yn
anfwriadol) mae’r gwynt wedi diflannu o hwyliau Mr Griffin yntydi ! Sylwer fod
y gwirioneddol rhagfarnllyd o hyd yn dweud pethau fel “dwi ddim yn hiliol ond
…….”, neu “dwi ddim yn homoffobig ond ……..”.
Gadewch i mi fod yn glir, dwi ddim
yn rhagfarnllyd ond ….. 1. Rwyf yn cael cryn drafferth gwrando ar gerddoriaeth
gwerin Seisnig, 2. Dwi rioed wedi gallu uniaethu a hipis, 3. Fyddwn i ddim yn
mynd i Glastonbury dros fy nghrogi, 4. Fedra’i ddim gwrando ar rwdlan ar y
cyfryngau, 5 Dwi’n casau “trackies llwyd”, 6. Dwi’n chael hi’n anodd peidio
meddwl am wisg y KKK pob tro dwi’n gweld Gorsedd y Beirdd, 7. Fedrai’ ddim
gwrando ar Eric Clapton (oherywdd y solos heb son am ei gefnogaeth ar un adeg i
Enoch Powell). Ond, ie dyma ni yr ond yma eto, nes i rioed honni bod yn
berffaith.
Dipyn o her personol felly, i beidio
bod yn rhy rhagfarnllyd a sinigaidd, oedd mynychu digwyddiad i ddathlu diwrnod
bryaf y flwyddyn ym Mryn Celli Ddu ar yr 21ain o Ragfyr – digwyddiad wedi ei
drefnu gan Gylch Derwyddon Mon. Hyd yn oed wrth gyrraedd y maes parcio a gweld
pobl yn ymgynyll yn ei gwisgoedd llaes, rhai du, rhai gwyn, roedd yn anodd cadw
tymheredd y gwaed yn isel a pheidio dod allan o’r car a dechrau dadlau.
Rwyf dipyn hŷn nawr, rhydd i bawb ei
ddefodau, dwi ddim am ddadlau hefo nhw, ond rhywben bydd rhaid trio cyfarfod a
rhai o’r derwyddon a chael sgwrs iawn. Rwyf angen deall beth yn union mae nhw’n
gredu – a sut yn union mae nhw wedi cyrraedd Bryn Celli Ddu?
Yr anhawster mawr gennyf yw deall
beth yn union yw’r cysylltiad derwyddol a Bryn Celli Ddu. Codwyd Bryn Celli Ddu
oddeutu 3000 cyn Crist. Does dim dadl o gwbl fod y cofadail wedi ei osod yn
fwriadol fel fod yr haul gyda’r wawr ar hirddydd Haf yn treiddio i mewn i gefn
y siambr gladdu drwy’r cyntedd. Rydym yn derbyn fod yr amaethwyr cynnar, yn y
cyfnod Neolithig, wedi cynllunio llinell y cofadail yma yn ofalus. Ac wrthgwrs
roedd yr haul yn holl bwysig iddynt – heb yr haul does na ddim cnydau, dim bwyd
ar y bwrdd – digon siwr fod elfen o addoli’r haul yn rhan o’u bywyd.
Ond, os oedd Derwyddon ar Ynys Mȏn yn
y canrifoedd cyn Crist, hynny yw cyn Suetonius Paulinus a’i ymosodiad arnynt yn
60/61 oed Crist, mae Bryn Celli Ddu yn dal i ddyddio dros 2500 o flynyddoedd
cyn unrhyw dderwydd. Rydym ni, heddiw yn 2014, yn agosach mewn amser i’r
derwyddon na’r amaethwyr cynnar a gododd y siambr gladdu.
Amhosib yw gwybod yn union beth oedd
defodau’r amaethwyr cynnar yn y bedwaredd a thrydedd mileniwm cyn Crist, ac
heblaw am propaganda Rhufeinig haneswyr fel Tacitus, Caesar a Ptolemy does dim
tystiolaeth ‘archaeolegol’ wedi goroesi i ategu unrhyw hanes na’r mannau
sanctaidd oedd yn cael eu defnyddio gan y derwyddon. Yr unig safle ar Fȏn go
iawn lle mae tystiolaeth o offrymu i’r ‘llyn sanctaidd’ yw safle Llyn Cerrig
Bach – sgwni os oedd hwn yn un o safleoedd y derwyddon?
Disgrifiais y digwyddiad ar y 21ain
ym Mryn Celli fel un ‘diddorol’ ar Facebook. Roedd oddeutu 70 neu fwy o bobl
yno, y mwyafrif yn ymuno mewn cylch oddi fewn i ffȏs y cofadail. Lleiafrif go
iawn oedd yno , fel fi, i weld beth oedd yn mynd ymlaen. Dwi ddim yn amau i rai
o’r derwyddon sylweddoli fy mod yno i weld yn hytrach nac i gymeryd rhan ond
mae’r cofadail yma yn perthyn i mi gymaint a nhw felly – rhydd i bawb fwynhau y
diwrnod yn y ffordd y dymunant.
Eto, a rwyf angen sgwrs hefo’r
derwyddon am hyn, methais a deall beth yn union oedd y cysylltiad Mabinogi a
Bryn Celli Ddu. Clywais son am Lleu a Gwydion yn ystod eu defod. Petawn yn
mynychu gwasanaeth mewn Eglwys mae’n siwr byddwn ar goll hefo rhan helaeth o
hynny hefyd. A phwy sydd wirioneddol ddeall beth oedd yn mynd drwy meddwl Iolo
Morganwg a Chynan yn ddiweddarach? O ddifri, ‘Dawns y Blodau’?
Yn hynny o beth, doedd y derwyddon
yn gwneud ddim drwg, roedd pobl yn mwynhau, roedd y digwyddiad yn denu pobl
draw i Fryn Celli. Ond, gan feddwl am rhywun fel Richard Dawkins, mae hi mor
anodd peidio cwestiynu – beth yn union sydd yn mynd ymlaen? Onid nonsens llwyr
yw’r holl beth? Does dim ateb gennyf go iawn, rwyf angen deall y peth yn well,
ond mae fy holl ragfarnau yn dweud wrthof fod hyn yn gawlach o hyn a llall mewn
crochan, fel unrhyw grefydd, fel unrhyw gylch, fel unrhyw orsedd – mae pobl
angen credu.
Y cwestiwn sylfaenol efallai yw, a
yw y bobl yma yn creu hanes ffug, ac oes ots ?
Ateb hwyr iawn ydy hyn, ond rydw i wedi mwynhau darllen eich sylwadau. Gallaf i 'mond mynegi fy marn fy hun, ond fel un o'r derwyddon, i mi y dathliad yw’r peth pwysig, nid y cred. Mae gen i ffrind o Loegr, anffyddiwr, sy'n disgrifio neo-paganiaeth fel hyn: "like humanism but with better parties!" Siarad yn bersonol, sai’n hoff iawn o ddathlu mewn lleoedd hanesyddol, ond mae safleodd fel Bryn Celli Ddu yn denu pobl at eu gilydd ac yn rhoi ffocws i’r ddathliad. Y peth mwaf pwysig yn neo-derwyddiaeth yw perthynas, neu cyfundeb, gyda’n amgylchedd a gyda’n hanes. Nid creu hanes ffug ydym ni, gan ddathlu ym Mryn Cellli Ddu, ond ceisio cysylltu efo’r tirwedd hanesyddol a chysegredig.
ReplyDelete*mwyaf
DeleteDiolch am adael sylw. Hwyl RM
ReplyDelete