Wednesday 26 September 2012

Santes Julitta Herald Gymraeg 26 Medi 2012



Capel Curig, mae’r enw yn ei hyn yn awgrymu safle eglwys ac yn wir yr eglwys wreiddiol ym mhentref Capel Curig oedd yr eglwys a elwir heddiw yn Eglwys y Santes Julitta. Tybiaf fod yr eglwys fechan hon, yn wir y lleiaf o eglwysi Eryri, yn gyfarwydd iawn i bawb sydd yn teithio heibio Llynnau Mymbyr ar hyd yr A4086. Ond y cwestiwn yw faint sydd wedi cael cyfle i neidio allan o’r car a chael ymwled ar eglwys ?

                Yr ateb mae’n siwr, fel yn fy achos i, ein bod ar garlam, rhy brysur, angen bod yn fan a fan erbyn pryd bynnag, mi alwaf heibio eto, tro nesa ac ymlaen a ni. Ond unwaith eto diolch i gynllun ‘Drysau Agored’ dyma fynd yn unswydd i Capel Curig. Rwan, cyn cychwyn, roeddwn hefyd yn gwybod fod hyn am arwain at banad a chacan yn y caffi rhagorol sydd newydd agor, Caffi Siabod, a dyma chi un arall o’r caffis bach yma yng Ngogledd Cymru sy’n groesawgar, gyda staff Cymraeg lleol ac awyrgylch braf yng nghysgod Moel Siabod.

                Roedd hi’n dywydd garw ddiwrnod ein ymweliad, mor dddrwg fod yr hogia yn penderfynu aros yn y car, ond oleiaf caf ychydig o lonydd felly i fwynhau’r Eglwys hynafol meddyliais. Felly wrth adael y car yn y maes parcio sydd prin ddigon mawr i ddau gar ar y tro dyma redeg yn syth am borth yr Eglwys. Dwi’n ymwybodol fy mod yn son yn aml yn y colofnau yma fod angen dychwelyd i’r fan a fan, ond ar y Sul glawog yma doeddwn i, “Mistar Brwdfrydig” allan ym mhob tywydd, poeni dim am yr oerfel, nac oeddwn wir, doeddwn i ddim am ddechrau darllen y cerrig beddau ac ymlwybro drwy’r glaswellt gwlyb.

                Felly, bydd rhaid dychwelyd i gael gweld carreg fedd Evan Jones, telynor yn nhafarn y Capel Curig Inn am ddauddeg wyth o flynyddoedd a fu farw ym 1832, neu bedd y Fonheddiges Arabella Ward, o Gastell Ward yng Ngogledd Iwerddon a chladdwyd mor bell o gartref. Carreg fedd arall hoffwn ei gweld yw’r un i Leonard Spencer Salt, un o bartneriaid bragdy’r teulu yn Burton on Trent. Collodd Salt ei fywyd mewn damwain dringo ar Lliwedd ym Mis Mawrtg 1910.

                Ni fydd modd gadael y fynwent heb dalu teyrnged chwaith i Evan Roberts, chwaraelwr a anrhydewddwyd gan Brifysgol Bangor am ei waith ym Myd Natur. Mae cofeb arall iddo ar wal yr hen ysgol, sef y ganolfan gymunedol yng Nghapel Curig. Felly yn sicr byddaf yn dychwelyd yma gan obeithio am dywydd fymryn gwell.

                Un o’r manteision mawr gyda cynllun ‘Drysau Agored’ yw fod rhywun yn yr adeilad i’ch croesawu ac yn syth rwyf yn gofyn am eu cymorth, beth sydd yma o ddiddordeb, beth yn union ddyliwn ei weld ? Mae arddangosfa ganddynt yn yr Eglwys yn seiliedig ar hanes “Dwr” yn yr ardal gan ganolbwyntio yn amlwg ar drychineb Eigiau a Dolgarrog ym 1925 pan laddwyd 16 o bobl ym mhentref Dolgarrog. Diddorol hefyd oedd hanes pwerdy Cwm Dyli ac anodd dychmygu fod hyn wedi rhoi pwer i chareli llechi Eryri.

Rhaid canmol yr “arddangosfa”, roedd y byrddau gwybodaeth yn ddealladwy ac yn hynod broffesiynol o ran arddull a chysodi a diddorol hefyd oedd deall fod Cyfeillion Santes Julitta yn paratoi arddangosfa o’r fath yn flynyddol, ac yn ystod 2011 wedi paratoi un ar hanes ‘Yr Ail Ryfel Byd yn Eryri’. Gan gyhoeddi llyfryn i gyd fynd a’r arddangosfa, dyma chi waith gwerthfawr o ran cofnodi a gwaith ymchwil. Yn wir mae olion Ail Ryfel Byd Eryri yn prysur ddod yn obsesiwn newydd i mi ac yn sicr yn destyn “Darlith” mewn rhai misoedd.

Er ei bod yn Eglwys sydd wedi ei datgysegru bellach, mae ambell i wasanaeth yma drwy drwydded, ond go iawn, ymdebygai’r Eglwys fwy i ganolfan gymdeithasol fechan neu rhyw fath o amgueddfa. Er fod y seddau a’r pwlpud wedi goroesi, ac yn wir mae’r elor yn cael ei ddal yn uchel uwch ben y drws, ond ar y cyfan doeddwn ddim yn cael y teimlad o fod mewn eglwys hynafol, dwi ddim yn mynegi barn yma o gwbl, ond dyma oedd fy argraff. Mae’r fynwent yn teimlo’n llawer mwy hynafol, ac mae’r fynwent ar agor bob amser wrthgwrs.


Sylwais fod yr Eglwys ym meddiant copi o lyfr Hughes a North ‘The Old Churches of Snowdonia’ a doedd dim angen perswad arnaf i wario ar yr holl lyfrynnau a gyhoeddwyd gan y Cyfeillion. Bydd yn ddarllen diddorol i mi gan obeithio fod y rhodd fechan yn gymorth i gadw a chynnal yr Eglwys.

O ran nodweddion pensaerniol, mae yma engraifft da iawn o’r cynllun “sgwar dyblyg” sydd yn perthyn i hen eglwysi Eryri, sef fod yr ystafell yn union ddwywaith mwy o ran hyd nac o ran lled ac yn yr engraifft yma does dim cangell wedi ei ychwanegu yn ddiweddarach i ymestyn yr Eglwys er fod capel bach wedi ei ychwanegu ar yr ochr ddeheuol rhywbryd yn ystod yr 16eg Ganrif.

Mae yma hefyd engraifft o’r “bwa seiclopaidd”, sef y capan anferth o lechan uwchben y drws gogleddol gwreiddiol. Gwelir y math yma o fwa mewn tai sydd yn dyddio i’r 16eg a’r 17eg Ganrif. Er mor fach yw’r eglwys, does dim dwy waith y gallai rhywun dreulio awr neu ddwy yn gyfforddus yma rhwng yr eglwys a’r fynwent.

Erbyn hyn mae’r hogia wedi aflonyddu a mae’n amser am banad yn Caffi Siabod. Petae rhaid argymell cacan gallwn wirioneddol ganmol y gacan ffrwchnedd, ddim cystal ac un fy mam, a ddim ddigon “gwlyb” o bosib, ond ar bnawn Sul oer a gwlyb roedd wedi diflannu yn sydun iawn !

 

Hafoty Llansadwrn Herald Gymraeg 19 Medi 2012



Efallai fod rhai o ddarllenwyr yr Herald yn ymwybodol fod Mis Medi yn fis “Drysau Agored”, sef cyfle i gael gweld adeiladau sydd ar y cyfan ddim ar agor i’r cyhoedd fel arfer, er fod eithriadau, lle mae amgueddfeydd ac archifdai er engraifft yn cynnig rhywbeth ychwanegol a chyfleoedd i weld y stordai. Neu ffordd arall o ddweud hyn yw – cyfle da i gael busnesu – ond mewn adeiladau hanesyddol, hen dai ac Eglwysi, pob un yn hynod ddiddorol a felly penwythnos dwetha dyma gymeryd mantais llawn o’r cyfle gan ymweld yn gyntaf ar Eglwys Bresbyteraidd ar y Maes yng Nghaernarfon.

                Diddorol oedd cerdded i mewn i’r Eglwys, a hynny am y tro cyntaf, a sylwi fod eraill yn amlwg yn gwneud yr un peth a fi. Roedd hogyn yna roeddwn yn ei adnabod o ran ei weld a felly dyma ei gyfarch. Dywedodd ei fod yn siomedig iddo golli un o fy nheithiau tywys o amgylch Segontium ar ran CADW yr Haf yma a dyma sylweddoli fod cymaint o bobl, efallai o dan y radar o ran Cymdeithasau Hanes a Llen sydd yn ymddiddori mewn hanes. Yr anweledig.

                Yn wir dros yr Haf cefais nifer o “Cofis go iawn” yn ymuno a mi o amgylch Segontium, pobl leol, Cymry Cymraeg, pobl oedd yn gwybod llawer o hanes achos roedd eu teuluoedd yn hen deulu o Gofis, wedi byw yng Nghaernarfon ers blynyddoedd maith. Dysgais innau cymaint oddi wrthynt hwy ac efallai ddysgo’ nhw gennyf i, a dyma sgwrs arall yn yr Eglwys, y ddau ohonnom yno am y tro cyntaf, ond yno oherwydd “Drysau Agored”.

                Diddorol nodi hefyd faint o’r Cofis yma, gymharol ifanc, yn eu 30au, 40au sydd yn amlwg yn ymddiddori mewn cerddoriaeth a mwy na thebyg peldroed hefyd, ond unwaith eto, o dan y radar, ddim yn rhan o’r bybl Cymraeg, go brin y gallant enwi can gan Cowbois Rhos Botwnnog, go brin eu bod yn wrandawyr C2 ac eto mi fydda nhw’n mwynhau petae ond modd eu cyrraedd.

Dwi’n gweld hyn yn ofnadwy o ddiddorol;  pam fod y Byd Cymraeg yn dal i fethu cyfathrebu a thrwch y siaradwyr Cymraeg ? Mae wir angen dipyn o ddemocrateiddio, fel cafwyd efallai yn niwedd y 70au, oleiaf yn y maes diwylliant poblogaidd,  pan chwalwyd yr hen drefn gan y chwyldro a’r ffrwydriad pync – a phan gafwyd o ganlyniad, grwpiau Cymraeg wedyn yn ffurfio ddechrau’r 80au, grwpiau “dosbarth gweithiol” fel Y Cyrff neu Elfyn Presli  ac yn naturiol ganu yn Gymraeg heb yr un aelod rioed fynychu Eisteddfod. Hynny mewn trefi fel Llanrwst a Phorthmadog – tu allan i’r cylch ddieflig o drefi Coleg a Neuaddau Preswyl, cadarnleoedd y bybl.

Ond math gwahanol o gerddoriaeth oedd yn yr Eglwys, wrth i Alun yr organydd daranu ar yr organ hynafol, gyda dros 800 o bibelli a osodwyd gan William Rushwoth ym 1887. Fe aeth Alun a fi o amgylch yr Eglwys, i fyny i’r oriel i ryfeddu ar y to pren, y nenfwd drawiadol, ac i edrych lawr ar yr organ, yn disgleirio yn las yng ngolau’r haul. Pensaer yr Eglwys oedd Richard Owen, Pwllheli a gynlluniodd Engedi a’r Institiwt yng Nghaernarfon ddiwedd y Bedwraedd Ganrif ar Bymtheg.

Math gwahanol iawn o adeilad oedd hi ar y Sul canlynol wrth i ni fentro am Hafoty, Llansadwrn, neu Ty Neuadd Hafoty i fod yn fanwl gywir. Ty yn dyddio yn ol i’r pymthegfed ganrif, a thy sylweddol, yn perthyn i deulu cyfoethog a dylanwadol heb os. Nid hafoty yn yr ystyr o dy yn uwch ar y mynydd ar gyfer bugeilio dros yr Haf yw y ty yma ond yn hytrach math o dy a ddisgrifir fel “ty neuadd”  gyda neuadd ganolig a dwy adain i’r naill ochr. Mae’n glamp o dy wedi ei wyngalchu.

Efallai’n wir i’r ty gael ei adeiladu gan deulu Norres, roedd gwr o’r enw Thomas Norres o Orllewin Derby, Swydd Caerhirfryn yn gapten ar warchodlu Castell Biwmares ym 1439 ac erbyn 1456 yn perchennog ar Bodarddar sef yr enw gwreiddiol ar y stad. Drwy briodas ac etifeddiaeth daeth cysylltiad a theulu Norres o Speke ger Lerpwl ond erbyn 1511 roedd y stad wedi ei drosglwyddo i deulu’r Bulkeley’s a’r Bulkeley’s sydd yn dal yn berchen ar y stad hyd heddiw. Cymhelth iawn y  byddaf yn gweld yr hanes yma o briodas ac etifeddiaeth, efallai fod modd ei symleiddio, mae’r tai a’r stadau yma yn cael eu trosglwyddo o un genhdlaeth i’r llall o’r boneddigion.

Dryslud a chymhleth, os nad diflas, teimlaf yw’r llyfrau tywys sydd yn ceisio esbonio’r “goeden deulu”, yn aml mae stadau yn cael eu trosglwyddo drwy briodas ond yn gyffredinol, pan mae rhywun yn son am unrhyw stad mae’r hanes yn tueddu fod yr un peth – o fewn y teuluoedd cefnog. Er hynny, dydi’r cefndir yma ddim yn amharu ar y pleser a’r mwynhad o ymweld a Hafoty a mae tywysydd yno i’n croesawu. Mantais cael tywysydd yw fod y tywysydd yn gallu dangos pethau i’r ymwelydd fydda’r ymwelydd yn ei golli fel arall. Mae’r tywysydd hefyd yn gallu ateb cwestiynnau.

Os oedd gennyf unrhyw feirniadaeth, ac un fechan iawn mewn un ystyr yw hyn, doedd y tywysydd ddim yn gallu’r Gymraeg, ond yn Sir Fon, efallai bydda rhywun wedi disgwyl hynny, ddim yn Neuadd Speke efallai, ond fe fyddai  wedi bod yn braf rhaid cyfaddef  cael siaradwr Cymraeg hefo ni ar Ynys Mon.

Byddaf yn argymell fod pobl yn mynd draw i Hafoty fel rhan o Drysau Agored a bydd y neuadd ar agor ar y 23 a 30 o Fis Medi.
 

Sunday 16 September 2012

Eglwys Llangadwaladr Herald Gymraeg 12 Medi 2012



Rwyf am aros ym myd yr Eglwysi hynafol eto yr wythnos hon. A dweud y gwir y bwriad oedd sgwennu am fy hoff wrthrychau, ar ffurf ‘Deg Uchaf’, sydd yn Amgueddfa Gwynedd, ond gan fod stori newydd ei gyhoeddi gyda’r Curadur Esther Robert yr wythnos dwetha yn yr Herald Gymraeg (5ed Fedi)  fe gaiff y golofn yna aros am wythnos neu ddwy. Felly rwyf am ddychwelyd i Eglwys Llangadwaladr, Gorllewin Mon a son am y ffenestri hynafol.

                Ond cyn i ni gyrraedd Llangadwaladr, rwyf am fynd am dro bach. Does dim cysylltiad a’r Cyn--Raphaelites a Sir Fon hyd y g’wn i, os oes, byddwn yn falch iawn o glywed, ond yn sicr does dim cysylltiad gyda Rossetti, Millais a Holman Hunt a Llangadwaladr rwy’n weddol saff o hynny. Mae’r Cyn-Raffaeliaid wedi dod yn fwy fwy i fy sylw yn ddiweddar, yn bennaf oherwydd eu cysylltiad a’r cynllunydd William Morris. Rwan mae gan Morris gysylltiad a Chastell Penrhyn (papur wal a thecstiliau) a hefyd y ffenestr wydr yn Eglwys Forden yn dangos y dair forwyn Mair, dyddiedig 1872, mewn arddull ddigon tebyg i’r Cyn-Raffaeliaid. Mi fydd trip i Eglwys Forden yn golofn arall rhyw ben.

                Yr hyn am trawodd am y Brawdgarwch Cyn-Raffaelaidd gwreiddiol oedd eu hagwedd, yn wir roedd dilynwyr fel John Ruskin yn gyfrifol am eu canmol a’u hyrwyddo yn y Wasg a doedd Rossetti ei hyn ddim uwchlaw canmol ei hyn yn y Wasg dan y ffug enw Fredric Stephens. Peth arall doniol am y “brodyr” oedd eu gwrthwynebiad chwyrn, os nad atgasedd, tuag at Sir Joshua Reynolds, llywydd cyntaf yr Academi Brenhinol, gwr a fathwyd yn “Sir Sloshua” gan Rossetti a’i gyfeillion.

                Gair arall o bosib a fathwyd gan Rossetti oedd “stunner” i ddynodi merch hynod dlws, ac yn wir, fel bydda rhywun yn ei ddisgwyl gan artistiaid ifanc a gwyllt (a gormod o laudanum lawr eu corn cwac), buan iawn roedd Rossetti yn cael carwriaeth gyda Jane neu Janey Morris, sef gwraig William, y ferch a eisteddodd ar gyfer cymaint o luniau Rossetti. Fe ddisgrifiwyd y Cyn-Raffaeliaid gan rhai fel y “Mutual Appreciation Brotherhood” a dyma’r nodyn berodd i mi chwerthin fwyaf.

                Doeddwn ddim yn ymwybodol o’r feirniadaeth yma, ond fe ddefnyddiais bron yr un disgrifiad, y “Mutual Appreciation Society” i ddisgrifio mewnblygrwydd y Byd Pop Cymraeg ar ddechrau’r 90au, sef i ddisgrifio’r hunnan-glodfori a’r hunnan-ganmol ddaeth yn gymaint rhan o’r Byd Pop Cymraeg yn sgil sefydlu label recordio Ankst. Wrth ddefnyddio’r disgrifiad heriol yma roeddwn yn awgrymu fod y grwpiau bellach yn perfformio yn unig o flaen eu ffrindiau yn hytrach nac yn cenhadu i gynulleidfaoedd newydd. Sefyllfa sydd yn cael ei ail adrodd heddiw i raddau er nid gan bawb wrth reswm. Y gair arall am hyn yw’r ‘Bybl Cymraeg’ os mynnwch.

                Mae’r pethau ’ma o hyd yn gweu i’w gilydd, mae’n creu stori a mae modd creu storiau newydd, pwy fydda wedu dychmygu fod modd sgwennu erthygl yn cysylltu’r Cyn-Raffaeliaid ar Byd Pop Cymraeg ? Ond hefyd mae’n dangos fod “dadleuol” yn hen stori ym myd y Celfyddydau, mae angen ddipyn o gynnwrf, o or-ddweud a hyd yn oed o wrth-ddweud.

                Wrth ddarllen llyfr am William Morris a’r ffenestr hynod yn Forden, rwyf yn rhoi hyn lawr ar fy rhestr o lefydd i ymweld a nhw, rhestr cynyddyol a rhestr maith ond oleiaf rwyf nawr yn gallu croesi Llangadwaladr oddi ar y rhestr. Dydi hynny ddim i ddweud na fyddaf yn dychwelyd, achos mae hynny yn sicr, ond oleiaf nawr, rwyf wedi treulio pnawn difyr iawn yn yr Eglwys.

                Mae’r archaeolegydd wrthgwrs yn mynd yn syth am Garreg Cadfan, gyferbyn a’r drws, y garreg fedd pwysicaf a mwyaf arwyddocaol ar Fon yn ol Frances Lynch, carreg sy’n dyddio o’r 7fed Ganrif. Carreg fedd un o frenhinoedd cynnar Gwynedd yw’r garreg, yn cyfeirio at Cadfan neu Catamanus sydd yn marw oddeutu 625 OC. Ond yr arwyddocad mawr yw fod awgrym yma fod y Llys yn Aberffraw a’r Eglwys yn Llangadwaladr wedi eu gwahanu yn fwriadol, mae afon rhyngthynt, a fod hyn yn rhan o’r drefn.

                Gorweddai Carreg Cadfan bellach yn uchel ar y wal, wedi ei gosod ar ei fflat fel petae gyda’r ysgrifen yn darllen yn gywir ond y groes ar ei hochr. Yn wreiddiol byddai’r garreg wedei sefyll ar i fyny a’r groes yn syth a byddai rhaid darllen yr ysgrifen o’r ochr dde am i lawr. Wedyn mae i’r ysgrifen neges ddiddorol dros ben achos fe gyfeirir ar Cadfan fel “y doethaf a’r mwyaf uchel ei barch o’r brenhinoedd”.
 

                Mae’n garreg werth ei gweld er fod ei safle yn uchel ar y wal efallai braidd yn anaddas os nad anffodus, ond oleiaf mae’n saff ! Ac i droi wedyn at y ffenestr ddwyreiniol yn y Gangell, a’r unig wydr o’r Canol Oesoedd i oroesi ar Fon. Yma ceir darlun o Cadfan, yn eistedd yn ei wisg brenhinol, er fod cyfnod y wisg yn cyfateb a ffasiwn y 15fed Ganrif. Nodyn arall o ddiddordeb yw fod gwydr ei ben wedi ei atgyweirio yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.

                Rhyfeddais ar pam mor llwigar a byw oedd y ffensetr, Cadfan yn eistedd yn falch o dan yr Iesu ar y Groes. I’w chwith mae llun o Meurig ap Llywelyn a’i wraig Marged ferch Ifan Fychan ac i’w dde Owain am Meurig a’i wraig Elin ferch Robert.  Ac uwch rheini ceir Mair i’r chwith a Ioan i’r dde. Mae’n ffenestr rwy’n siwr y bydda William Morris wedi bod yn flach iawn ohonni, a peth gweddol anghyffredin yw gweld delwedd mor eglur, mor fyw, mor lliwgar o un o frenhinoedd cynnar Gwynedd mewn eglwys fel hyn.

 

Tuesday 11 September 2012

Gwaith Copr Cwm Bychan

 
Mae'r diwrnod yn dechrau hefo ymweliad i Eglwys Bresbyteraidd, Y Maes, Caernarfon sydd ar agor drwy gynllyn Drysau Agored. Adeliadwyd rhwng 1873 ac 1883, y pensaer oedd Richard Owen Pwllheli. Richard Owen oedd hefyd yn gyfrifol am Engedi ac Institiwt Caernarfon. Mae'n werth gweld yr organ 1887 gan William Rushworth.
Golygfa o'r oriel/lloft.







Ar ol cinio sydun yn Caffi Maes dwi'n symud ymlaen i Feddgelert a chychwyn y daith am Cwm Bychan ger Penlan, hen dy Alfred Bestall awdur a chynllunydd Rupert the Bear. Mae na lwybr serth yn codi tu cefn i Penlan.



Edrych i lawr ar Feddgelert,


Dipyn o waith cerdded dros y topia ac yna i lawr i Cwm Bychan - dwi'n gweld olion archaeolegol o gwmpas y lle ond angen cerdded yn ol i fyny'r Cwm i gyrraedd yr hen waith mwyngloddio.


Mae pedwar o'r peilons wedi goroesi. Mae safle we Coflein yn esbonio beth sydd i'w weld. Mae mwy o bethau ger y rheilffordd ar waelod y Cwm lawr yn y Aberglaslyn. (Rhaid i hynny fod yn dro arall).

Manylion Coflein :
http://www.coflein.gov.uk/en/site/33771/details/CWM+BYCHAN+COPPER+MINE,+BEDDGELERT/





Ar ddiwedd y peilons mae'r olwyn oedd yn dal y weiar


Tomen Sbwriel


Adit




Sunday 9 September 2012

Tuduriaid Penmynydd Herald Gymraeg 5 Medi 2012


 
Dyma chi gwestiwn diddorol, be da ni fod i neud hefo’r Tuduriaid ’ma yn Sir Fon ? Y cysylltiad brenhinol, Teulu Penmynydd, yda ni fod i ymfalchuo fod disgynnydd teulu Penmynydd wedi dod yn Frenin ar Loegr ym 1485 neu fel Cymry, yda ni i fod i wfftio’r fath gysylltiad, a chyfansoddi rhyw fath o anthem arall, fel “Carlo”, ar gyfer y cyfnod Canol Oesoedd, i ddangos ein lliwiau a’n gwrthwynebiad ? Ond dydi pethau byth mor syml a hynny chwaith ………

                Nid fod hon yn ddadl sydd yn chael ei thrafod mor aml a hynny, a dweud y gwir, dwi ddim mor siwr faint o bobl sydd hyd yn oed yn ymwybodol o’r cysylltiad, ond fel arfer, mae yna hanes diddorol iawn yma yn ardal Penmynydd a fel byddaf yn awgrymu bob amser, rhydd i bawb ei farn ond mae’r hanes, beth bynnag eich safbwyntau gwleidyddol, yn ofnadwy o ddiddorol.

                Gan droi at ddechrau’r stori, a mae hyn yn ei hyn yn cymhlethu pethau o ran safbwynt gwleidyddol, dyma ni Ednyfed Fychan (1170-1246) swyddog cyfreithiol yn Llys Llywelyn Fawr, ar yr ochr iawn fel petae. Ond wedyn mae ei ddisgynyddion, Tudur ap Gronw yn amlygu ei hyn yn y Llys Seisnig a’i fab wedyn, Goronwy neu Gronw Fychan yn amlwg fel milwr yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd yn erbyn Ffrainc, yn amlwg ar yr ochr Seisnig –Normanaidd.

                Ac wrth son am y llai cyfarwydd, i rai yn sicr, dyma droi at Eglwys Sant Gredifael, eglwys lle mae’r safle yn dyddio yn ol i’r 6ed ganrif, er fod yr Eglwys gerrig wreiddiol yn bennaf yn dyddio o’r Canol Oesoedd er iddi gael ei ail-adeiladu wedyn ym 1848. Ar y lon fach gefn rhwng Rhoscefnhir a Phenmynydd, di-arffordd bron, pell i gerdded a naws unig iddi ond ar ddiwrnod braf o Haf, lle hynod braf i ymweld a hi.

                Er fod yr Eglwys dan glo, roeddwn yn benderfynol o fwynhau fy ymweliad, ac wrth grwydro o amgylch yr Eglwys dyma ddod ar draws y ffenestr enwog ar yr ochr ddeheuol, gyda’r gwydr lliw, y Rhosyn Tuduraidd coch, y cleddyfau a’r portcullis. Darn bach o hanes yn wir. Ac oddi fewn i’r ffenestr mewn cornel fach i’r Eglwys gorweddai Gronw Fychan a’i wriag Myfanwy mewn cist alabastr yn dyddio oddeutu 1385. Rhaid oedd edrych arnynt o bell drwy ffenestr llychlyd. Gwnes fy ngorau i gymeryd yr holl beth i mewn wrth edrych drwy’r ffenestr ond roeddwn yn sicr fod rhaid wrth ymweliad arall, call, gyda’r drws ar agor y tro nesa !

                Ymlaen a ni drwy hanes, ac unwaith eto, mae’r Tuduriaid yn ymddangos ar “yr ochr iawn”, y tro yma wrth i  Maredydd ap Tudur gefnogi gwrthryfel Glyndwr ar ddechrau’r Bymthegfed Ganrif. Ei fab wedyn, Owain Tudur yn cysylltu ei hyn gyda Harri’r Pumed yn y Llys yn Llundain, a Owain Tudur mewn ffordd yw’r dyn sydd yn bwysig yn yr ystyr mae dyma’r cysylltiad gyda Harri’r Seithfed.

                Bu farw Harri’r Pumed gan adael ei wraig, Catherine, ond yn un ar hugain oed, hi wrthgwrs oedd Katherine de Valois, neu y “dear Kate” yn ol Shakespeare (Henry V) a fe ail briododd Catherine yn gyfrinachol gyda Owain Tudur. Ei wyr nhw, yw Harri Tudur (Harri VII), a laniodd yn Aberdaugleddau ac aeth yn ei flaen i drechu Rhisiart III ar Faes Bosworth gan ddechrau y cyfnod Tuduraidd wedyn.

                Cartref y teulu Tuduraidd oedd Plas Penmynydd, ychydig filltiroedd i’r de ddwyrain o Langefni ger yr Afon Ceint, er fod y ty presenol yn dyddio oddeutu 1576, a mae’r ty bellach mewn meddiant preifat. Cefais gyfle yn ddiweddar i ymwled a’r Plas drwy arwain taith o amgylch Ynys Mon yn edrych ar y cysylltiadau “Brenhinol” fel rhan o’r prosiect Mona Antiqua. A rhag i chi gyd wylltio, roedd y pwyslais ar Llywelyn Fawr, Siwan, Llys Rhosyr, Cadfan a rhan fechan iawn o’r diwrnod oedd yn gorfod cael ei dreulio yn crybwyll William a Kate (a hynny wrth fynd heibio Waitrose !).

                Daeth safle Llanfaes i mewn i’r sgwrs drwy gydol y diwrnod, fel cartref gwreiddiol sarcoffagws Siwan, fel lleoliad gwreiddiol bedd Gronwy a Myfanwy a hyd yn oed fel ffynhonnell rhai o’r cerrig yn yr adeilad 1576 ym Mhlas Penmynydd. Mae sawl carreg i’w gweld ym mur allanol Penmynydd sydd ar llythyren “I” neu “J” arnynt, sef Iesu ac o feddwl fod Afon cefni ar un adeg yn agored i’r mor, digon hawdd fyddai cludo cerrig o Lanfaes ar hyd yr afordir a wedyn drosodd i gyfeiriad Llangefni drwy Malltraeth.

                A bod yn hollol onest, ychydig o sylw roeddwn wedi ei roi i’r cysylltiad Tuduraidd a Mon hyd yma, mae fy sylw i ran amla yn cael ei hawlio gan y Cyfnod Cyn-hanesyddol ac yn wir roedd rhaid wrth y Map O.S i ddarganfod troad Plas Penmynydd. Ond rhwng hen Eglwys Gredifael a’r Plas ei hyn, heb son am ddipyn o ddarllen gartref wedyn am Bosworth ac yn y blaen dyma sylweddoli fod hyn i gyd yn plethu, o Llywelyn Fawr, drwy Glyndwr at Harri VII a mae’n rhywbeth sydd yn amlwg ddim yn cael digon o sylw o ran rhoi Mon ar y map.

                Doedd dim rhaid cymeryd “ochr”, doedd dim rhaid poeni gormod am safbwyntiau gwleidyddol (heblaw am y darn Waitrose) a chafwyd diwrnod hyfryd iawn yn darganfod perlau bach o amgylch Mon. Mae Eglwys Llangadwaladr yn un arall sydd yn haeddu colofn gyfan rhywbryd eto.

               

               

 

Sunday 2 September 2012

Hen Caerwys Herald Gymraeg 29 Awst 2012



Yr hyn sydd fwyaf od efallai am Hen Caerwys yw fod pentref cyfagos Caerwys yn debygol o fod yn hynach a mae rhyw fath o gangymeriad anfwriadol  gan yr archaeolegydd W.J. Hemp yn ystod y 60au oedd rhoi yr enw “Hen” i’r safle hynod Canol Oesol yma rhyw filltir neu ddwy i’r gogledd o’r pentref presenol. Mae’n debyg i Hemp ymgynghori a hanesydd lleol o’r enw Ellis Davies ac iddynt gredu fod y safle yma yn gynharach na’r pentref cyfagos.

                Yn draddodiadol yr enw a roddir ar safle fel hyn yw “Pentref Canoloesol Diffaith” ond mae meddylfryd diweddar y Byd Archaeolegol yn tueddu i son am dirwedd sydd wedi cael ei ffosileiddio, sef canrifoedd o olion byw ac amaethu wedi goroesi ar y tir. Felly mae’n ddarlun cymhleth a hynod ddiddorol ac yn ddiweddar bu CADW ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys yma yn ail edrych ar waith cloddio Cymdeithas Hanes Sir y Fflint yn ystod y 60au dan ofal T. Pennant Williams a G. Leach.

                Yn ystod cloddio’r 60au daethpwyd o hyd i dai canol oesol wedi eu hadeiladu ar ochr y bryn, a adeiladwyd yn aml drwy gloddio i mewn i ochr y bryn er mwyn creu safle gwastad a wedyn adeiladu’r seiliau o gerrig gan adael ffos neu ddraen o amgylch y ty er mwyn cael gwared a unrhyw ddwr fyddai’n rhedeg o ochr y bryn. Byddai’r tai o do gwellt hefyd wedi cynnwys ffram o bren i ddal y to. Calchfaen yw’r graig naturiol yma felly digon hawdd yw adeiladu waliau o gerrig.

                Un o’r pethau diddorol am edrych yn ol ar waith o’r 60au yw fod y dechneg archaeolegol wedi datblygu cymaint ers hynny ac yn sicr felly o ran cofnodi yn fanwl a dulliau fel arolwg geo-ffisegol o ddod o hyd i olion o dan y ddaear. Am ryw reswm mae’r rhan fwyaf o ganfyddiadau’r 60au wedi diflannu ond y son oedd iddynt ddarganfod crochenwaith yn dyddio o’r 15fed ganrif yn ystod y gwaith cloddio.

                Ond mae cymeriad arall yn ymddangos yn stori Hen Caerwys, sydd efallai yn gwneud yr holl beth yn hyd yn oed fwy diddorol, gan fod stori y gwr yma yn ymdebygu i rhyw stori ddirgel, rhywbeth fydda T. Llew Jones efallai wedi ei ddychmygu. Y gwr yw  Tom Rogers, enw arall a gysylltir a’r arloeswyr uchod o ran cloddio yn Hen Caerwys. Dywedir iddo fod o dras Canadaidd ond does neb yn siwr iawn o’i gefndir na chwaith am ei gefndir archaeolegol.

                Mae Rogers “yr archaeolegydd” yn ymddangos fel petae o nunlle ar ddechrau’r 70au gan honi fod ganddo gysylltiadau a Choleg y Brifysgol Bangor, er doedd neb i weld yn siwr iawn beth oedd y cysylltiad, ond beth sydd yn sicr yw fod ganddo ddiddordeb yn Hen Caerwys. Yn wir mae’n cyhoeddi erthygl ar Hen Caerwys yn y cylchgrawn ‘Bulletin of the Board of Celtic Sudies’ ym 1979 gan drafod gwaith cloddio Pennant Williams a Leach yn ol yn y 60au.

                Bu son hefyd  fod gan Rogers ddiddordeb gwenud gwaith cloddio pellach yn Hen Caerwys ond yn ol y son daeth dim o’r trafodaethau a mae’n bosib i’w sylw symud yn fuan iawn wedyn at safle Ogof Arthur yn Nyffryn Gwy. Cyhoeddodd Rogers ei fod wedi darganfod gwaith celf palaeolithig, sef paentiadau ar y graig ond buan iawn cafodd ei ddarganfyddiadau eu di-ystyru gan arbenigwyr.

                Efallai fod elfen yma o fyw mewn Byd ffantasi o ran Rogers, neu efallai fod archaeoleg wedi hawlio ei sylw am ychydig flynyddoedd, cyn iddo fentro i rhyw faes arall  – pwy a wyr ? Yn sicr bydd rhaid i mi fynd i’r Archifdy i chwilota am ei erthygl yn y ‘Bulletin of the Board of Celtic Sudies’. Fe fydd hynny yn sicr yn gwneud darllen diddorol.  Ond yn wahanol iawn i anturiaethau Rogers, roedd fy ymweliad i a Hen Caerwys ddiwedd mis Gorffennaf yn un ddigon arferol. Roeddwn yn awyddus i gael gweld y safle ac yn fwy na bodlon rhoi help llaw os oeddwn am fynd draw.

                Digwydd bod, roedd fy ymweliad ar ddiwrnod olaf y gwaith cloddio ond cefais groeso mawr gan Bob Silvester a Wil Davies a hyd yn oed bore cyfan o gloddio hefo fy nhrowal oddi fewn i un o’r adeiladau gan lanhau’r llawr am y tro olaf eleni rhag ofn fod rhywbeth fel tyllau pyst yn ymddangos. Ond ar ol cinio yng nghysgod Coedymarian / Coed Gerddigleision dyma ddechrau ar y gwaith go iawn, rodd yn rhaid llenwi’r tyllau oedd wedi cael eu creu yn ystod Haf 2012.

                Dyna chi waith caled, tunelli o gerrig wal calchfaen yn gorfod cael eu rhoi yn ol i mewn yn un o’r tai – a hynny gyda llaw. Fe fuodd pedwar ohonnom wrthi am ddwy awr go dda yn eu gosod yn lled ofalus o amgylch seilia un o’r tai a gloddwyd yn y 60au cyn rhoi’r pridd yn ol ar ei ben. Dyna ddiwedd y cloddio ar y ty yma am byth mwy na thebyg.

                Chwarddodd nifer fy mod mor “wallgof” a dod ar y diwrnod olaf pryd bydd rhaid llenwi tyllau ond fel esboniais, dyma oedd fy unig gyfle i ymweld eleni, a fel rheol dwi’n llawer hapusach yn gwneud rhywbeth nac yn sefyllian o gwmpas. Dwi ddim yn aelod da o’r gynulleidfa, gwell gennyf fod yn y sedd yrru mewn car, gwell genynyf fod yn gweithio nac yn ymwelydd.