Thursday 18 April 2019

Cofiwch Dryweryn, Herald Gymraeg 17 Ebrill 2019





Felly mae wal Cofio Dryweryn ger Llanrhystyd wedi cael ei fandaleiddio eto dros y penwythnos. Y tro yma mae rhywun wedi ymdrechu i chwalu rhan o’r wal. Tro’r blaen roedd rhywun wedi peintio ‘Elvis’ dros Cofiwch Dryweryn. Roeddwn yn teithio o Langurig drosodd am Aberystwyth yn ddiweddar ar yr A44 a sylwais ar y graffiti ELVIS ger Eisteddfa Gurig.

Mae’n debyg fod y graffiti yma yn deillio o slogan yn cefnogi ‘ELLIS’ sef Islwyn Ffowc Elis fel ymgeisydd Plaid Cymru yn 1962. Heddiw mae’r slogan wedi ailbeintio sawl gwaith. Ellis gyda dwy L wedi troi yn Elvis. Yn achos paentiad Eisteddfa Gurig tydi’r slogan ddim hyd yn oed ar yr un graig ac yr oedd yn 1962.

Rwyf wedi trafod y phenomenon hyn o ailbeintio murluniau yn ddiweddar ar gyfer cyfrol newydd ‘Cam i’r Deheubarth’ (Gwasg Carreg Gwalch).  Dyma bwt o beth sgwenais ar gyfer y gyfrol:

Gallwn ddadlau mai’r wal hon a’r murlun ‘Cofiwch Dryweryn’ arni yw’r wal fwyaf eiconaidd yng Nghymru. A dweud y gwir, does fawr o gystadleuaeth mewn gwirionedd o safbwynt hanes gwleidyddol Cymru. Peintwyd y slogan gwreiddiol yn fuan ar ôl boddi Capel Celyn ger y Bala i greu cronfa ddŵr ar gyfer Dinas Lerpwl yn 1965.
Mae’n debyg mai’r diweddar awdur Meic Stephens (tad y DJ a’r cyflwynydd Huw Stephens) oedd yn gyfrifol am baentio’r slogan yn y lle cyntaf. Yr hyn sy’n gwneud yr archaeoleg ychydig yn fwy diddorol yw bod y murlun wedi ei ail-baentio sawl gwaith ers 1965. Nid dyma’r paent gwreiddiol. ond does dim ots am hynny. Mae’r wal, y stori a’r graffiti yn ychwanegu at y cyfanwaith yn yr achos hwn.
Fandaleiddiwyd y wal yn 2008 ac yn 2010, ac yn 2008 ychwanegwyd y geiriau ‘Anghofiwch Dryweryn’ arni. Yn 2010 paentwyd tag graffiti dros y slogan gan orfodi rhywun ar ran Cymdeithas yr Iaith i ailbaentio’r slogan gan ychwanegu cofnod o’r flwyddyn. Bu hefyd wyneb yn gwenu (Smiley Face), delwedd a gysylltir â’r diwylliant Rêf, ar ben y murlun ar un adeg.
Yn 2017 paentiwyd arwydd Eryr Eryri (arwydd y Free Wales Army) ar y wal, ac ychwanegwyd ail linell: ‘Cofiwch Aberfan’. Felly nid cofeb statig yw hon o bell ffordd. Ydi, mae’r wal ei hun yn wreiddiol ond mae’r paent gwreiddiol wedi hen fynd. Ond mae’r slogan yn beth byw – sy’n rhywbeth anarferol yn y byd archaeolegol.
Gan fod y murlun yn un mor eiconaidd efallai mai ond mater o amser oedd hi cyn i rywun ei herio o fewn cyd-destun diwylliant Cymraeg a Chymreig. Gwnaeth y grŵp Y Ffug o ardal Crymych hynny drwy ryddhau CD o’r enw ‘Cofiwch Dryweryn’ (CD058J) yn 2014 ar Label RASP, un o is-labeli Cwmni Fflach o Aberteifi. Er fod teitl y CD yn parchu’r hanes traddodiadol bu’r grwp ifanc yn ddigon craff i sicrhau sylw ar y cyfryngau drwy drydar ‘Anghofiwch Dryweryn’ o gyfrif Trydar Y Ffug (@BandYFfug).
Ar y cyfrif Trydar hwn, ymddanosodd llun o’r pedwarad pync yn dangos eu penolau o flaen y murlun, gan godi storm fechan yn y gwpan de, ys dywed y Sais. Ar glawr mewnol CD Y Ffug mae lluniau o’r murlun a dynnwyd yn 2013, pan oedd arwydd y FWA o dan y geiriau ‘Cofiwch Dryweryn’. Rhyfedd meddwl bod lluniau ar glawr CD grŵp pop Cymraeg yn gofnod o gyfnod penodol yn hanes y murlun”. (Rhys Mwyn / Carreg Gwalch 2019)



Ysgrifenais hyn ôll cyn y difrodi diweddar a bu rhaid cynnwys ON bach ar ddiwedd y darn am wal Dryweryn yn y gyfrol yn cydnabod y ffaith fod y murlun wedi newid ers i mi sgwennu. Rhywbeth arall braidd yn amlwg yw fod y defnydd o ‘Elvis’ ar wal Dryweryn yn awgrymu fod yr artist (defnydd llac) graffiti yn ymwybodol o wal Elvis Eisteddfa Gurig?

Wrth reswm bu galwadau ar y Cyfryngau Cymdeitrhasol am i wal Llanrhystyd gael ei warchod yn swyddogol gan Llywodraeth Cymru. Efallai fod angen i Cadw rhestru’r wal fel adeilad rhestredig hynafol Gradd II. Bu cryn drafodaeth a chymhariaeth a’r sylw a gofal a roddwyd i furlun / graffiti Banksy ym Mhort Talbot. Dwi ddim yn siwr os yw hyn yn gymhariaeth teg ond dwi’n dallt pam fod rhai fel Liz Saville Roberts wedi gwneud y pwynt.

Yn wreiddiol, ‘graffiti’ oedd wal Cofiwch Dryweryn. Gyda threigliad amser mae’r wal wedi trawsnewid i fod yn un ‘eiconiadd’. Bellach mae pwysigrwydd y wal yn llawer mwyn na’r bwriad gwreiddiol – mae’r murlun yn rhan o psyche’r Cymry - dio’m ots faint o’r paent gwreiddiol sydd wedi goroesi.

Credaf fod y ‘drafodaeth’ yn beth da ac iach – oeleiaf mae graffiti Meic Stevens o 1965 dal yn berthnasol. Rydym ym trafod ‘Hanes Cymru’ – mae’r peth yn fyw ac yn berthnasol. Perthnasol yw’r gair pwysig yma – efallai fod angen y gweithredoedd a digwyddiadau dinistriol ac eiconoclastaidd cyn fod y Cymry yn deffro o’u trwmgwsg o ran Hanes Cymru (ychwanegaf archaeoleg yma hefyd).

Nid fy mod am eiliad yn dadlau o bliad dinistrio na difrodi’r murlun. Os unrhywbeth byddwn yn dadlau mai’r cam nesa yw adfer y murlun yn ofalus gan ddefnyddio ffotograffau o 1965 er mwyn cael yr arddull yn gywir. Soniodd rhywun ar Twitter fod y ‘font’ diweddar yn anghywir er gwaetha ymdrechion y myfyrwyr i gynnal a chadw’r wal.

Yn anffodus mae’r holl ‘sylw’ hefyd yn ysgogi’r fandals – efallai nad yw’r stori yma wedi dod i ben.


Wednesday 3 April 2019

Crwydro ac Apel am Wybodaeth, Herald Gymraeg 3 Ebrill 2019






Apel sydd gennyf yr wythnos hon – apel am wybodaeth. Rwyf wedi bod yn ymchwilio ychydig i hanes yr actor Rupert Davies (1919-1976). Dyma’r actor sydd wedi ei gladdu ym mynwent Eglwys Beuno Sant, Pistyll, Llŷn. Fel ‘Maigret’ y ditectif dychmygol Ffrengig y mae Rupert Davies yn cael ei gofio ran amla ond bu hefyd yn actio mewn ffilmiau fel The Brides of Fu Manchu (1966), Dracula Has Risen from the Grave (1968) a The Spy Who Came in from the Cold (1965).

Pob tro dwi di holi pobl Pistyll am Rupert Davies yr ymateb dwi di gael yw ‘Oh Maigret ti’n feddwl’. Maigret ydi’o i bawb bellach nid Rupert Davies. Ond beth ddaeth a fo i Bistyll – dyna’r cwestiwn mawr?

O ddiddordeb mawr i mi fel cyflwynydd radio oedd y ffaith fod Rupert Davies wedi cyhoeddi record o’r enw ‘Smoking My Pipe’ ar label Parlaphone yn 1963. Y flwyddyn ganlynol Rupert oedd derbynydd cyntaf wobr ‘Pipe Smoker of the Year’. Nid fod hyn yn rhywbeth i’w ymfalchio ynddo go iawn.

Cawn naws strydoedd a chaffis Paris ac yn wir naws Maigret a theledu du a gwyn ar y record – accordion yn cyfeilio a Rupert yn canu yn yr arddull chanteur. Dyma record fach ddiddorol er fod y neges yn un wrthyn mewn ffordd i rhywun sydd am gadw’n iach ac yn credu mewn ‘awyr iach’.

Sut ymdopodd Rupert a bywyd cefn gwlad Llŷn? Beth oedd ei agwedd tuag at yr iaith a diwylliant Cymraeg? Oedd o’n mynd i’r dafarn yn Nefyn? Oedd o’n myd i’r capel? Beth oedd pobl leol yn feddwl am yr actor enwog y neu plith?

SMOKING MY PIPE Rupert Davies: https://www.youtube.com/watch?v=MVe8STc5FBU






Apel arall sydd gennyf yw am fwy o hanes yr hen Central Hall ym Mlaenau Ffestiniog. Dwi’n cofio’r adeilad fel Aelwyd yr Urdd. Dyma lle bu i’r grwp Anweledig berfformio am y tro cyntaf – a hynny yn rhannu’r llwyfan hefo’r Anhrefn. Mae’r arwydd Urdd dal yna ar wal allanol yr adeilad.

Ond, wrth edrych ar yr adeilad dros y penwythnos a dechrau sgwrsio hefo gŵr lleol dyma sylweddoli fod mymryn o’r arwydd gwreiddiol mewn paent yn dal i’w weld ar lechan ar flaen yr adeilad. Yn sicr roedd modd darllen y gair ‘Hall’ ond fedrw’ni ddim gwneud pen na chynffon o’r gweddill.



Mici Plwn esboniodd yn ddiweddarcah fod yr adeilad wedi gweld defnydd fel sinema ar un adeg a rhywun arall yn cyfeirio at ddawnsfeydd yn cael eu cynnal yno. Hyn cyn bwrlwm grwpiau roc Blaenau Ffestiniog yn ystod yr 1980au a 90au.

Yr awdur, bardd a seicoddaearyddwr o Gaerdydd, Peter Finch, yn ei lyfr The Roots of Rock from Cardiff to Mississippi and Back (2015) sydd wedi dechrau’r diddordeb mewn cofnodi adeiladau lle bu unwaith gyngherddau. Adeiladau sydd yn wag, eraill dal mewn defnydd, eraill wedi eu chwalu ar gyfer meusydd parcio. Meddyliwch Tanybont neu’r Majestic yng Nghaernarfon – y ddau yma bellach yn feusydd parcio.

Rhyfedd, wrth grwydro Blaenau Ffestiniog dros y Sul, cofiais fy mod wedi canu sawl gwaith yn ‘Queens’ sydd bellach wedi ei enwi yn Gwesty Ty Gorsaf. Ond oleiaf mae’r adeilad yn dal i sefyll. Draw ym Manod, ar ymyl yr A470, ochr ddeheuol Blaenau Ffestiniog mae’r Wynnes wedi cau. Bordiau pren lle bu unwaith ddrws a ffenestri. Wedi cau go iawn. Bu’r Anhrefn yn canu ar lwyfan bach yng ngardd y dafarn sawl gwaith. Rhywbryd yn yr 1980au.

Crwydro o amgylch y lle mae rhywun. Hel straeon. Cofnodi. Fe wnaiff rhai o’r pethau yma golofn i’r Herald Gymraeg, eraill ddeunydd ar gyfer llyfr rwyf yn sgwennu ar hyn o bryd i Peter Finch – ‘Real Gwynedd’. Neu ella fod yma ddeunydd ar gyfer y sioe radio.



O bosib y sioe radio fydda cartref naturiol hanes George a Paul o’r Beatles yn ymweld a Harlech. Hynny cyn y Beatles – tua 1956/57. Cyn enwogrwydd Byd-eang. Dyma’r dda arddegyn yn gwersylla yn Harlech. Rwyf wedi llwyddo i gael hyd i hanes grwp y Vikings ac yn wir cael hyd i ambell gyn-aelod o’r grwp. Y cam nesafydd cael sgwrs i gael gweld beth yn union yw’r storiau yma am George a Paul yn canu hefo’r Vikings yn y Neuadd Goffa, Harlech?

Prin bythefnos yn ôl roeddwn yn rhoi darlith ar waith cloddio diweddar ym Mryn Celli Ddu i’r Gymdeithas Hanes lleol yn y Neuadd Goffa. Cyrhaeddais yn fuan. Crwydrais o amgylch Harlech a phan agorodd y neuadd dyma dynu ambell lun o’r llwyfan gwag. Bu George a Paul yn canu yma meddyliais. Heno dwi’n traddodi ar yr un llwyfan a dau o’r Beatles.
Efallai fod lleni’r llwyfan wedi cael eu newid ers 1956/57 ond siawn mai’r un llwyfan sydd yna? Cefais sgwrs hefo ambell un yn Harlech oedd yn gyfarwydd a’r storiau. Gormod i’w drafod ar ôl darlitrh felly dyma drefnu i fynd yn ôl am sgwrs go iawn yn y dyfodol agos.

Rhaid cyfaddef fod hyn yn bleser pur – cael crwydro a hel straeon. Prin fod hyn yn waith go iawn, ond mae angen amser ac amynedd i gael at wriadd pethau go iawn. Rhaid wrth amser ac ymchwil er mwyn gwahaniaethu rhwng y gwir a’r storiau. Er mor dda yw’r storiau rhaid ceisio rhywsut sicrhau fod y ffeithiau yn gywir neu mor gywir a phosib.
Cewch ebostio rhysmwyn@hotmail.co.uk os oes gennych unrhyw fwy o fanylion.