O ran siarad
cyhoeddus, bu 2014 yn flwyddyn brysur gan i mi gynnal oddeutu 35 o sgyrsiau ar
gyfer cymdeithasau a mudiadau dros y flwyddyn. Mae hynny bron yn gyfystyr a
rhoi sgwrs yn wythnosol drwy’r Hydref, Gaeaf a’r Gwanwyn a wedyn cael seibiant
o’r siarad dros yr Haf ar gyfer y tymor cloddio archaeolegol. Roedd 90% o’r
sgyrsiau yma yn trafod archaeoleg, a’r 10% arall yn trafod diwylliant Cymraeg.
Un sgwrs / drafodaeth yn unig oedd yn benodol ar y Byd Pop Cymraeg (gweler isod).
Yr unig
“ddigwyddiad” i mi gymeryd rhan ynddo dros yr Hâf o ran rhoi sgwrs oedd yr
Eisteddfod lle cymerais ran mewn dwy drafodaeth, un yng nghwmni Myrddin ap
Dafydd ar ‘y tywysogion Cymreig’, a oedd yn bleser, a’r llall ar ‘Ddegawdau Roc’
oedd yn unrhywbeth ond pleser. Yn wir ar ȏl y “drafodaeth” ar Ddegawdau Roc
penderfynais mai hyn fydd y tro olaf byddaf yn fodlon trafod y Byd Pop Cymraeg
yn gyhoeddus.
Y broblem fawr
gyda’r digwyddiad yng Nghaffi Maes B heblaw am y diffyg trefn cyffredinol a’r
ffaith fod y digwyddiad yn hwyr yn dechrau, oedd methiant y “cadeirydd” i gadw unrhyw
drefn ar amserlen y drafodaeth gyda’r canlyniad fod pawb ar y panel yn cael
dweud ei bwt ond doedd dim amser ar ȏl ar gyfer unrhyw drafodaeth. Beth yw
pwrpas digwyddiad o’r fath heb y drafodaeth wedyn?
Fe ddywedwyd
pethau digon gwirion gan rai o’r panelwyr eraill, y peth a’m gwylltiodd mwyaf
oedd yr awgrym mai dim ond cerddoriaeth yw’r holl beth – a doedd dim cyfle i
egluro fod cerddoriaeth Pop Cymraeg wedi bod yn llawer mwy na hynny i rhai
ohonnom. Yn sicr i mi, yn fy arddegau, roedd Geraint Jarman a Trwynau Coch yn
bwysicach na “cerddoriaeth”, roedd artistiad o’r fath hefyd yn gwneud y Gymraeg
yn “cwl” a pherthnasol a doedd yr artistiad yma ddim ofn bod yn wleidyddol.
Annisgwyl felly
oedd derbyn gwahoddiad gan Gymdeithas yr Iaith i gymeryd rhan mewn panel i
drafod “Hybu’r Chwyldro drwy’r Sin Roc Gymraeg” ar y 10fed o Ionawr yn
Aberystwyth. A dweud y gwir roeddwn yn falch o dderbyn y gwahoddiad. Dydi fy
mherthynas i a’r Gymdeithas ddim wedi bod y gora, rwyf wedi eu beirniadu a’u
herio yn gyson dros y blynyddoedd. Fy nadl i bob amser yw fod rhaid gofyn
cwestiynau, rhaid herio, rhaid peidio cyd-ymffurfio – a rhaid i ni allu gwenud
hynny yn y Byd Cymraeg a Chymreig neu dydi’r chwyldro ddim werth ei gael.
Dydi hi ddim
mor hawdd cwestiynu a herio yn y Byd bach Cymraeg, mae rhywun siwr o ddod wyneb
yn wyneb a rhywun sydd newydd gael ei herio (ar Faes yr Eisteddfod neu lle
bynnag) ond argian dan, os na chawn fynegi barn, fe gewch gadw’ch chwyldro (fel
y chips chwedl T Rowland Hughes). Rydym yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb fel
colofnwyr, i wneud yn sicr fod barn yn cael ei fynegi, fod y buchod sanctaidd
yn cael cic nawr ac yn y man.
Edrychaf
ymlaen felly at ddigwyddiad y Gymdeithas penwythnos nesa. Ers Y Blew ym 1967
mae artistiad roc Cymraeg wedi bod yn llawer mwy na “cerddorion”. Fe all rhywun
ddadlau fod Pop Cymraeg ar ei orau pan yn wleidyddol, hyd yn oed hefo ‘g’ fach.
Petae’r peth am y gerddoriaeth yn unig, byddai dim ots am y geiriau – a does
dim angen atgoffa’r darllewnyr o ddawn a sgiliau’r beirdd answyddogol yn y maes
pop.
O David R
Edwards i Marc Roberts (Cyrff / Catatonia), o Stevens i Jarman / Huw Jones /
Dafydd Iwan pwy all ddadlau nad yw’r caneuon pop Cymraeg gorau yn rhai gwleidyddol.
No comments:
Post a Comment