Wednesday 31 August 2016

Fflamau Jamaica, Herald Gymraeg 31 Awst 2016








Dwi ’di bod yn trio cofio beth yn union yr oeddwn yn ei wneud yn 2005. A hynny bellach dros ddeng mlynedd yn ôl, nid mor hawdd yw cofio heb fynd i bori drwy hen ddyddiaduron. Y gwir yw, fy mod yng nghanol fy nghyfnod yn rheoli artistiaid a grwpiau pop ac yn cwblhau fy hunangofiant (a oedd yn bennaf yn ymdrin a fy nghyfnod yn y Byd Pop).

Felly dyma chi gwestiwn da, sut yn y byd bu i mi golli cyhoeddi y gyfrol hynod ‘Fflamau Jamaica’ (2005), Gwasg Carreg Gwalch, gan Elwyn Evans o Bwllheli? Dyma lyfr a fyddai wedi bod o ddiddordeb mawr i mi fel Cymro sydd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth ac yn sicr fel Cymro sydd wedi tyfu fyny ar punk a reggae gyda unrhywbeth o’r Slits i Steel Pulse, heb son am ‘Guns of Brixtion’ a ‘Buffalo Soldiers’, wedi bod yn gyfeiliant i fy ieuenctyd (ddim mor) ffôl.

Dyma chi rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i mi, sut mae’r holl beth diwylliannol yma yn gweithio yng Nghymru? Efallai fod y peth mor syml a hyn, rhywsut yn fy mhrysurdeb collais unrhyw sylw y cafodd y gyfrol. Od iawn cofiwch, na fyddai rhywun, un o fy nghyfoedion gyda pen reggae, wedi cyfeirio at y gyfrol? Ond mae’r pethau yma yn digwydd. Mae pethau da yn cael eu cyhoeddi a neb yn cymeryd sylw. A’i felly oedd hi gyda ‘Fflamau Jamaica’?

Beth am roi ‘Fflamau Jamaica’ i mewn i Google a gweld beth ddigwyddith?  Dim syndod gweld fod copiau ar werth ar Amazon. Dyna’r peth cyntaf ymddangosodd ar restr Google. Cawn gyfeiriad arall, ac adolygiad, ar safle gwales.com a chawn wybod mai llyfr gan Elwyn Evans yw’r gyfrol ar Wikipedia. Ond fel arall, prin iwan yw’r wybodaeth am y llyfr.

Yr unig ddarn o ‘newyddion’ y cefais hyd iddo oedd ar safle we Newyddion y BBC yn adrodd fod parti lansio’r gyfrol wedi cael ei gynnal yng ngardd Gwestyu’r Plu yn Llanystumdwy (syniad ardderchog). Y cwestiwn amlwg felly oedd, beth ddigwyddodd i whaoddiad colofnwyr yr Herald Gymraeg? Gyda sicrwydd o adolygiad gor-ganmoliaethus gan Mwyn yn sicr, fe gollwyd cyfle yndo?

Chefais i ddim mwy o wybodaeth ar Google a rho’s y gorau i chwilota ar dudalen 3 achos dim on cyfeiriadau at Jamaica y wlad oedd yn ymddangos wedyn. Yn y gobaith fod y Cyfryngau Cymraeg wedi ymateb i’r gyfrol ar y pryd, efallai na phostiwyd llawer ar y we, rhaid cofio fod hyn cyn dyfodiad trydar (lansiwyd 2006) a phoblogrwydd go iawn Facebook (lansiwyd 2004).

Ond, os na chafwyd sylw i’r gyfrol ar y pryd, ydi hyn yn awgrym o gyfyngu ar ffiniau ‘diwylliant’ yn y Gymru Gymraeg boed hynny yn fwriadol, yn anfwriadol neu drwy rhyw ddiymadferthrwydd diwylliannol? Dim ein pethau (Pethe) ni yw hyn. Hynny yw, rhywsut, fod hwn yn rhywbeth anghyfarwydd, ddim yr arferol, ddim yn rhan o’r lleisiau arferol, a felly wedi syrthio rhwng craciau yn y llawr i rhyw selar dywyll lle doedd neb yn cadw gwin a felly byth yn ei thywyllu?




Fel arfer, wrth son am ein dylanwadau diwylliannol, mae disgwyl i ni enwi T.H, Kate, Saunders, Waldo, Jarman a Dave Datblygu hyd yn oed (yn sicr gan y trydarati), ac yn aml mae hynny yn digwydd. Ond, mae rhyw ffwdanu diwylliannol yn gysylltiedig a’r Gymru Cymraeg yn fy marn i. Mae hi ’di cymeryd dros 30 mlynedd i David R Edwards a Pat Datblygu cael rhyw fath o ‘barch haeddiannol’ gan fwy na hoelion wyth amlwg y lleiafrif tanddaearol.

Yr hyn sydd yn poeni rhywun yw fod y naratif Cymraeg rhy gyfyng. Wrthgwrs, mae pethau wedi newid ac yn parhau i newid er gwell ond i ddyfynu geiriau Dave Datblygu, “Mae byw yng Nghymru fel gwylio paent yn sychu”. Oes ganddo bwynt, hyd yn oed heddiw? Hyd yn oed 30 mlynedd yn ddiweddarach? Ara deg mae dal iâr, medda nhw, ond efallai fod ara deg rhy ara deg, mae angen brasgamu o ran y naratif.

Dwni’m os byddai cerddoriaeth Cymraeg erioed wedi cydio yn Mr Mwyn yn ei arddegau onibai am ganeuon reggae fel ‘Rocers’ ac ‘SOS yn Galw Gari Tryfan’. Roedd y wefr o chwarae LP feinyl ‘Gwesty Cymru’ ochr yn ochr a rhywbeth fel ‘White Man in Hammersmith Palais’ yn ddigon i gadarnhau i mi fod gobaith. Gobaith fod stwff Cymraeg nid yn unig yn ‘cŵl’ ond yn sefyll ochr yn ochr hyd yn oed a recordiau Strummer a’r Clash.

Dyna ddigon o ddamcaniaethu. Hoffwn glywed os bu unrhyw gyhoeddusrwydd i’r llyfr yn 2005? Hoffwn wybod na anwybyddwyd y peth yn llwyr. Gobeithiaf mae y fi oedd yn rhy brysur a mae arnaf i oedd y bai am fod a fy llygaid wedi cau. Mae angen llyfrau fel hyn yn y Gymraeg achos beth mae Elwyn wedi ei gyflanwi yw trawsblannu profiadau rhywun o Ben Llŷn i stryddoedd hynod beryglus Kingston a mae hynny yn gwneud darlen hanfodol.

Llwyddodd Elwyn i ddod ar holl brofiad o ymweld a Jamaica yn fyw. Wrth ddarllen mae rhywun yn clywed y synnau, yn arogli’r aroglau ac yn rhan o’r cyffro a’r wefr. Cawn lyfr o amryliw a haenau fel y paentiad gorau gan J.M.W. Turner. Cawn ein trawsblannu gyda Elwyn i’r siopau recordiau a’r stiwdios recordio a’r nosweithiau Sound System a bron fod rhywun yn ‘clwyed’ y trac sain.


Gan fod copiau ar werth ar y we, ewch amdani archebwch eich copi a mwynhewch y darllen, neu hyd yn oed gofynnwch yn eich siop lyfrau lleol iddynt chwilota yn yr hen focsus yna o 2005!



Dyma gyfweliad gyda Elwyn gan Tudur Huws Jones ar ran yr Herald Gymraeg 0 2005:
Cariad yn drech nag ofn ar strydoedd gwaedlyd Kingston
Mae’n un o ddinasoedd perycla’r byd, ond bu Tudur Huws Jones yn sgwrsio â Chymro sy’n cael croeso mawr yno bob tro

‘ROEDD Mam wastad yn dweud bo fi ddim yn gall,” meddai. “Ond gwirion faswn i’n ddweud ydw i.”
Gwirion fasa’r rhan fwyaf ohonom yn galw dyn gwyn sy’n fodlon mentro ar ei ben ei hun i ganol un o ddinasoedd perycla’r byd – Kingston,  Jamaica .
Mae’r newyddion teledu a’r papurau newydd yn llawn adroddiadau am bobl yn cael eu saethu, eu trywanu neu’i curo i farwolaeth – a hynny’n ddyddiol.
Mae  Jamaica  yn ail yn y byd yn nhermau nifer o lofruddiaethau. Colombia sydd â’r fraint amheus o fod ar y brig.
Y llynedd llofruddiwyd 1,327 o ddinasyddion  Jamaica  – 0.5% o’r boblogaeth, ac yn Kingston y digwyddodd 80% o’r rheiny. Tasa cyfradd llofruddiaeth gwledydd Prydain yr un fath â  Jamaica , byddai 34,500 o drigolion yn cael eu mwrdro bob blwyddyn. Fel mae hi, tua 1,000 o lofruddiaethau sy’n cael eu cofnodi yma’n flynyddol.
Beth sy’n gyrru dyn o Bentre Poeth, Pwllheli i’r fath uffern o le?
Cariad. Be arall.
Cariad at gerddoriaeth a diwylliant  Jamaica , sy’n berwi yng ngwaed Elwyn Efans ers pan oedd o’n llefnyn yn ei arddegau.
Mae cariad yn cuddio pob pechod, meddan nhw, ac mae Elwyn yn gwrthod rhedeg ar y ddinas a’i phobl.
“Tasa chitha mor dlawd a difreintiedig â’r rhan fwyaf o bobl  Jamaica , fe wnaech chi unrhywbeth bron i wella eich bywyd. Dyna ydi gwraidd y rhan fwyaf o’r problemau,” meddai.
Ac yn groes i gyngor pawb bron, mentrodd i dân poeth Kingston i ddiwallu ei chwant am recordiau a chael cyfle i flasu diwylliant unigryw’r ynys.
Ers yr ymweliad cyntaf hwnnw yn 2000, mae o wedi dychwelyd yno bedair gwaith gan aros am dair wythnos ar y tro. A bellach mae o wedi defnyddio’r ymweliadau a’r obsesiwn efo cerddoriaeth reggae, a’i ffurf ddiweddaraf – dancehall – yn sail i lyfr am ei brofiadau.
“Roeddwn i wedi bod isio mynd i  Jamaica , a Kingston yn enwedig ers blynyddoedd,” meddai Elwyn.
“Pan o’n i tua 11 neu 12 oed roedd gen i obsesiwn efo’r Mods – eu dillad a’u miwsig, ac mae’r holl beth wedi dechrau yn fan’no,” meddai.
Bum mlynedd yn ôl oedd hi, ac Elwyn yn methu maddau mwyach i’r ysfa i fynd draw yno.
Roedd o newydd dderbyn tâl diswyddiad gwirfoddol gan gwmni Manweb, felly roedd ganddo “lwmp swm” i wireddu ei freuddwyd.
Am yr wythnos gyntaf bu ef a’i wraig Ann yn aros mewn pentref gyda’r enw hudolus Treasure Beach, ymhell o sn a thrais y ddinas ddrwg.
Wedi hynny roedd Ann yn dychwelyd i Gymru, ac Elwyn yn treulio’r pythefnos nesaf yn Kingston.
Roedd y trefniadau wedi ei gwneud cyn gadael Cymru.
Ers blynyddoedd mae Elwyn wedi dod yn ffrindiau efo criw siop recordiau Dub Vendor, yn Llundain, ac roeddan nhw wedi trefnu i rhywun ei gyfarfod yn Kingston.
“Bob tro oeddwn i’n dweud beth oedd fy mwriad, ro’n i’n cael fy rhybuddio i beidio mynd yn agos i’r lle.
“Roedd ’na un neu ddau o fois o Kingston yn cadw’u pennau’n isel yn Treasure Beach, wedi gwneud gelynion yn y ddinas, ac roeddan nhw’n dweud wrtha’i na faswn i’n para diwrnod yno.
“Roeddwn i’n gweld y newyddion a darllen y papurau am y pethau oedd yn mynd ymlaen yno, ond ro’n i’n dal yn benderfynol o fynd.”
Wedi ffarwelio â’i wraig ddagreuol, roedd y dydd wedi dod.
Dyn tacsi yr oedd wedi dod i’w adnabod aeth a fo i Kingston, ac roedd hwnnw ofn am ei fywyd.
“Roedd o bron a marw o ofn yno. Roeddwn innau’n teimlo’n ddigon pryderus. Ro’n i’n teimlo reit anghyfforddus ar brydiau, yn meddwl be os fasa’r boi ddim yn cysylltu efo fi, be dwi’n mynd i wneud wedyn?”
Roedd rhaid iddo oroesi noson yn y ddinas cyn hynny.
Y bore wedyn, ac yntau heb glywed gan Zack, y dyn oedd i fod i’w gyfarfod, cafodd alwad ffôn gan ei gyfaill o’r siop recordiau. Rhoddodd hwnnw rif ffôn iddo ac o’r diwedd roedd pethau’n edrych yn well.
Does dim angen dweud wrth Gymro am bwysigrwydd parchu diwylliant pobl eraill, ac nid yn unig y mae Elwyn yn caru cerddoriaeth  Jamaica , mae o hefyd wedi meistroli’r iaith.
Daeth hynny’n handi ar sawl achlysur.
“Dw i’m yn lecio’i galw hi’n patois – dw i’n gweld hwnnw’n air amharchus. Mae’r iaith Jamaicaidd yn gymysgedd cymhleth a diddorol o Arawac – iaith y trigolion brodorol cyntaf – Sbaeneg, Saesneg, Portiwgaeg, geiriau Affricanaidd a geiriau wedi’i gwneud i fyny eu hunain.”
Mae’r darn canlynol o’i lyfr – “Fflamau Jamaica” – yn egluro ychydig ar feddylfryd Elwyn, a’i gariad tuag at ddiwylliant yr ynys:
“Dieithryn ar ei ymweliad cyntaf â dinas estron hanner ffordd ar draws y byd. Ond doeddwn i ddim yn teimlo fel ymwelydd o gwbwl. Roeddwn yn teimlo’n berffaith gartrefol. Plantation Heights, Tower Hill, red Gal Ring, Cassava Piece, Barbican, Liguanea, Meadowland, Pembroke Hall a Patrick City... roedd yr enwau ar yr arwyddion ffyrdd i gyd yn hysbys imi. Ward Theatre, Devon House, Up Park Camp, y Gun Court, Parade, y National Arena ... ac arwyddnodau’r dref i gyd yn gwbwl adnabyddus.
“Roedd y mwyafrif helaeth o’r wynebau a welwn ar y teledu – yn wleidyddion, actorion, beirdd, awduron, digrifwyr, pêl-droedwyr, ac ati – yn gyfarwydd imi hefyd. A bwydydd, diwylliant, hanes, llên gwerin, moesau a defodau’r wlad. Ffasiynau’i thrigolion, eu hiaith a’u diarhebion, a’u myrdd o grefyddau gwahanol.”
Does bosib na theimlodd fymryn lleiaf o ysgytwad diwylliannol, holodd un o’i gyfeillion ar ôl iddo ddod adref?
“Naddo. Dim owns. Theimlais i’r un iod ohono trwy gydol fy arhosiad.”
Yn ystod ei ymweliadau mae Elwyn wedi cael cyfle i ymweld â stiwdios recordio enwoca’r ddinas, cwrdd â nifer o sêr presennol a gorffennol cerddoriaeth ska, , rocksteady, reggae a dancehall, a chyfle i ychwanegu at ei gasgliad anhygoel o recordiau, ond bu hefyd yn ddigon mentrus i fynd i ddawnsfeydd a chyngherddau, a gwyliau miwsig enfawr.
Ac wrth gwrs, yn anorfod mewn dinas mor dreisgar, daeth sawl eiliad anghyfforddus iawn i’w ran – nid efo’r brodorion duon bob tro chwaith.
Mewn gwyl ddiwylliannol Rastaffaraidd – y Rebel Salute – anwybyddodd Elwyn gyngor Zack i aros yn y car, a chafodd ei amgylchynu gan griw o lafnau, a ddygodd bopeth oedd ganddo o’i bocedi. Llwyddodd Elwyn i ddal un ohonynt, a pherswadiodd Zack y llanc i roi popeth yn ôl i’w gwr o Bwllheli. Ond sylweddolodd yn ddiweddarach ei fod wedi colli ei gamera drud.
Dro arall daliodd dihiryn gyllell i’w asennau, ond wnaeth y digwyddiadau hynny bylu dim ar ei chwilfrydedd i brofi pob math o brofiadau. Bu’n gwylio gêm bêl droed ar ei ben ei hun bach, yn un o ardaloedd perycla’r ddinas, ac am sbel ar ôl y gêm, roedd o mewn cryn bicil am ei fod wedi anghofio trefnu i’r tacsi a’i danfonodd yno, i ddod i’w nôl wedyn.
Mae profiadau o’r fath yn britho’r gyfrol, ac yn ogystal ag Elwyn ei hun – sy’n gymeriad a hanner – cawn gyfarfod â phob math o adar brith – rhai pur amheus, ond y mwyafrif yn bobl clên, a chymwynasgar. Ond hyd yn oed wedyn, o ddarllen ei hanesion a’i anturiaethau, fedr rhywun ddim peidio a meddwl bod ei fam yn eitha agos i’w lle.


Fflamau  Jamaica; Elwyn Efans; Gwasg Carreg Gwalch; £7.50




Sunday 28 August 2016

Perthyn, Cefyn Burgess, Herald Gymraeg 24 Awst 2016


Dafydd Wigley yn agor sioe Cefyn Burgess


‘Crefftwr’, dyna sut cyfeiriodd Cefyn Burgess at ei hyn, neu yn sicr wrth drafod cyd-destyn yr hyn mae yn ei wneud,  wrth agor ei sioe gelf ddiweddaraf ‘Perthyn’ yn Galeri, Caernarfon dros y penwythnos. A dweud y gwir, nid ‘crefftwr’ dddefnyddiodd Cefyn go iawn, ond y gair ‘artisan’, gan fod gofyn iddo gyflwyno ei sgwrs yn ddwyieithog. Er fod ‘crefftwr’ yn fanwl gywir am rhywun sydd yn creu crefft, mae rhywun hefyd yn deall yn iawn fod Cefyn yn ‘artist’ yn ogystal ac ‘arlunydd’.

Rhyfedd ynde sut mae’r gair Cymraeg yn yr achos yma yn ein gadael i lawr. Un peth ydi bod yn fanwl gywir ond rhywbeth arall yn hollol yw gallu cyfleu’r teimlad neu’r ysbryd. Wrth wrando ar Burgess yn trafod ei waith diweddaraf, sydd yn seilieidig ar Gapeli’r Wladfa ym Mhatagonia, roedd yn hollol amlwg wrth iddo drafod yr artisan,  fod Burgess yn perthyn i’r traddodiad amlwg hynny o Gelf a Chrefft yn nhraddodiad William Morris, Edwin Lutyens, Walter Crane ac eraill.

Fe all y crudd a’r saer coed fod yn grefftwyr, ond mae’r arlunydd / artist / artisan yn cynnig rhywbeth ychwanegol i’r manyldeb a chywirdeb – a dyna’r celf. Rhyfedd wrth drafod geiriau a disgrifiadau, rwyf wedi dechrau cyfeirio at Gaernarfon fel Gweriniaeth Cofiland.  Daw’r syniad o Cofiland  yn uniongyrchol o un o ganeuon The Clash ‘Garageland’, a’r llinell anfarwol honno, “We come from Garaegland”. Ac wrthgwrs y Cofis yw trigolion Caernarfon.
A pham ‘Gweriniaeth’ felly? Wel, achos fy mod wrth fy modd a’r syniad o ddatganoli, o annibyniaeth, o ryddid ,,,, yn sicr o ran creadigrwydd a’r celfyddydau. Eto daw’r dylanwad / ysbrydoliaeth yn uniongyrchol o eiriau (yr anfarwol) Tony Wilson, sydd yn gorwedd mewn hedd bellach. Anthony H. Wilson sefydlodd y Label Recordiau ‘Factory’ ac a gododd dau fys mor huawdl ar Lundain. Huwadl o ran defnydd o ddau air amlwg, cruno ac i’r pwynt.

Ond Wilson hefyd efelychodd Manceinion ym mhon sgwrs a gyda phob gweithred, bu agwedd Wilson yn ffactor bwysig yn y broses o wyrdroi y ddinas ôl-ddiwylliannol llwm a gwlyb i’r un hyderus, fodern, Ewropeaidd y gwelwn heddiw.Beth bynnag oedd cyfraniad Detroit i gerddoriaeth ‘tecno’, dadl Wilson oedd fod clwb nos yr Hacienda yn allweddol. Doedd neb am ddadlau yn ei erbyn.

‘Gweriniaeth’ neu ddim, mae angen parhau i godi ysbryd a thrawsffurfio Caernarfon. Mae Galeri ac arddangosfa Perthyn yn adlewyrchiad o’r hyder a’r aeddfedrwydd newydd, (fel mae Pontio ym Mangor) ac yn sicr gŵyl fel Gŵyl Arall sydd yn dod ac amrywiaeth eang o ddiwylliant creadigol i strydoedd Cofiland. Mae pethau yn gallu digwydd tu allan i Gaerdydd.
Fel gyda Manceinion, gallwn adnabod hiwmor a rhinweddau’r bobl leol, y Cofis. Wrth redeg o amgylch cyrion Caernarfon diwrnod neu ddau yn ôl, ar ddiwrnod cynnes os nad poeth, dyma’r floedd yn dod gan Gofi ifanc – “Dos am beint” – dim ond yng Nghaernarfon!

Does dim o’r drafodaeth hyd yma yn gwneud cyfiawnder a gwaith arbennig Cefyn Burgess. O edrych ar y ‘lluniau’ o’r capeli byddai rhywun yn taeru fod Burgess wedi eu peintio, ond o edrych yn agos mae rhain ôll wedi eu gwnio. Anhygoel. Yn ystod ei sgwrs, soniodd Burgess fel roedd angen cyfleu ehangder di-ddiwedd y dirwedd o amgylch y capeli bach unig yma. Disgrifiodd sut bu rhaid iddo greu awyr arall-fydol o las gyda cymylau gor-hir, gan mai dyma sut y gwelodd o bethau yn  Y Wladfa.


Rhaid canmol Burgess am ei gyflwyniad yn Galeri, achos fe llwyddodd i ddod ar pethau yn fwy byw. Mae’r celf yn siarad ta beth ond roedd esboniadau Cefyn yn rhoi mymryn mwy o liw i bethau hynod liwgar yn barod os di’r fath beth yn bosib. Ewch i weld arddangosfa ‘Perthyn’ yn Galeri tan 23ain Medi.

Wednesday 17 August 2016

Hel llus, Herald Gymraeg 17 Awst 2016





Does ‘na ddim byd gwell na’r pethau syml mewn bywyd weithiau. A dyna ddigwyddodd y diwrnod o’r blaen, mynd i hel llus hefo fy nhad. A dweud y gwir, does na ddim byd gwell na stiw llus, ychwanegu ychydig o siwgr brown wrth stiwio, a wedyn, ar ôl gorffen stiwio,  cymysgu’r cyfan gyda cwstard melyn.

Y fantais o wneud stiw yw fod modd cadw’r cyfan neu’r gweddill yn y rhewgell dros nos a dyna bwdin fory yn barod. Fe awn mor bell a dweud fod y stiw llus oer yn rhagori ar y stiw llus poeth yn syth o’r stôf, mae’r un peth yn wir gyda mwyar duon. Fe gawn chwistrelliad o egni, ac y teimlad o fwyta’n iach, gyda’r sudd tywyll oer. Gwell na hufen iâ unrhyw bryd !!!
Ond mae’r broses yr un mor bwysig a’r blasu. Yn flynyddol bellach bydd fy nhad a minnau yn dychwelyd at yr un lonydd bach cefn gwlad yn Eifionydd. Rydym yn gwybod lle i chwilio a mae’r ddefod flynyddol yn bwysig. Bu hel mwyar duon yn weithgaredd blynyddol yn ystod ein plentyndod ac yn oes yr archfarchnad ac o siopa ar-lein, dyma un ffordd fach iawn (ond ymarferol) o ymwrthod a chyfalafiaeth (os ond am y pwdin).

Un broblem fach ar hyd y lonydd yw fod cymaint o dorri gwrychoedd ac ochrau ffyrdd y dyddiau yma, felly roedd digon o goed llus o gwmpas ond eu bod wedi tocio i’r bôn ac o ganlyniad, llai o ffrwythau llus. Gan eu bod yn bethau ddigon bach beth bynnag mae’r busnas tocio yma yn golygu llawer mwy o waith er mwyn llewni eich bocs plastig. Mae hel mwyar duon yn haws yn hynny o beth. Yr ateb arall wrthgwrs yw crwydro ochr mynydd i hel llus.

Credaf ei bod yn biti fod cymaint o dorri gwair a gwrychoedd yn mynd ymlaen. Mae lliwiau blodau gwyllt, a’r ffaith fod pethau yn wytllt yn bwysig am bob math o resymau. Yn ystod ein plentyndod roedd lonydd bach cefn gwlad fel jyngl a’r tyfiant yn arllwys dros y tarmac fel tonnau trofannol. Dwi’n cofio swn y sioncod gwair, yr adar bach a’r ffaith fod natur yn wyrdd ac yn fyw. Heddiw rhaid i bopeth gael triniaeth a’i saneteiddio ac i beth? Modurwyr, diogelwch pobl sydd yn gyrru rhy gyflym?

Os yw’r hel yn hwyl, a’r holl ymdrechion i beidio gollwng neu daro’r bocs plastig drosodd, mae cyrraedd adre a dechrau ar y broses o olchi a choginio hefyd yn hwyl. Wrth i bethau ddechrau ffrwtian ar y tân cawn lewnwi’r gegin hefo oglau ffrwythau yn stiwio. Am hyfryd. Mae’r oglau yn creu’r awydd i flasu. Mae’r ffaith mae ni sydd wedi hel y llus neu’r mwyar yn gwneud y blas ddeg gwaith gwell – hyd yn oed os di’r mwyar braidd yn galed.Bydd y garddwr llysiau, neu’r tyfwr yn y tŷ gwydr yn profi’r un wefr, yr un balchder, yr un boddhad. 

Da ni newydd fynd drwy’r broses o ddad-rewi’r oergell gan orfod gwneud sawl cacan hefo mwyar llynedd er mwyn gwneud lle i fwyar duon 2016. Mae rhywbeth therapiwtaidd iawn mewn clirio, taflu, gwenud lle, ail-lenwi, hel llond bocs a’i rewi.


Gyda lle yn yr oergell a digonedd o focsus plastig glan mewn pentwr yn barod i’w defnyddio edrychaf ymlaen dros yr wythnosau nesa at dreulio ambell awran ar ôl gwaith yn cael hel llus a mwyar duon. Bydd yr hel yn gyfle i ymlacio i ffwrdd o sŵn y byd, i gael sugno ddipyn o awyr iach, i fwynhau’r golygfeydd a’r antur ond bydd hefyd yn gyfle i gael pwdin heno yn ogystal o bocs arall i’r oergell.

Wednesday 10 August 2016

Wastad ar y tu fas, Herald Gymraeg 10 Awst 2016





Rydym yn weddol gyfarwydd a’r syniad o ‘ddiwylliant Cymraeg’, ‘y Pethe’ i bob pwrpas, er byddai cytuno ar union hyd a lled hynny yn ddipyn o gamp. Siawns fod y gwahaniaeth rhwng ‘Cymraeg’ a ‘Chymreig’ yn ddigon amlwg, felly fe ddylia ni allu diffinio ‘diwylliant Cymraeg’ yn weddol hawdd.

Nid mor hawdd diffinio diwylliant Cymreig, y tri Thomas efallai, R.S, Gwyn a Dylan, neu’r Manic Street Preachers a Kyffin? Haws diffinio Seisnig (Llundain rhy aml) neu Americanaidd – ond mae grym, cyrhaeddiad  a dylanwad rhain yn anferth ac yn cynnwys popeth o Star Wars i’r Sex Pistols, o John Wayne i’r chwiorydd Bronte.

Yn ei holl amrywiaeth, bydd rhywun yn derbyn nad yw pob agwedd o ddiwylliant Cymraeg at ddant pawb. Dim ond y rhai a stumog gadarn fydd wir yn eistedd drwy’r Ŵyl Gerdd Dant, bydd dosbarth gweithiol trefol y de ddwyrain yn llai tebygol o ddarllen gwaith  T H Parry Williams a bydd canu pop Cymraeg yn ddiethr iawn os yw rhywun yn mynychu Ysgol Caergybi neu Aberhonddu (heddiw fel ddoe).

Yr hyn sydd o ddiddordeb i mi yr wythnos hon, yw edrych ar Gymry Cymraeg sydd efallai wedi ymwrthod a diwylliant Cymraeg, neu fod diwylliant Cymraeg erioed wedi eu cyffwrdd neu apelio go iawn iddynt. Rwyf am drafod Cymry Cymraeg sydd wedi ymddiddori mewn is-ddiwylliant, diwylliant pobl ifanc, diwylliant poblogaidd amgen – sef yr is-ddiwylliant hynny sydd wedi ei lywio a’i liwio gan ddatblygiadau yn America a/neu Loegr a wedyn wedi ei fabwysiadu gan Gymry Cymraeg.

Wrth reswm, petae ni yn edrych ddigon caled, fe gawn hyd i rhywun yn rhywle sydd yn hoffi Cerdd Dant a’r Small Faces a wedi bod yn Mod / Modette, ond prin iawn fydd yr engreifftiau yma dybiwn i. Bydd y mwyafrif (sydd yn cefnu ar yr amlwg ddiwylliant Cymraeg) yn byw eu bywyd yn ddigon naturiol yn y Gymraeg ond byth yn mynd i’r Steddfod, ddim yn darllen nofelau Cymraeg, yn ofni nad yw eu Cymraeg “ddigon da” a petae rhywun yn eu holi am gerddoriaeth pop Cymraeg does dim gobaith mul y byddant yn gallu enwi’r Crumblowers neu’r Blew. Bydd gobaith da ar y llaw arall y byddant yn gallu enwi Dafydd Iwan a Bryn Fôn.
Nid fy mwriad yw deall pam na beirniadu, fy unig ddiddordeb yma yw adnabod y Cymry Cymraeg hynny sydd wedi bod yn Teddy Boys, Mods, Rocyrs (reidio motorbeics) neu yn mynychu nosweithiau Northern Soul yn Wigan Casino. Pedwar is-ddiwylliant poblogaidd, dylanwadol, pwysig ond is-ddiwylliannau lle nad oes affliw o ddim byd Cymreig amdanynt a fawr ddim byd Cymraeg chwaith.

Yr unig beth Cymraeg cysylltiedig yw’r cymeriadau. Mae’r ffasiwn, y gwalltiau, y gerddoriaeth, y cyfryngau, y labeli recordio – i gyd yn hollol Seisnig neu Americanaidd - neu y cyfuniad rhyfedd hynny o’r ddau sydd yn esblygu dros amser wrth i’r dilynwyr ddewis a dethol y pethau gorau i’w mabwysiadu a’u harfer.




Felly mae’n taith yn dechrau drwy chwilio am y ‘Teddy Boys Cymraeg’, sef Teds sydd yn siarad Cymraeg. Mae nhw’n union fel bob Ted arall ond fod ganddynt ddefnydd o iaith y nefoedd. Fe ddadleuoedd ambell wag di-Gymraeg o’r de fod ‘Teds Cymraeg’ yn rhywbeth ‘amhosib’ -  ond eu diffyg dwyieithrwydd nhw yn unig all esbonio rhesymeg fel hyn, (neu eu hanwybodaeth / styfnigrwydd / rhagrarnau). Ond, oes wir, mae digon ar ôl, yn fyw ac yn iach ac os oes gwallt ar ôl ganddynt fe fydd hwnnw wedi ei siapio i’r DA a mi fydd y sideburns heb eu heillio.

Fe ysbrydolwyd yr ifanc gyda’r ffilmiau Blackboard Jungle a Rock Around the Clock a cherddoriaeth Bill Haley, Elvis, Carl Perkins, Little Richard, Eddy Cochran, Gene Vincent a Billy Fury fod rhywbeth ar gyfer eu cenhedlaeth nhw ar ôl i genhedlaeth eu rhieni ennill yr Ail Ryfel Byd. Gyda pres yn eu poced (am y tro cyntaf ers blynyddoedd) roedd modd cael recordiau, steil gwallt a brothel creepers a lordio hi o amgylch strydoedd trefi Cymru (yn ogystal a’r trefi mawrion).

Erbyn y 1960au roedd cenhedlaeth arall yn dyheu i fod yn fwy ‘modern’ na’r ‘Edwardiaid’ a dyma ddechrau ar y broses fod y genhedlaeth nesa yn disodli diwylliant y dwetha. Dyma agor y ‘generation gap’ a mae hyn wedi parhau yn weddol gyson hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif. Erbyn heddiw mae is-ddiwylliant yr ifanc yn gallu bod yn llai amlwg – mae’r holl beth fwy digidol a mae’r dirwedd wedi newid – nid er gwell neu er gwaeth – jest fod y dirwedd yn wahanol iawn bellach.

Os oedd y Mods yn fwy siarp ac ar eu sgwteri Vespa a Lambretta mae’r is-ddiwylliant Teds yn ei dro yn rhoi cyfle i rhai (nid pawb) drawsffurfio i fod yn Rocyrs ac i reidio mororbeics.Yn ôl y Daily Express ayyb dyma’r gelynion pennaf, y Mods a’r Rocyrs, ond go iawn, ar lawr cefn gwlad Cymru roedd pawb wedi mynd i’r un ysgol, yn byw yn yr un pentref – efallai fod ganddynt eu caffis a’u jiwcbocs o ddewis ond doedd dim cwffio ar strydoedd Caernarfon.
Tir niwlog sydd rhwng y Teds a’r Rocyrs, felly hefyd hefo’r Mods nath drawsffurfio i ddilyn Northern Soul. Fe arosodd rhai yr un fath hyd heddiw. Fe symudodd ac esblygodd  eraill hefo’r amseroedd.


Bydd cyfres newydd o’r enw ‘Wastad ar y tu fas’ yn dechrau am 6pm, 12 Awst  ar BBC Radio Cymru lle byddaf yn sgwrsio hefo Cymry Cymraeg fu’n rhan o’r is-ddiwylliannau yma, y Teds, y Mods, y Rocyrs a dilwynwyr Northern Soul.

Wednesday 3 August 2016

134dd Arddangosfa Haf Flynyddol yr Academi Frenhinol Cambriaidd, Herald Gymraeg 3 Awst 2016





Sefydlwyd yr Academi Frenhinol Cambriaidd ym 1881, gyda sêl bendith Fictoria, fel canolbwynt ar gyfer rhagoriaeth mewn celf weledol Gymreig. Dau o fy arwyr mawr oedd ymhlith y sylfaenwyr, yr arlunwyr David Cox a Clarence Whaite – dau oedd wedi sefydlu’r wladfa arlunwyr ym Metws y Coed.

Yn wir y ‘wladfa’ ym Metws y Coed oedd y cyntaf o’i fath ar Ynysoedd Prydain gyda arlunwyr yn cael eu denu at dirwedd wyllt, fynyddig a chymharol ddi-arffordd Betws y Coed pryd hynny. Newidiodd pethau wedyn gyda dyfodiad y rheilffordd i ogledd Cymru a dyna ddiwedd ar lonyddwch y pentref hynod hwnnw.

Ewch i’r bar yn y Royal Oak a mae un o baentiadau Cox yn dal yno uwch y lle tan. O ran y wladfa arlunwyr, dyma ddarn bach o hanes holl bwysig o ran hanes celf yng Nghymru. Yr holl dirlunwyr yn ymgynull yn y Royal Oak, yn crwydro ac yn peintio a Cox a Whaite yn cynnal y drafodaeth a’r momentwm. Dau Sais.

A dyma rhywsut amlygu rhai o’r rhwystredigaethau sydd yna ynglyn ac ynghlwm a sefydliadau fel hyn. Y gair ‘Brenhinol’ yn achosi pryder i rai. Y ffaith mae nhw a nid ni gafodd y syniad – ond yr ateb syml, neu y cwestiwm syml, sydd rhaid ei fynegi – lle roedd y Cymry Cymraeg talentog artistig? Rhy brysur yn ffermio i beintio? O bosib.

Er mor ddiddorol y drafodaeth bosib, does fawr o fynedd gennyf ymhelaethu ar hyn go iawn. Beth am edrych ar y ffeithiau. Mae oriel hyfryd yng Nghonwy gyda mynediad am ddim lle gallwn fwynhau celf Gymreig. Mae hyn yn ddigon i mi. Yn ail, fe ysgogodd sefydlu’r Academi Cambriaidd (dynion yn unig ar y dechrau)  i Augusta Mostyn sefydlu rhywbeth cyfatebol ar gyfer y merched.

O ganlyniad mae gennym Mostyn (Oriel Mostyn gynt) yn Llandudno. Oriel arall hyfryd, caffi da a chelf heriol a modern os nad ôl-fodern, os nad ôl-ôl-fodern. Felly dwy oriel o fewn tafliad carreg. Dwy oriel o safon rhyngwaldol. Dwy oriel hollol wahanol. Yma yng ngogledd Cymru. Ymfalchiwn.

Cyn gorffen a Whaite, mae penddelw ohonno ger y grisiau am yr oriel llawr cyntaf yn yr Academi Cambriaidd. Mis Gorffennaf yma cefais wahoddiad i agor y 134dd Arddangosfa Haf Flynyddol y Cambriad. Fel arfer os daw gwahoddiad o’r fath byddaf yn meddwl yn ofalus o flaen llaw am drywydd fy ‘araith’. Efallai na fyddaf yn dewis yr union eiriau, ond byddaf yn ystyried yn ofalus iawn iawn pa drywydd i’w ddilyn.

Credaf fod angen i’r celfyddydau a diwylliant Cymraeg a Chymreig bob amser fynegi barn. Mae cyfrifoldeb arnom i wella pethau ac yn sgil canlyniad y bleidlais dros Brexit, roedd rhaid oleiaf awgrymu fod y Byd Celf Cymreig yn un oedd yn groesawgar, yn un sydd yn edrych am allan, yn un sydd yn rhan o’r Byd (gan gynnwys Ewrop). Nath neb wrthwynebu.

Cyflwynais fy mhwt o araith yn ddwy-ieithog a gwneud hynny mewn ffordd naturiol a di-ffwdan. Diolchwyd i mi wedyn gan sawl un o’r gynulleidfa artistig  am gynnwys y Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn cael ei cholli weithiau, nid oherwydd unrhyw wrthwynebiad na hyd yn oed difaterwch ond am y rheswm syml – da ni ddim yna. Rhaid bod yno. Syml.



Newyddion da i’r Cambriad (ac i ni ddilynwyr y Byd Celf Cymreig) yw dyfodiad Elfyn Lewis a Iwan Bala at eu rhengoedd. Elfyn oedd yn gyfrifol am ddelweddau cloriau recordiau cyntaf y grwp Catatonia. Defnyddiais hyn fel fy llinell agoriadol er mwyn pontio rhwng y pop a’r celf.

Cyfeirwyd ataf fel ‘punk’ wrth fy nghroesau i’r podiwm. Chwerthais yn gwrtais fel arfer – ond does dim o’i le a chwistrellu ychydig o punk i sefyllfeydd a sefydliadau o’r fath.