Wednesday 25 November 2015

Henebion Llŷn, Herald Gymraeg 25 Tachwedd 2015






Diolch byth am bobl fel Dr Robyn Lewis yn llythyru ac yn ei dweud hi fel mae angen ei dweud hi am Llŷn. Y pwynt os deallaf yn iawn, yw mai fel Llŷn yn unig y dylid adnabod a chyfeirio at y penrhyn yma a nid yn y Saesneg fel “the Llŷn”, ac yn sicr nid fel “the Lleyn”. Erbyn deall, mae’r un peth yn wir am Benrhyn Gwyr, mae rhywun yn ymweld (yn Saeneg) a’r “Gower” a nid “the Gower”.
Son mae rhywun yma am wella safon iaith a fod rhywun yn defnyddio disgrifiadau fwy manwl gywir. Fe ddylid fod pawb yn ymddiddori yn y drafodaeth ac yn cymeryd sylw – rydym yma i ddysgu! Dysgu o fath arall oedd gennyf dan sylw dros y penwythnos, er i mi ddyfynu Robyn Lewis sawl gwaith, gan fod criw o dywyswyr WOTGA yn aros yn Nant Gwrtheyrn ac yno i ddysgu mwy am y penrhyn arbenig hwn – Llŷn.
WOTGA yw’r corff sydd yn cynrhychioli tywyswyr swyddogol Cymreig, gyda chydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru, sef tywyswyr sydd yn meddu ar Fathodyn Gwyrdd (Rhanbarthol)  neu Fathodyn Glas (Cenedlaethol). Trefniant pnawn Gwener oedd taith hwyliog o amglych rhai o ffynhonnau sanctaidd Llŷn, a maddeuwch am hyn, ond galwyd y daith yn “Well, well, well”. Cafwyd cyngor a chefnogaeth gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru a Chyngor Gwynedd ar gyfer yr ymweliadau a sicrhawyd mynediad prin i gael gweld Ffynnon Aelhaearn.
Heb os roedd y daith draw at Ffynnon Gybi yn plesio, dyma chi le sydd ac awyrgylch hynafol, a bu i un wriag hyd yn oed ymdrochi ei thread yn y dwr. Ches i ddim gwybod os oedd unrhywbeth ynglyn a’i thread angen ei iachau?  Diddorol hefyd oedd nodi’r gwahaniaeth rhwng adeilad y ffynnon a’r ty o’r ddeunawddfed ganrif a adeiladwyd gan William Pryce, Rhiwlas. Gwelir yn amlwg fod yna wahanaiaeth yn y gwaith cerrig rhwng y ddau adeilad erf od y ddau adeilad ynghlwm.
Y drydedd ffynnon oedd un Beuno yng Nghlynnog Fawr ac yma cafwyd cwmni Lloyd sydd yn ficar a rheithor ar y plwyf. Wrth reswm roedd rhaid cynnwys yr Eglwys fel rhan o’r ymweliad gan fod hon yn eglwys mor hynod a chafwyd cyfle i werthfawrogi’r ffenestri perpeniciwlar gyda eu bwa ‘ogee’, y seddau ‘misericord’ a safle’r hen eglwys hynafol o dan llawr Capel Beuno. Ysgogwyd trafodaeth pellach ynglyn ac arwyddocad ‘Maen Beuno’ y garreg fedd  o’r  9fed ganrif a’r cloc haul o’r 11fed ganrif.
Treuliwyd Dydd Sadwrn ar wybdaith o amgylch rhai o ‘uchafbwyntiau’ Llŷn. Er rhaid cyfaddef roedd methu ymweld ag elwysi Llangwnnadl a Phenllech er engraifft, oherwydd diffyg amser, yn achosi  cryn boen meddwl i mi fel tywysydd y dydd. Ond, fe gafwyd ymweliad ac eglwys hynod Pistyll, yn ei ogoniant gyda’r hesg dan draed, a bu rhaid dangos bedd Rupert ‘Maigret’ Davies i bawb.
Cawsom banad boreuol a swgrs yn Amgueddfa Forwrol Nefyn, cinio hyfryd o Gawl Enlli yn y Gegin Fawr, Aberdaron a sgwrs arall a phanad ganol pnawn yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn ogystal a chydig funudau i gael cipolwg ar arddangosfa John Piper a’i luniau o Eryri. Profiad arall yn sicr wnaeth argraff a’r y rhai oedd yn ddiethr i Lŷn oedd cyfle i wrando ar ‘stori’ gan Dafydd Hughes yn un o gytiau crynion Canolfan Felin Uchaf.

Bu Meinir Gwilym draw i’r Nant i ddiddanu pawb a llwyddais oleiaf i ddenu rhai allan o’r bws yn y gwynt a’r glaw mawr i werthfawrogi’r bwa Normanaidd / ‘Romanesque’ yn eglwys Sant Hywyn. Ond yr argraff fwyaf (a’r orau) a’r bawb, oedd fod Llŷn yn le, lle mae’r Gymraeg yn fyw. Chafodd na ru’n copa walltog yn ein cwmni gyfle i osgoi hynny!




Bayonet Bethesda, Herald Gymraeg 18 Tachwedd 2015



Apel sydd gennyf yr wythnos hon, apel am wybodaeth, ond gadewch i mi ddweud y stori gyntaf. Yn ol ym mis Mai cefais ebost gan y newyddiadurwr Mike Williams sydd yn gweithio i’r North Wales Chronicle yn gofyn i mi roi cymorth iddynt ar stori fod ‘cleddyf’ wedi ei ddarganfod ym Methesda. Wrth reswm roedd hyn yn swnio’n ddiddorol a dyma dderbyn lluniau gan Mike drwy ebost.
Roedd yn hollol amlwg o’r lluniau, nad cleddyf oedd wedi ei ddarganfod, ond bayonet, a’r tebygrwydd fyddai fod hwn yn perthyn i gyfnodau’r Rhyfel Mawr neu’r Ail Ryfel Byd, ond heb ei weld anodd fyddai bod yn sicr. Felly,draw i Fethesda a ni er mwyn gweld y bayonet yn y cnawd fel petae. Cefais groeso mawr gan Mrs Llinos Jones yn Ffordd yr Elen a chefais ddeall fod gweithwyr wedi cael hyd i’r bayonet ymhlith rwbel wrth adeiladu gorsaf drydan fechan yng gardd Mrs Jones.
Cyn i’r tai yn Fforddyr Elen gael eu adeiladu yn y 1970au mae’n debyg mai tir comin fydda yma ac yn fuan iawn yn ystod ein sgwrs daeth yn amlwg nad rhywbeth o deulu Mrs Jones oedd y bayonet ond rhywbeth oedd wedi cael ei ‘daflu allan’ rhywbryd dros y blynyddoedd. Meddyliais yn ol i fy mhlentyndod a’r atgofion hynny o chwarae ar dir comin lle roedd hen geir neu hen rhewgelloedd wedi eu taflu – peth ddigon cyffredin ddechrau’r 1970au.
O safbwynt archaeolegol, mae hyn yn golygu nad oes stori na chyd-destyn i’r gwrthrych. Pwy a wyr pryd a chan bwy gafodd y bayonet ei daflu allan – a dyma’r rheswm am yr apel. Y cam nesa oedd mynd a’r bayonet draw i Fangor at Esther Roberts yn Amgueddfa Gwynedd a dyma ddechrau’r broses o hel gwybodaeth am y gwrthrych gan droi at arbenigwyr ar wrthrychau.  A dweud y gwir roedd un o staff yr Amgueddfa gyda diddodrdeb mewn bayonets a roedd cymhariaeth sydyn ar Google yna agrymu mai bayonet o wneithuriaid Twrcaidd oedd y gwrthrych dan sylw.
Yn dilyn asesiad arbenigol, rydym yn awgrymu mai bayonet o arddull 1887 a ddefnyddiwyd ar reiffl ‘Mauser’ gan y Twrcs yw hwn, sef yn ystod y Rhyfel Mawr. Y stori yn aml iawn yw fod milwyr o Gymru, neu lle bynnag, oedd wedi bod yn brwydro yn Gallipopli yn dueddol o ddod a pethau fel hyn yn ol adre hefo nhw ar ol y Rhyfel fel cofrodd. Rydym hefyd yn gwybod fod yTwrcs wedi brwydro yn y Dardanelles, Mesoptamia a Phalesteina, felly rhaid bod yn ofalus i beidio neidio yn syth at y ‘canlyniad amlwg’.
Felly os am dderbyn y ddamcaniaeth mai cofrodd yw’r bayonet, a fod rhywyn, ddegawdau wedyn wedi penderfynu rhoi fflych i hen bethau taid – a fod y pethau hynny wedi eu taflu ar ochr y bryn (ar dir common / gwastraff) rydym yn ei chael hi’n anodd i gwblhau y stori. Heb gysylltiad ac unigolyn t roll sydd gennym yw’r gwrthrych. Heb ofal pellach cadwriaethol mae’r gwrthrych rhydlyd yn mynd i ddirywio, mae hynn yn sicr, ond heb mwy o stori bydd hwn hefyd yn gynharol ddi-werth,
Yn arianol, does dim gwerth o gwbl i’r gwrthrych, mae’r cyflwr rhy ddrwg, ond mae son fod nifer o filwyr ifanc o ardal Bethesda wedi brwydro yn Gallipopi yn ystod y Rhyfel Mawr. Fe all fod rhywun yn gwybod am hanes rhywun yn ardal Stryd y Dwr / Ffordd yr Elen / Carneddau fu yn rhan o frwydr Gallipopli. Os felly byddwn yn gwerthfawrogi clywed gennych. Byddai unrhyw wybodaeth bosib yn ychwanegu at y wybodaeth am  y darganfyddiad diddorol yma ym Methesda.



Thursday 12 November 2015

Adolygiad o Noson Barry Cyrff, Bern Elfyn Presli, Johnny FFlaps ac Al Maffia, Herald Gymraeg 11 Tachwedd 2015





Wel, fe ddigwyddodd y cyngerdd i ‘gofio am’ / ‘dathlu’  Al Maffia, Barry Cyrff, Johnny Fflaps a Bern Elfyn Presli dros y penwythnos yn Neuadd Ogwen, Bethesda. Ar ol blynyddoedd o siarad am y peth a misoedd o drefnu daeth tua 150 ynghyd i fwynhau cerddoriaeth gan Radio Rhydd, DJ Fflyffilyfbybl, DJ Alan Holmes (Fflaps / Ectogtram), Fiona a Gorwel Owen (Eirin Peryglus), Henry Priestman (The Christians), Neil Crud ac Alan Matthews (4Q), Maffia Mr Huws, Dic Ben a Gethin Jones (Elfyn Presli), Dyfrig Topper a The Earth (grwp newydd Mark Cyrff/ Catatonia a Dafydd Ieuan o’r Super Furry Animals).

O edrych ar Facebook, Trydar a You Tube (y cyfryngau cymdeithasol / y cyfryngau newydd) mae’n ymddangos fod pawb yn hapus. Yr artistiaid yn falch o fod ar lwyfan eto – rhai am y tro cyntaf ers blynyddoedd, rhai am y tro cyntaf ers misoedd ac eraill wrthgwrs heb fod i ffwrdd o gwbl. Y gynulleidfa yn dawnsio drwy’r nos. Roedd yn werth edrych ar y dorf yn ystod perfformiad The Earth – roedd y llawr ddawns fel rhyw olygfa afreal o ffilm am Northern Soul wedi ei leoli mewn ardal chwarelyddol. Fel dywedodd Dionne o’r Earth “there are some interesting moves out there”.

Codwyd cannoedd o bunnoedd i elusen ‘Music in Hospitals’. Cafwyd sel bendith a chefnogaeth teuluoedd y pedwar oedd yn cael eu dathlu. Roedd yn amlwg hefyd fod nifer o hen wynebau yn y dorf – dilynwyr Elfyn Presli o Port, dilynwyr Y Cyrff o Lanrwst, criw Y Fflaps o Fangor a dilynwyr Maffia Mr Huws hefyd yn amlwg. Fel dywedodd Sion Maffia wedyn “mission accomplished”.

Heb os, cafwyd set acwstig bendigedig gan Fiona a Gorwel Owen. Dipyn o her oedd bod ar y llwyfan ar ol egni-anarchaidd Radio Rhydd ond roedd amrywiaeth yn rhan o feddylfryd y noson. Does dim modd canmol digon ar CD newydd Fiona a Gorwel, ‘Releasing Birds’, casgliad hyfryd wedi ei recordio fesul can, fesul mis, dros gyfnod o flwyddyn.

Atgoffwyd pawb, pam mor dda gall Maffia Mr Huws fod pan mae nhw ar eu gorau. A dweud y gwir dyma’r gorau i mi eu gweld / clywed ers yr hen ddyddiau pan roedd Maffia yn prif grwp yn Pesda Roc, a pryd oedd hynny dudwch 1982, 1983? Cyflwynodd Neil Maffia rhwng y caneuon fel ‘pro’ go iawn, yn naturiol ffraeth a doniol ond yn gwneud cysylltiad a’r dorf. Petae Bono wedi ei eni yn Pesda -  eto y neges clir oedd fod Maffia yno i gyfathrebu ac i gysylltu.

Roedd nifer wedi gwirioni hefo Maffia, a hynny am y tro cyntaf, gan gyfaddef yn ol yn nyddiau’r Sin Danddaearol byddai gwrando ar Maffia wedi bod yn Na Fawr. Mae pethau yn newid. .Y farn gyffredinol yw fod Geraint Jarman wedi bod ar ei orau ers blynyddoedd gyda perfformiad gwych yng Ngwyl Arall eleni ac efallai fod Maffia hefyd wedi cyrraedd rhyw bwynt o aeddfedrwydd – fel gwin da. Yr hyn sydd ei angen yw’r llwyfan iawn, a llwyfan o safon o ran sain a goleuo – fe gafwyd hynny yn Neuadd Ogwen.

Cafwyd cyfle i glywed y caneuon ‘Parti Billy Thomas’ a ‘Jackboots Maggie Thatcher’ yn fyw ar lwyfan am y tro cyntaf ers 1986 gyda Dic Ben a Gethin Jones o’r grwp Elfyn Presli yn ymddangos ar y llwyfan. Gall rhywun ddadlau fod ‘Jackboots Maggie Thatcher’ yr un mor berthnasol ac erioed, yn enwedig o ystyried yr hyn mae George Osborne yn awgrymu ar gyfer budd-daliadau. Ond, a mae hyn yn ond pwysig, roedd y caneuon yma yn swnio yn dda heddiw. Can dda yw can dda. Byddai anwybyddu hyn fel ‘nostalgia’ pur yn gwneud cam mawr a’r clasur o ganeuon yma.

Braf oedd cael y cyfle i weld The Earth ar lwyfan eto yng ngogledd Cymru. Dyma’r grwp sydd yn cynnwys Mark Roberts (Cyrff / Catatonia) a Dafydd Ieuan (FFa Coffi Pawb / Super Furry Animals). Mae’r albym ‘Keltic Voodoo Boogaloo’ yn wirioneddol hyfryd ac yn gorlifo o alawon soul pwerus. Cofiwch mai Mark Roberts oedd prif gyfansoddwr Catatonia felly does syndod ond mae hefyd yn bwysig cydnabod Mark fel un o gyfansoddwyr gorau y Byd Pop Cymraeg erioed – sawl clasur sydd gan Y Cyrff? Mwy na da ni yn sylweddoli.

Roedd Mark Cyrff yn hollol allweddol i’r noson hon, Fo, sef hen gyfaill Barry Cyrff, oedd y cyntaf i roi ei sel bendith i’r syniad a hynny heb eiliad o betruso, heb ofyn unrhyw gwestiynau – mae fy mharch at Mark erioed wedi bod yn enfawr, ac os yw’r fath beth yn bosib roedd ei holl agwedd at y noson yn atgyfnerthu hynny. Dyma ddyn sydd yn dallt y dalltings.

Fe gafwyd cefnogaeth gan rhai o’r cyfryngau Cymraeg oedd yn ‘dallt’. Darn bach da yn cyfweld a Dic Ben yn Golwg, rhag-hysbys ar BBC Cymru Fyw a chyfweliad gwych gan Huw Stephens ar C2 ond Peter Telfer (Culture Colony) oedd yno i ffilmio ar y noson. Fel dywedais, y cyfryngau cymdeithasol yw’r dogfenwyr newydd.
Did I Fight in the Punk Wars For This https://www.youtube.com/watch?v=UzdkN8DCquE

Felly fe ddathlwyd cyfraniad y pedwar cerddor. Gobeithio mai edrych ymlaen oedd pawb nid edrych yn ol. Yn sicr dyna fy argraff o’r noson. Ond roedd hyn yn waith caled iawn i ddenu 150 yn unig er mor dda oedd y noson. Fy marn yma yw fod hyn yn ategu’r ffaith fod diffyg buddsoddiad diwylliannol dros y blynoeddoedd wedi di-brisio pethau. Lle nesa? – dyna chi gwestiwn da ond rwyf yn amau rhywsut os mai hon yw’r bennod olaf.


Monday 9 November 2015

Elizabeth Ferres, Herald Gymraeg 4 Tachwedd 2015


 

Mae sawl rheswm dros ymweld ac eglwys Sant Mihangel yng Nghaerwys. Rheswm un, i’r rhai gyda diddordeb mewn ffenestri lliw, fyddai ffenestri Henry Dearle (Cwmni William Morris), ffenestr hyfryd a lliwgar Henry Gustav Hiller ac wrthgrws y ffenestr yn cofnodi Eisteddfod Caerwys 1523/24 ar y wal orllewinol. Rheswm dau efallai, fyddai’r cloc haul rhestredig Gradd II. Ond sgwn’i faint fydda’n gwybod am Rheswm tri?

Nid fod rhain mewn unrhyw drefn blaenoriaeth, ond mae’r corffddelw sydd yn gorwedd ar ochr ddeheuol y gangell yn gorfod bod yn un o drysorau cudd Cymru. Yn llythrennol gudd, yn gorwedd fel y mae, ar ochr y gangell, er o dan fwa addurniedig iawn. Yn ol y son, ac ymhell o fod yn ffaith, dyma gorffddelw Elizabeth Ferres, sef gwraig Dafydd ap Gruffydd.

Cymeriad diddorol yw Dafydd ap Gruffydd (brawd Llywelyn ap Gruffydd) achos ei ymosodiad ar Benarlag ym 1282 sydd yn arwain at y rhyfel olaf gyda Edward I a hynny sydd yn arwain yn uniongyrchol at gwymp Llywelyn ym mis Rhagfyr 1282 a felly at ddiwedd annibyniaeth Cymru yng Ngwanwyn / Haf 1283. Dyma rhywbeth sydd yn ein heffeithio (a chorddi) hyd at heddiw. Pa ddisgybl ysgol yng Nghymru sydd ddim yn cofio’r dyddiad 1282 (medda fi yn obeithiol)?

Rhywsut rydym wedi llwyddo i ddrysu ein hanes. Llywelyn Ein Llyw Olaf sydd yn cael ei gofio, a dydi anturiaethau Dafydd a’i feibion Owain a Llywelyn ddim yn cael eu cofio. Dydi pwysigrwydd cestyll Dolwyddelan, Dolbadarn a Bere yn sicr yn ystod hanner cyntaf 1283 ddim yn cael eu cofio. Dydi pwysigrwydd y ‘llys’ yn Abergwyngregyn ddim yn cael ei gofio mwy na di’r ucheldir o amglylch Bera i’r de o Abergwyngregyn lle y’i daliwyd gan filwyr Edward I.

Yr arbenigwr ar gorffddelwau o’r cyfnod yma yw Colin Gresham. Ei lyfr Gresham, C, A., 1968, Medieval Stone Carvings in North Wales, Sepulchral Slabs and Effigies of the Thirteenth and Fourteenth Centuries yw’r ‘gwerslyfr’, ond dydi Gresham ddim yn gallu cadarnhau mai corffddelw Elizabeth Ferres sydd yn Eglwys Caerwys. Y tebygrwydd yma yw fod y ‘stori leol’ wedi ei dderbyn / fabwysiadu / troi yn wirionedd dros y blynyddoedd.

Pwy bynnag sydd yn gorwedd yma, fe allwn ddadlau fod cael rhywle i gofio am Elizabeth Ferres yn bwysig – fel gyda arch-garreg Llywelyn ab Iorwerth yn Llanrwst – yn amlwg dydi Llywelyn ddim yn gorwedd yno. Priodol hefyd yw atgoffa ein hunnan beth oedd tranc Gwladys, merch Dafydd ac Elizabeth. Fel yn achos ei chyfneither Gwenllian, cael ei gyrru i leiandy am weddill ei hoes, oedd pennod olaf Gwladys – fel na fu modd parhau’r llinach. Treuliodd Gwladys weddill ei hoes yn lleiandy Sixhills, Swydd Lincoln.

Ac o un arwres i’r llall, ffaith arall ddiddorol am Caerwys yw mai yma y ganed Myfanwy Talog, yr actores a leisiodd Wil Cwac Cwac a’r genod yn Siwper Ted. Roedd Myfanwy yn briod a David ‘Del Boy’ Jason ac yn gyfarwydd i gynulleidfaeodd Cymraeg fel y cymeriad Phyllis Dorris yn Ryan a Ronnie.

Gan fod Caerwys yn gorwedd oddiar yr A55, y duedd yw fod pobl yn gwybio  heibio. Ond, yn y rhan yma o’r byd mae’n werth gwneud y detour. Tafliad carreg i’r gogledd-orllewin o gyffordd Caerwys mae Maen Achwyfan. Milltir neu ddwy i’r de, dyma bentref Caerwys. Hanner awr ar y mwyaf sydd rhaid i’r detour gymeryd.

Cysylltiad arall diddorol os yw rhywun am wneud cysylltiadau yw mai Hiller oedd yn gyfrifol am ffenestr goffa John Ceiriog Hughes yn Neuadd Goffa, Glyn Ceiriog. Ceir ffenestri eraill gan Hiller yn Llansannan, Llanbedr y Cennin, Degannwy, Santes Marchell ger Dinbych a Llanllwchaiarn ger Y Drenewydd. Digon o detours felly!