Monday 11 October 2021

Y Waunllwch, Llafar Gwlad 154

 


Rwyf wrthi yn sgwennu’r bedwaredd gyfrol ar Archaeoleg Cymru ar gyfer Carreg Gwalch - y tro yma y de-ddwyrain fydd dan sylw. Er mai safleoedd archaeolegol yw ffocws amlwg y llyfr rwyf yn sylwi fy mod yn aml yn ail-adrodd yr un peth – na ddylia unrhyw ran o Gymru fod yn ddiethr i ni. Gan dderbyn nad yw teithio yn hawdd i bawb, fe all fod yn gostus, nid pawb sydd hefo car, tydi’r safleoedd archaeolegol yn aml ddim yn agos i drafnidiaeth cyhoeddus. Dwi’n dallt hynny!

‘Egwyddor’ o fath, sydd yn fy nghorddi. Rwyf am weld pob cornel o Gymru yn cael sylw, yn cael ei drafod, gan gynyddu ein dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r wlad fechan hyfryd hon. A dyma gyfaddef fod y Gwynllŵg, y Waunllwch, Lefelau Gwent yn ddiethr i mi.

Y ‘Lambies’ medda Peter Finch yn ei gyfrol Real Cardiff sef yr enw yn iaith lafar trigolion Caerydd, ond ardal fechan ger aber y Rhymni yw’r Lamby go iawn. Morfa heli ar ochr ddwyreiniol y Rhymni yw Lamby Moor.

Dros y ddegawd dwetha mae’r ddisgyblaeth archaeolegol wedi rhoi llawer mwy o bwyslais ar ddealltwriaeth o safleoedd o fewn y dirwedd ehangach. Wrth reswm mae hyn yn gwneud synnwyr gan fod y dirwedd yn cael cymaint o effaith ar pam fod pethau yn cael eu lleoli, adeiladu, gosod, sefydlu yn lle mae nhw. Rwyf am ddeall ardal Gwynllŵg yn well.

Gyda cymaint o wahanol enwau am un lle, mae’n werth crybwyll fod posibilrwydd cryf fod y ‘gwyn’ yn yr enw yn deillio o waun, sef tir corsiog isel. Rydym rhwng afonydd Rhymni i’r gorllewin a’r Ebwy i’r dwyrain. Rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Rhwng y draffordd M4 a’r rheilffordd Caerdydd-Llundain a’r môr.

Dyma fy ymweliad cyntaf felly gyrrais nol a mlaen ar hyd Lamby Way a Wentloog Avenue er mwyn cael gwell blas ar y lle. O’r gorllewin mae rhywun yn dod o gyfeiriad dociau Caerdydd a dros aber droellog, llydan a mwdlyd y Rhymni. Dyma dirwedd ddiwydiannol sydd yn aml yn ol-ddiwydiannol. Mae pethau yn digwydd yma ond mae hanner yr adeiladau i weld yn segur gyda mwy o rwd na phaent. Lle da i dynnu lluniau.

O Lamby Way ymlaen mae un o nodweddion doniolaf yr ardal yn amlwg. A dweud y gwir mae rhywun yn clywed yr arogl cyn eu gweld. Mae ceffylau ym mhob man, yn pori ar ochr y ffordd, rhai ar denyn, rhai yn rhydd. Os yw rhywun yn gweld y ceffylau mae rhywun yn y lle iawn!

A dyma air newydd – y ‘reen’ sef y ffosydd dŵr sydd yn croesi’r dirwedd yn unionsyth mewn grid ar linell gogledd-orllewin, de-ddwyrain ac yn gyfochrog a’r morglawdd. Does fawr o ddim byd naturiol yma. Dyn sydd wedi creu y dirwedd a dyn sydd yn rheoli’r dirwedd cystal a sydd bosib. Er yn 1607 daeth y môr dros y morglawdd. Cafwyd llifogydd yng Nghaerdydd a chodwyd y morglawdd yn uwch.

Ymhlith yr enwau mae Tarwick Reen, Blackwater Reen, Broadway Reen a Rhosog Fawr Reen sydd yn gyfochrog a’r ffordd B4239 draw am Peterstone Wentollog. Rhwng y morglawdd a’r ceffylau yn denu fy sylw rhaid atgoffa fy hyn i gadw llygad ar y ffordd, nid dyma’r lle i wneud cangymeriad a gyrru dros yr ymyl ac i’r dŵr.

Archwilio yw’r cofnod ar-lein o safleoedd archaeolegol. Ceir tystiolaeth fod dyn wedi ceisio rheoli’r dirwedd ers y cyfnod cynhanesyddol. Pyst pren yn aml yw’r dystiolaeth sydd wedi gorosesi yn y tir gwlyb. Hen oradau efallai neu ffiniau llociau. Canfuwyd ambell aelwyd neu le tân yma hefyd, golosg yn dod i’r wyneb wrth i archaeolegwyr gloddio. O ran dyddiadau mae’r olion yma yn amrywio o’r Oes Efydd, y cyfnod Rhufeinig a’r Oesoedd Canol – tystiolaeth fod dyn yma ers canrifoedd yn ymdrechu am gynhaliaeth yn erbyn grym natur a’r môr.




Darganfyddiadau drwy gloddio yw rhain. Does dim olion Rhufeinig ar y wyneb. Yn Real Cardiff mae Finch yn cyfeirio at y ffaith fod y Rhufeiniaid wedi codi morglawdd yma dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Ond dros y ddwy fil o flynyddoedd mae unrhyw forglawdd wedi ei ail-godi sawl gwaith. Yn yr un modd mae’r ffosydd neu reens wedi eu clirio au hail-dyllu droeon. Tirwedd sydd yn esblygu drwy’r amser sydd yma nid rhywbeth static.

Wrth feddwl am sgwennu llyfr am safleoedd archaeolegol rwyf yn sylwi nad oes fawr o archaeoleg i’w weld mewn gwirionedd. Ond, rydym yn edrych ar dirwedd sydd yn dyst o ymyraeth a gofal dyn ers oleiaf tair mil o flynyddoedd. Felly mae’r ‘archaeoleg’ yn beth byw. Yma, y profiad o grwydro tirwedd byw sydd yn rhoi cipolwg ar sut fydda pethau mil o flynyddoedd neu fwy yn ôl. Os yw rhywun yn cael gwared a’r tarmac a’r tai brics melyn, mae’r dirwedd ‘naturiol’ yn weddol ddi-newid ei olwg.



Fy mhrofiad i ar fy ymweliad cyntaf oedd fod yn haws parcio ochrau Sluice Farm, ochr Caerdydd i Peterstone. Roedd ambell gilfan gyfleus. Wrth agosau at Gasnewydd roedd y ffordd yn gul a llefydd parcio yn brin. Gan gerdded draw at y morglawdd yn y gorllewin cefais gerdded ar Rumney Great Wharf a Peterstone Great Wharf gan fwynhau y golygfeydd draw am Wlad yr Haf yn y pellter dros yr Hafren. Roedd ochrau Tremorfa yn cuddio Dinas Caerdydd go iawn. Dennodd Ynys Echni fy llygad yn amlwg, fel mae pob ynys yn ei wneud gan godi awydd o hwylio draw ar gwch.

Roedd y llanw allan, y môr yn rhy bell i’w gyrraedd a mwy na thebyg rhy fwdlyd a pheryg i fentro beth bynnag. Bodlonais ar gerdded ar ben y morglawdd a cheisio profi’r awyrgylch. Mor wahnanol i Eryri. Pen arall i’r wlad. Diethr i mi. Wrth gyrraedd Peterstone dyma siom i ganfod fod yr eglwys mewn meddiant preifat. Chefais ddim mynediad ac o ganlyniad ddim cyfle i weld y gofeb i’r llifogyd 1607. Mae carreg arall wedi ei chodi yn y pentref i gofnodi’r digwyddiad fel rhyw fath o iawndal i rhai fel fi sydd am dynnu lluniau cofebau.

Treuliais rai oriau yma er mwyn cael blas o’r lle. Bydd angen dychwelyd eto, ond mi gefais flas, blas go iawn.