Thursday 27 April 2017

Petae Patti Smith yn ymweld a Chroesor, Herald Gymraeg 26 Ebrill 2017





Llwyddodd Patti Smith i sgwennu cyfrol gyfan am yfed coffi mewn caffis a thynnu lluniau polaroid o wrthrychau ei hoff artistiaid. Y llyfr oed ‘M Train’ (2015). Gallaf feddwl am ddau reswm amlwg pam fod hyn yn gweithio. Yn gyntaf mae gan Smith y ddawn anhygoel o allu disgrifio a chreu darlun ac ymdeimlad o le mewn amser penodol ac yn ail, wel, hi di Patti Smith ynde, cyfansoddwr yr LP ‘Horses’ a chaneuon fel ‘Because the Night’, felly mae ganddi ddarllewnyr parod.

Digon o waith byddai llyfr gan awdur anghyfarwydd yn gweithio yn yr un modd. Perthyn i draddodiad rhai fel Kerouac a’r awduron Beat mae Smith, ac o ddeall y ‘traddodiad’ a’r ‘llinach’, mae’r broses o brosesu geiriau Smith yn llawer mwy rhwydd. Dwi dal ddim yn hollol siwr beth mae hi yn drio ei ddweud. Tydi hynny ddim gormod o’r ots. Mae pob pennod ganddi  fel darn o farddoniaeth disgrifiadol.

Gallwn ail ddarllen llyfr Smith mewn rhyw fis neu ddau a dwi’n siwr byddwn yn mwynhau eto, ac yn gweld golygfeydd newydd, yn clywed synnau newydd, yn profi awyrgylchoedd newydd.




Tydi Caffi Croesor ddim o’r naws ac awyrgylch ddinesig sydd yn gysylltiedig a’r caffis mae Smith yn ei fynychu. A dweud y gwir byddai’n ddiddorol llusgo Smith ar daith o amgylch caffis bach gogledd Cymru, Tŷ Mawr yn Rhyd Ddu, Caffi Sam yn Llanberis, y Gegin Fawr yn Aberdaron - a gweld beth fyddai yn ymddangos ar ei thudalennau, pa polaroids fydda hi yn ei dynnu.

Rwyf yn eistedd yng Nghaffi Croesor yn sgwennu hwn. Yn hwyrach y noson hon byddaf yn rhoi sgwrs yn y caffi ar Brexit, Cŵl Cymru a llawer mwy. Gan fy mod yn rhoi sgwrs yng Nghroesor gyda’r nos penderfynais adael o adre yn gynt gyda’r bwriad o ddringo Cnicht yn y prynhawn. Roedd y syniad yn dda ond y tywydd yn ofnadwy.

Felly ar ôl cerdded am rhyw awr a hanner ar lethrau Cnicht a gwlychu at fy nghroen rwyf yn newid i ddillad sych ac yn treulio’r ddwy awr cyn fy sgwrs yn y caffi yn sgwennu ychydig ac yn mwynhau cawl cenin, tatws a chaws stilton. Tydi stilton ddim at fy nant fel arfer ond ar Dydd Gwener y Grogrlith oer a gwlyb, dwi ddim am ddadla a dyma fwynhau pob llwyad o’r cawl trwchus chwilboeth.

Oleiaf ar ôl hynny roeddwn wedi cynhesu ac yn barod am fy sgwrs y noson honno. Ceisias ddyfalu neu ddychmygu beth fyddai’n dal sywl camera polaroid Smith. Daeth criw o ddringwyr i mewn a chlywais un ferch yn esbonio sut byddai ychwanegu R at Croeso yn gwneud enw’r pentref, Roedd arwydd ‘Croeso’ uwchben y lle tân. Efallai mai hwn fyddai Smith wedi ei dynnu, neu y gadair siglo wrth y tân?

Fel arfer mae’r dodrefn yn ei lluniau yn rhai sydd wedi cael defnydd ganddi, neu yn perthyn i artist fel Frida Kahlo, felly dwi dal ddim wedi fy argyhoeddi fod yr arwydd Croeso yn ddigon. Beth fyddw’n i yn ei dynnu?

Dyna gwestiwn da, felly dyma grwydro’r caffi yn chwilio am ysbrydoliaeth.Mae yna gardiau post o luniau gan Tudur Owen ar werth yma. Fo yw mab yr enwog Bob Owen, Croesor. Cawn lun o ffens grawiau ar un cerdyn post. Dyna fyddai wedi hawlio sylw Smith meddyliais. A dweud y gwir, dyna un o’r delweddau cryfaf sydd i’w gael yn Eryri, o Ogwen i Nantlle.

Dwi’nnau hefyd wrth fy modd yn crwydro llwybrau a sylwi ar y waliau / ffensus crawiau a’r weiar rhyngddynt (weithiau). Nid peth anodd yw tynnu llun a chael hwnnw i edrych yn hynod gelfyddydol – mae’r gwrthrych yn gwneud y gwaith drostom. Dwi’n tynnu llun o’r arwydd Croeso uwchben y lle tân.

Wednesday 19 April 2017

Brexit ac Archaeoleg, Herald Gymraeg 19 Ebrill 2017




Yn aml wrth eistedd i lawr i sgwennu fy ngholofn ar gyfer yr Herald Gymraeg byddaf yn gofyn y cwestiwn os gallaf gyfiawnhau sgwennu colofn arall am archaeoleg pan mae’r byd yn mynd mor amlwg wallgof? Gofynwyd yn ddiweddar i’r cyn Brif Weindog, Tony Blair, os oes unrhywbeth cadarnhaol am y broses Brexit, ac ar ôl seibiant hir, ei ateb oedd ‘Nagoes’.

Er gwaetha’i gangymeriadau difrifol o rhan Rhyfel Irac, dyma gael fy hyn yn cytuno a Blair, a felly hefyd hefo gwleidyddion eraill na fyddwn fel arfer yn cytuno a nhw, John Major, Nick Clegg, Kenneth Clarke. O wylio Question Time yn wythnosol mae’r ‘mob’ Brexit yn mynd yn fwy fwy ddiamynedd gyda unrhywun sydd yn gofidio am ganlyniad y refferendwm mis Mehefin dwetha.

Bellach mae’r profiad o wylio Question Time yn un poenus, mae’r ‘Little Englanders’ yn methu stopio gweiddi. Llais y Bobl. Yn fathamategol roedd ‘mwyafrif’ y refferendwm  yn un o drwch blewyn. Yn fathamategol mae hyn yn ganlyniad rhy sigledig a bregus ar gyfer penderfyniad mor bell gyrrhaeddol. Cameron ????????

Heb wrthblaid effeithiol (onibai am Sturgeon), heb lais amlwg i’r 48%, dim ond geiriau rhai fel Blair a Major sydd yn gwneud unrhyw fath o synnwyr. Pwy fydda wedi dychmygu?. A thra dwi’n cael cyfle i ymosod (colbio) ychydig ar wleidyddion, does dim golwg fod unrhywun ohonynt, yn unrhywle yn y byd, hefo unrhyw weledigaeth ar sut i ddatrys y problemau difrifol yn Syria. Yn sicr tydi creu gwagle gwleidyddol ddim yn mynd i weithio - fe ddysgom hynny o Irac a Lybia. Efallai ei bod yn haws sgwennu am archaeoleg cofiwch!

Mae yna golofn arall yn rhywle am ‘gangymeriad’ Sean Spicer a’i ddiffyg gwybodaeth anghredadwy am Hanes yr 20fed ganrif. Mae fy nghamgymeriad ffeithiol i yn y golofn wythnos dwetha yn teimlo yn fach iawn a chymharol dibwys o gymharu a ‘clangar’ Spicer ond dwi hefyd yn teimlo mai gwell fyddai ymddiheuro.

Fy nghamgymeriad i oedd cyfeirio at stori Branwen fel Pedwerydd Gainc y Mabinogi. Ail Gainc y Mabinogi yw stori Branwen ferch Llŷr – dwi’n gwybod hynny! Fe gewch sbario sgwennu llythyrau i’r Herald yn fy nghywiro felly …..

Cadw at yr archaeoleg yw’r peth doeth efallai. Yn sicr i chi dyma lle dwi hapusa a mwyaf cyfforddus ac yn cael y mwyaf o fwynhad. Dwi ddim yn credu y gallwn ddygymod a’r rhwystredigaethau o fod yn wleidydd mwy na gallwn ddioddef fod yng nghwmni’r rhan fwyaf ohonnynt. Mae’r syniad o ddod wyneb yn wyneb a Hamilton yn y Cynulliad yn ormod i mi.



Wythnos yn ôl dyma dderbyn gwahoddiad gan Gymdeithas Archaeoleg Blaenau Ffestiniog i ymweld a Chwmorthin, uwchben Tanygrisiau, er mwyn ceisio dehongli beth oedd y twmpathau sydd i’w gweld ar ochr ogledd-ddwyreiniol Llyn Orthin. Roedd David Hopewell o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn gwmni i mi a buan iawn daethpwyd at y canlyniad mai gweddillion teisi mawn oedd y nodweddion yma ar y dirwedd. Roedd modd gwthio ein ffon gerdded i mewn i’r mawn heb unrhyw drafferth ac roedd y lliw du ar y ffon yn cadarnhau mai mawn oedd hyn yn hytrach na charnedd o gerrig neu pridd. Y gobaith yw y cawn wneud ychydig o waith cloddio yma yn ystod 2018 i gadarnhau mai teisi mawn yw rhain gyda mwy o sicrwydd.

Gwelir tair tas fawn amlwg ger y llyn ond wedyn o edrych yn ofalus reodd un arall yn gorwedd ger, neu hyd yn oed o dan, tomen sbwriel y chwarel tra roedd yna awgrym o ddwy das arall oedd wedi eu clirio. Roedd yn weddol amlwg, am ba bynnag reswm, fod y teisi oedd ar ôl yn rhai wedi eu gadael, erioed wedi eu defnyddio. Pam oedd y cwestiwn amlwg?
Ar ôl cadarnhau cystal ac y gallwn o ymweliad a’r olwg gyntaf mai teisi mawn oedd rhain, dyma gerdded yn ein blaen gan geisio cadw at lwybr yr hen ffordd drol ar ochr ogleddol y llyn nes cyrraedd adfeilion Cwmorthin Uchaf. Dyma’r adeilad hynaf yn y cwm gyda dyddiad dendrocronoleg o ddechrau’r 16ganrif neu 15ganrif hwyr. Archwilwyd y safle yn archaeolegol gan Bill Jones a’r criw a mae eu canlyniadau i’w gweld ar safle we cwmorthin.com

A’i teisi mawn ar gyfer Cwmorthin Uchaf neu Cwmorthin Isaf (sydd o dan y domen chwarel) oedd rhain? Braidd yn bell o’r tai oedd y farn ond wedyn efallai mai dyma lle cloddiwyd am y mawn a byddai’r mawn wedi ei symud wedyn ar ôl sychu yn agosach at y tai?

Rhaid dweud, anodd curo diwrnod fel hyn lle mae rhywun allan yn y wlad, yn cerdded mewn cwmni da ac yn ychwanegu at ein gwybodaeth / dealltwriaeth archaeolegol o dirwedd Cymru. Felly, oes, mae pwrpas sgwennu am archaeoleg yndoes. Nid rhywbeth dibwys ymylol yw hyn ond modd o wella ein dealltwriaeth o’r union lle rydym yn byw.



Er cymaint dwi’n dymuno ‘colbio’  y gwleidyddion, dwi ddim yn un am osgoi gwleidyddiaeth chwaith. Mae popeth yn wleidyddol a mae golygydd y cylchgrawn British Archaeology, cyhoeddiad Cyngor Archaeoleg Prydain, Mike Pitts, yn un arall sydd ddim yn colli cyfle i fynegi pa mor ddrwg yw Brexit i’r maes arcaheoleg.

Mae’r sector archaeoleg o fewn ein prifysgolion yn derbyn swm sylweddol o arian ERC  – sef nawdd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd – efallai cymaint a £41.5 miliwn, heb son am grantiau arall academaidd fel rhai Erasmus a Marie Curie. Ar hyn o bryd does dim sicrwydd beth fydd effaith hir dymor Brexit on dwi ddim yn gweld y ‘mob’ Brexit yn poeni rhyw lawer am archaeoleg!



Wednesday 12 April 2017

Y Lle Hanes, Herald Gymraeg 12 Ebrill 2017





Fe all rhywun awgrymu, os nad dadlau, fod Ynys Môn yn gorlifo o hanes ac archaeoleg. O ystyried y cyfoeth o henebion cynhanesyddol - os yw rhywun yn crybwyll siambrau gladdu Neolithig Bryn Celli Ddu, Trefignath a Barclodiad y Gawres neu safleoedd fel Din Lligwy neu Caer Leb o’r cyfnod Rhufeinig, mae’r ynys yn yn amlwg yn gartref i safleoedd hynafol pwysig iawn. Yn wir mae rhai o’r safleoedd yma yn unigryw.

Ar begwn arall y llinell amser, cawn olion o’r Chwyldro Diwydiannol sydd yr un mor bwysig ar yr ynys wrth feddwl am gwaith copr Mynydd Parys a phontydd Telford (1826) a Stephenson (1850) dros Afon Menai. Dim ond crafu’r wyneb yw hyn a dyma mewn ffordd fydd her fawr Y Lle Hanes ar faes yr Eisteddfod Gendlaethol eleni – sut mae gwneud cyfiawnder a hanes lle mor gyfoethog ei hanes a’i henebion ag Ynys Môn?

Er mwyn cadw ffocws, neu rhyw fath o ffocws oleiaf, penderfynwyd eleni y byddai’r Lle Hanes yn gwneud gwell cyfiawnder o ran ceisio dehongli neu gyflwyno Hanes Môn drwy ddewis thema penodol. Nid hawdd oedd dewis pedwar thema allan o’r dwsinau o bosibiliadau amlwg.

‘Gwers’ anodd yw gorfod derbyn nad oes amser, lle, modd., posib son am bob dim. Rwyf yn gyfarwydd iawn a’r ‘penderfyniadau anodd’ yma wrth fy ngwaith tywys. Yn aml wrth dywys Americanwyr o amgylch Eryri mae’n rhaid dewis beth i’w ddangos a beth sydd yn mynd i gael ei golli. Engraifft da o hyn yw cyffordd Pen y Gwryd rhwng Llanberis a Chapel Curig.

Wrth dywys ar fws neu goets symudol dwi’n gwybod yn iawn na fyddaf yn gallu dangos y pedwar blwch amddiffyn Ail Ryfel Byd, y gaeran Rufeinig a Gwesty Pen y Gwryd a son am aduniadau Everest wrth i ni groesi heibio y gyffordd fechan yma. Felly rhaid dewis – efallai mai stori Everest a’r aduniadau yn y PyG fydd yn ennill y dydd.

Penderfynwyd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ganolbwyntio ar bedwar thema penodol a’r pedwar gafodd eu dewis oedd Llys Rhosyr, Llyn Cerrig Bach, Y Mabinogi a’r cysylltiad a Bedd Branwen a’r Archdderwydd Hwfa Môn.




Rydym yn gwybod o ysgrifau Tacitus mai ar Ynys Môn oedd ‘pencadlys’ neu gadarnle’r Derwyddon, ac er mai propaganda Rhufeinig fyddai sylwadau Tacitus does dim amheuaeth fod yr ynys yn ganolfan bwysig o ran crefydd ac addoli yn y cyfnod Celtaidd – cyn Cristnogaeth. Fe all rhywun awgrymu fod safle Llyn Cerrig Bach ger RAF Valley yn safle ‘llyn sanctaidd’ a ddefnyddir gan y Derwyddon / Celtiaid i offrymu gwrthrychau milwrol fel cleddyfau, darnau o darian a darnau o gerbydau rhyfel i mewn i’r dŵr neu’r tir gwlyb.

Llys Rhosyr yw’r unig lys sydd yn perthyn i dywysogion Gwynedd sydd ar agor ac yn weladwy. Mae’r llys yn Aber (Abergwyngregyn) o dan gae, y llys yn Aberffraw yn aros i’w ddarganfod o dan y stad tai. Anodd osgoi dylanwad y ddau Lywelyn a thywysogion Gwynedd ar Hanes Cymru yn y 13eg ganrif a gan fod Llys Rhosyr yn cael ei ‘ail-greu’ yn Sain Ffagan – roedd hwn yn ddewis hawdd.




Gan ei bod yn Flwyddyn Chwedlau gan Croeso Cymru, gweddol hawdd oedd penderfynu cynnwys yr elfen honno yn ein dewisiadau.  Felly dyma Pedwerydd Cainc y Mabinogi, sef stori Branwen a’r cysylltiad a Bedd Branwen. Rhaid pori drwy damcaniaethau Bedwyr Lewis Jones am y ‘cysylltiad’. Fel archaeoloegydd rwyf yn gwybod mai tomen gladdu o’r Oes Efydd yw Bedd Branwen a nid man claddu Branwen go iawn.


Ac yn olaf, heb os wedi ein hysbrydoli gan bortread Christopher Williams o Hwfa Môn, dyma fynd am yr Archddewrydd a oedd yng ngeiriau R Williams Parry “Hwfa Môn oedd y creadur tebycaf i fardd a fagwyd erioed yng Nghymru. Ac yn fardd ar ben hynny na ellir byth ei gael yn euog o ysgrifennu yr un llinell o farddoniaeth" 



Thursday 6 April 2017

Psylence @Pontio, Herald Gymraeg 5 Ebrill 2017




Yn y golofn wythnos dwetha cyfeiriais at ŵyl ffilm a cherddoriaeth Psylence a lwyfanwyd yn Pontio, Bangor. Fe berfformiodd y grwp Datblygu ar y llwyfan ar y nos Wener – gan gyhoeddi mai hwn fydd eu cyngerdd olaf. Unwaith eto hoffwn ddweud fod rhywun yn byw mewn gobaith y cawn gyfle eto (rhywbryd yn y dyfodol) i weld Datblygu yn gwneud rhywbeth ar lwyfannau Cymru. Mae’r grwp bell rhy bwysig i ddiflanu am byth.

Adloniant gwahanol iawn oedd ar y pnawn Sul wrth i Dylan Huw holi’r awdur Jon Savage. Ddyliwn ni ddim fod angen cyfeirio at hyn o gwbl a dweud y gwir, ond mi nath Dylan Huw son sawl gwaith am artistiaid hoyw, fe gyfeririodd at gelf ‘queer’, felly dyma ategu Dylan Huw ychydig yma. Mae’n well gennyf ddynion hoyw na ‘hogia’ (lads) unrhyw ddiwrnod o’r wythnos a braf oedd cael cwmni Dylan a Jon ar bnawn Sul (ar lwyfan) – doedd hwn ddim yn ddigwyddiad ‘queer’ o gwbl gan mai trafodd filmiau Jon Savage oedd y pwrpas – ond roedd y naws yn plesio (dweud dim mwy).

Savage wrthgwrs yw awdur llyfrau fel ‘Teenage’ a ‘England’s Dreaming’ ac efallai mae Jon yw un o’r awduron mwyaf dylanwadol yn y maes o drafod diwylliant poblogaidd / pobl ifanc, sef Diwylliant Pop.  Fel awdur mae Savage yn un o fy arwyr. Mae Savage hefyd yn un o fy ffrindiau pennaf, ond roedd gwrando arno yn sgwrsio ar lwyfan yn gyfle i atgoffa fy hyn pam fel hogyn yn ei arddegau roedd erthyglau Savage yn y cylchgronau pop yn fy ysbrydoli.

Doedd na neb yng Nghymru yn sgwennu fel Savage ar ddiwedd y 1970au, nid hyd yn oed Hefin Wyn a Hywel Trewyn yn Y Cymro a does dim dwy waith fod arddull Savage (ynghyd a Parsons, Burchill a Morley) wedi cael dylanwad mawr arnaf. Darllenwch fy erthyglau i’r Faner dan olygyddiaeth Emyr Price yn 1985-86 a chewch gyfieithiaid pur neu drawblaniad pur o arddull Savage.

Felly roedd Savage yn plesio’r dorf, a roedd digon o wrandawyr yno ar bnawn Sul, wrth iddo drafod y ffilm Teenage oedd yn dadansoddi bywydau pobl yn eu harddegau hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Felly hefyd wrth iddo ddangos clipiau o’i ffilm am Brian Epstein, rheolwr y Beatles. Mewn ffordd fe allwn fod yn gofyn – beth sydd ddim yw hoffi am hyn? – clips du a gwyn am ddiwylliant pop ar bnawn Sul. Perffaith.

Er mai ffilmiau Savage oedd dan sylw, roedd bron yn anorfod fod Dylan Huw yn mynd i gyfeirio at y ffaith fod Savage bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru a wedi troi ei gefn ar orllewin Llundain. Holodd Dylan Huw am argraffiadau Jon wrth iddo ddod wyneb yn wyneb a diwylliant poblogaidd Cymreig a Chymreig a does syndod mai’r grwp cyntaf y cyfeiriodd Jon ato oedd Gorky’s Zygotig Mynci. Os bu grwp Cymraeg / Cymreig erioed lwyddodd i bonito rhwng y ddau ddiwylliant – dyma chi un o’r rhai mwyaf blaenllaw.
Ond efallai o fwy o ddiddordeb i mi oedd sut roedd Savage yn gweld gogledd Cymru fel meithrinfa ar gyfer magu talent – a hynny i ffwrdd o chwyddwydr cyfryngol Llundain (neu hyd yn oed Caerdydd).

Fel dinesydd gogledd Cymru, hawdd yw gweld y rhwystredigaethau - dim digon yn digwydd, dim digon o ganolfanau, angen popeth yn Gymraeg OND roedd gan Savage bwynt. I ffwrdd o sŵn y Byd, i ffwrdd o’r carlamu a’r baglu trefol/dinesig mae gennym feithrinfa hamddenol yma. Gall y dirwedd a’r mynyddoedd, gall y diffyg poblogaeth, fod yn beth da o ran meithrin annibyniaeth ac ysbryd annibynnol.


O’r tu allan roedd Savage yn gweld y manteision sydd yn gallu bod yn rhwystredig os ganed rhywun yma. Diddorol. Hamddenol a jest mymryn bach yn ‘queer’.