Wednesday 29 January 2020

'Llanfrothen chic', Herald Gymraeg 29 Ionawr 2020




Rhai blynyddoedd yn ôl pan roedd y pedwar ohonnom (Bethan, Bethan ac Angharad) yn cyfrannu ar yr un pyd i’r Herald, hynny yw yn wythnosol, fe ddatblygodd rhyw sgwrs barhaol am gaffis bach da yng ngogledd Cymru. Yn aml byddai un ohonnom yn sgwennu am ein profiad mewn rhyw gaffi neu’i gilydd a bydda hynny wedyn yn ysbrodoli colofn bellach yn fuan wedyn gan rhywun arall.

Rwyf yn colli’r dyddia yna dan olygyddiaeth Tudur Huws Jones a’r pump ohonnom yn mynd am dro gyda’n gilydd gan ddewis caffi ar gyfer cinio a wedyn sgwennu ‘Taste Test’ ar gyfer y Daily Post. Dyddiau da – ond dyna fo mae pethau yn newid.

Rhyw atgof felly gefais wrth gerdded mewn i Siop a Caffi Y Garreg yn Llanfrothen wythnos dwetha. Cerddais i mewn am 1pm. Roedd y lle yn orlawn. Dim bwrdd na sedd sbar. Roedd mamau gyda babanod yn brysur yn bwydo eu plant tra’n cynnal sgwrs am hyn a llall. Hipstyrs barfog hefo Apple Macs yn brysur yn gweithio. Eraill yn darllen y Guardian. Eraill yn mwynhau eu bwyd.

Go iawn gallwn fod wedi cerdded mewn i gaffi ’cool’ yn Greenwich Village, Hoxton neu Bold Street yn Lerpwl. Y gwahaniaeth amlwg oedd yr iaith Gymraeg. Ond fel arall roedd hwn y gaffi clud, bywiog - a caenuon Cymraeg yn cael eu chwarae yn y cefndir.

Holais ‘Chef’ pryd oedda nhw yn stopio gwneud bwyd a gan fod awr a hanner arall i fynd, penderfynais fynd am dro o amgylch Llanfrothen a gadael i’r lle wagio ychydig. Diflas a thywyll oedd y tywydd. Y glaw yn disgyn heb fod rhy drwm ond yn ddigon i wlychu. Trowsus tywydd gwlyb a chot law amdani a dyma fynd draw am Frondanw. Chydig bach o Clough Williams-Ellis cyn cinio.


Cerddias heibio’r porthdy a’r bwa ‘CWE’ ar ffordd Croesor tuag at Brondanw a wedyn i fyny’r llwybr heibio gweddillion yr hen chwarael sydd wedi ei dirweddu yn raeadr gan Clough gan anelu am Dŵr Llanfrothem, Adeiladwyd oddeutu 1920 gan Clough – ffug-gastell neu ffug-dŵr. ‘Folly’ yw’r term pensaerniol yn Saesneg. Er fod Clough yn sicr yn egsentrig tydi’r weithred o adeiladu ffug-gestyll ddim yn ffolineb chwaith.

Ymdebygai dŵr Clough yn Llanfrothen i Gastell Dolwyddelan a ffug-dŵr Willoughby de Eresby. Ychwanegodd de Eresby drydydd llawr i dŵr Llywelyn ab Iorwerth yn Nolwyddelan gan greu argraff a naws fwy rhamantaidd i’r castell na’r deulawr ymarferol oedd gan dywysogion Gwynedd. Rhyw fath o ‘mini-me Dolwyddelan’ – sgwn’I os mai dyna oedd gweledigaeth a bwriad Clough?

Beth bynnag oedd gweledigaeth Clough roedd o yn chwarae hefo pobl – mae o dal i neud. O amgylch y dirwedd mae colofnau a darnau o gelf glasfaen a melyn nodweddiadol Clough. Rhyfedd. Allan o le. Ac eto – dyma Clough yn chwarae hefo ni – darn o gelf yng nghornel cae. Rwyf wrth fy modd.



Awr yn ddiweddarach mae seddau gwag yn ‘Caffi Y Garreg’. Awyrgylch hamddenol, groesawgwr. Cefn-gwlad. Mynyddig. Eryri. Rwyf yn parhau i fod wrth fy modd a bellach yn fwy na pharod am damai i’w fwyta. Astudiais y fwydlen a chytuno mai ŵy wedi potsio gyda afocado fyddai’r boi. Cefais fy ŵy ac afocado wedi malu ar surdoes gyda chipotle aioli gyda dukkah Persaidd a marmite. Blasus iawn. Profiad hyd yn oed. Pot o de wrth ymyl a reoddwn yn ddyn hapus iawn.



Y rheswm go iawn dros fy ymweliad a Chaffi Y Garreg oedd i weld arddangosfa o bosteri gwleidyddol gan y dylunwyr graffeg Ffwligans. Bu Eirlys yn sgwrsio hefo ni ar y sioe radio am hyn yn ddiweddar. Wrth gyfeirio at y posteri fel rhai ‘gwleidyddol’, mae Ffwligans wedi addasu delwedd Angela Davis er engraifft ar gyfer un poster gan ddatgan ‘Amser Cychwyn Chwyldro’

Gwelwn Angela Davis mewn gwisg Gymreig. Cyfuniad o ddelwedd y Black Panthers a Black Power wedi ei drawsblannu i Lanfrothen. Delwedd Buddug (Boudicca) yw un arall a ddefnyddir gan Ffwligans. Boudicca oedd arweinydd llwyth yr Iceni yn y cyfnod Rhufeinig - sef ardal Norfolk heddiw. Fuodd Boudicca rioed i Gymru fel da ni yn adnabod ffiniau heddiw ond dio’m ots, mae hi wedi ei mabwysiadu fel arwres gan y Cymry, y Celtiaid ac unrhyw Geltiaid sydd dal yn Lloegr.



Felly os mai cyfuniad o gelf a phryd da o fwyd yw eich dileit – ewch draw am Lanfrothen. Yn ystod mis Chwefror bydd Gŵyl Gwrthsafiad yn cael ei gynnal yn Oriel Croesor a mae arddangosfa Ffwligans fel rhyw fath o ragflas o’r hyn sydd i ddod. Bydd Gwenan Gibbard fyny yng Nghroesor yn trafod ‘Merched y Chwyldro - y genod rhyfeddol a oedd ar flaen y gâd canu pop yn y 1960au, mi fydd twm Morus a Gwyneth Glyn yno, Mr Phormula a Bardd a llawer llawer mwy.

Cyfeirias yn gynharach at Greenwich Village, Hoxton a Lerpwl ond mae’r chwyldro yn digwydd yng Nghroesor a Llanfrothen. Gwych o beth – datganoli celfyddydola diwylliannol. Flynyddoedd yn ôl soniais am ‘Llanfrothen chic’ mewn erthygl wrth drafod fod pawb yn Llanfrothen yn barod i gerdded mynydd. Da o beth yw hyn. Da o beth fod cefn gwlad Cymru yr un mor hip ac unrhyw dref. Efallai yn fwy hip!


Sunday 19 January 2020

Crwydro Llanllyfni, Herald Gymraeg 15 Ionawr 2020





Mae’r syniad o ‘fynd am dro’ yn rhywbeth sydd wedi ei wreiddio yn ein cefndir fel Cymry Cymraeg. Hyd yn oed fel plant bach roedd pnawniau Sul yn aml yn gyfle i fynd i grwydro coedwigoedd a chael neidio mewn i byllau dŵr yn ein wellingtons bach newydd sbon. Nid teulu capel oeddem.

Wrth dyfu fyny, newidiodd ‘mynd am dro’ i fod yn ‘mynd am antur’. Yn ein harddegau cynnar, os nad cynt, yr antur oedd cerdded ymyl yr afon, cerdded drwy dwneli dŵr o dan strydoedd Llanfair Caereinion a dringo’r unig ‘fynydd’ yn y cyffiniau, Moel Bentyrch. Pwy a wyr pa antur fydda ni wedi ei gael petae ni wedi byw yn Eryri a’r ardaloedd llechi – digon o waith bydda ni dal yn fyw.

Ers ymgartrefu yng Ngwynedd o’r 1980au ymlaen rwyf wedi cyrraedd mwy neu lai copa pob mynydd. O bosib mae ambell gopa bach dwi heb gerdded, ond fel arall o’r Wyddfa i Rhinog Fawr dwi wedi cael y pleser o bicnic bach ar y copa ar rhyw adeg. Ellfallai mai nid ‘mynd am dro’ yw’r disgrifiad gora o ddringo mynydd – mae’r dasg yn wahanol iawn – yn fwy o her – ac angen amseru’r daith.

‘Mynd am dro’ dyddiau yma fydd mynd i rhywle fel Coedwig Beddgelert. Mae’r dro draw at Llyn Llywelyn yn gorfod bod yn un o blesearu bywyd. Rwyf wedi son am hyn yn y golofn o’r blaen, flynyddoedd yn ôl bellach. Yn y gobaith na’i ddim gweld neb, llonydd mae rhywun isho nid sgwrs. Weithiau mae hi yn ‘bore da!’ neu ‘pnawn da!’ – hyd yn oed os dwi’n cael ‘Good Morning’.

Pam medda chi pan mae rhywun yn crwydro llwybrau Cymru fod rhywun yn mynd yn fwy milwraethus ynglyn ac ateb pawb yn ôl yn y Gymraeg? Does dim angen ateb yn ôl yn Saesneg iddynt ddallt fod rhywun yn cydnabod yn ôl. Mae’n gas gennyf bobl sydd ddim yn cydnabod eu gilydd, ac eto, pan dwi’n cerdded dwi’n crefu llonyddwch. Dim enaid byw. Dim ceir arall yn y maes parcio. Ru’n copa walltog. Perffaith. Rhyfedd ynde. Dealladwy.

Peth od yw cerdded mewn coedwig achos tydi’r olygfa ddim o hyd yno. Weithiau mae’r llwybrau drwy goed trwchus a hawdd yw colli cyfeiriad. Dwi di rhedeg lot yn y goedwig yma a dros y blynyddoedd. Dwi wedi bod ar goll tan dwi’n dod allan yn rhywle dwi’n nabod, rhywle cyfarwydd. Yn raddol mae map meddyliol yn ffurfio. Dwi o hyd wedi canfod y car yn y diwedd.



Ar adegau arall, pnawniau Sul ran amla, mae tir gwastad yn apelio. Wyddo’chi y teimlad yna o dro hamddenol. Dwi ddim am ‘ddringo’ heddiw. Sul dwetha nes i benderfynu dilyn fy nhrwyn o amgylch Llanllyfni. Rwyf yn gyfarwydd ac egwlys hynafol Sant Rhedyw – mae darnau ohonni yn dyddio yn ol i’r 14eg ganrif. Claddwyd aelod o’r teulu yno – Richard Thomas (Tŷ Newydd, Cilgwyn) a fu farw yn 1878. Rhaid mi chwilota yn iawn ar y goeden deulu pwy oedd o. Hen hen daid neu rhywbethj felly.

Hawdd yw canfod carreg fedd Richart Thomas. Mae ei garreg lechan wedi torri ac yn gorwedd ger y ffenestr ddwyreiniol. Hawdd hefyd yw canfod cofgolofn yr enwog John Jones Talysarn. Mae’r fynwent yn gymharol daclus yma.

Cerddais o Benygroes dros Pont Factory (oleiaf 19eg ganrif os nad canoloesoedd) gan anelu am Eglwys Sant Rhedyw. Wedyn cerddais yn ôl rhyw fymryn tuag at y llwybr troed sydd yn arwain dros Afon Llyfni. Ger y llwybr a’r bont fechan mae adfeilion pandy o’r enw Hen-bandy (SH470522). Os edrychwch yn ofalus mae olion y ffosydd fyddai wedi troi olwyn ddŵr yn dal yno.

O’r hen bandy cerddais i gyfeiriad y Stad Ddiwydiannol ar ddarn o dir wedi ei godi (causeway) gan fod y tir mor wlyb yma. Wrth gyrraedd y llwybr ger ymyl y stad ddiwydiannol mae giat mochyn rhyfeddol. Dyma ardal Tan y Bryn. Hawdd yw cerdded drwy’r giat mochyn heb sylwi – ond ar y llechi mae cerfiadau rhyfeddol.



Gweler y gair ‘Hynafiaid’ wedi eiu gerfio ar ben un llechan a wedyn cyfres o wynebau a ffigyrau. Pobl bach neu gymeriadau cartwn doniol, rhyfeddol, diddorol. Dyddio o’r 19eg a 20fed ganrif mae’r cerfiadau. Ond heb os mae rhain yn gelf-gwerin-gwlad rhyfeddol. Werth eu gweld.

Ffrind i mi o Benygroes soniodd am y giat mocyn wrthof. Roedd Wil Murphy acw yn atgyweirio hen dŷ bach yn ein cartref yn Twthill a fel mae rhywun, amser paned, sgwrs. A’r sgwrs yn troi at archaeoleg / hanes / pethau gwerth eu gweld. Celf y werin yn llythrennol ar lawr gwlad – neu llawr y dyffryn i fod yn fanwl gywir.

Cefais siocled o flaen llaw yn Co-op, Penygroes. Roeddwn wedi cynllunio pethau yn ofalus. Wrth gyrraedd y bontdroed dros Afon Llyfni – ger Hen-bandy dyma fwynhau mymryn o sothach melys a jest syllu ar y Llyfni yn byrlymu yn gyflym dan fy nhraed. Disgyn roedd yr haul i’r gorllewin gan greu golau ysbrydol iawn dros gorsdir y Llyfni.

Welais i neb. Cafodd yr enaid lonydd.




Monday 6 January 2020

Adolygiad 'Pang' Gruff Rhys Herald Gymraeg 1 Ionawr 2020



‘Pang’ yw albyn diweddaraf Gruff Rhys. Da ni yn gyfarwydd gyda’r gair ‘pang’ wrth son am ‘pang o euogrwydd’ neu ‘pang o hiraeth’ – gair am y teimlad mewnol. Yn ystod y gân o’r un teitl mae Gruff mwy neu lai yn rhoi’r eglurhad i ni wrth ganu am y gwahanol fathau o ‘pang’.
Fel albym Gymraeg mae ‘Pang’ yn sefyll allan fel un bwysig ac unigryw. Dim ond Gruff Rhys fedr fod wedi creu hyn yn yr un ffordd mai dim ond Gwenno fydda wedi gallu creu ‘Y Dydd Olaf’ (2014) neu ‘Le Kov’ (2018) a dim ond Carwyn Ellis a Rio 18 fydda wedi creu ‘Joia’. Campweithiau cysyniadol. Fel dywedodd Iggy Pop unwaith “this is better than you realise” – er mai son am ei berfformaid ei hyn oedd Iggy.

Cerddor o dde Affrica o’r enw Muzi sydd wedi cynhyrchu a chymysgu’r albym. Mae clip ar You Tube yn esbonio’r broses. Yr hyn sydd wedi digwydd yw fod Muzi wedi cymeryd caneuon Gruff a rhoi nhw drwy beiriant rhyfeddol sydd wedi Affricaneiddio’r holl beth. Dyma’r albym Affro-Gymraeg ac Affro-Gymreig gyntaf mewn rhai ffyrdd. Cyfuniad o beats electroneg ac offerynnau cerdd wedi eu samplo a’u hail bobi.

Un o uchafbwyntiau’r albym yw’r defnydd o drwmped. Cawn flas jazz Miles Davis ar ganeuon fel ‘Niwl o Anwiredd’ – y trwmped yn hudolus yn y cefndir. Mae’r cymygedd o arddulliau cerddorol yn cyd-lifo ac yn gweithio. Dyna pam dwi’n defnyddio’r geiriau ‘rhyfeddol’ a ‘campwaith’. Gair arall gall rhywun ddefnyddio wrth drafod yr albym fyddai ‘minimal’ – does dim gor-wneud hi ar y casgliad yma o ganeuon. Caiff bob cân ofod i anadlu.

Bron fod ‘Taranau Mai’ yn swnio fel rhywbeth fydda Meic Stevens neu Heather Jones wedi ei sgwennu yn y 1960au. Synnau tebyg i djembe a thelyn – dwi’n cymeryd mae dyna sydd i’w clywed. Union y vibe sydd ar ‘Dŵr’ Huw Jones. Engraifft efallai o ddylanwadau ieuenctyd Gruff Rhys yn dod i’r amlwg.

Dwi’n llai cyfforddus hefo Stevens dyddiau yma. Heb y ffeithiau cyfan ond yn anghyfforddus hefo’r drafodaeth am fwslemiaid. Beth oedd hunna gyd medda chi? Dim ond clywed yn ail-law drwy Twitter. Hmmmm. Nid dyma’r lle i drafod Stevens a tydi’r ffeithiau ddim gennyf. Cael ein siomi rhy aml mae rhywun gan sylwadau Lydon, Morrisey neu’r Who dyddiau yma. I ddyfynu’r Stranglers ‘No More Heroes’.

Gan fod Gruff Rhys wedi bod yn cyfrannu i ddiwylliant Cymraeg ers dyddiau Ffa Coffi Pawb yn yr 1980au hwyr a wedyn Super Furry Animlas drwy’r 1990au mae o bellach yn ‘drysor Cenedlaethol’. Ond mae Gruff hefyd yn drysor Cenedlaethol amgen anghydffurfiol. Petae Gruff Rhys yn ymyno a’r Orsedd bydda’i statws ‘amgen / anghydffurfiol’ yn cael ei sbaddu mewn eiliad.  



Fel Cenedl da ni nagen ei’n Dave Datblygu’s (David R Edwards) a Gruff Rhys, da ni angen ‘No Sell Out’, da ni angen artistiaid sydd ddim yn cael eu llyncu yn llwyr gan y Sefydliad Cymraeg a Chymreig. Gorsedd y Beirdd yw’r fynwent ar gyfer y rhai fu unwaith yn amgen. Rhywbeth o’r fath fyddwn i yn ddisgwyl yng ngherddi David R Edwards ond dwi’n meddwl mai mynwent Aberteifi yw’r unig nefoedd ar gyfer Dave.

Wythnos yn ôl roedd Gruff yn llwyfanu ‘Pang’ gyda band byw yn Pontio Bangor. Draw a ni. Y lle yn orlawn. Dyna un peth sicr am Gruff Rhys / Super Furry’s – mae’r ffans yn be da ni’n alw yn ffyddloniaid go iawn (hardcore). Chydig dwi’n nabod yno – sydd efallai yn awgrymu fod rhai o’r ffans wedi teithio o bellach i ffwrdd – neu fod nhw’n fengach? Cefais sgwrs hefo’r awdur Jon Savage (England’s Dreaming) a sgwrs hefo Dic Ben o’r grwp Elfyn Presli ond fel arall roedd yna tua 400 o bobl doeddwn ddim y neu hadnabod. Mae hyn yn gorfod bod yn beth da – sef fod cynulleidfa yna ar gyfer gigs byw yn Pontio.

Fel fydda rhywun yn ei ddiwgyl mae’r cerddroion yn y band o’r safon uchaf a’r sioe ffilmiau tu cefn y llwyfan yn ychwanegu at y naws fod hyn yn ddigwyddiad Pang. Ond mae gennyf ‘ond’ bach. Di’o ddim yn hawdd yng Nghymru. Da ni gyd yn nabod ein gilydd. Mae pobl yn gallu pwdu o ganlyniad i feirniadaeth. Siuwr fod Gruff hefo croen ddigon trwchus. Trafodaeth a sylwadau nid beirniadaeth hallt.

Dwi newydd biso ar fy chips o ran Gorsedd y Beirdd yn barod yn y golofn hon. Dwi fwy o Gwilym Cowlyd ffan na Iolo Morganwg a Chynan beth bynnag felly na’i fyw hefo hunna. Gyda cerddorion o’r fath safon, siomedig braidd oedd y gor-ddefnydd ar ‘backing tracks’ a’r gerddoriaeth ar gyfrifiaduron.

Pob tro roedd y drymar yn gadael y llwyfan a’r peiriant drwm yn cymeryd ei le roedd lefel yr egni a’r cynhesrwydd cerddorol yn gostwng. Yn sylweddol. Dwi’n credo mai rhyddmau fwy dawns / tecno ‘Ôl Bys / Nodau Clust’ oedd le roedd absenoldeb drymiau byw mwyaf amlwg.
Collais y trwmped byw ar ‘Dididigol’ a ‘Niwl o Anwiredd’. Byddai trwmpedwr byw wedi bod yn ychwanegiad cryf at y perfformiad. Pam ddim ffonio Tomos Williams o’r band Burum? I ddyfynu Strummer “why not phone up Robion Hood and ask him for some wealth distributiuon”. Dwi’n dallt yn iawn fod cerddorion yn costio.

Gwelais Transglobal Underground yn ddiweddar yn Neuadd Ogwen a roedd yr un peth yn digwydd yno – bass byw ar rhai caneuon a wedyn ‘backing track’ ar ganeuon arall. Dwi ddim isho bod yn or-feirniadol o Gruff yma achos ar y cyfan roedd hi’n noson wych a mae’r albym yn brilliant.