Wednesday 21 August 2019

Cloddio yn Ninas Dinlle, Herald Gymraeg 21 Awst 2019







Dros 400 wedi dod i Ddiwrnod Agored y gwaith cloddio archaeolegol ar fryngaer Dinas Dinlle. Rwyf am weiddi yn uwch ac ail adrodd. Dros 400 wedi dod i Ddiwrnod Agored Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a phrosiect treftadaeth arfordirol Cherish yn Ninas Dinlle. Efallai fod y tywydd yn braf dros y penwythnos er fod cryn dipyn o wynt ar ben y gaer ond mae 400 yn nifer sylweddol.

Peidiwch a dweud nad oes diddordeb mewn Hanes ac Archaeoleg Cymru! Braf iawn oedd cweld cymaint yn mynychu. Roedd pedwar ohonnom yn tywys ar ran Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ac aelod o Cherish yn ymuno ar bob taith dywys er mwyn rhoi y cyd-destun hinsawdd ac arfordirol. Fe wnaeth y pedwar ohonnom bedair daith a phob taith dywys yn para dros awr. Roedd oleiaf 20 o bobl ar bob taith.

Un o’r darganfyddiadau pwysica o ganlyniad i’r gwaith cloddio yw cael hyd i dŷ crwn (gweler llun gyda’r gwirfoddolwyr). Yn y cyfnod Oes Haearn, roedd pobl yn byw mewn tai crynion. Ffeithiol anghywir yw cyfeirio at yr adeiladau yma fel ‘cytiau Gwyddelod’. Er mai dyma’r disgrifiad arferol o ran iaith lafar / llen gwerin, nid Gwyddeolod oedd yma ond ni frodorion gogledd Cymru. Trigolion bryngaer Dinas Dinlle oedd brodorion Celtaidd os mynwch.

Gan fod maint y gaer yn sylweddol a fod cymhariaeth gyda bryngaerau cyfagos fel Dinas Dinowrwig, Tre’r Ceiri. Garn Boduan a Charn Fadryn, rhaid awgrymu fod hon yn gaer bwysig ac yn ganolfan llwythol. Rhaid hefyd ystyried fod lleoliad Dinas Dinlle ar lan y môr yn arwyddocaol. Y môr fydda’r draffordd Geltaidd a chyn-hanesyddol. Tydi pobl, nwyddau a syniadau yn symud ddim yn gysyniad newydd.

Amgylchir y gaer yn Ninas Dinlle gan dir gwlyb i’r gogledd, sef ardal Y Foryd. Felly y byddai 2000 o flynyddoedd yn ôl ac i raddau helaeth, felly y mae hi heddiw.  Dim ond i’r de byddai tir fyddai’n addas ar gyfer amaethu a bu gwaith cloddio yn y caeau islaw’r gaer yn ceisio draganfod olion llociau neu gloddiau Oes Haearn fydda’n dyddio o’r un cyfnod a’r gaer.

O edrych ar y dirwedd mae’r gaer yn weledol amlwg, yn eistedd ar waddod rhewlifol a thybiaf fod adeiladwyr y gaer wedi bod ddigon craff i ddefnyddio ac addasu beth oedd natur wedi ei baratoi ar eu cyfer. O ochrau Clynnog neu o dopia Carmel a’r Fron mae Dinas Dinlle yn safle amlwg ar y gorwel.



Felly, beth am ddychwelyd i drafod y cwt crwn a ganfuwyd, mae’n gwt crwn mawr ei faint. Mae’r adeiladwaith yn sylweddol, cerrig mawrion a sawl haenen iddynt. O gymharu a chytiau crynion Tre’r Ceiri neu’r sylfaeni cytiau crynion a ganfuwyd wrth gloddio ym Meillionyndd, Llŷn, mae rhywun yn cael yr argraff fod rhywbeth mwy yma.

Wrth i mi arwain un o’r teithiau o amgylch Dinas Dinlle cefais gwmni Toby Driver o’r Comisiwn Brenhinol. Driver sydd newydd gyhoeddi ‘The Hillforts of Cardigan Bay’ (2016) ac yn ei gyfrol mae Toby yn amlinellu’r holl ddamcanaiethau cyfredol ynglyn a phwrpas a defnydd bryngaerau. Yn ogystal a chyflawni yr elfen amddiffynnol mae Toby yn awgrymu fod elfen o sioe a statws hefyd yn perthyn i rhai fyngaerau.

Y ddadl efallai yw mai mwya’r gaer o ran maint, neu o ran drama’r amddiffynfeydd yr uwch yw’r statws. Sgwn’i felly oedd amddiffynfeydd a mynydfeydd trawiadol rhai o’r caerau yma yn ddim mwy na sioe. Fersiwn Celtaidd o giatiau Castell y Waun neu wal y Faenol? Sioe oedd y cyfan. Datganiad o statws. Gadael i bawb arall wybod mai nhw di’r rhai pwysig. Yn sicr mae hyn yn cael ei drafod yn gyffredinol yng nghyfrol Driver.

Heb os, hyd yn oed o edrych o’r tir fydda wedi ei amaethu i’r de yn ôl am y gaer mae rhywun yn gweld pa mor fawr yw’r cloddiau. Byddai bron yn amhosib ymosod ar y fryngaer yma gyda unrhyw obaith o lwyddiant.

Rhywbeth arall ofnadwy o bwysig a ganfuwyd yn y ffosydd archaeolegol ar ben y gaer eleni oedd darnau o lestri pridd a elwir yn ‘black burnished ware’. Dyma lestri du neu lwyd sydd yn nodweddiadol o’r cyfnod Rhufeinig a hefyd oedd yn cael eu defnyddio gan y llwythi brodorol. Awgrymir felly fod y gaer mewn defnydd yn ystod y cyfnod Rhufeinig.

O gofio fod caer y Rhufeiniaid yn Segontium (Caernarfon) rhyw gwta 7 milltir i’r dwyrain o Ddinas Dinlle ac mai brodorion / Celtiaid oedd yn byw yn y gaer awgrymir felly fod dealltwriaeth rhwng y brodorion a’r Rhufeiniaid. Does dim awgrym fod y Rhufeiniaid wedi ‘ymosod’ ar Ddinas Dinlle mwy bac oes awgrym o hynny yn digwydd yn Nhre’r Ceiri.

Rhaid fod rhyw fath o ddealltwriaeth a sefydlogrwydd gwleidyddol ac economaidd felly rhwng y brodorion a’r Rhufeiniaid. Rhyfedd beth sydd yn gallu cael ei awgrymu o dyllu ffosydd archaeolegol!